Yr Annibynwyr
Y Parchg. James Owen
Y Parchg. Daniel Phillips
Y Parchg.John Thomas
Y Parchg. Richard Thomas
Y Parchg.Rees Harries
Y Parchg. Benjamin Jones
Y Parchg. Thomas Lewis
Y Parchg. Owen Jones
Y Parchg.William Jones
Y Parchg. Rees P.Griffiths
Y Parchg. Price Howells
Y Parchg. John Henry Jones
Y Parchg. D. Johns
Y Parchg.O.L.Roberts
Y Parchg. J.J. Jones, B.A.
Y Parchg.John Rhydderch
Y Parchg. R.G. Owen B.A. (M.A. wedyn)
Y Parchg.W.J. Evans
Y Parchg. Ted Lewis Evans
Y Parchg. R.Hedley Gibbard
Y Parchg. W. Bryn Williams, B.A., B.D., M.Th.
Y Presbyteriaid
Arthur Meirion Roberts
William Davies
David Evan Davies
Griffith Hughes
Thomas Williams
Richard Humphrey Evans
Tom Nefyn Williams
John Hughes
Griffith Robert Jones
Meirion Lloyd Davies
D.G. Lloyd Hughes yn cofio’r Parchedig . . .
Michael Roberts [1780 – 1849]
Ganed 9 Rhagfyr 1780, yn Llanllyfni, yn fab i’r Parchg. John Roberts (Llangwm, yn ddiweddarach). Ym mis Mai 1797, ar gais Robert Jones, Rhos-lan, dechreuodd ysgol ym Mhentreuchaf, bum milltir o Bwllheli, a bu yno am 18 mis, Ar ôl hynny, rhwng derbyn addysg ei hun yn Lerpwl, bu hefyd yn cadw ysgol yng Nghlynnog, yn athro cynorthwyol yng Nghaer, ac yna, am ychydig dros ddwy flynedd, yn ysgolfeistr ym Mhenmorfa. Ym mis Mawrth 1803, symudodd i Bwllheli ac agorodd ysgol ym Mhenmount. Ar 12 Mawrth 1804, fe’i derbyniwyd yn aelod o gymdeithas y Methodistiaid Calfinaidd i weinidogaethu yn eu plith, a thri mis yn ddiweddarach, ar 9 Mehefin, priododd ei wraig, Ann, yn eglwys Penmorfa. Ganed iddynt wyth o blant. Buont yn byw am gyfnod yng nghartref Lowri Thomas yn y Siop Newydd, ac wedi hynny, yn Stryd Penlan, Stryd Moch a Phenlôn Llŷn, Pwllheli. O 1809 hyd 1829, bu’n ysgrifennydd Cyfarfod Misol Sir Gaernarfon, ac yn un o’r ddau arholwr cyntaf gan Gyfarfodydd Ysgolion y Sir. Ordeiniwyd ef yng Nghymdeithasfa’r Bala, 1814. Ef oedd y prif offeryn yn ffurfiad Cyffes Ffydd y Methodistiaid Calfinaidd yn 1823, ac yn gynghorwr doeth, cyson a diflino i Wilks, y cyfreithiwr, a baratodd y Weithred Gyfansoddiadol yn 1826. Bu’n arweinydd Cyfarfod Misol Sir Gaernarfon am flynyddoedd, a chynrychiolai’r Sir yn uchel gynghorau’r Cyfundeb. Yr oedd o feddwl praff, a’i ddull o bregethu ar brydiau yn rymus, trydanol a hyrddiol. Cyfrifid iddo argyhoeddi tua mil o bobl yng Nghymdeithasfa Llanidloes yn 1810. Bu’r amhariad a ddaeth ar ei feddwl a’i iechyd yn gyffredinol a’i lesgedd am flynyddoedd (1832 – 1846) yn loes a cholled i ngenedl gyfan. Gwisgai gap melfed du ar ei ben wrth gynnal gwasanaeth. Yr oedd ganddo ferlen goch, y ‘gaseg fach,’ fel y galwai ef hi, neu ‘Merlen Michael,’ ar lafar gwlad. Byddai bob amser yn gyrru fel meddyg. Bu farw yn Nhy’nymaes,Penrhos, Pwllheli, 29 Ionawr 1849, yn 68 mlwydd oed, ac fe’i claddwyd ym mynwent Deneio.
Gyda diolch i feibion a theulu’r awdur am eu caniatâd caredig
D.G. Lloyd Hughes yn cofio’r Parchedig . . .
Owen Thomas [1812 – 1891]
Ganed yng Nghaergybi 16 Rhagfyr 1812. Symudodd y teulu i Fangor yn 1827, a dilynodd yr un alwedigaeth a’i dad fel saer maen i ddechrau. Dechreuodd bregethu yn 1834, aeth i Athrofa’r Bala yn 1838 ac oddi yno i Brifysgol Caeredin. Yr oedd yn ddirwestwr pybyr ers canol y tridegau a chan ei fod eisoes wedi ennill enw iddo’i hun fel pregethwr anfonwyd ef gan Gymanfa Ddirwestol Gwynedd ym mis Awst 1837 ar daith i Dde Cymru. Erbyn 1841 yr oedd ymhlith rheng flaenaf areithwyr dirwest Cymru. Pan dderbyniodd alwad i fugeilio eglwys Penmount yn 1844 ymunodd â mintai fechan o fugeiliaid y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru ac ef oedd y cyntaf yn Sir Gaernarfon. Sefydlwyd ef ym Mhenmount 24 Ionawr, 1844, ond ni ordeiniwyd ef tan Gymdeithasfa Bangor, Medi yr un flwyddyn. Bu’n lletya i ddechrau yn Y Gelli cyn symud i lawr i’r dref at weddw Ellis Jones y trysorydd yn Siop Steps. Addefodd fod symud i Bwllheli a gorfod pregethu nos Wener yng nghlyw Michael Roberts wedi bod o ddirfawr wasanaeth iddo. Symudodd i fugeilio dwy eglwys yn Y Drenewydd ym mis Mawrth 1846 ac yn niwedd 1851 derbyniodd alwad i Eglwys Jewin Crescent yn Llundain. Yn 1865 symudodd i Lerpwl, yn y lle cyntaf i Eglwys Netherfield Road, ac yna, yn 1871, i Princess Road. Priododd yn 1860 â merch i’r Parchg.a Mrs. William Roberts, Amlwch. Yr oedd yn un o bregethwyr mawr Cymru, yn ddiwinydd praff ac yn esboniwr galluog. Gwnaeth gyfraniad ardderchog i lenyddiaeth Cymru ac, ymhlith pethau eraill, ysgrifennodd gofiannau Y Parchg.John Jones, Talysarn, a Henry Rees. Bu’n llywydd Cymdeithasfa’r Gogledd yn 1863 ac 1882, a llywydd y Gymanfa Gyffredinol yn 1868 ac 1888. Bu farw 2 Awst 1891 ac fe’i claddwyd ym mynwent Anfield, Lerpwl.
Gyda diolch i feibion a theulu’r awdur am eu caniatâd caredig.
D.G. Lloyd Hughes yn cofio’r Parchedig . . .
William Owen Williams [1817 – 1888]
Ganed 1817 ym Maenaddfwyn, yn agos i Bentraeth, yn Sir Fón, Dywedir iddo dderbyn addysg uwchlaw’r cyffredin, ac yr oedd ei ôl yn amlwg ar ei bregethu. Dechreuodd bregethu pan oedd tua 25 mlwydd oed, ac yn 1582, ymunodd â Chenhadaeth Gartref y Methodistiaid Calfinaidd trwy sefydlu yng nghysgod y Coleg Pabaidd yn Nhremeirchion, Sir Fflint, i geisio gwrthweithio ei ddylanwad yn y cylch, a bu’n cynnal ysgol yno. Ordeiniwyd ef yn 1857. Derbyniodd alwad i fugeilio eglwys Penmount yn ystod Haf 1860. Enillodd fri fel pregethwr, yr oedd yn ddihafal ei ymdriniaeth â phlant, a dangosodd ddiddordeb dwfn yng ngwelliant safonau caniadaeth y cysegr a chwaeth gerddorol yn gyffredinol. Yr oedd yn debyg o fod o flaen ei oes wrth hybu gweithgarwch diwylliannol yn y capel. Ei brif ddiddordeb y tu allan i’r capel oedd astudio’r ffurfafen, a chyfrifid ef yn awdurdod ar seryddiaeth. Yn 1868, fe’i gwnaed yn Gymrawd o’r Gymdeithas Seryddol Frenhinol (F.R.A.S.), a bu’n darlithio ar hyd a lled Cymru a sgrifennu i’r Goleuad ar y pwnc. Symudodd i fugeilio eglwys Penmaenmawr (Dwygyfylchi) yn ystod Haf 1869, ac ar ôl pedair blynedd, yn 1873, aeth i weithio fel clerc mewn masnachdy yn Lerpwl. Bu farw yn y ddinas honno, 26 Ionawr 1888, ac fe’i claddwyd ym meddrod ei briod ym mynwent Llanfihangel Tre’r Beirdd, Ynys Môn.
Gyda diolch i feibion a theulu’r awdur am eu caniatâd caredig
D.G. Lloyd Hughes yn cofio’r Parchedig . . .
Wiliam Thomas [1850 – 1925]
Ganed ar dyddyn o’r enw Gors, ger Clwt-y-bont, ym mhlwyf Llanddeiniolen, ym mis Gorffennaf 1850. Bu’n gweithio fel chwarelwr cyn mynd i Ysgol Clynnog ym mis Ionawr 1871, ac oddi yno i’r Bala. Ar ddiwedd ei dymor yno, yn 1875, derbyniodd alwad o Lanuwchlyn, ac yno y bu am dair blynedd, cyn symud i Ddyffryn Ardudwy i eglwys a thraddodiadau mawr yn perthyn iddi, lle bu’r enwog Richard Humphreys ac Edward Morgan yn teyrnasu am flynyddoedd, eglwys lle’r oedd yn ofynnol bod yn ymwybodol o lawer o ddawn ac adnoddau cyn anturio drwy ei phyrth i ddilyn y fath gewri. Yn ystod yr amser y bu yno llanwodd y disgwyliadau uchel, a phrin yr oedd terfyn ar hoffter ei braidd ohono, ac i’w canmoliaeth iddo. Aeth ei fri fel pregethwr trwy Gymru a bu galw mawr am ei wasanaeth. Ordeiniwyd ef yng Nghymdeithasfa’r Drenewydd, Mehefin 1876. Tra yn y Dyffryn, priododd ferch y Parchg. Richard Humphreys, a ganed iddynt bump o blant yno. Derbyniodd yr alwad i fugeilio eglwys Penmount yn nechrau 1888, a bu farw ei wraig ym mis Mehefin 1889, gan adael chwech o blant bach o dan 9 oed. Bu dau o’r plant farw o fewn ychydig o amser. Ail-briododd ym mis Ebrill 1891 â Miss. Elizabeth Hughes, o’r Fellnheli, merch y Parchg. Morris Hughes. Bu yn ŵr o gyngor a gwerth yn ei eglwys ac yn y Cyfarfod Misol a death yn bur amlwg yn y Gymdeithasfa a’r Gymanfa Gyffredinol. Yr oedd yn un o’r ddau arholwr cyntaf a benodwyd i arholi ymgeiswyr am y weinidogaeth ar ôl diwygio’r drefn yn ystod y nawdegau. Symudodd i Seion, Llanrwst yn 1896, a bu farw 22 Ionawr 1925.
Gyda diolch i feibion a theulu’r awdur am eu caniatâd caredig
Ioan W. Gruffydd yn cofio’r Parchedig ...
John Puleston Jones, M.A., D.D. (1862 - 1925)
Nid un o Bwllheli’n wreiddiol oedd John Puleston Jones, ac nid ym Mhwllheli y ganed ef. Bu’n byw, fodd bynnag, am rhyw un mlynedd ar ddeg - rhwng 1907 ac 1918 - yn nhref Pwllheli, ac yntau bryd hynny’n weinidog eglwys y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhenmownt. Blynyddoedd blin y Rhyfel Byd Cyntaf oeddent, ac nid blynyddoedd hawdd i weinidog dall o heddychwr y bu i un o aelodau ei eglwys yn y dref honni ei fod y gweld ymhellach na’r rhelyw o’i gyfoedion yr oedd eu golwg ganddynt.
Ganed John Puleston Jones yn y Berth, Llanbedr Dyffryn Clwyd, ar 26 Chwefror 1862, ond symudodd y teulu’n fuan i fyw i’r Bala, gan newid tŷ deirgwaith yn y dref honno. Ganed brawd iddo, sef Robert Lloyd, yn Awst 1863. Digwyddodd damwain yn y cartref un nos Sul ym mis Medi’r flwyddyn honno. Ac yntau ond yn ddeunaw mis oed, syrthiodd llestr gwydr o law John, a thorri, ac aeth un darn o wydr i gannwyll ei lygad. Aed ag ef i ysbyty yn Lerpwl, ond bu’n rhaid tynnu ei ddau lygad.
Yn ôl un a oedd yn ei hadnabod, ‘roedd ei fam, Mary Ann Puleston, yn foneddiges urddasol a galluog ac yn ddisgynnydd o hen deulu enwog Pilstyniaid Swydd Amwythig. Diddorol oedd gwrando arni’n adrodd ei hanes, yn dysgu elfennau mathemateg i’w phlentyn bach dall. Dysgodd Euclid iddo drwy blygu serviette wrth y bwrdd bwyd i wahanol onglau a rhedeg ei fys a’i fawd ar hyd y plygiadau i roi syniad iddo am eu ffurf. A defnyddiai ei modrwy i roi syniad iddo am ffurf cylch. Cawsai ei fam addysg uwchradd, ac yr oedd wedi arbenigo fel llysieuydd. Arferai’r Athro J. Lloyd Williams, o Goleg Prifysgol Cymru ym Mangor, ymgynghori â hi ynghylch gwahanol fathau o blanhigion. Peintiwr cywrain ei grefft oedd Evan Jones, ei dad, a gweithredai hefyd fel arwerthwr ac adeiladydd. Oddi wrth ei dad yr etifeddodd John Puleston Jones ei allu fel crefftwr, a chan ei fam y cafodd ei allu meddyliol a’i bwyll a’i urddas.
Bu yn Ysgol Frutanaidd ac Ysgol Ramadeg y Bala, ac yn 16 oed, aeth am flwyddyn i Goleg y Deillion, Caerwrangon. Aeth wedyn gyda’i gyfaill, O. M. Edwards, i Brifysgol Glasgow, ac oddi yno i Goleg Balliol, Rhydychen, ac ym 1888 graddio yn y dosbarth cyntaf mewn Hanes Diweddar: y tro cyntaf i neb dall lwyddo i gyflawni’r fath orchest. Yr oedd yn un o'r saith a sefydlodd ym 1886 Gymdeithas Dafydd ap Gwilym yn y Brifysgol yno.
Dysgodd ddarllen y teip Moon i ddeillion, ac yn ddiweddarach y teip Braille, a'i ysgrifennu ar deipiadur arbennig Braille, o wneuthuriad Remington – y cyntaf o’i fath i ddod i Gymru. Bu’r ‘injan sgwennu,’ chwedl yntau, yn destun rhyfeddod yn y Bala, ac yn gymorth gwerthfawr i’w pherchennog. Ysgrifennai at eraill gyda theipiadur cyffredin. Ef a luniodd y gyfundrefn o reolau i'r Braille Cymraeg a ddefnyddir heddiw. Er ei ddallineb, nid oedd yn arfer ganddo ddefnyddio ffon wen. Hawdd oedd i’r rhai a fyddai yn ei gwmni anghofio mai dyn dall ydoedd. Ragor nag unwaith, pan fyddai’n lletya oddi cartref, cynigid cannwyll iddo i fynd i’w ystfell wely! Ambell dro, byddai’n ei derbyn yn ddiolchgar gan ei diffodd wedi cyrraedd yr ystafell honno!
Arferai’r teulu gadw dyledswydd bob dydd, naill ai yn y bore neu ar amser cinio. Trefn arferol y dydd fyddai fod ei briod yn treulio’r bore yn darllen iddo. A byddai’r ddau gyda’i gilydd yn treulio’r pnawn yn ymweld. Ar ôl gwahanol alwadau a chyfarfodydd yr hwyr byddai’n arferiad ganddo naill ai chwarae draffts ar fwrdd o’i wneuthuriad ei hun, neu ddarllen nofelau Thomas Hardy drwy gyfrwng Braille.
Gweithiai yn ei weithdy saer pan fyddai gartref. Yr oedd yn grefftwr medrus a chywrain, ac erys llawer dodrefnyn o’i waith yn brawf o’i allu rhyfedd. Hoffai wneud ei sgriwiau ei hun. Marchogai ar ei geffyl nwyfus, ‘Dic,’ pan oedd yn weinidog yn Ninorwig, trwy strydoedd Bangor a Chaernarfon, a byddai’n gyrru felly mewn cerbyd ar hyd ffyrdd peryglus yr ardal. Teithiai ei hunan ar y rheilffyrdd, a ‘byddai angel,’ meddai, ‘ar bob platfform.’
Dechreuodd ei weinidogaeth gyda’r Presbyteriaid Saesneg fis Ebrill 1889 yn Eglwys Princes Road, Bangor. Ym 1890, priododd Annie Alun Jones, o’r Wyddgrug. Ganwyd iddynt ddau o blant. Ymryddhaodd o’i ofalaeth ym Mangor ym 1894, ar gyfrif ei gydymdeimlad dwfn â phopeth Cymreig a’i hiraeth am eglwys Gymraeg. Bu'n bugeilio eglwysi Dinorwig a'r Fachwen (1895-1907), Penmownt, Pwllheli (1907-18), a Llanfair Caereinion (1918-23). Bu farw ar 21 Ionawr 1925, a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys Crist, y Bala.
Gweinidog yn nhref Caergybi oeddwn i pan ddigwyddais grybwyll yn un o bwyllgorau Cymdeithas y Cymod fod Myfanwy Puleston, merch y Parchg. John Puleston Jones, yn byw bryd hynny yn yr un dref â minnau. A dymunwyd fod i mi lunio ysgrif bortread amdano ar gyfer Herio’r Byd, [Cyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf., 1980] cyfrol ar nifer o heddychwyr Cymru y bwriadai’r Cymdeithas y Cymod ei chyhoeddi. Cofiaf yn dda’r noson ym Mhwllheli pan geisiwn gasglu gwybodaeth am gyfnod Puleston fel gweinidog yn y dref. Soniwyd wrthyf am un cartref lle cedwid adroddiadau Capel Penmownt dros y blynyddoedd. Curais wrth ddrws y cartref.
“Be’ alla’i ‘neud i chi, machgen i?”
holodd y wraig garedig a atebodd y drws.
Ceisiais innau egluro fy neges, sef yr hoffwn gael golwg ar adroddiadau’r capel yn ystod blynyddoedd gweinidogaeth y Parchg. J. Puleston Jones, a darllen ei anerchiadau yn yr adroddiadau hynny. Gwahoddwyd fi’n garedig i’r tŷ.
“’Steddwch.”
Eglurwyd fod y blwch oedd yn cynnwys yr adroddiadau yn y llofft. Cymerodd y wraig fach ei ffón a churo’r pared rhyngddi â’r drws nesaf. Daeth ei chymdoges i fewn. Wedi ei chyfarwyddo, aeth hi i’r llofft, a chyflwyno i’m sylw’r blwch oedd yn llawn o adroddiadau’r capel. Ceisiais innau eu didoli er mwyn gweld beth oedd gan y gweinidog i’w ddweud yn ystod blynyddoedd blin y Rhyfel Byd Cyntaf.
Daethai’r Parchg. John Puleston Jones i Bwllheli rhyw saith mlynedd cyn dechrau’r rhyfel, ac arhosodd drwy gydol cyfnod erchyll yr heldrin fawr. Digon anodd bellach yw amgyffred sut oedd pethau ym Mhwllheli bryd hynny. Yr oedd llawer o filwyr yn y dref – milwyr yr O.T.C., a’r South Wales Borderers, a llawer o geffylau a oedd yn perthyn i’r Royal Field Artillery – ceffylau a gedwid yng Nghae Solomon.Ysgrifennodd un cyfaill iddo fod yn byw yn Gelli, Lon Cerdigion, pan godwyd y tai - canol y 70au. Myn mai 'Cae Solomon' oedd y cae agosaf i Dalcymerau Mawr. Ychwanega, 'Wrth drin yr ardd byddem yn codi esgyrn ceffylau o'r tir - pobl yn deud mai yno byddai ceffylau'r SA yn cael eu claddu. Golygfa gyfarwydd oedd gweld y milwyr a’u ceffylau’n mynd a dod ar hyd y dref. Roedd trigolion Pwllheli (fel trigolion llawer tref fach arall bryd hynny, bid siŵr) yn elwa llawer drwy bresenoldeb y milwyr. Yr oedd gorfodaeth ar rai o’r trigolion i letya’r milwyr. Gelwid un rhes o dai yn Profiteering Avenue! Mae ar gael gofnodion cyfarfod brodyr a gynhaliwyd ym Mhenmownt ar nos Iau, 10 Chwefror 1916:
“C. Cornelius Roberts a ddywedai y gallwn longyfarch ein gilydd ar y wedd lewyrchus sydd ar yr achos eleni, ond mae’n debyg na welodd Pwllheli ers amser maith flwyddyn debyg i 1915. Yr oedd £2,000 yn cael eu gwario yn y dref bob wythnos gan y milwyr oedd yn gwersyllu yn ein mysg, ond erbyn hyn mae golwg ddu iawn o’n blaenau – y milwyr wedi ein gadael, a hynny o weithfeydd ag oedd yn y dref wedi sefyll a’r gweithwyr wedi eu gwasgaru i bob man.”
Blynyddoedd tywyll ac anodd oedd y rheini, yn enwedig i’r gweinidog dall o heddychwr. Bu’n rhaid iddo gerdded llwybr unig iawn. ‘Roedd llawer iawn nad oeddynt yn cytuno â’i safbwynt nac yn ei ddeall – ac yn eu plith yr oedd llawer o aelodau a swyddogion ei eglwys ei hun. Ond safodd ef fel dur dros ei argyhoeddiadau, er i hynny gostio’n ddrud iawn iddo.
Yn un o gyrddau Gŵyl y Diolchgarwch am y Cynhaeaf ym Mhenmownt fis Hydref 1914, beiai’r Gweinidog genhedloedd Ewrop am iddynt ganiatáu i bethau ddirywio i’r fath raddau. ‘Dylai fod gan wledydd Cred,’ meddai, ‘ddull mwy effeithiol na’r cleddyf i setlo’u cwerylon, a dylai Prydain osod ei phwys ar rywbeth cadarnach na llynges.’ Ar ôl gwrando ar y neges, arweiniwyd mewn gweddi gan un a ddiolchai i’r Arglwydd am fod gan Brydain y fath lynges i’w hamddiffyn! Yr oedd gwahaniaerh barn dwfn rhwng y Gweinidog a’i bobl wrth iddynt fynd adref o’r oedfa honno, a bu cryn siarad am y peth am ddyddiau wedyn. Adroddai’r diweddar J.O. Williams, Siop Bodeon House, Pwllheli, iddo gyfarfod â Puleston yn ymyl efail Hugh Lunt ar Lôn ‘Berch ymhen ychydig ddyddiau ac iddynt droi i siarad am y cyfarfod diolchgarwch.
‘Beth oedd eich barn chi am yr hyn ddwedais i, J.O.?’ gofynnodd y gweinidog.
‘Tydw i ddim yn gymwys i farnu,’ atebodd yntau, ‘ond ‘rydw i’n siŵr o un peth – ‘rydach chi’n gweld yn bellach na neb ohonom ni, ac yn dweud y gwir yn rhy fuan a ninnau ddim yn barod i’w dderbyn.’
Ym marnJ.O. Williams, roedd Puleston yn ddyn mawr, ac ymfaĩchiai yn y ffaith iddo wneud ink stand derw iddo yn anrheg priodas.
‘Bob tro y bydda i’n edrych arno,’ meddai, ‘rwy’n cofio’r dyn dall oedd yn gweld cymaint.’
Ond un o’r eithriadau prin, prin oedd J.O. Williams. Meddai Puleston mewn un man:
‘Pobl ffyrnig o ryfelgar sy o’m cwmpas i ym Mhwllheli ‘ma.’
Dywedwyd geiriau brwnt a chreulon wrtho lawer gwaith, a theimlai ei briod i’r byw drosto ar adegau felly. Pan bregethai, clywid rhywrai yn y gynulleidfa’n pesychu eu hangymerawyaeth. A byddai dadlau ac anghytuno mawr ag ef yn ystafell y blaenoriaid ac yn y cartrefi ac mewn llawer lle arall. Anghytunai blaenoriaid ei eglwys ag ef; barnent hwy y byddai’n llawer gwell iddo beidio â thraethu ei farn mor hyf. ‘Os meddw yw’r wlad, fel y dywedwch chwi,’ meddent wrtho, ‘pa ddiben yw i chwi geisio ymresymu â meddwyn?’
Unwaith, yn haf 1916, cyd-deithiai i Fangor ag un o’i flaenoriaid, sef Dr. O. Wynne Griffith [‘Doctor Mela’]. Neges y gweinidog yno oedd amddiffyn W.D. Davies (yr Athro’n ddiweddarach) a oedd yn wrthwynebydd cydwybodol. A neges y meddyg oedd eistedd ar y tribiwnlys oedd yn gwrando’r achos. Dywedir na soniodd yr un o’r ddau ar y ffordd am y neges a’i dygai i Fangor.
Adroddir am un arall o aelodau amlwg Penmownt a fu droeon yn hallt iawn ei eiriau wrth ei weinidog, y byddai’n aml yn ei ddagrau am iddo ddweud pethau rhy gas a rhy chwerw wrtho. Yng ngeiriau Mr. Alun Puleston Jones, cafodd ei dad lawer gwaith ‘ei frifo yn nhŷ ei garedigion.’
Cafodd Puleston ei siomi gan agwedd rhai o’i gyfeillion hefyd – pobl fel O.M. Edwards, John Morris-Jones a John Williams, a fu wrthi'n cefnogi ymgyrch recriwtio David Lloyd George. Yr un oedd ei siom yn ei gyfaill, Henry Jones, a ddaeth i Bwllheli i gefnogi ymgyrch y Prifweinidog. "Plediai achos y Llywodraeth nad oedd 'ffordd arall' boed y canlyniad beth y bo", meddai George M. Ll. Davies, gan ychwanegu, "Yna cododd Puleston, ac meddai, 'Y mae gen' i gwestiwn, Syr Henry, a dyma fo – ‘Y mae ffordd arall on'd oes? 'Y mae ffordd arall'. Nid gwrthdystiad yn erbyn rhyfel oedd gwedd amlycaf Protestaniaeth Puleston, eithr tystiolaeth am 'ffordd arall' - y 'ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist'. Pan ddaeth y Parchg. John Williams, Brynsiencyn, i Neuadd y Dref, Pwllheli, i annerch ar ran y Llywodraeth, ac i geisio annog pobl ifainc i fynd yn filwyr, ceisiodd rhywrai gymell Puleston Jones i fynd i’r cyfarfod a dweud gair yno. Gwrthod yn bendant a wnaeth. Adroddir iddo ddweud wrth gyfaill wedi hynny ei fod yn fwy argyhoeddedig fyth ar ôl y noson honno mai ef oedd ar y llwybr iawn.
Yr oedd ei galon fawr yn gwaedu dros rieni y gorfodwyd eu meibion i ymuno â’r lluoedd. A gwnaeth lawer i gael gan ei Eglwys i gynorthwyo ym mhob modd i geisio lleddfu’r loes i deuluoedd felly, ac i ysgafnhau’r amgylchiadau i’r bechgyn a oedd allan yn y gyflafan fawr. Byddai’n gweddïo’n rheolaidd, ac yn annog eraill i weddïo ar ran y rhai a ddioddefai o ganlyniad i’r rhyfel. Cydymdeimlai i’r byw â rhieni galarus fel y tystiai rhai llythyrau a ysgrifennodd at deuluoedd felly.
Er mor galed y bu hi arno ym Mhwllheli drwy flynyddoedd y Rhyfel, y mae’n deg dweud na ddioddefodd y cynulliadau yng Nghapel Penmownt. Deuai cynulleidfa gref ynghyd, ac yn arbennig felly ar Sul cynta’r mis. Pregethodd lawer gan roi mynegiant clir a grymus i’w argyhoeddiadau heddychol yn ei bregethau.
Yn Adroddiad Blynyddol Eglwys Penmownt am 1914, y Rhyfel yw testun anerchiad y gweinidog. Yr oedd tair gwers, meddai, y gellid eu dysgu oddi wrtho: ‘Un wers fawr y dylai’r eglwys ei dysgu oddi wrth y byd yn yr amgylchiad yma ydyw undeb . . . A allwn ni, a feiddiwn ni, ar ôl hyn, fod yn fwy o Fethodistiaid nag o Gristnogion? Gwers arall ydyw trefn. Y mae’n tref fach ninnau yn diasbedain gan sain utgyrn a thrwst cerddediad y milwyr. Gwers arall . . . ydyw hunanymwadiad.’
Ymroes John Puleston Jones trwy gydol blynyddoedd garw’r Rhyfel, ac wedi hynny, i wisgo amdano ‘holl arfogaeth Duw.’ Os mai rhwyfo yn erbyn y llif yr oedd i bob ymddangosiad, cafodd gwmni rhai heddychwyr amlwg eraill, a bu hynny’n ysbrydiaeth iddo. Un ohonynt oedd George M. Ll. Davies. Nid annaturiol oedd i bleidwyr heddwch gyfarfod â’i gilydd. O gyd-drafod felly y ganed Y Deyrnas dan olygyddiaeth y Prifathro Thomas Rees – cylchgrawn a fu byw am dair blynedd gyda’i gylchrediad yn cynyddu i dair mil.
Yr oedd ysgrif gan Puleston Jones yn y rhifyn cyntaf fis Hydref 1916. Pan sefydlwyd Cymdeithas y Cymod ym 1914 gan wrthwynebwyr cydwybodol ar sail eu cred Gristionogol, cafodd Puleston Jones gymrodyr o gyffelyb feddwl iddo’i hun. Cynhelid cynadleddau ganddynt a gwnaent eu protest yn enw heddwch a chymod.
Ychydig cyn iddo dderbyn galwad i symud o Bwllheli i Lanfair Caereinion, llwyddwyd er gwaethaf pob anhawster i sefydlu Seiat y Tangnefeddwyr ym Mhwllheli. Mae brawddeg mewn llythyr a ysgrifennodd Puleston at ei fam yn Chwefror 1918 yn amlygu’r anawsterau dybryd a gafodd o gyfeiriad swyddogion ei eglwys, ac o bosibl y newid a fu gyda’r blynyddoedd yn safbwynt rhai ohonynt. Wrth gyfeirio at sefydlu Seiat y Tangnefeddwyr, mae’n dweud: ‘Addawodd swyddogion Pen y Mount i ni fenthyg yr Ysgoldy, fel y gwelwch fod y mil blynyddoedd ar wawrio!’
Siaradai Puleston yn y cyfarfod hwnnw, ar ôl y Prifathro Thomas Rees, a dewisodd yn destun ‘Arglwyddiaeth Cariad.’ Yr oedd Prydain, meddai, am i gariad fynd i’r gegin i olchi’r llestri ond nid oedd lle iddo yn y parlwr i reoli’r holl dŷ. Câi cariad gyflawni ambell orchwyl fach, ond nid oedd lle iddo gael teyrnasu. Nid gwas oedd Cariad i fod, ond brenin. Ar ei ffordd i’w orsedd yr oedd. Ac nid oes a wad bellach na wnaeth John Puleston Jones, y pregethwr dall a welai ymhellach na llawer o’i gyfoeswyr, ei ran i hybu Cariad ar ei ffordd i’w orsedd.
Cyhoeddodd John Puleston Jones ei Esboniad ar Epistol Iago ym 1899, a'i ‘Ddarlith Davies’ ar Ysbrydoliaeth, Until the Day Dawn, ym 1913, a chyfrol o bregethau, Gair y Deyrnas, ym 1924. Bu ganddo ysgrifau yn Yr Efrydydd a cholofnau ‘Hawl ac Ateb’ yn Y Goleuad.
Cyflwynodd ei enwad dysteb iddo, a Phrifysgol Cymru y radd o D.D. ym 1924.
WELEDYDD CALON LYDAN - Dyna'r geiriau a naddwyd ar fur ei gartref yn Stryd Fawr y Bala, gyferbyn â chofgolofn un o’i gyfeillion, Tom Ellis, A.S. Uwchben y geiriau hynny mae, PREGETHWR HEDDYCHWR A CHYMRO DA.
Meirion Lloyd Davies yn cofio am ...
Y Parchg. Morgan Griffith - Gweinidog
Yng nghwrs y blynyddoedd gwelwyd nifer o gymeriadau anghyffredin iawn yn rhengoedd y weinidogaeth Ymneilltuol, ond prin y bu unrhyw un fel Morgan Griffith – yn bencampwr bocsio, yn gapten clwb golff, yn nofiwr yn y môr haf a gaeaf hyd at ei bedwar ugain oed, yn arweinydd ei enwad, yn ŵr arbennig o ffraeth ac yn bregethwr rhagorol.
Gellir dweud am lawer iawn o bobl eu bod yr un ffunud â’u rhieni. Ni fu hynny erioed yn fwy gwir am neb nag yn achos Morgan Griffith. Chwarelwr oedd Hugh, yn byw yn Nhal-y-sarn ac yn gweithio yn Chwarel Dorothea. Cawres yn gorfforol ac o ran cymeriad oedd ei fam, Alice. Roedd hi’n storm o ddynes, yn medru ffraeo hyd at daro. Cigyddes oedd hi o ran ei galwedigaeth a byddai’n mynd i ffermydd i brynu anifeiliaid ac yna’n eu lladd ei hun. Dywedir ei bod yn giamstar ar ladd ‘defaid, moch a hyd yn oed wartheg’ ac yna’u trin cyn gwerthu’r cig. Ond, yn drist iawn, ei lladd a gafodd hithau, a hynny wrth i drol droi â’i phen i waered a’i thaflu yn erbyn wal gerrig. Dywedodd y Prifardd Gwilym R. Jones wrthyf ei fod yn cofio gweld Morgan Griffith, a oedd yn weinidog yn y Bermo ar y pryd, yn cario’i fam yn ei freichiau a hithau’n waed i gyd. Adroddir hanes am Morgan yn cynnal seiat yng nghapel Penmount, Pwllheli, a gwraig yn dadlau’n daer ag ef ac yn mynnu cael y gair olaf. Yn y diwedd dywedodd wrthi, ‘Rydach chi’r un ffunud â Mam, ond cofiwch chi, cythraul o ddynas oedd hi!’
Wedi gadael ysgol yn bedair ar ddeg oed aeth i weithio am rai blynyddoedd i chwarel Dorothea, fel ei dad, cyn newid cyfeiriad a mynd i’r weinidogaeth gyda’r Methodistiaid Calfinaidd. Dechreuodd ar ei gwrs yng Ngholeg Clynnog cyn mynd i’r Brifysgol ym Mangor a graddio yn y Gymraeg. Yn yr un dosbarth ag ef yr oedd Kate Roberts. Bob tro yr âi Morgan Griffith i bregethu i’r Capel Mawr yn Ninbych byddai’n mynd yn syth ar ddiwedd yr oedfa at Dr. Kate ac yn rhoi clamp o gusan iddi. Doedd dim rhyw lawer a fyddai’n mentro gwneud hynny! Tra ym Mangor daeth yn bencampwr bocsio’r Brifysgol, dawn a fu’n gaffaeliad iddo sawl tro yn ystod ei oes.
Yn rhyfedd iawn dechreuodd ar ei weinidogaeth mewn capel Saesneg a hynny yn y Bermo. Ar ôl pedair blynedd yn y Bermo symudodd Morgan Griffith yn ôl i Arfon – i Ddinorwig – yn olynydd i ŵr gwahanol iawn iddo, sef John Puleston Jones, y pregethwr dall a’r heddychwr cadarn. Yn 1913 symudodd drachefn, y tro hwn i Lundain i eglwys Wilton Square a alwai rhai yn ‘eglwys yr aristocratiaid.’ Bu yno am wyth mlynedd pan oedd mynd mawr ar gapeli Cymreg y ddinas – ac, wrth gwrs, trwy gyfnod helbulus y Rhyfel Byd Cyntaf.
Daeth cyfnod Morgan Griffith yn Llundain i ben ym 1921 pan symudodd i ofalu am eglwys Penmownt ym Mhwllheli ac am yr ail dro i olynu Puleston. Ym Mhwllheli y bu wedyn weddill ei ddyddiau. Daeth i Bwllheli yn ŵr aeddfed deugain a saith oed, ac fe gyflawnodd ddiwrnod arbennig o waith yno. Ar y pryd, roedd eglwys Penmownt yn un o eglwysi mwyaf Cymru gyda tua chwe chant o aelodau a chynulleidfaoedd anferth yn yr oedfaon ar y Sul. Gan fod Morgan Griffith yn gymeriad mor anghyffredin ac yn bregethwr mor arbennig gwnaeth argraff fawr ar yr eglwys a’r cylch yn fuan iawn.
Pregethwr hollol anwastad oedd Morgan Griffith. Ar ei orau roedd ymhlith goreuon pregethwyr Cymru a hynny ar gyfnod y pregethwyr mawr. Gallasai, ar y llaw arall, fod yn gwbl druenus. Rhan o’r eglurhad oedd nad oedd byth yn ysgrifennu unrhyw bregeth, darlith nac anerchiad, Wrth reswm, byddai’n paratoi’n feddyliol ond gadael iddi wedyn i ysbrydoliaeth y funud. Unwaith mewn Sasiwn yn Llundain a’r capel dan ei sang, rhoddodd y gorau iddi ar ôl llai na chwarter awr. ‘Ddaw hi ddim heno,’ meddai a chau’r Beibl a dweud ‘Amen’ yn swta. Cyhoeddodd blaenor yn y capel Wesle ym Mhwllheli un bore Sul, ‘Morgan Griffith fydd yma am chwech heno. Mi fyddwn ni allan am saith neu wyth, dibynnu sut hwyl fydd arno fo.’
Bu yn Ysbyty Bryn Beryl am ychydig wythnosau tua diwedd ei oes. Doedd o ddim yn glaf amyneddgar iawn a dywedodd wrth gyfaill, ‘Rydw i wedi dweud wrth y Brenin Mawr na thâl hyn ddim. Mae’n rhaid iddo ’ngwella i neu ’y nghymryd i.’ Ei gymryd o wnaeth y Brenin Mawr. Pan fu farw ym mis Tachwedd 1965 yn 91 oed, collodd Cymru gymeriad arbennig iawn ac un na welir ei debyg byth eto.
Talfyriad o’r bennod yn Cymeriadau Llŷn, Golygydd Ioan Roberts, Cyfres Cymêrs Cymru, Gwasg Gwynedd. Gyda diolch i’r Wasg, ac i Mair Lloyd Davies am ganiatâd i gyhoeddi’r talfyriad hwn.
D.Ben Rees yn cofio am ...
R.Gwilym Hughes – Gweinidog
Bardd a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd y Parchedig R. Gwilym Hughes. Ganwyd ef ar 17 Awst 1910 ym Methesda, Arfon, yn ail fab i Robert John ac Elisabeth Hughes, ei dad o Waen Pentir, a'i fam o Drefdraeth ym Môn. Bu ei dad yn gweithio yn Chwarel y Penrhyn wedi'r Streic Fawr (1900-03), a gwyddai ef a'i frawd Richard Môn Hughes o brofiad am y tlodi a ddilynodd y streic ym Methesda. Pan oedd yn bedair oed, symudodd y teulu i Lôn Bopty, Bangor, lle y cawsant, wrth y drws, gymuned Gymraeg ei hiaith a chapel Methodistiaid Calfinaidd Lôn Bopty a'i darpariaeth eang i bob oed.
Addysgwyd Gwilym Hughes ym Mangor, yn Ysgol Gynradd Sant Paul, lle'r oedd T. J. Williams, awdur barddoniaeth Gymraeg i blant, yn brifathro. Oherwydd ad-drefnu, bu'n ddisgybl yn Ysgol Cae Top o 1919 i 1921, cyn ei dderbyn trwy ysgoloriaeth i Ysgol y Friars, ysgol i fechgyn a roddai bwys ar y clasuron. W. St. Bodvan Griffith oedd y prifathro, cyfuniad o wyddonydd a chlasurwr. Daeth R. Gwilym Hughes o dan ddylanwad yr athro Cymraeg, R. E. Hughes, taid Angharad Tomos, y llenor a'r ymgyrchydd. Cyfoedion iddo yn yr ysgol oedd y Dr. Carl Witton-Davies, sylfaenydd Cyngor Cristnogion ac Iddewon; W. R. P. George, y bardd-gyfreithiwr; Huw Wheldon, Pennaeth y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, a'r Athro A. O. H. Jarman , Athro Cymraeg Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd yn ddiweddarach.
Derbyniwyd R. Gwilym Hughes i Goleg y Brifysgol, Bangor, yn Hydref 1928 a soniodd yn ei hunangofiant am ei edmygedd o'r Athro Ifor Williams , a bu'r ddau yn bennaf ffrindiau o'i gartref ym Mhontllyfni, ar hyd y blynyddoedd. Ysgrifennodd yr Athro lythyr iddo yn niwedd ei oes gan ddweud, ‘Y mae gennyf hiraeth am weld fy hen blant. Brysiwch yma, a chawn sgwrs hyfryd.’
Darlithydd o'r cyfnod hwn a ddaeth yn ffrind cywir arall iddo oedd Syr Thomas Parry . Gwerthfawrogodd hefyd ddysg yr Athro James Gibson, yr Athro T. Hudson-Williams ac R. Williams Parry .
Mwynhaodd gyfeillgarwch nifer fawr o'i gyd-fyfyrwyr llengar, fel Robert Owen (1908-1972), Llanllyfni ac O. M. Lloyd (1910-1980) yn y cymdeithasau a'r eisteddfodau. Graddiodd yn y Gymraeg yn 1931, a dechreuodd ar ei gwrs yn Adran Ddiwinyddol y Brifysgol ym Mangor yr un flwyddyn am radd BD a graddio yn 1936. Enillodd radd MA yn 1940 am draethawd ar ‘Bywyd a gwaith William Wyn, Llangynhafal’ a chyhoeddwyd cyfran o'i draethawd yn Llên Cymru, cyfrol 1 (1950).
Aeth i dderbyn hyfforddiant bugeiliol am flwyddyn yng Ngholeg y Bala, o dan ofal y Parchedigion David Phillips a G. Arthur Edwards, ac ordeiniwyd ef yn Nolgellau, Tachwedd 1938, wedi derbyn galwad i gapeli Maentwrog Isaf a Gellilydan. Yn Nhachwedd 1942, priododd Bessie, merch Hugh a Margaret Jones, fferm Gellidywyll, Gellilydan, ar ôl derbyn galwad yn Awst i fugeilio Capel y Dwyran yn Henaduriaeth Môn. Yr oedd y capel yn ganolfan lewyrchus i'r holl gymdogaeth a chyfarfodydd bron bob nos o'r wythnos. Derbyniodd alwad oddi yno i gapel Hyfrydle, Caergybi, a symudodd yno ym Mawrth 1948. Cafodd gwmni nythaid o feirdd yng Nghaergybi yn cynnwys Huw Ll. Williams, O. M. Lloyd, Alun Puleston Jones, J. O. Jones (Hyfreithon), a dod yn bennaf ffrindiau gyda'r cyfreithiwr lleol, Cledwyn Hughes , a ddaeth yn Aelod Seneddol Llafur Môn yn etholiad 1951. Teithiodd y tri Hughes, Cledwyn , Gwilym ac R. Griffith Hughes, gweinidog Disgwylfa, gyda'i gilydd i Ŵyl Prydain 1951 yng nghar y gwleidydd.
Bu R. Gwilym Hughes yn gefnogydd i'r Blaid Lafur ac i ddatganoli ar hyd y blynyddoedd. Cefnogodd Gymry Llafurol fel Cledwyn Hughes, Goronwy O. Roberts, Frank Price Jones, Huw T. Edwards, ac y mae nifer o'i lythyrau ym mhapurau Cledwyn Hughes yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn 1979 safodd ei fab ei hun, R. Meirion Hughes, yn ymgeisydd Llafur yng Ngorllewin Fflint.
Symudodd o Fôn yn 1954 i ofalu am gapel Bethesda, Yr Wyddgrug, yn Henaduriaeth Sir y Fflint. Daeth yn aelod o dîm ymryson ‘Pawb yn ei Dro’ BBC gyda Ronald Griffith a'r Prifardd Dafydd Owen, ac yn rhan o'r ymgyrchu am Addysg Gymraeg yn Sir y Fflint.
Derbyniodd alwad yn 1961 yn olynydd i'r Parchedig Morgan Griffith yng Nghapel Penmount, Pwllheli, ac yno bu hyd ei ymddeoliad yn 1981. Bu'n arweinydd eciwmenaidd yn y dref, a chafodd fodlonrwydd mawr yn bugeilio yn ei dro blant Ysgol Penrallt, cleifion Ysbyty Bryn Beryl ac Ysbyty Henoed, yn Heol Ala. Yn y cyfnod hwn y daeth yn arweinydd amlwg yng ngweithgareddau ei enwad, Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Cyhoeddodd fwy nag un gwerslyfr at wasanaeth yr ysgol Sul. Traddododd y Ddarlith Davies yn y Gymanfa Gyffredinol 1965 yn y Drenewydd, a chyhoeddwyd hi o dan y teitl, Y Weinidogaeth Hon (Caernarfon, 1967).
Ers 1942, bu'n amlwg yn nhrefniadau Addysg Ymgeiswyr am y Weinidogaeth a threfn a chynhaliaeth y Weinidogaeth. Bu'n gofalu am Gongl y Beirdd yn y Goleuad am 15 mlynedd, yna am dymor yn Olygydd y newyddiadur wythnosol. Bu'n Llywydd Cymdeithasfa'r Gogledd yn 1977-78 ac yna yn 1978-9 yn Llywydd y Gymanfa Gyffredinol.
Ymddeolodd i Gaernarfon yn 1981, a bu'n weithgar dros ben yn y 1980au. O 1982 i 1985 gwasanaethodd ar y gweithgor a baratôdd Atodiad i Lyfr Emynau a Thonau (1985) a gwelir saith o'i emynau yn y casgliad.
Ers dyddiad Coleg bu'n ymhél â barddoniaeth. Ceir 6 soned ac 1 englyn o'i waith yn y gyfrol Barddoniaeth Bangor 1927-1937 (gol. J. E. Caerwyn Williams , Aberystwyth, 1938). Cynigiodd fwy nag unwaith am Goron yr Eisteddfod Genedlaethol. Dywedodd Syr Thomas Parry wrtho ar ôl llwyddiant ei bryddest yn dod yn ail orau yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1971: ‘Gresyn mawr ichwi ddod mor agos i'r Goron heb ei chael’ ac yn arbennig yn y ddinas lle y'i magwyd ac y derbyniodd ei addysg. Cyhoeddwyd y dilyniant o gerddi, Canaf i'm bro, yn 1971. Daeth yn agos at y goron yn eisteddfod 1972 gyda'r gerdd ‘Dadeni’. Enillodd aml i wobr mewn eisteddfodau sirol fel Eisteddfod Môn am ei gerddi. Cyhoeddwyd ffrwyth ei awen yn y gyfrol Cerddi (Caernarfon, 1944), ond yr oedd yn fwy cofiadwy fel emynydd na bardd, a gwelir emynau o'i eiddo (9, 155, 806) yn Caneuon Ffydd (2001).
Yr oedd yn Gymreigydd o'r iawn ryw, a dilynodd y Parchedig William Morris fel Golygydd Cyffredinol Gwasg Pantycelyn. Fel pregethwr yr oedd yn raenus, yn Feiblaidd ond ni fu galw mawr am ei wasanaeth fel pregethwr cyfarfodydd blynyddol yr eglwysi. Ymddiddorai mewn cerddoriaeth (yr oedd yn bianydd medrus), a bu ei ferch, Carys Hughes (1949-2004), a fu farw'n gynamserol, yn organyddes broffesiynol. Bu Gwilym Hughes farw ar 20 Gorffennaf 1997. Wedi gwasanaeth yng nghapel Engedi, Caernarfon, claddwyd ei weddillion ym mynwent newydd Bangor. Gadawodd briod, tri mab a merch i alaru.
W. Bryn Williams, ac amryw gyfeillion, yn cofio’r Parchedig . . .
Meirion Lloyd Davies, M.A. [1932 – 2013]
Digwyddiad amlwg yn ystod 2013 i ni fel Gofalaeth, fel Cyfundeb, fel tref, fel ardal ac fel Cenedl ydoedd marwolaeth y Parchedig Meirion Lloyd Davies. Yn y rhifyn hwn o’r HEDYN mae amryw ohonom yn ceisio cyflwyno gwerthfawrogiad ohono ac o’i wasanaeth.
Gwelwch yma gyfraniadau gan Lywydd Sasiwn y Gogledd, Mr. Huw Tudor, y Parchedigion Fred Hughes, W.H. Pritchard, Alwyn Roberts, Arthur Meirion Roberts, Gwyn Rhydderch ynghyd â Ella Roberts a Gwyneth Owen ar ran Capel Bethel, Penrhos, Rhian Owen a Richard Williams yn cofio cyfnod Salem a minnau yma yn fy ngholofn arferol.
Teyrnged Y Parchg.W. Bryn Williams
Roedd Meirion mor eithriadol fyw fel ei bod yn anodd iawn amgyffred ei golli o’n plith. Wrth ei gyfarch, a hynny bron yn ddieithriad, fy nghyfarchiad iddo ydoedd – Meirion, y Pastor Pastorum, hynny yw, Bugail y bugail. Bu’n gyfrifol am fy mherswadio i symud o Goleg y Bala i Bwllheli gan fy mugeilio yn y symud hwnnw. Yn ddiweddarach wrth dderbyn galwad yn ôl yma wedyn, yr un a hyd yn oed yn fwy felly ei ofal y tro hwnnw. Deuthum i’w adnabod gyntaf pan oeddwn yn fy arddegau, a hynny mewn cyfarfod gwleidyddol amser Etholiad Chwefror 1974 yn Ysgol Gynradd Llanrug. Roedd Meirion gyda’r gwaith o ‘gynhesu’r dorf’ ar gyfer ymgeisydd Plaid Cymru. Roeddwn, y noson honno, wedi fy nghyfareddu gan ei bersonoliaeth enillgar, ei huodledd wrth gyfathrebu ei neges ynghyd â’i allu i argyhoeddi a pherswadio’r gynulleidfa. Gymaint oedd ei argraff arnaf fel mai Meirion Lloyd Davies ac nid gwrthrychau’r Etholiad a ddenodd sylw bachgen o genedlaetholwr yn ei arddegau.
Roedd Meirion yn perthyn i’r grŵp arbennig hwnnw o weinidogion o’i gyfnod fuasai wedi llwyddo’n eithriadol mewn sawl maes a hynny am amryw lawer o resymau amlwg. Meddai ar feddwl chwim ond eto meddwl praff. Roedd yn gyfathrebwr hynod o effeithiol. Roedd yn weithiwr caled a chydwybodol. Roedd yn meddu ar argyhoeddiadau dwfn ac yn alluog ddigon i’w cyfleu’n gwbl ddiymdrech. Yn ofalus a threfnus gyda’i amser ynghyd ag amser pobl eraill hefyd. Roedd cynllunio yn uchel ar ei restr gyda’i gynlluniau a’i freuddwydion yn ddrych o’i allu i roi ei feddwl ar waith yn ei weithredu. Rhestr fer ydy’r uchod mewn perthynas â doniau amlwg Meirion Lloyd Davies, ond eto fel y crybwyllwyd, rhestr a fuasai’n ei wneud yn ddeniadol iawn ac yn ymgeisydd cryf ar gyfer dringo’n uchel mewn amrywiaeth o feysydd ynghyd â chatalog o alwedigaethau. Aeth trigain mlynedd heibio ers i Meirion benderfynu ar lwybr ei fywyd. Dewisodd fuddsoddi ei allu a’i ddoniau fel gweinidog i Iesu Grist a hynny mewn cyfnod (cychwyn y 1960au) pan nad oedd y weinidogaeth, erbyn hynny, yn ennyn yr un parch, statws ac yn sicr felly’r un breintiau materol â’r swyddi eraill fuasai wedi medru ei ddenu. Colled y swyddi hyn i gyd oedd ennill y weinidogaeth.
Yn anad dim roedd Meirion yn credu’n angerddol mewn cyfiawnder. Cyfiawnder i bobl ym mhob sefyllfa. Ymgyrchodd yn ddiflino dros hawliau’r rhai oedd heb ddim, y tlawd, y newynog, y di-freintiedig a’r gorthrymedig ym mhob man. Bu’n llais i’r rhai hynny y cymerwyd eu lleisiau oddi arnynt ac fe safodd dros y rheiny na allai sefyll ar ben eu hunain. Ymgyrchodd dros y rhai a garcharwyd oherwydd eu cydwybod gan annog eraill ohonom i rannu’r un argyhoeddiadau. Diddorol iawn ydoedd i’w deulu sylwi a hynny ond trannoeth ei farwolaeth, mai’r taliad olaf allan o’i gyfrif banc oedd tuag at waith ‘Action Against Poverty.’ Y weithred honno yn grynhoad ac yn deyrnged i fywyd a angorwyd yn egwyddorion Efengyl Iesu Grist a’r un Eglwys Fyd Eang.
Nid ydwyf yma o fewn cyfyngiadau yr ychydig eiriau hyn wedi cyfeirio at ei gyfraniadau sylweddol na’r swyddi y bu i Meirion eu llenwi. Yn hytrach, canolbwyntiais ar yr hyn ydoedd Meirion i mi.
Meirion Lloyd Davies felly, y gŵr hynod ydoedd ond yn anad dim gweinidog ffyddlon o’r Eglwys Gristnogol.
W. Bryn Williams
Geiriau Olaf
Na fyddwch ddagreuol ar fy ol i
Na chuddio’r lluniau, na duo’r llenni’
Na’i morio hi’n lleddf am rai yn y lli,
Nac ofni cellwair ar gefn y colli;
Ailwenwch y goleuni – a gawsom
A’r hafau ynom fydd mor fyw inni.
Myrddin ap Dafydd
Teyrnged Mr. Huw Tudor
Y tro cyntaf i mi gyfarfod Meirion, i mi gofio, oedd yng Nghaergrawnt pan oedd yn fyfyriwr yno’r un pryd â fy mrawd, John. Roeddwn yn arfer mynd yno o leiaf unwaith bob tymor i gael croeso, o Lundain yn gyntaf ac wedyn o Whitlesea efo Gaynor wedi i ni briodi. Bu John a Meirion yn fêts go iawn gydol oes ond wnes i ddim dod i’w adnabod tan iddo ddod i Salem yn Weinidog, a minnau eisoes wedi ymaelodi ym Mhenmount o dan weinidogaeth y Parchedig Gwilym Hughes. Ar ôl i mi gael fy ordeinio’n flaenor a chymryd cyfrifoldebau yn yr Henaduriaeth y dechreuais sylweddoli a gwerthfawrogi cyfraniad Meirion i Eglwys Iesu Grist.
Fe gyflawnodd Meirion lawer iawn yn y Cyfundeb ar bob lefel, yn bwyllgorau, adrannau, byrddau ac ati. Mae sawl Teyrnged eisoes wedi cyfeirio at Meirion fel eciwmenydd, oedd, gyda brwdfrydedd hefyd, ond wnaeth hynny lesteirio ddim ar ei ymlyniad a’i gyfraniad i’r Cyfundeb, i’r Hen Gorff. Bu’n gwbl ymroddgar i lysoedd Eglwys Bresbyteraidd Cymru gan gyflawni gwaith anhygoel o faith. Anrhydeddwyd ei gyfraniad drwy gael ei ethol i anrhydeddau’r enwad; yn Llywydd Henaduriaeth, Llywydd y Gymdeithasfa, i draddodi’r Ddarlith Davies, ac yn Llywydd y Gymanfa Gyffredinol.
I mi, roedd ymddiddan yn y car ar y ffordd i ambell gyfarfod yn llawn cymaint, os nad yn fwy o bleser na bod yn ei gwmni gydag eraill. Ar ei orau byddai agwedd afieithus Meirion, ambell waith tuag at faterion ‘o bwys,’ yn setlo dadl neu unrhyw anghydfod bosib. Aml waith roedd llais a chwerthin Meirion yn gwbl unigryw, cyn ei ymddangosiad i gyfarfod yn rhyw fath o ragarweiniad i beth fyddai ei ddylanwad ar y materion oedd am fod ger bron. Dydw i ddim yn cofio bod mewn cyfarfod na fu ganddo rywbeth i gyfrannu a hynny yn effeithiol ac yn ddylanwadol. Rydw i yn diolch am y profiadau hynny ac yn falch o’r cyfle yma i rannu peth ar yr hyn a gefais yn bersonol a datgan yr hyn a brofais o’i lafur cyson yng ngwaith Teyrnas Iesu Grist.
Huw Tudor
Teyrnged Y Parchg.Fred Hughes
Gwas ffyddon i’w Arglwydd fu Meirion gydol ei weinidogaeth. Gyda phob cynneddf oedd ynddo fe wasanaethodd ei eglwys yn gydwybodol ac egniol. Lle gwell i weld hynny nag yng nghapel Salem. Bu’n hynod ofalus o’i braidd ac yn gydwybodol wrth eu gwasanaethu, cymaint felly fel bod ei aelodau’n ymddiried yn llwyr ynddo. Pob pnawn Mercher cynhaliai syrjeri i bobl ddod ato i drafod eu gofidiau a’u helyntion ac wrth wneud hynny gwyddai pawb mai cyfrinachau dan glo fyddai pob un ohonynt o’u dadlennu i Meirion. O fewn yr eglwys roedd ei genadwri a’u bregethu’n ffres ac ôl llafur arnynt. Byddai’n amserol ei bwnc a chyhoeddai ei genadwri gyda llais hynod o gryf oedd mor nodweddiadol ohono. Clywodd llawer o eglwysi Cymru y llais hwnnw oherwydd y galw arno fel pregethwr.
Roedd gwroldeb yn nodwedd amlwg ohono a gwelwyd hynny mewn llawer pwyllgor. Cyflwynai ei syniadau pa mor amhoblogaidd bynnag a fyddent a hynny oherwydd iddo gredu ei fod o’n iawn . . . er nad oedd hynny’n wir bob amser! Ond nid oedd camu’n ôl yn rhan o’i gymeriad ac roedd gan rywun barch ac edmygedd i’w safiad cadarn.
Wedi rhoi’r oll a feddai mewn gwasanaeth i Salem daeth yn gyfnod o ad-drefnu, ac er nad oedd yn un i wisgo’i ofid ar ei lawes felly hefyd wynebodd y newid, ond o’r golwg. Nid oes lle i amau nad oedd yn loes calon iddo ag yntau wedi treulio’r rhan fwyaf o’i weinidogaeth yno.
Serch ei fod yn ŵr oedd o ddifrif yn ei waith roedd hefyd yn llawn hiwmor a bu llawewr o dynnu coes rhyngom dros y blynyddoedd. Cofiaf fod yn pregethu ym Mhentreuchaf ac yntau yn Llannor a hynny o fewn tua milltir i’n gilydd. Digwyddais orffen yn gynnar ac wrth fynd heibio Llannor gelwais heibio fel yr oedd yn terfynu’r gwasanaeth achafodd fraw fy ngweld. “Mi fu raid imi orffen yn gynnar iawn,” meddwn. “Pam Oeddet ti’n sâl?” “Nag oeddwn, ond methu fy nghlywed I yr oeddan nhw.” “Pam, felly?” meddai Meirion. “Wel chdi oedd yn gweiddi gormod.” Ar hynny, dyma floedd o chwerthin.
Yn ei waeledd bu yr un mor wrol a mynnai bregethu bron i’r diwedd, a phan fethoddâ gwneud hynny, daliai i fynychu’r oedfaon ym Mhenrhos.
“Bydd yn wrol paid â llithro
Er mor arw ydyw’r daith.”
Garw fu ei gyfnod olaf, ond daliodd yn ffyddlon I’w Arglwydd I’r diwedd un.
Fred Hughes
Teyrnged W.H. Pritchard
Collodd y Cyfundeb un o’i weinidogion amlycaf amlycaf ym marwolaeth Meirion Lloyd Davies.
Ordeiniwyd ef yn 1959. Gweinidogaethodd yn Llanberis tan 1964, Brodor o Ddinbych ydoedd, wedi ei godi i’r weinidogaeth o’r Capel Mawr lle bu ei weinidog, J.H. Griffith, yn ddylanwad mawr arno. Yn ystod ei gyfnod yn y coleg ym Mangor daeth yn ymwybodol o werth y Gymraeg a bu’n frwd drosti am weddill ei oes. Amlygodd ddawn arbennig i fod yn arweinydd. Ac etholwyd ef yn Llywydd y Myfyrwyr. Cafodd yrfa addysgol lwyddiannus ym Mangor ac yng Nghaergrawnt.1964, a’r flwyddyn honno symuudodd i Bwllheli. Bu’n weinidog ymroddgar a chymeradwy iawn yn y ddwy ofalaeth. Yr oedd yn fugail gofalus a pherthynas hyfryd rhyngddo â’r aelodau. Pregethai’n rymus ac effeithiol, ac ymdrechodd bob amser i ddehongli’r efengyl i’r sefyllfa gyfoes. Nid apeliai ceidwadaeth ddiwinyddol ato o gwbl. Meddwl ymchwilgar a dadansoddol oedd ganddo, a defnyddiodd ei holl grebwyll athronyddol a diwinyddol i feddwl yn ddwfn am sylfeini Cristnogaeth. Wrth wynebu amheuon ac ystyried dadleuon beirniaid Cristnogaeth cryfhaodd ei ffydd.
Credai’n angerddol ym mhwysigrwydd yr eglwys, ac yr oedd yn gwbl sicr mai eglwys unedig allai dystiolaethu a chenhadu’n effeithiol. Gweithiodd yn egniol gyda’r Mudiad Eciwmenaidd ar hyd ei weinidogaeth gan roddi gwasanaeth mawr a chefnogaeth lwyr i Gyngor Eglwysi Cymru a Chyngor Eglwysi’r Byd. Cefnogodd bob cynllun uno, ac er iddo gael ei siomi gan y diffyg ymateb, cadwodd ei weledigaeth i’r diwedd. Nid rhywbeth a gefnogai ‘mewn egwyddor’ oedd Undeb Eglwysig iddo ychwaith. Bu’n frwdfrydig a llwyddiannus yn ei hyrwyddo yn ei eglwysi a’i gylch lleol.
Credai fod yr efengyl yn berthnasol i fywyd cyfan, a naturiol fu iddo fod yn weithgar yn ei gymuned. Bu am gyfnod yn aelod o’r Cyngor Sir, a bu’n Faer Pwllheli. Roedd yn aelod gweithgar o Blaid Cymru, y Mudiad Diarfogi Niwclear ac Amnest Rhyngwladol.
Clywid ei lais yn gyson ar y cyfryngau, a mynegai ei farn yn glir a di-dderbyn wyneb. Bu’n ymgymnghorydd rhaglenni crefyddol gyda ITV. Bu’n aelod gweithgar o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd, a derbyniodd y Wisg Wen gan yr Orsedd yn 1996.
Diolchwn am yr holl waith a gyflawnodd, ond diolchwn fwy am yr hyn oedd o ei hun. Cofiwn yn arbennig am ei bersonoliaeth hyfryd ac am y cynhesrwydd a’r cyfeillgarwch a’i nodweddai. Cofiwn hefyd am ei hiwmor ac am y cwmnïwr difyr a fwynhâi bryfocio’i ffrindiau mewn Sasiwn ac ar y cwrs golff.
Diolchwn i Dduw amdano.
W.H. Pritchard
Teyrnged Y Parchg. Ddr. Alwyn Roberts
Dyn dwy dref oedd Meirion – Dinbych y plentyn a’r llanc a Phwllheli yr anterth a’r heneiddio. Ond yn y bwlch yn y canol y deuthum i adnabod Meirion: rhannu llety ag ef ym Mangor a chydletya eto yn amgylchfyd clos Coleg Westminster yng Nghaergrawnt. Pan gyfarfyddais af ef yr oedd eisoes wedi mynd drwy ddau ‘fwlch yr argyhoeddiad.’ Y naill oedd yr un crefyddol a barodd iddo deimlo galwad i’r weinidogaeth – galwad y bu’n gwbl ffyddlon iddi ar hyd y blynyddoedd. Y llall oedd yr argyhoeddiad o’i Gymreictod – ffaith yr oedd wedi methu dod i delerau â hi yn agweddau dilornus diwylliant ieuenctid Dinbych. Rhwng y ddeubeth, magodd hyder ynddo’i hun a balchder yn ei etifeddiaeth.
Fel myfyriwr, dangosodd y doniau a nodweddai weddill ei fywyd. Yr oedd yn weithiwr caled. Pan ddaeth i Fangor, doedd ei gefndir addysg na’i allu mynegiant ddim yn rhy gryf. Erbyn diwedd ei dymor yn y Coleg, yr oedd wedi ennill gradd dda mewn Athroniaeth, a gradd M.A. am ymchwil sylweddol mewn Athroniaeth Crefydd. At hyn, yr oedd wedi datblygu’n areithiwr grymus yn y ddwy iaith. Arwydd o hyn oedd iddo gael ei ddewis i gynrychioli Prifysgolion Prydain ar daith i’r Unol Daleithiau, a mynegodd ei gyd-fyfyrwyr eu hymddiriedaeth ynddo trwy ei ethol yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr. Nodwedd arall oedd ei frwdfrydedd. Roedd yn frwdfrydig dros ei bwnc a thros ei blaid. Mwynhâi ei fywyd cymdeithasol – cwmnïaeth cyfeillion a miri y ddawns!
Roedd bywyd Caergrawnt yn wahanol. Nid ein diwylliant naturiol ni oedd o, ond yr oedd Meirion yn ddigon sicr o’i etifeddiaeth ei hun i elwa ar y gwahanol heb golli dim ar y cynhenid. Yno y daeth syniadau fel eciwmeniaeth a chysylltiadau rhyngwladol yn brofiadau byw iddo ac fe’u dygodd hwy’n ôl gydag ef i Gymru.
Ym mis Ebrill y llynedd, roedd yn pregethu ym Merea Newydd. Roedd ei ddeunydd yn rymus a’i gyflwyno yn fywiog a brwd. Ar ddiwedd y gwasanaeth, dywedais wrtho nad oedd yn arbed dim arno’i hun yn ei bregethu. ”Wn i ddim am unrhyw ffordd arall,” oedd ei ateb. Gwir a ddywedodd; wyddai o am yr un ffordd arall i fyw ei fywyd na mynegi ei ffydd.
Alwyn Roberts
Teyrnged Y Parchg. Arthur Meirion Roberts
Rwy’n cofio i Meirion ddweud mewn Seiat yn y Drindod ryw dro, y byddai’n gwario mwy o amser yn paratoi ei weddi na’i bregeth ar gyfer oedfa. I mi, dywedai hynny lawer amdano , a’i bwyslais ar werth ac urddas addoliad. Er yn bregethwr grymus ei hun, gwaith yr holl gynulleidfa oedd addoliad.
Daeth Morfydd a minnau i’w adnabod ym 1953 yn ystod dyddiau coleg ym Mangor. O’r cychwyn, roedd yn amlwg yn berson arbennig. Bu’n Llywydd Undeb Myfyrwyr y Brifysgol. Yno y datblygodd ei ddiddordebau gwleidyddol a chymdeithasol. Yn dilyn gradd uwch mewn athroniaeth crefydd, cafodd ysgoloriaeth i Goleg Westminster, Caergrawnt. Ar hyd ei oes, cyfrannodd yn gyfoethog i’w bobl, i Gymru, a thu draw, ac i’w Arglwydd.
Wedi dyddiau coleg, bu’n gymydog agos i ni yn ardal y chwareli a Henaduriaeth Arfon – meithrinfa gyfoethog arall.
Wrth i ni symud i Dde Cymru, ymhen amser, i waith gwahanol, cyfarfod yn unig mewn ambell bwyllgor neu gyngor y byddem. Galwai heibio o bryd i’w glydd i’n gweld yn Nhrefeca. Ond bu dadlau mawr weithiau. Nid oedd yn gwbl argyhoeddedig o ddilysrwydd y math o weinidogaeth ‘ddiwydiannol – leyg’ y bum i am flynyddoedd ynglŷn ag ef!
Ffydd ymofynnol oedd ganddo. Fe ddengyl teitl ei Ddarlith Davies ym 1994,’Sut un wyt ti, Mr. Duw’ fod ei grefydd yn ddigon cadarn i wynebu dirgelion a chwestiynau dyrys bywyd. Meddyliwr gonest ydoedd a gwelwyd hynny yn ei bregethau a’i ysgrifau.
Wedi i ni ddod i Bwllheli ym 1982, bu’n gyfaill a chydweithiwr cadarn. Elwais yn fawr ar ei brofiad a’i arweiniad. Ac fel llawer eraill, profasom o groeso Mair ac yntau i’r Friog. Gyda chyfeillion eraill, buom am flynyddoedd yn croesawu’r flwyddyn newydd i mewn ar eu haelwyd yng Nglyn Rhosyn. Bu’n brofiad gwahanol eleni.
Y Parchg. Arthur Meirion Roberts
Meirion
Ei arweiniad mor wynias – a’i ynni
Wrth weini’n llawn pwrpas:
Nid dwrn oedd sail ei Deyrnas
Ond cledd gwirionedd a gras.
Y Parchg. John Owen, Rhuthun
Teyrnged Y Parchg. Gwyn Rhydderch
Dwi ddim yn cofio Pwllheli heb Mr. Davies! Yr atgof cynharaf sydd gen i ohono yw gofyn i Mam, “Pwy ydi’r hen ddyn ‘na?” Doedd o ddim yn hen, wrth gwrs – yn ei dridegau cynnar oedd o, mae’n siwr. Ond i mi, hen bobl oedd yn gwisgo’r goler gron!
Does gen i ddim llawer o atgofion o gyfnod fy mhlentyndod am Mr. Davies, ond gallaf fod yn dragwyddol ddiolchgar iddo am ei ymwneud â mi yn fy llencyndod.
Doeddwn i ddim yn mwynhau’r dosbarthiadau derbyn! Yn fuan wedi iddynt orffen, ac yn ôl y drefn, cefais fy nerbyn yn gyflawn aelod. Stopiais fynd i’r capel. Wedyn diflastod oedd crefydd a chrefydda i mi.Yna mynd oddi ar y rêls wedi cychwyn gweithio! Ond ni roddodd Mr. Davies y ffidil yn y to yn ei ymwneud â mi.
“Gwyn ma’ na gyfarfod arbennig i bobl ifanc yn y Festri wythnos nesaf, beth am i ti daro mewn?” meddai Mr. Davies. Ebychiad, mae’n siwr, a gafodd gen i! Ond mi es, a dyna’r noson i mi ddechrau sylweddoli pethau mawr! Ymhen rhyw fis, roedd yr Arglwydd wedi cyffwrdd â fy nghalon. Roedd Iesu Grist bellach yn real. Mi gafodd Mam a Nhad sioc o fy nghlywed i yn dweud, “Mi ddoi efo chi i’r capel bore Sul nesaf.” Mae’n siwr, fe gafodd Mr. Davies sioc hefyd o fy ngweld yn eistedd yn y galeri!”
Yna ymhen rhyw dair blynedd ar ôl y cyfarfiod yn Festri Salem, penderfynais fynd i’r weinidogaeth. Mi gefais gymorth a hyfforddiant pen i gamp gan Mr. Davies yn ystod Gwanwyn a Hâf 1975. Cawn gyfnod wythnosol gydag o yn y stydi yng nghanol y llyfrau yn trafod hyn a’r llall. Byddai’n fy rhoi ar ben ffordd sut i greu pregeth.Dwi’n cofio’n iawn y testun i ni benderfynu arno, sef adnod o’r Bregeth ar y Mynydd, “Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon.”
Wedi mynd i’r Coleg ger y lli, dod adref i fwrw’r Hâf ac ymweld â’r Friog i rannu fy mhrofiadau ac i drafod yn frwd ac ambell ddadl wrth gwrs! Roedd Mr. Davies wrth ei fodd yn trafod pynciau llosg.
Hyd y dydd heddiw. Mae fy niolch yn fawr iddo, am ei gymorth mawr i mi. Diolch am gael adnabod y gŵr arbennig hwn.
Gwyn Rhydderch
Teyrnged Mrs. Ella Jones a Mrs. Gwyneth Owen
Rhoddwyd teyrngedau lu i’r diweddar Barchg.Meirion Lloyd Davies yn sôn am ei gyfraniad amryddawn i nifer o feysydd. Roedd yn ŵr a’i ddoniau’n cael eu gwerthfawrogi’n genedlaethol. Yma, fe nodir y gwahaniaeth a wnaeth ei gyfraniad i gapel Bethel, Penrhos.
Fel y gwyddoch, capel bychan gwledig yw Bethel. Fel amryw o gapeli eraill, mae aelodau newydd yn bethau prin a gwerthfawr. Ond oddeutu 15 mlynedd yn ôl, roedd cyffro mawr yma o ddarganfod fod Meirion a Mair yn dod i fyw i Lyn Rhosyn ar ymddeoliad Meirion. Wedi’r cyfan, roedd y ddau eisoes wedi cyfoethogi’r achos pan oedd Meirion yn weinidog arnom. Ni chawsom ein siomi. Yn fuan, daeth Mair yn flaenor gweithgar, ac er bod galwadau i bregethu yn cadw Meirion o’r oedfaon yn aml, roedd ei gefnogaeth o’r dechrau yn amhrisiadwy. Roedd ganddo ddoethineb cynhenid, ac roedd ei allu i weld i graidd unrhyw sefyllfa yn gefn mawr – nid yn unig i’r capel fel sefydliad, ond hefyd i’r aelodau unigol. Gyda’i feddwl chwim a’i barodrwydd i ddatgan ei farn yn glir, roeddem i gyd yn gallu gwerthfaqwrtogi ei gyngor doeth a chadarn.
Fe gofiwn ei bregethau deallus, gyda’r pwyslais ar gariad a goddefgarwch. Braint ychwanegol i ni oedd ei barodrwydd i lenwi bwlch ar Suliau gwag –a hynny’n aml yn golygu y byddai’n rhaid iddo bregethu dair gwaith y diwrnod hwnnw.
Roedd yn mwynhau cymdeithasu ac yn gefnogol iawn i weithgareddau megis y bore goffi, parti Nadolig yr Ysgol Sul, teithiau cerdded a’r Stondin ar y Maes. Roedd ei gyfarchiad bob amser yn wresog, ei sgwrs yn ddifyr, a’i chwerhiniad iach yn heintus.
Gadawodd ei farc arnom, a diolchwn am y fraint o gael ei adnabod.
Ella Jones a Gwyneth Owen
Teyrnged Rhian Owen a Mr. Richard. D. Williams
Da oedd gweld Capel y Drindod, Pwllheli, yn llawn – yr atgofion yn drist ond yr atgofion yn hapus yng ngwasanaeth o ddiolchgarwch am fywyd y Parchedig Meirion Lloyd Davies, yn dilyn y gwasanaeth angladdol yn Amlosgfa Bangor, ddydd Sadwrn, 19 Hydref 2013.
Ein tro ni oedd hi’r prynhawn hwnnw yn gyn-weinidogion a chyfeillion, yn aelodau’r ofalaeth o bell ac agos i dalu teyrnged olaf i un a fu yn arweinydd uchel ei barch mewn Eglwys a thref. Ffrind y gallech ymddiddan efo fo am broblemau personol, heb glywed mwy amdanynt, a chyngor parod a gwerythfawr i’w gynnig.
Mae sawl teyrnged i Meirion wedi ymddangos yn y wasg yn cynnwys un arbennig gan ei weinidog presennol yn y cylchrawn Cristion.
Cymaint wedi ei ddweud a llawer mwy heb ei ddweud am ei weithgarwch ym mhob agwedd ar fywyd yr Eglwys a chymdeithas, yn cynnwys gwyliau gyda’r plant a’r bobl ifanc yng nghanolfan Tresaith, gweledigaeth ym mywyd politicaidd y dref a’r sir, a phopeth yr oedd yn ymwneud ag o – yn cynnwys golff, a’r chwerthiniad iach yn datgan ei bresenoldeb.
Yn fwy na dim, bu’n was da i’w Feistr hyd ddiwedd y daith, ac yn sicr, y mae’n gysur mawr i’w briod, Mair, a’r genod, Siwan, Llio a Heledd a’r teulu, yn ei gred ddiffuant yn y bywyd tragwyddol. Yn sicr, cewch gysur a sawl gwên o’r atgofion melys.
Rhian Owen a Richard D. Williams
Cofio Meirion
Un o’m harwyr oedd Meirion – a’i ymson
Bob amser yn raslon;
Helynt gai le’n ei galon
Am y gŵr yn siwr bydd sôn.
Wyn G. Roberts
Y Methodistiaid
Evan Edwards, g. Llangadwaladr, Ynys Môn - yn Seion, Pwllheli 1812
William Evans, g. Caernarfon, - yn Seion, Pwllheli 1826
Edmund Evans (Utgorn Meirion) g.Talsarnau - yn Seion, Pwllheli 1830.
John Jones, g. Amlwch - yn Seion, Pwllheli 1833
Robert Roberts g. Gwyddelwern - yn Seion, Pwllheli 1834
John Millward, g. Llangatwg - yn Seion, Pwllheli 1835
William Rowlands (Gwilym Lleyn) g. Bryncroes - yn Seion, Pwllheli 1836
Thomas Jones, g. Pennal - yn Seion, Pwllheli 1837
John Jones, g. Dolgellau - yn Seion, Pwllheli 1841
William Batten, g. Dinbych - yn Seion, Pwllheli 1842
Evan Jones, g. Tywyn - yn Seion, Pwllheli 1842
Edmund Evans (Utgorn Meirion) g. Talsarnau - yn Seion, Pwllheli 1843
David Jones, g. Cerrigydrudion - yn Seion, Pwllheli
Isaac JonesPwllheli, g. Cnwch Coch - yn Seion, Pwllheli 1848
John Hughes, g. Biwmares - yn Seion, Pwllheli 1849
Robert Jones - yn Seion, Pwllheli 1850
Owen Evans, g. Llangefni - yn Seion, Pwllheli 1851
David Gravel, g. Llandaf - yn Seion, yn Seion, Pwllheli 1852
William Morgan, g. Melin-y-Graig - yn Seion, Pwllheli 1853
W. Hugh Evans, g. Ysgeifiog - yn Seion, Pwllheli 1854
William Williams, g. Fflint - yn Seion, Pwllheli 1855
Hugh Jones, g. Caernarfon - yn Seion, Pwllheli 1856
John Evans, g. Llanrwst - yn Seion, Pwllheli 1858
David Jones, g. Caergybi - yn Seion, Pwllheli 1859
David Lewis, g. Arthog - yn Seion, Pwllheli 1860
R.Thomas Owen, g. Corris - yn Seion, Pwllheli 1861
T.Jones Humphreys, g. Tŷ Cerrig - yn Seion, Pwllheli 1862
Hugh Hughes, g. Tregarth - yn Seion, Pwllheli 1865
Edward Humphreys, g. Cen Blodwel - yn Seion, Pwllheli 1866
Moses Roberts, g. Cwm, Fflint - yn Seion, Pwllheli 1867
J. Cadvan Davies, g. Llangadfan - yn Seion, Pwllheli 1869
John Pierce, g. Caernarfon - yn Seion, Pwllheli 1869
Owen Hughes. g. Tregarth - yn Seion, Pwllheli 1870
Ellis Roberts, g. Clocaenog - yn Seion, Pwllheli 1871
William Rowlands, g. Conwy - yn Seion, Pwllheli 1872
J. Howell Jones, g. Llanrwst - yn Seion, Pwllheli 1873
H.O. Hughes, g. Fflint - yn Seion. Pwllheli 1874
J. Evan Roberts, g. Penmachno - yn Seion, Pwllheli 1876
J.C. Ellis, g. Llanarmon-yn-Iâl - yn Seion, Pwllheli 1878
John Williams, g. Coedpoeth - yn Seion, Pwllheli 1880
William Davies, g. Pantgwyn - yn Seion, Pwllheli 1881
R.E. Jones, g. Fflint - yn Seion, Pwllheli 1882
Thomas Griffith Pugh g. Llanelwy - yn Seion, Pwllheli 1882
Robert Hughes, g. Bodfari - yn Seion, Pwllheli 1883
J. David Jones, g. Llanrwst - yn Seion, Pwllheli 1884
Evan Davies, g. Pontrhydygroes - yn Seion, Pwllheli1885
Hugh Jones, g. Aberdyfi - yn Seion, Pwllheli 1886
Edward Edwards, g. Bagillt - yn Seion, Pwllheli 1887
Peter Jones, g. Telawnyd - yn Seion, Pwllheli 1890
John Owen Parry g. Llanelidan - yn Seon, Pwllheli 1890
Robert Garrett Roberts, g. Llanrwst - yn Seion, Pwllheli 1899
Thomas Glyn Roberts, g. Harlech - yn Seion, Pwllheli 1903
Robert Lewis g. Yr Wyddgrug - yn Seion, Pwllheli 1907
Henry Meirion Davies g. Corris - yn Seion, Pwllheli 1907
David Thomas.g. Tre’r-ddôl - yn Seion,Pwllheli 1909
Edward Mostyn Jones, g. Mostyn - yn Seion,Pwllheli 1915
Robert Conway Pritchard, g. Llanrwst - yn Seion, Pwllheli 1915
Thomas Gwilym Roberts, g. Maentwrog - yn Seion, Pwllheli 1922
Emanuel Berwyn Roberts, g. Rhewl - yn Seion, Pwllheli 1926
R. Vaughan Owen, - yn Seion, Pwllheli 1928
John Ellis Williams, g. Dinas Mawddwy - yn Seion, Pwllheli 1932
William John Jones, g.Tregarth - yn Seion, Pwllheli 1934
Robert Griffith Hughes, g. Talysarn - yn Seion, Pwllheli 1939
Joseph Jenkins, g. Pont-rhyd-y-groes - yn Seion, Pwllheli 1945
David Thomas Rees, g. Gorseinon - yn Seion,Pwllheli 1950
Owen Maurice Jones, g. Corwen - yn Seion, Pwllheli 1955
Tudor Davies, g. Gwyddelwern - yn Seion, Pwllheli 1960
Alun Wyn Francis, g. Llanfair Cereinion - yn Seion, Pwllheli 1965
Enoc T. Davies, g. Llandysul, - yn Seion, Pwllheli 1970
Griffith Thomas Roberts, g.Bryncroes - yn Seion, Pwllheli 1975
Joseph Edward Williams, g. Ffynnongroyw - yn Seion, Pwllheli 1978
William Thomas Hughes, g. Coedllai - yn Seion, Pwllheli 1980
Robert Glyn Williams g. Penmachno - yn Seion, Pwllheli 1982
Briant Smith g. Lloegr - yn Seion, Pwllheli 1990au
Gweinidog a godwyd ym Mhwllheli - Evan Richards
Yr Eglwys yng Nghymru
Richard Owen
John Owen
Zaccheus Ellis
John Roberts
Thomas Owen
William Jones
William Williams
St. George Armstrong Williams
Thomas Jones
Benjamin Morgan
David Howell
Daniel Jones
Ellis Osborne Williams
David Jones
Evan Thomas Davies
John Edwards
William John Williams
William Evans
Hugh Pierce Jones
Roger Francis Donaldson
Meurig Llwyd Williams
Ainsley Griffiths
Janice Gourdie
Dylan J. Williams