Sul y Cofio 8/11/20

Bydd dirprwyaeth fechan o’r Cyngor Tref yn cynnal 2 funud o ddistawrwydd ac yna bydd Maer y dref yn gosod torch ar ran trigolion y dref. Ni fydd y Cyngor Tref yn trefnu gwasanaeth swyddogol ger y gofeb.

Mae’n bwysig ein bod bob amser yn cofio’r aberth eithaf a roddwyd, gan gadw i’r rheoliadau sydd mewn grym tan y 9fed o Dachwedd, 2020.
Anogwn i bobl beidio ymgynnull ger y gofeb ac i fudiadau drefnu i osod torchau ar adegau yn ystod y diwrnod.

Yn angof ni chant fod, ni â’u cofiwn hwy.

Cynghorydd Hefin Underwood, Ceidwad y Brusgyl, Emyr Wyn Roberts, Y Maer, Eric Wyn Roberts, Y Dirprwy Faer, Cynghorydd Mici Plwm,Y Clerc, Eric Price

Y Maer 

Dirprwy Faer Mici Plwm

Y Maer Cynghorydd Eric Wyn Roberts


Newyddion Diweddaraf