Ymgyrch Bang 2022

Her Ymgyrch Bang 2022

Noson Calan Gaeaf a Thân Gwyllt i gyflawni Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, gan roi eu hunain a phobl eraill mewn perygl o anaf.
Gall Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt fod yn gyfnod gofidus a brawychus i aelodau bregus a hŷn ein cymuned. Felly ystyriwch bobl eraill wrth ddathlu.
                                                                                 
Eleni, mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig cyfle i bobl ifanc roi'n ôl i'w cymuned a bod â chyfle o ennill gwobrau gwych iddynt eu hunain neu eu clwb.

Mae Her Ymgyrch Bang yn ffordd wych i bobl ifanc ddod at ei gilydd gyda'u ffrindiau a chynorthwyo yn eu hardal leol
Os ydych yn cael trafferth cael syniadau, peidiwch â phoeni. Rydym wedi rhoi awgrymiadau isod. Ond yn y pen draw, eich penderfyniad chi ydyw.

Syniadau her Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru!

  •  Codwch ymwybyddiaeth o beryglon Tân Gwyllt adref ac i ffwrdd
  •  Gwellwch ardal ddiffaith er mwyn atal tanau
  •  Diogelwch aelodau bregus o'r gymuned yn ystod cyfnod Ymgyrch Bang
  • Ystyriwch ffyrdd o gadw anifeiliaid yn ddiogel yn ystod yr amser hwn o'r flwyddyn

Syniadau Her Heddlu Gogledd Cymru!

  • Edrychwch o amgylch eich ardal leol a gweld sut allwch chi a'ch tîm wneud gwahaniaeth
  • Lansiwch brosiect er mwyn hwyluso sut mae Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn effeithio ar eich cymuned
  • Hyrwyddwch ddiogelwch ffordd yn eich ardal, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn pryd fydd llawer o bobl allan yn dathlu Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt
  • Meddyliwch am brosiect sy'n cynorthwyo i wella diogelwch cymunedol yn eich ardal

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei rhannu i ddwy her – Y Timau a'r Grwpiau...

Her Tîm

3 x Categori Beirniadu                                                                             
Blynyddoedd 1-4, Blynyddoedd 5-8 a Blynyddoedd 9-13               
1 i 4 unigolyn am bob tîm                                                                         
Rhaid i'r prosiect fod o fantais i rywun, neu rywbeth                       
Gwobrau hyd at £100 yr un                                                                    
Gwobrau gwych i'r gorau o'r gweddill!  

Her Grŵp

5-15 o bobl ym mhob tîm
Oedrannau cymysg rhwng 5-18 oed
Rhaid i Grwpiau/Clybiau gael eu sefydlu'n barod
Ennill arian ar gyfer eich clwb
 Gwobr 1af £750, 2il wobr £500, 3ydd wobr £250
Gall grwpiau fynd i fwy nag 1 tîm
                                          
Cliciwch yma i ddarllen ein Arweinlyfr Her Op Bang sy'n cynnwys yr holl reolau a rheoliadau y mae angen i chi wybod amdanynt.
 
I Gystadlu!

Bydd bob grŵp angen ymgynghorydd sy'n oedolyn – rhywun rydych yn ei adnabod ac sy'n hŷn na 17 oed. Bydd angen i'ch ymgynghorydd sy'n oedolyn gofrestru eich tîm gan ddefnyddio'r ddolen isod. Yna caiff eich Llyfr Cofnodion Ymgyrch Bang ei anfon atoch chi, ac rydych yn barod i fynd!

I gofrestru, cwblhewch y ffurflen mewn Word yma neu PDF yma ac e bostiwch youthengagementofficer@northwales.police.uk

Pob lwc a pheidiwch ag anghofio ein cynnwys yn eich cyhoeddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol #ymherbang2022
Am wybodaeth bellach am Her Ymgyrch Bang, cysylltwch â Swyddog Ymgysylltu Ieuenctid Heddlu Gogledd Cymru, PC Mel Cartledge-Davis ar 07974240292 neu e-bostiwch youthengagementofficer@northwales.police.uk

 


Newyddion 2022