Mae menter #HafOHwyl yn ôl i gefnogi llesiant cymdeithasol, emosiynol a chorfforol pob plentyn a pherson ifanc rhwng 0-25oed. Gyda buddsoddiad ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru, bydd amrywiaeth o fentrau rhyngweithiol, creadigol a chwarae cymunedol sy’n addas ar gyfer ystod eang o oedrannau yn cael ei darparu.
Drwy’r fenter hon, byddwn yn creu mannau diogel ar gyfer chwarae rhydd a gweithgarwch corfforol lle gall plant a phobl ifanc ddatblygu a/neu ailadeiladu eu sgiliau cymdeithasol.
Bydd y fenter Haf o Hwyl yn annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a chorfforol y tu allan i ddysgu ffurfiol. Hefyd, gyda gweithgareddau am ddim ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar draws Cymru gyfan, mae rhywbeth addas i bawb. Gweithgareddau rhad ac am ddim i helpu pobl ifanc a’u teuluoedd gyda chostau byw cynyddol dros fisoedd yr haf.
Mae tudalen #HafOHwyl wedi ei chreu ar safle Hwb Teuluoedd Cyngor Gwynedd lle mae rhestr o weithgareddau i blant a phobl ifanc wedi cael eu gosod yma, a bydd mwy yn cael eu cynnwys wrth i ni dderbyn eu gwybodaeth.
Gwefan: www.gwynedd.llyw.cymru/hafohwyl
Rhannwch ar eich cyfri cyfryngau cymdeithasol os gwelwch yn dda a gyda’ch cysylltiadau.
Diolch o flaen llaw