Helo oddi wrth Cadwch Gymru’n Daclus!
Yma yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym yn brysur yn postio copïau o bosteri ein hymgyrch baw cŵn blynyddol i bob Cyngor Tref a Chymuned ar draws Cymru. Cadwch lygad am eich copïau yn y post dros yr wythnosau nesaf.
Mae ein hymgyrch baw cŵn ‘Gadewch olion pawennau yn unig’ yn seiliedig ar ymchwil gan arbenigwyr newid ymddygiad ac mae adnoddau wedi cael eu dylunio i ‘ysgogi’ pobl i wneud y peth iawn.
Mae baw cŵn yn dal yn broblem barhaus mewn cymunedau ar draws y wlad a nod ein hymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o’r peryglon iechyd sydd yn gysylltiedig â baw cŵn; nid yn unig i bobl ond anifeiliaid fferm ac anifeiliaid eraill hefyd.
Gallwch hefyd lawrlwytho adnoddau digidol yr ymgyrch am ddim yn Gymraeg a Saesneg ar ein gwefan i’w rhannu ar-lein neu i’w hargraffu.
Helpwch ni i rannu’r adnoddau hyn ar ein cyfryngau cymdeithasol a sianeli digidol arall i annog perchnogion cŵn i lanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes ar draws Cymru.
Os byddwch yn cael unrhyw broblemau yn defnyddio’r deunyddiau neu os oes eu hangen ar fformat gwahanol, cysylltwch â’r tîm comms@keepwalestidy.cymru
Diolch am eich cymorth parhaus yn ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.
Cadwch Gymru’n Daclus