Yn ddiweddar roedd Llinos Elin Owen, sy’n wreiddiol o Bwllheli, yn chwarae mewn perfformiad arbennig o’r BBC Proms yn Neuadd Albert, Llundain. Yn chwarae contra basŵn, roedd Llinos yn rhan o Gerddorfa Aurora sy’n arbenigo mewn perfformio darnau ar y cof, heb y miwsig o’u blaenau. Nawfed Symffoni Beethoven oedd y gwaith berfformiwyd ar Awst 21 eleni gyda Cantorion y BBC a Chôr Ieuenctid Prydain Fawr. Yn ôl Llinos, gwerthwyd 6,000 o docynnau i’r cyngerdd o fewn munud iddynt fynd ar werth! Roedd trefnwyr y cyngerdd wedi ymchwilio i’r ffaith fod Beethoven yn fyddar, ac roedd iaith arwyddo’n cael ei gynnwys fel elfen o’r perfformiad arbennig hwn. Bydd y cyungerdd yn cael ei ddangos ar sianel BBC4 nos Wener Awst 30ain am 8 pm. Bydd hefyd ar gael ar BBC iplayer.
Mae Llinos yn aelod o Gerddorfa Genedlaethol Opera Cymru a bellach yn byw yng Nghaerdydd.