Annwyl Syr / Fadam
Mae Cyngor Tref Pwllheli wedi cael eu siomi o glywed y cyhoeddiad y bydd cangen Banc Lloyds Pwllheli yn cau 12 fed Ionawr, 2023. Cyhoeddiad heb unrhyw ymgynghori gyda'r cyhoedd nac yn ôl pob golwg eich gweithwyr a adawyd i ymdrin â chwestiynau gyda chwsmeriaid hir sefydlog mewn trallod amlwg. Ni roddwyd y cwrteisi i Gyngor Tref Pwllheli, na chynghorau cymuned/tref eraill yn Nwyfor, o gael eu hysbysu na chael cyfle i siarad ar ran y trigolion y maent yn eu gwasanaethu.
Dylai unrhyw sefydliadau, gan gynnwys sefydliadau ariannol hir sefydlog, fod gyda rhwymedigaeth foesol i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu a'r gweithwyr maent yn eu cyflogi. Dyma’r cymunedau, a’r bobl, sydd wedi galluogi’r banc i gyrraedd lle maent heddiw. Nid ydym yn credu y dylai gwneud elw i gyfranddalwyr fod yn uwch na gofalu am y bobl/cymunedau sy'n darparu'r arian i fanciau, yn rhannol, i redeg eu busnes yn y lle cyntaf.
Mae angen i fanciau gydnabod y rôl a'r cyfrifoldebau pwysig sydd ganddynt i gymunedau a'u trigolion. Mae banciau lleol yn fwy na mynediad at arian. Bydd ein bywyd cymunedol, ein henoed mwyaf bregus a’n pobl ifanc yn dioddef oherwydd cael gwared ar gangen leol.
Mae llawer o ddatganiadau amheus wedi ei nodi i gefnogi'ch penderfyniad. Rhestrir rhai yma.
Rydych yn datgan eich bod yn parhau i fuddsoddi yn eich rhwydwaith o ganghennau. Nid oes tystiolaeth o hyn oherwydd y nifer o ganghennau yr ydych yn eu cau.
Mae 18% o gwsmeriaid gydag cyfrif personol dros 75 oed a 37% dros 55. Am ffordd i drin yr henoed. Mae cwsmeriaid ffyddlon yn haeddu gwell na chau eu cangen heb unrhyw ymgynghori. Sut maen nhw am deithio i Gaernarfon o Bwllheli neu ben pellaf Dwyfor? Yn enwedig gyda chostau rhedeg ceir heddiw. I lawer o gwsmeriaid mae siarad â gweithwyr banc yn anghenraid. Beth fyddai pwynt teithio i Gaernarfon gan ei bod yn ymddangos eich bod wedi methu â nodi mai dim ond gwasanaeth awtomataidd sydd gan y banc yno?
Rydych yn nodi eich bod wedi gwneud dadansoddiad o'r effaith ar eich cwsmeriaid gan gynnwys y rhai a allai fod angen cymorth. A ellir rhoi copi o'r dadansoddiad hwn i'r Cyngor Tref? Rydym yn awyddus iawn darllen eich asesiad o'r effaith ar berson sydd angen cymorth.
Mae gennych 182 o gwsmeriaid rheolaidd yn mynychu'r banc. Beth mae rheolaidd yn ei olygu gan nad yw hyn yn nifer fach o gwsmeriaid? Ydyn nhw'n mynychu bob dydd, wythnosol? A roddwyd ystyriaeth i’r ffaith bod y wlad wedi ei gau am gyfnodau hir oherwydd COVID?
Oes asesiad ar faint y Swyddfa Bost ym Mhwllheli? Maent yn cael trafferth ymdopi â'u cwsmeriaid eu hunain. Bydd yn rhaid i'r henoed giwio y tu allan ym mhob tywydd oherwydd maint bach y swyddfa. Yr un peth gyda'ch bancwr cymunedol.
Mae 72% o gwsmeriaid wedi defnyddio cangen arall o Lloyds. Nid yw hyn yn syndod gan ein bod yn gyrchfan gwyliau.
Mae llawer yn defnyddio bancio symudol yn unig oherwydd bod banciau yn gwthio cwsmeriaid i wneud hyn yn y lle cyntaf. Mae llawer, yn enwedig yr henoed yn parhau i fod eisiau ac angen cyswllt personol gyda'ch gweithwyr.
Mae Cyngor Tref Pwllheli yn gofyn am gyfarfod gyda banc Lloyds i drafod eich dadansoddiad effaith a’r materion a godwyd yn y llythyr hwn. Trafodaeth wyneb yn wyneb gyda chynrychiolaeth o Gyngor Tref Pwllheli, wedi'i threfnu cyn gynted â phosibl yw'r lleiaf sy'n ddyledus i'ch cwsmeriaid.
Dylai mynediad at wasanaethau bancio ac arian parod yn y ffordd sydd fwyaf addas i ni ac nid y banc fod yn hawl i drigolion.
Maer - Mici Plwm
Dirprwy Maer – Mike Parry
Cynghorwyr – Karen Rees Roberts, Eric Wyn Roberts, Michael Sol Owen, Dr Iwan Edgar, Glynis Ellis, Manon Owen, Elin Hywel, Hefin Underwood, Alan Williams, John Dowling, Michael Jones, Dylan Bullard, Ffiona Adams.