Rheoli llifogydd ym Mhwllheli

Os nac oedd hi'n bosib i chi mynychu a sesiwn galw heibio CNC yn Neuadd Dwyfor yn Orffennaf mae yna ail siawns i chi weld y wybodaeth ynglyn a 'Rheoli llifogydd ym Mhwllheli' a rhannu eich barn.

Ddydd Mercher 14 Gorffennaf a dydd Iau 15 Gorffennaf 2022 trefnodd CNC sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Celfyddydau Neuadd Dwyfor, Pwllheli ynglyn â ‘Rheoli llifogydd ym Mhwllheli’. Mae CNC yn archwilio opsiynau i reoli’r perygl llifogydd hirdymor i Bwllheli a’r cymunedau cyfagos yn fwy effeithiol. Roedd tîm y prosiect ar gael i drafod y prosiect, ac ateb cwestiynau.

 
Diolch i bawb a fynychodd, a’r adborth gwerthfawr a roddwyd.
 
Rydym yn deall na allai pawb a fynnai fod, yn bresennol. O ddydd Llun 15 fed Awst, mae gan CNC Hyb Ymgynghori Rheoli Llifogydd Pwllheli ar-lein newydd, y gellir ei gyrchu yma: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/north-west-wales-gogledd-orllewin-cymru/rheoli-llifogydd-ym-mhwllheli.  Mae'r byrddau arddangos a gafodd eu harddangos yn y digwyddiad galw heibio ar gael ar yr Hyb Ymgynghori. Yn y dyfodol, bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddarparu diweddariadau a gwybodaeth bellach, yn ogystal â ffurflenni adborth ar-lein ar gyfer eich sylwadau a'ch awgrymiadau.  
 
Os hoffech chi gael gwybod rhagor, neu rannu'ch barn â ni yn y cyfamser, neu i gofrestru i gael diweddariadau ar gynnydd yn y dyfodol, anfonwch e-bost at:
 
pwllheli.floodrisk@grasshopper-comms.co.uk  neu risgllifogydd.pwllheli@grasshopper-comms.co.uk.
 


Newyddion 2022