Eglwys yr Annibynwyr - Pen-lan

Dechreuadau’r Annibynwyr yn y fro

Pe deuai ymwelydd ar dro i Lŷn ac Eifionydd a holi am hanes dechreuadau enwad yr Annibynwyr yn y fro, rhaid fyddai ei gyfeirio at y tair eglwys gyntaf a sefydlwyd yn yr ardal, sef Capel Pen-lan [Pwllheli], Capel Helyg [Llangybi] a Chapel Newydd [Nanhoron].

Er mwyn ceisio deall hanes dechreuadau’r tair eglwys hynny – a’r eglwysi eraill a sefydlwyd wedyn – dylid  cyfeirio at rai personau go allweddol a fu â rhan arloesol yn eu sefydlu.

Un o’r bobl hynny oedd Henry Maurice [1634 – 1682], o Fethlan, Rhydlios, ym mhlwyf Aberdaron, a’i wraig, Elin, yn aeres Y Gwynfryn, ger Pwllheli. [Bu’r Gwynfryn yn gartref i genedlaethau o weinidogion Eglwys Pen-lan – John Thomas (1723 – 48), Richard Thomas (1751 - 61), a Rees Harris (1765 – 88)].

Roedd Henry Maurice, a ddaeth i gael ei adnabod fel ‘Apostol Brycheiniog,’ ar gyfrif ei waith arloesol yn y rhan honno o Gymru, yn fab i Griffith Morris o Fethlan, ac yn berthynas i deuluoedd bonheddig Wyniaid Boduan ac Edwardiaid Nanhoron. Wedi cwblhau ei addysg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, ym 1658 daeth yn giwrad Llannor a Deneio yng ngwlad Llŷn. Ym 1661, penodwyd ef gan Esgob Bangor ar y pryd yn rheithor Meyllteyrn yn Llŷn, ond ymddengys nad aeth yno, ac ymhen dwy flynedd roedd yr esgob yn cyhoeddi fod rheithoriaeth Meyllteyrn yn wag, a bod Henry Maurice yn euog gan na fu iddo fyw yno.

Henry Maurice a fu’n gyfrifol am roi geiriau ymyl y ddalen yn ail ran Cannwyll y Cymry er mwyn egluro i bobl y Gogledd ystyr rhai o eiriau ac ymadroddion deheuol y Ficer Rhys Pritchard.

Yn dilyn Adferiad y Frenhiniaeth, cydymffurfiodd ag Eglwys Loegr, a chafodd ei benodi, fis Mawrth 1661, yn ficer Bromfield, nid nepell o Lwydlo. Dyrchafwyd ef yn rheithior Church Stretton, Sir Amwythig, fis Mehefin 1668. Yn ystod ei gyfnod yn Church Stretton, bu farw llawer o’r trigolion o’r dwymyn, ac arweiniodd hynny Henry Maurice yn ei dro i ystyried ei gyflwr ysbrydol. Cafodd dröedigaeth a’i cymhellodd i adael yr Eglwys Wladol. Cadwodd y cyfan iddo’i hun, fodd bynnag, hyd oni sylweddolodd ei briod, Elin, fod rhywbeth yn peri pryder mawr iddo. Mynnodd hithau gael gwybod beth oedd hynny, a datgelodd yntau hynny wrthi. Pwysleisiodd mai ei ofid pennaf oedd gwybod sut i ymryddhau o’i ofalaeth a sicrhau cynhaliaeth iddi hi a’u plentyn. Anogodd hithau ef i ddilyn llais ei gydwybod. Felly yr ymryddhaodd o’i urddau eglwysig, a dod yn bregethwr gyda’r Anghydffurfwyr, a hynny gyda chydsyniad llwyr ei briod Elin, unig ferch Sieffre Glyn, y Brenhinwr o’r Gwynfryn, ger Pwllheli.

Fis Mehefin 1672, ac yntau’n byw ym Much Wenlock, aeth ar daith bregethu i siroedd Maldwyn a Maesyfed, ac yn nechrau Awst, i Frycheiniog. Ddiwedd y mis hwnnw, a mis Medi, daeth i ardal ei febyd ar Benrhyn Llŷn. Mae hanes amdano ym Mhenmorfa ar Fedi 2, ac yn pregethu ym Mhwllheli yng nghartref William Griffith. Ar Sul, Medi 8, aeth i Eglwys Blwyf Llanarmon gyda’r bwriad o bregethu ynddi, ond bolltiodd yr offeiriad y drws yn ei erbyn, a phregethodd yn y fynwent. Yn fuan, cafodd ei alw’n weinidog eglwys yr Annibynwyr ym Mrycheiniog - oedd a’i phencadlys, gellir dyfalu, yn Llaneignon, a bu yno am ddeg mlynedd. Datblygodd yn bregethwr grymus ac yn un o bwerau mwyaf nerthol yr ail genhedlaeth o Biwritaniaid. Bu farw Henry Maurice ar Orffennaf 30, 1682, yn 48 oed.

Un arall na ddylai ei enw fynd yn angof yng nghyd-destun dechreuadau Annibyniaeth yn Llŷn - fel yn y cyfan o Sir Gaernafon - oedd John Williams [1627 – 1673], yr Anghydffurfiwr cynnar, y pregethwr a’r meddyg, a aned yn Nhy’n y Coed (Castellmarch Uchaf oedd enw’r tŷ bryd hynny) sydd a’i leoliad ar y ffordd rhwng Llanbedrog ac Abersoch (a chyferbyn â’r Warren heddiw).

Deuai John Williams o deulu bonheddig, yn fab William a Mary Jones. Yn ugain oed, aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, gan baratoi i fod yn feddyg. Yr oedd amryw o uchelwyr ei fro bryd hynny’n cefnogi’r Piwritaniaid, ac felly yntau. Dechreuodd bregethu, a dod yn gaplan i John Jones o Faesygarnedd. Nid yw ei hanes rhwng y blynyddoedd 1647 – 1662 yn hysbys. Yr oedd yn Llundain ym 1662, a dywedir iddo fod yn gaplan yng nghartref un Mr. Hart, uchelwr o Biwritan yng Nghaint.

Ym 1663, rhoddodd ynadon Sir Gaernarfon wysion i’w ddal ef a Richard Edwards, Nanhoron, ar sail llythyr bradwrus yr honnid iddo ei anfon at y gŵr o Nanhoron, a bu’r ddau ohonynt yng ngharchar am ddeg wythnos. Dychwelodd i’w sir enedigol gan ddilyn ei alwedigaeth fel meddyg. Ymbriododd â Dorothy Whalley, o sir Gaerlleon, a ganed Mary, eu hunig blentyn, ym Mryn Gro, Clynnog Fawr, ym 1666. Ei gartref oedd Ty’n y Coed, tŷ a gafodd ei gofrestru’n dŷ cwrdd ar Fedi 5, 1672, o dan Ddeddf Goddefiad y flwyddyn honno.

Ar adeg ymweliad Henry Maurice â Llŷn yn niwedd Awst a dechrau Medi 1672, mae hanes amdano’n ymweld â John Williams yn ei gartref. Yn nyddiadur Henry Maurice ar gyfer un diwrnod o Fedi 1672, mae’r cofnod hwn: “Cefais fy nigalonni’n fawr yn y parthau hyn (sef Llŷn) oherwydd nad oes yma fawr, os dim, argoelion o ymweliadau Duw.” Ar garreg fedd John Williams yn Eglwys Llangian mewn Lladin, o’u cyfieithu, mae’r geiriau:

Yma y gorwedd iechyd y wlad.
Mab maeth rhinwedd.
Ffenics Llangian.
A brig duwioldeb.
John Williams o Dy’n y Coed.
Gweinidog trwy ras Duw,
A fu farw Mawrth 28.
Yn y flwyddyn o Oed Crist 1673.
Ac o’i oed ei hun 47.

Mae’n dra thebygol hefyd i arweinwyr eraill fod ar ymweliad â’r ardal – pobl fel Walter Cradoc (1610? – 1659, Vavasor Powell (1617 - 1670) a Morgan Llwyd o Wynedd (1619 – 1659). Bu Morgan Llwyd yn pregethu ragor nag unwaith ym marchnad Pwllheli. Er cymaint a fu dylanwad yr arweinwyr hyn a’u tebyg, teg nodi mai i John Williams y mae’r pennaf glod am ffurfio eglwys i’r Annibynwyr yn nhref Pwllheli (ac yng Nghapel Helyg hefyd).

Dim ond un eglwys oedd gan Ymneilltuwyr Sir Gaernarfon gyfan oddeutu 1675. Yr oedd erlid chwyrn arnynt, ac nid yn lleiaf felly yn nhref Pwllheli. Gorchwyl beryglus oedd dod ynghyd i addoli. Mynnodd rhywrai i gapel i’r Annibynwyr gael ei godi ym Mhwllheli ym 1672, ond iddo gael ei dynnu i lawr, garreg wrth garreg, gan erlidwyr ym 1673. Ai cywir hynny, mae’n anodd gwybod.

Prin yw’r wybodaeth am hanes Annibynwyr Pwllheli rhwng ymweliad Henry Maurice ym 1672 a dyfodiad James Owen i’r ardal ym 1676. Ac ar gais Henry Maurice y bu iddo ef ddod i’r fro. Pwy, felly, oedd James Owen? Brodor o Abernant, Sir Gaerfyrddin ydoedd, wedi ei eni ar Dachwedd 1, 1654. Nid oedd ond dyn ifanc pan ddaeth i Lŷn. Yr oedd yn un o naw o blant, a naw a oedd wedi derbyn addysg dda. Er mai Eglwyswr oedd y tad, daeth tri o’r meibion yn weinidogion Ymneilltuol. Adroddir fod James Owen yn ysgolhaig gwych yn ei ddydd, ac yn ddyn o feddwl cadarn. Tystiwyd, ar ddydd ei neilltuo i’r weinidogaeth, ei fod yn ddyn ifanc ‘o gymwysterau mawrion i waith y weinidogaeth,’ ac y credid ‘y byddai’n offeryn rhagorol i daenu’r Efengyl ac i ddyrchafu teyrnas Iesu Grist a gwneud lles i eneidiau.’ A chafodd y dystiolaeth honno amdano ei gwireddu. Pa ryfedd i Henry Maurice wneud pob ymdrech i’w gael i ddod i Benrhyn Llŷn?

Byr fu arhosiad James Owen yn yr ardal, fodd bynnag – dim ond cwta flwyddyn. Gorfodwyd ef am gryn naw mis o’r flwyddyn honno i gadw o olwg y cyhoedd yn wyneb enbydrwydd ymosodiadau gelynion. Arhosai yn Bodfel – tŷ a oedd wedi ei gofrestru ym 1672 ar gyfer cynnal cyfarfodydd i Ymneilltuwyr. Cyfarfyddai’r aelodau yno yn dirgel i wrando’r gŵr ifanc yn cyhoeddi’r Efengyl. Ac ar waethaf yr holl anawsterau a gafwyd, nid yn ofer y daethai’r gŵr ifanc o’r De yno. Gorfodwyd ef yn fuan i ffoi o’r ardal yn nyfnder nos, a gwnaeth ei ffordd i Fronclydwr, Llanegryn, cartref Hugh Owen (1639 - 1700), y pregethwr Piwritanaidd ac ‘apostol Meirion.’

Mae’n anodd dirnad heddiw’r holl dreialon yr aeth Annibynwyr Pwllheli a’r cylch drwyddynt yn ystod y blynyddoedd blin hynny. Mae’n debyg iawn fod Henry Maurice wedi ymweld â nhw ar rai adegau. Yn ôl awdur Drych yr Amserau, cawsai Hugh Owen, Bronclydwr, ei ddewis yn weinidog iddynt. Anaml, fodd bynnag, dim ond unwaith bob rhyw dri mis y gallai ef ymweld â Phwllheli, gan mai pregethwr teithiol ydoedd.

Ym 1684 daeth Daniel Phillips yn weinidog Annibynwyr Pwllheli a’r cylch. Brodor o Sir Benfro ydoedd a’i deulu’n perthyn i deulu bonheddig Castell Picton. Ni wyddir enwau ei rieni na dyddiad ei eni. Cafodd addysg dda, a bu yn ysgol enwog Samuel Jones ym Mrynllywarch, ger Llangynwyd.

Ar gais Henry Maurice y daethai Daniel Phillips i Bwllheli. Er iddo ddod ym 1684, ni chafodd ei urddo hyd 1688. Dichon mai cyflwr y wlad a’r gwrthwynebiad ffyrnig i Ymneilltuaeth oedd yn cyfrif am yr oedi. Gwnaeth waith rhagorol yn y dref yn ystod 38 mlynedd ei wasanaeth. Adroddir ei fod yn ddyn ysbrydol ei feddwl, gwrol ei ysbryd ac yn fawr ei awydd i weld ehangu terfynau’r achos. Gwnaeth ymdrech lew i gychwyn achos i’r Annibynwyr yng Nghaernarfon. Priododd weddw Henry Maurice, er na fu hi fyw yn hir wedi’r briodas. Nid oes wybodaeth am ei ail wraig, a mam ei blant – y chwech ohonynt, dau fab a phedair merch. Aeth y meibion i’r weinidogaeth – wedi eu codi ym Mhen-lan – er mai mewn eglwysi Saesneg y bu’r ddau ohonynt - John a Daniel Phillips - yn gwasanaethu gydol eu hoes.

Parhaodd yr erledigaeth mewn modd na bu ei debyg, ac yn arbennig felly yn ystod blynyddoedd cyntaf gweinidogaeth Daniel Phillips. Mynnai rhai nad oedd i’w gael yn unrhyw ran o Gymru bryd hynny y fath elyniaeth yn erbyn Ymneilltuwyr ag oedd yn Llŷn a rhannau o Sir Gaernarfon. Roedd gan y personiaid ddylanwad mawr ar y werin bobl.

Olynydd Daniel Phillips fel gweinidog oedd John Thomas a urddwyd ar Fehefin 21, 1723. Brodor o’r Dde Cymru ydoedd, er nad oes wybodaeth am ei hanes cynnar. Priododd â gweddw ei ragflaenydd. Tystir ei fod yn ddyn da a duwiol, er fod hanes yn mynnu nad oedd ganddo wroldeb na phenderfyniad meddwl Daniel Jenkins, ac mai gwanychu a fu hanes yr achos yn ystod ei weinidogaeth. Er hynny, yr oedd hiraeth mawr am adfywiad ac awydd pendant am ddiwygiad. Barnai rhywrai y byddai’n dda pe bai Lewis Rees, gweinidog Llanbrynmair, yn ymweld â’r fro. Ac i’r amcan hwnnw, aeth un Walter Williams, Tŷ Llewelyn, Penrhos, yr holl ffordd – pellter o dros bedwar ugain milltir – i Lanbrynmair i geisio cyhoeddiad ganddo. Yn anffodus, deallodd wedi cyrraedd pen ei daith fod Lewis Rees ar daith bregethu yn Ne Cymru. Aeth Walter Williams ymlaen i Dde Cymru i chwilio amdano, a sicrhau cyhoeddiad ganddo i ddod i bregethu i Bwllheli. Mae tystiolaeth fod ymweliad gweinidog Llanbrynmair â Phwllheli wedi profi’n fendith fawr, a bod tyrfaoedd wedi dod i wrando ac i ymuno â’r eglwys. Ond ni fu hynny heb ei wrthwynebiad. Cafodd Lewis Rees ŵys i ymddangos o flaen John Owens, person Llannor, a oedd hefyd yn Ganghellor Cadeirlan Bangor. Yn y cyfarfod hwnnw, meddir “ymddygodd Owens tuag ato fel dyn gorffwyll a chynddeiriog; ymaflodd mewn cleddyf a bygythiai ei ladd ei hun; yn ei gynddaredd yn erbyn yr Arglwydd a’i achos torrodd got fawr [Lewis Rees] yn gareiau, fel na thalai byth i’w gwisgo mwy.” Lewis Rees, Llanbrynmair, a fu’n gyfrwng i’r diwygiwr, Hywel Harris, ddod ar ymweliad â Phwllheli a’r gymdogaeth. Mae hanes amdano’n pregethu wrth dafarn Penlan Fawr yn y dref.

Parhaodd yr erlid a’r poenydio. Byddai erlidwyr yn amgylchynu’r capel ar adeg oedfa, gan daflu cerrig drwy’r ffenestri. Pan ddeuai’r addolwyr allan, byddai’r erlidwyr hynny’n aros amdanynt, a chyrraedd adref a gwaed yn llifo o’u harchollion oedd hanes amyw o’r addolwyr hynny. A pharhaodd yr ymddygiad blin, annheilwng ac anymunol hwnnw am gryn gyfnod.

Wedi marw John Thomas ym 1748, daeth Richard Thomas fel ei ragflaenwyr, yn weinidog Pen-lan, Capel Newydd Nanhoron, a Chapel Helyg, Llangybi. Brodor o Dde Cymru ydoedd, er nad oes fanylion am ei ddyddiau cynnar. Cafodd ei urddo’n weinidog ym 1751. Priododd un o ferched y gweinidog cyntaf. Adroddir ei fod yn bregethwr grymus ac yn ŵr tra thalentog. Fodd bynnag, mynnir nad oedd yn ddyn mor ddifrifol a duwiol â’i ragflaenydd. Yr oedd, yn wir, le i amau os oedd ei athrawiaeth yn un iachus, a châi ei gyhuddo o fod yn esgeulus weithiau o’i waith fel gweinidog wrth ymroi gormod i bethau’r byd hwn. Ym 1761, boddodd ar gyffiniau Iwerddon ac yntau ar fordaith o Bwllheli i Fryste.

Ganwyd Rees Harries yn Sir Forgannwg ym 1738, a chafodd ei ordeinio’n weinidog Pen-lan ar Fai 22, 1765, wedi bod ar brawf am ragor na blwyddyn cyn hynny. Daethai i Bwllheli yn dilyn anogaeth daer ei athro yn Athrofa Abergafenni. Llafuriodd yn ddiwyd, nid yn unig yn ei gylch priod ei hunan, ond mewn cylchoedd cyfagos eraill hefyd. Câi ei edmygu gan ei bobl a chan ei gyd-weinidogion. Yn wir, gelwid ef yn ‘Esgob Ymneilltuwyr y Sir.’ Yn fuan wedi dod i Bwllheli, rhoes gymorth i ail-gychwyn achos yr Annibynwyr yn nhref Caernarfon. Priododd â merch y Parchg. D. Williams, gweinidog Annibynwyr Dinbych. Yr oedd hi’n wyres i Daniel Phillips, gweinidog cyntaf Pen-lan. Yn ogystal â bod yn weinidog, bu hefyd yn cadw ysgol ddyddiol gydol ei fywyd. Bu farw 26 Mai, 1788. Mae ei fedd ym mynwent Pen-lan.

Cyn diwedd 1789, gwahoddwyd gweinidog Ebeneser, Rhosmeirch, Môn, lle buasai am bum mlynedd, i ddod yn weinidog Pen-lan. Yr oedd eglwys gref a dylanwadol o dan ei ofal ym Mhwllheli bryd hynny, a maes ei ofal yn ymestyn o Gapel Newydd, Nanhoron, i Gapel Helyg, Llangybi – pellter o rhyw bedair milltir ar ddeg. Roedd pobl o bob cwr o Benrhyn Llŷn y dod i Bwllheli i’r oedfa gymun, a rhai yn marchogaeth o bellafoedd Ynys Môn.

Beth ellir ei ddweud am Benjamin Jones – y gŵr arbennig hwnnw y gosodwyd carreg goffa iddo ar fur cyntedd Capel Pen-lan?

Cafodd Benjamin Jones, a ddaeth yn ddiweddarach yn ei fywyd yn weinidog gyda'r Annibynwyr, ei eni fis Medi 1756 yn Nhrecyrnfawr, Llanwinio, Sir Gaerfyrddin. Nid Annibynwyr oedd ei rieni. Eglwyswyr selog a chefnog oeddent hwy, a’u dymuniad oedd gweld eu mab yn cymryd urddau eglwysig. Prin y byddai dim wedi rhoi mwy o foddhad iddynt na gweld hynny’n digwydd. Cafodd ei addysgu i ddechrau gan glerigwr yn ysgol Llanddewi-efelffre, Sir Benfro.

Nid felly yr oedd pethau i fod, serch hynny. Daeth Benjamin Jones i gysylltiad â dau o weinidogion yr Annibynwyr - Richard Morgan, Henllan, a John Griffith, Glandŵr – a dod yn drwm o dan eu dylanwad. Arweiniodd hynny yn ei dro iddo droi ei gefn ar yr Eglwys Wladol a dod yn Annibynwyr. Ymaelododd yn eglwys Henllan, ac yno y dechreuodd bregethu yn 18 oed. Ar Ionawr 2, 1775, cafodd ei dderbyn i Athrofa'r Fenni. Gwnaeth gynnydd mawr yno, a bu'n fyfyriwr gydol ei oes o'r ieithoedd Lladin, Groeg a Hebraeg. Dywedir y byddai'n arfer mynd â'i Destament Groeg gydag ef i bob man. Wedi gorffen ei gyfnod yn yr Athrofa, cafodd ei urddo’n weinidog ym 1779 yn eglwys yr Annibynwyr ym Mhencader. Ym 1784, symudodd i Ynys Môn i ofalu am eglwysi Rhosymeirch a Chapel Mawr, Bodorgan. Ym 1789, daeth yn weinidog yr Annibynwyr i Ben-lan, Pwllheli, ac yno yr oedd i aros weddill ei ddyddiau.

Bu ei weinidogaeth ym Môn yn achlysur i gychwyn amryw byd o achosion newydd ar yr ynys – eglwysi fel Siloam, (Y Talwrn), Carmel, (Amlwch), a Seion, (Biwmares). Wedi symud i Bwllheli, fodd bynnag, nid yw’n ymddangos iddo fod â chymaint o awch a diddordeb i weld sefydlu achosion newydd yn y wlad oddi amgylch.

Yr oedd Benjamin Jones yn cael ei gyfrif yn ddiwinydd craff ac yn ŵr o gyngor gyda'r blaenaf o weinidogion Gogledd Cymru. Bu cysylltiad agos rhyngddo ef a'i deulu â’r ‘Helynt Fawr’ yn Llanuwchllyn yn adeg Michael Jones. Mae R.G. Owen wedi disgrifio’r ‘Helynt Fawr’ honno yn y modd yma. ‘Yr adeg hon,’ meddai, ‘yr oedd Ymneilltuwyr Cymru o bob enwad yn ferw o ddadleuon diwinyddol, ac nid hir y bu cyn i weinidogaeth Michael Jones brofi'n faes un o'r dadleuon ffyrnicaf, dadl a ddaeth i'w hadnabod fel “Dadl y Systemau.” Er dyddiau'r Dr. George Lewis, ‘system’ Bresbyteraidd neu Henaduriaethol oedd y drefn yn yr Hen Gapel (Llanuwchllyn); ac ynglŷn â hyn y cododd yr helynt flin. Yn gymhleth â hi yr oedd hefyd bynciau athrawiaethol fel uchel-Galfiniaeth ac Arminiaeth. Rhwygwyd yr eglwys yn ddwyblaid, sef plaid Michael Jones a phlaid yr Hen Bobl. Cyhuddid ef o anwybyddu'r egwyddor o Henaduriaeth yn llywodraeth yr eglwys a'i fod yn Armin, yn gwadu'r Pechod Gwreiddiol, yn ymddiried yng Ngallu Dyn ac yn haeru Cyffredinolrwydd y Prynedigaeth. Ar 11 Tachwedd 1821, ciliodd yr Hen Bobl o'r eglwys; galwyd gweinidogion i geisio cymodi ond methwyd, ac yn y diwedd aed i gyfraith am feddiant o'r capel, a'r Hen Bobl a orfu. Bu Michael Jones a'i blaid allan o'r Hen Gapel am yn agos i 10 mlynedd, gan addoli yn ei gartref yn y Weirglodd Wen, lle y symudasai o dŷ'r Hen Gapel. Yn 1839, unodd y ddwyblaid â'i gilydd ac aethpwyd yn ôl i'r capel.’ A bu gan Benjamin Jones ei ran yn yr helynt hwn.

Ar Sul y Pasg 1796, yn ystod gweinidogaeth Benjamin Jones ym Mhwllheli, yng Nghapel Pen-dref, Llanfyllin, - yng ngeiriau R. Tudur Jones - ‘y pregethodd y bregeth a ddaeth â merch Dolwar Fach i groesffordd fawr ei bywyd.’ Mae E. Wyn James yn dweud fod ‘rhagor nag un traddodiad’ am y modd y daeth Ann, Dolwar Fach, i wrando ar y gweinidog o Annibynnwr, Benjamin Jones o Bwllheli, yn pregethu yn Llanfyllin, ond mae’n mynnu mai’r traddodiad mwyaf tebygol yw hwn.

‘Un o’r prif ffeiriau yn Llanfyllin oedd honno ar y dydd Mercher cyn y Pasg. Serch hynny, roedd y rhialtwch oedd yn gysylltiedig â’r ffair honno yn parhau dros holl gyfnod y Pasg. Ar ddydd Llun y Pasg 1796, ac Ann ymron â chyrraedd ei 20 mlwydd oed, aeth i Lanfyllin i ymuno yn yr hwyl. Roedd Jenkin Lewis, gweinidog yr Annibynwyr yng Nghapel Pen-dref, Llanfyllin, wedi trefnu cyfres o Gyfarfodydd y Pasg i wrthweithio dylanwad niweidiol y ffair, ac ym 1796, y Parchg. Benjamin Jones, Pwllheli, oedd y pregethwr gwadd. Yn ôl y traddodiad, wrth i Ann ddigwydd mynd heibio’r cyfarfod pregethu awyr-agored oedd yn digwydd o’r tu allan i dafarn yng nghanol y dref, cafodd geiriau’r pregethwr ddylanwad mawr arni – dylanwad a arweiniodd at ei throedigaeth, ac a’i gwnaeth yn emynyddes mor enwog.

Tua 1805, cyhoeddodd Benjamin Jones Ffynhonnau Iachawdwriaeth i ateb John Wesley yn ei draethawd ar etholedigaeth. Cyhoeddodd hefyd lyfryn galluog ar Athrawiaeth y Drindod mewn Tair Pregeth i wrthwynebu rhai o syniadau Peter Williams ar y Beibl ac yn enwedig ei ddaliadau Sabelaidd yn ei lyfr Dirgelwch Duwioldeb, 1792. Testun ei bregeth olaf ym Mhen-lan oedd Philipiaid 4.7, "A thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall a geidw eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu."

Bu’r Parchg. Benjamin Jones farw yn 67 mlwydd oed ar 17 Chwefror 1823, a chladdwyd ef o dan y pwlpud yng Nghapel Pen-lan, Pwllheli. Yr oedd yn dad i ddau o blant, mab a merch. Bu farw'r mab yn faban, ond priododd, Sarah, ei ferch, gyda Mr. Hugh Jones, barcer, a bu hi fyw ychydig amser ar ôl ei thad.

Ym 1816, teimlai Benjamin Jones fod maes ei lafur yn ormod iddo, ac ymddeolodd o ofal Capel Helyg. Dair blynedd wedyn, am fod henaint yn ei oddiweddyd, anfonodd gais at y Dr. Thomas Phillips, prifathro Ysgol y Neuaddlwyd, ger Aberaeron, yn gofyn iddo weld yn dda i anfon gŵr ifanc cymwys i gyd-weinidogaethu ag ef ym Mhwllheli. Yn y modd hwnnw y bu i Thomas Lewis, aelod yn Eglwys y Neuaddlwyd, ddod i Bwllheli, a chael ei urddo’n weinidog ym Mhen-lan fis Hydref 1819.

Mae'n debyg i Thomas Lewis ddod i Bwllheli yn y flwyddyn 1818. Gwnaeth ei gartref gydag un o ddiaconiaid ac Arweinydd y Gân yn eglwys Pen-lan, sef John Francis, y melinydd o Felin Rhydhir, rhwng Efailnewydd a Rhydyclafdy, ac roedd y melinydd yn hynod o falch o'i gael i aros gyda hwy. Bu John Lewis farw ymhen rhyw ddwy flynedd a hanner, ond parhaodd Thomas Lewis i fyw yn Rhydhir gyda William Francis - brawd John Francis - a hynny am gyfnod o saith mlynedd a hanner. Daethant yn gyfeillion mawr. Ychydig cyn hynny, roedd eglwys Pen-lan wedi adeiladu capel newydd, ac er cymaint oedd wedi ei gyfrannu gan yr aelodau a chan eraill yn y gymdogaeth at y gwaith hwnnw, yr oedd dyled o dri chant o bunnoedd yn aros heb ei dalu pan ddaeth Thomas Lewis i'r fro. Gwnaeth yntau lawer i symud y ddyled. Bu'n casglu arian yn yr Iwerddon, yn Llundain, ac yn amryw o drefi a dinasoedd mawr Lloegr. Cerdded y byddai - cerdded nes y byddai ei draed yn gwaedu, a chysgu 'yn ei chwys a'i ludded' mewn mydylau gwair hwnt ac yma. Ond, drwy ei ymdrechion di-flino, a di-ildio, llwyddodd i glirio'n llwyr ddyledion eglwys Pen-lan. Nid yn unig hynny, rhoes hefyd gymorh parod i eraill i godi addoldai yn Nhudweiliog, Ceidio a Nefyn. Arno ef yn unig y bu gofal capel Aber-erch. Tystiai Y Dysgedydd [Gorffennaf 1839] y gallai William Francis "dystiolaethu oddiar ddeg mlynedd o brofiad, tra bu yn ei dŷ, na welodd neb erioed yn fwy cymedrol, a hawddach ei foddloni ar fwyd a diod, a phob peth arall mewn teulu, nag ef. Yr oedd yn rhagori ar lawer yn ei barodrwydd i edrych am ei gyfeillion cystuddiol. Ymwelai â hwynt ym mhob math o afiechyd; a byddai yn hynod o ddifrifol a charedig yn ei holl gyfeillach, a lle y byddai tlodi, nid anghofiai estyn cymorth at angen y teulu." Bu cyd-weithio hapus rhwng y ddau weinidog - Benjamin Jones a Thomas Lewis - a hynny hyd marwolaeth Benjamin Jones ar 16 Chwefror, 1823, ac yntau’n 66 mlwydd oed. Dilynodd llwyddiant y gwaith a gyflawnodd Thomas Lewis, hyd oni ddaeth anghydfod, ac i’r gweinidog ifanc symud o Bwllheli ar 6 Ebrill, 1830 i Lanfair-ym-Muallt. Ac yno, ymhen blynyddoedd, y bu farw Thomas Lewis.

Owen Jones oedd gweinidog nesaf yr eglwys. Magwyd ef yn ardal Bethesda, Arfon, a dechreuodd bregethu pan yn ifanc iawn gan fynd i'w gyhoeddiadau â'i gap ar ei ben, ac roedd hynny'n peri tynnu sylw pobl ato. Tyfodd yn bregethwr poblogaidd, a pharhaodd felly drwy gydol ei oes. Bu am gyfnod yng Ngholeg Y Bala, cyn mynd am gwrs pellach i Glasgow. Urddwyd ef yn weinidog yn eglwys yr Annibynwyr yn Y Wern, Ystalyfera, ym 1866. Oddi yno, symudodd i eglwys Ebeneser, Deiniolen, ym 1870, ac wedyn i Ben-lan, Pwllheli ym 1879 Adroddir ei fod yn ŵr tra phoblogaidd, os yn anwastad ei fywyd. Ac nid arhosodd ond blwyddyn ym Mhwllheli, cyn symud i eglwys Bethania Aberpennar ym 1890. Bu yno hyd 1909, pan ymddiswyddodd a symud i fyw i Nantffrancon, ardal llawn rhamant ei flynyddoedd cynnar. Bu galw mawr am ei wasanaeth i wyliau pregethu blynyddol ei enwad, a chafodd llawer oedfa i'w chofio. Yr oedd bob amser yn ffefryn cynulleidfa a chwmni ac yntau'n meddu dawn y pregethwr poblogaidd a'r cwmniwr diddan. Daliodd yn iach ei ysbryd, yn ifanc ei wedd, yn gryf ei symudiadau ac yn soniarus ei lais hyd at ei flynyddoedd olaf. Pan ddaeth y diwedd, teimlid cryn golled ar ei ôl. Bu farw ar 17, Gorffennaf, 1924, yn 81 oed.

Ym 1832, daeth William Jones, brodor o Landrillo, Meirionnydd, a nai i’r Dr. Henry Jones, Bangor, yn weinidog. Gwasanaethodd am chwe blynedd, ond tystir fod y chwerwedd a fagesid flynyddoedd ynghynt heb ddiflannu'n llwyr, a bu hynny’n llesteirio’r gwaith y gallasai William Jones fod wedi ei gyflawni. Ym 1838 symudodd i Dde Aberteifi i fod yn weinidog Glynarthen a Hawen.

Nid oedd yn Eglwys Pen-lan ond rhyw hanner cant o aelodau pan ddechreuodd Rees P. Griffiths ar ei waith fel gweinidog fis Awst 1838.  Cyn diwedd 1840, fodd bynnag, ar gyfrif ymroad a llafur y gweinidog a ddaethai i Bwllheli o Lanberis wedi cryn lwyddiant yno, yr oedd rhif yr aelodau dros gant a hanner. Ym 1852, derbyniodd Rees P. Grifiths yr alwad a gawsai o Eglwys Joppa, Caernarfon.

Ym 1857 gwahoddwyd Price Howells, Llanfyllin, i ddod i Bwllheli’n weinidog, Ganwyd ef yn ardal Llanfair Caereinion. Yno yn eglwys Jerwsalem - cangen o eglwys Penarth - y dechreuodd bregethu, ac oddi yno yr aeth i Goleg y Bala. Cafodd ei urddo'n weinidog yn eglwysi Amana a Chwarel Goch yn Arfon, ar Hydref 18, 1851. Symudodd i eglwys Pendref, Llanfyllin, ym 1857, i fod yn gyd-weinidog â'r Parchg. D. Morgan. Daeth oddi yno i Bwllheli a gwasanaethodd yntau fel gweinidog Pen-lan gyda graen hyd 1862 pan symudodd I ofalu am Eglwys Ynysgau, Merthyr. Ym 1871, symudodd i ofalu am Jerwsalem, Blaenau Ffrestiniog, lle bu'n rhyfeddol o weithgar hyd oni phallodd ei nerth. Yr oedd wedi ymryddhau o'i waith fel gweinidog ers rhai blynyddoedd, ond bu ei eglwys yn ddigon mawrfrydig i roddi iddo flwydd-dâl. Symudodd i fyw i Rhuddlan, ac yno y bu farw ar Ebrill 3, 1902, yn 74 mlwydd oed. Yr oedd yn o'r dynion mwyaf tawel a di-wenwyn, yn wastad yn siriol a boneddigaidd ac yn annwyl gan bawb a oedd yn ei adnabod. Adroddir amdano nad oedd yn bregethwr tanllyd, ond yn goeth, ac o edrychiad hardd yn y pwlpud. Ef oedd Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ym 1888, a thestun ei anerchiad o'r gadair yn Undeb Tonypandy oedd Awdurdod Crist yn ei Eglwys.

Ddechrau 1865 galwyd myfyriwr o Goleg Coffa Aberhonddu i wasanaethu fel gweinidog. Ar Ebrill 20 y flwyddyn honno ordeiniwyd John Henry Jones.

Bu ym Mhwllheli am bum mlynedd, cyn symud i fod yn weinidog Bryn Seion, Dowlais.

Cafodd y Parchg. D. Johns, gweinidog nesaf eglwys Pen-lan, Pwllheli, ei eni ar 8 Tachwedd, 1839, yng Nglantaf, Penfro. Codwyd ef i bregethu yn eglwys Tyrhos. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Caerfyrddin. Cafodd ei ordeinio ym Merea, Penfro fis Mai, 1867.

Ym 1874, symudodd i Bwllheli, ac oddi yno ym 1876 i fod yn weinidog Salem, Coedgruffydd, nid nepell o Aberystwyth. Ym 1880, symudodd i Ruthun, ac oddi yno wedyn ym 1888 i Fiwmares, lle bu hyd ei farwolaeth ar 13 Awst, 1906. Digwyddodd hynny'n sydyn iawn ar y pier ym Mangor ac yntau ar ei ffordd adref o'i gyhoeddiad ar y Sul.
Adroddir ym Mlwyddiadur yr Annibynwyr ei fod yn wr didwyll, anrhydeddus ei amcanion, a chryf ei argyhoeddiad. "Nid ymostyngai i ddefnyddio moddion anheilwng er cyrraedd ei amcanion. Yr oedd ei syniad yn uchel am urddas a hawliau'r weinidogaeth, a llafuriodd yn galed fel gweinidog a phregethwr, a gwelodd lawer o lwyddiant ar ei ymdrechion. Yr oedd yn bregethwr cryf, efengylaidd, gafaelgar a melus, a chafodd rai oedfaon y cofid yn hir amdanynt. Yr oedd yn cael ei alw'n aml i wyliau pregethu ei enwad.

O.L. Roberts, Caerdydd, oedd gweinidog nesaf Pen-lan. Dywed Blwyddiadur yr Annibynwyr mai Sir Fôn a gafodd y fraint o gyflwyno'r dyn amlochrog hwn i'r byd ac i'w Enwad.

Dechreuodd O.L. Roberts bregethu pan yn bedair ar ddeg mlwydd oed. Daeth yn boblogaidd ar unwaith ar gyfrif ei ieuengrwydd a'i rwyddineb ymadrodd. Wedi cwrs o addysg yn Athrofa Bryste, urddwyd ef yn weinidog i eglwysi Penarth, Jerwsalem a Chanan yng Nghyfundeb Maldwyn ym 1882, ac yntau ar y pryd yn ugain oed. Blwyddyn yn unig a fu ei arhosiad yno, gan iddo symud i Bentyrch, lle'r arhosodd am dair blynedd.

Symudodd ym 1866 i ofal yr eglwys ifanc ym Minny Street, Caerdydd, a chyflawnodd waith da yno hyd 1891.

Y flwyddyn honno, symudodd, meddai'r Blwyddiadur, "i hen eglwys barchus Pen-lan, Pwllheli."

Cyfnod pan welwyd yr eglwys ym Mhen-lan yn ehangu oedd ei gyfnod ef. Cawsai’r capel ei atgyweirio ym 1884, ond ym 1893, ystyriwyd cynllun i gael festri newydd, a bu trafod ar helaethu’r capel yn wyneb y cynnydd mewn aelodau.

Ar Ionawr 16, 1893, ysgrifennwyd y cofnod hwn: “Penderfynwyd gwneud ymchwiliad i edrych a oes rhai ym Mhwllheli nad ydynt yn mynychu lle o addoliad.” Diddorol fyddai gwybod beth a fu canlyiad y penderfyniad hwnnw.
Gwelodd Eglwys Pen-lan yn dda i estyn gwahoddiad, a hynny am y tro cyntaf yn ei hanes, i Gyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ymweld â’r dref ym 1895.

Wedi cyfnod o chwe mlynedd ym Mhwllheli, symudodd O.L. Roberts i fod yn weinidog eglwys Y Tabenacl, Lerpwl, gan aros yno am saith mlynedd ar hugain olaf ei fywyd.

Dywed y Blwyddiadur amdano ei fod yn gyfuniad hapus o lawer o ragoriaethau fel dyn a phregethwr, a gwnaeth hynny ef yn ŵr amlwg iawn yn ei Enwad a'i genedl. Edrychid arno, meddir, fel anhebgor pwlpud, cadair, pwyllgor a llwyfan. Meddai ar natur ddynol braf, meddwl cyflym, dau lygad yn llawn mynegiant, llais soniarus wedi ei ddisgyblu yn dda, ac ysbryd brwdfrydig yn rhoddi bywyd a gwefr yn y cwbl. Sicrhaodd ei aml ddoniau iddo y lleoedd amlycaf a'r cadeiriau uchaf mewn bywyd cyhoeddus. Bu â llaw amlwg ynglŷn â chasglu ugain mil o bunnoedd y Gronfa, a gwnaeth ei ran yn egniol gyda'r Drysorfa Gynorthwyol, a gweithiodd o ddifrif gyda holl symudiadau Undeb yr Annibynwyr fel pwyllgorwr diguro, a hefyd ei Lywydd ym 1922. Traddododd ei anerchiad y flwyddyn honno yng Nghaerfyrddin ar y testun, Rhai Agweddau ar Sefyllfa Crefyddyng Nghymru Heddiw. Y flwyddyn cyn iddo gael ei ethol yn Llywydd yr Undeb, ef oedd cadeirydd Undeb Saesneg Annibynwyr Swydd Gaerhirfryn. Bu ganddo ran amlwg gyda symudiadau cymdeithadol, gwladol a chyd-enwadol.Yr oedd yn sylwedydd craff ar ogwyddiadau a symudiadau'r amserau, a mynnych y clywid ei lais ar y llwyfan yn dadlau dros gydraddoldeb, tegwch a phurdeb. Ysgrifennodd lawer i'r wasg, a chyhoeddodd tua hanner dwsin o lyfrau, yr olaf ychydig wythnosau cyn ei farw. Treuliodd oes anghyffredin o lafurus, a diau i hynny gyfrif am ei farw cynnar. Aethai i Glydach Vale i gartref ei chwaer, ac yntau ar ei ffordd i Frynaman ar gyfer Sul cyntaf Tachwedd 1924. Yno cymerwyd ef y glaf. Prysurodd adref ar y dydd Llun. Cafodd lawdriniaeth ar y Sadwrn, ond bu farw fore Llun, Tachwedd 10, ac yntau'n 62 mlwydd oed.

Olynydd O.L. Roberts fel gweinidog Pen-lan oedd J.J. Jones, B.A. Ganed a magwyd ef yn Temple Bar yn Nyffryn Aeron, rhwng Llanbedr ac Aberaeron, yn unig fab y Parchg.Thomas Jones, gweinidog eglwysi Parcyrhos, a Thy'nygwndwn, cyn hynny. Dechreuodd J.J.Jones bregethu yn ifanc iawn, ac aeth i Goleg y Bala at y Prifathro Michael D. Jones a'r Athro John Peters (Ioan Pedr) yn y flwyddyn 1877, ac yntau ar y bryd yn ddeunaw oed. Dywed Blwyddiadur yr Annibynwyr i J.J. Jones dreulio rhan o'i efrydiau yng Ngholeg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth mewn paratoad ar gyfer ennill gradd ym Mhrifysgol Llundain.

Bu am gyfnod yn gynorthwywr i'w hen athro yn y Bala, ac yna aeth i Goleg Cheshunt o dan ddisgyblaeth y Prifathro Dr. Reynolds. Wedi gyrfa loyw a llwyddiannus, ymsefydlodd yn Llanybydder, ar ffiniau siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, yn Brifathro Ysgol Ramadeg. Profodd ei hun yn athro llwyddiannus. Mynnai weld ei ddisgyblion yn cael eu trwytho'n drwyadl yn eu gwersi, ac aeth nifer dda ohonynt i golegau'r gwahanol enwadau, ac eraill i gylchoedd gwahanol o wasanaeth.

Ym 1889, ordeiniwyd J.J. Jones yn weinidog eglwysi Hawen a Bryngwenith, yng Nghyfundeb Ceredigion, yn olynydd i'r Parchg. David Adams, B.A., a oedd wedi symud i Fethesda, Arfon. Treuliodd bum mlynedd yn y cylch hwn, gan ennill nerth fel pregethwr a pharch fel dyn a gweinidog.

Cyfarfu yma â'i brofedigaeth fawr, sef colli ei briod, a mam ei dair merch fach.
Ym 1894, ymgymerodd â gofal eglwys Rhydybont, ac agorodd ysgol yn Llanybydder am yr eildro.

Ym 1898, symudodd yn weinidog Pen-lan, Pwllheli, lle'r arhosodd hyd 1901. Tra bu yma, priododd â Miss.M.E. Lloyd, Hersedd, Sir Fflint, a chwaer Mrs. Pari Huws, Dolgellau.

Yn ystod ei gyfnod ef yr adeiladwyd Capel yr Annibynwyr Saesneg yn Ffordd Caerdydd, Pwllheli. Dechreuasid cynnal gwasanaethau Saesneg yn yr hyn a elwid bryd hynny yr Assembly Rooms yng Nghornel Orllewinol y dref. Yr oedd yn y dref nifer o drigolion Saesneg eu hiaith, a deuai nifer o ymwelwyr yn yr haf. Ym 1896, rhoes y cymwynaswr mawr, Mr. Solomon Andrews, addewid am dir i godi capel Saesneg arno, gan addo cyfrannu £50 at y costau. Cafodd Capel yr Annibynwyr Saesneg, Ffordd Caerdydd, ei agor ym 1899.

Gwelodd y Capel Saesneg gyfnodau digon llewyrchus, ond gwelodd adegau drwg hefyd pan oedd hi’n fwy a mwy o frwydr i gadw’r drws ar agor. Dyma’r gweinidogion a fu’n gwasanaethu yng Nghapel yr Annibynwyr Saesneg:-
J.J. Jones, B.A. (gyda Phen-lan)    (1898 - 1901)
G.D. Hughes    (1905 - 1907)
D.W. Roberts, A.T.S    (1908 - 1914)
D. Thomas    (1916 - 1922)
J. Lloyd Williams, B.A    (1925 - 1928)
W. James Evans, B.A. (gyda Phen-lan)    (1946 - 1950)
Ted lewis Evans  (gyda Phen-lan)    (1955 - 1969)

Daeth y Capel Saesneg ar Ffordd Caerdydd i ben ei rawd ym 1963.
Gwelodd Eglwys Pen-lan yn dda i gynnal gwasanaeth ar nos Suliau yn yr Ysgoldy oedd ganddynt ym Mhentre Poeth yn y cyfnod hwnnw.

Wedi gadael Pwllheli ym 1901, treuliodd J.J. Jones y tair blynedd ar ddeg nesaf yn weinidog eglwys Lloyd Street, Llanelli, a hynny yn fawr ei barch ac yn eang ei ddylanwad. Symudodd oddi yno ym 1914 i eglwysi Carfan a Brynseion yng Nghyfundeb Penfro. Tra'n llafurio yno, cafodd yr hyfrydwch o wed ei ail ferch yn mynd yn genhades i China.

Ym 1925, symudidd eto i eglwys Hermon, Croesoswallt gan dreulio pum mlynedd yno. Torrodd ei iechyd ac ymddiswyddodd ym 1930, a phrin iawn a fu ei bregethu wedyn.

Ystyrid J.J. Jones fel un o arweinwyr ei enwad mewn ysgolheictod, gyda chymhwyster arbennig i fod yn athro coleg. Ysgrifennodd lyfrau esboniadol ar gyfer arholiadau Undeb yr Annibynwyr, ac roedd ôl y meddyliwr clir a threfnus ar ei holl waith. Llyfryn gwerthfawr o'i eiddo oedd Hyfforddwr yr Annibynnwr Ieuanc.

Pregethau esboniadol oedd ganddo, a'i draddodiad yn gyflym, yn fywiog ac yn gynnes.

Bu farw ar nos Sul, 9 Chwefror, 1936, yn 76 mlwydd oed, a rhoed i orffwys ym mynwent Rhesycae, Sir Fflint.

Prin yw'r wybodaeth am y Parchg. John Rhydderch ym Mlwyddiadur yr Annibynwyr. Adroddir iddo ddechrau pregethu gyda'r Annibynwyr ym Methlehem, Abercwmboi, pentref yn Nyffryn Cynon, nid nepell o Aberdâr. Cafodd ei dderbyn i Goleg y Bala ym 1888. Ar gyfrif ei boblogrwydd fel pregethwr, meddir, ni threuliodd ond hanner ei gwrs yn y coleg. Derbyniodd alwad ym 1890 i Lanfair Caereinion. Ym 1894, aeth i Frymbo, yn 1901, i'r Waunfawr, ger Caernarfon, ac ym 1908, daeth i Ben-lan,Pwllheli, lle bu’n fawr ei lafur hyd ei farw, wedi cystudd hir a thrwm, ar Fehefin 2, ym 1922, ac yntau'n 56 mlwydd oed.

Mae cyfeiriad yn Anerchiad Blaenoriaid Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Nharsis, Pwllheli, am 1923, sy'n datgan:

"Hefyd, anfonwyd y llythyr canlynol at Eglwys Penlan ar farwolaeth Mr. Rhydderch, eu Gweinidog:
'Eglwys Tarsis at Eglwys Penlan, Pwllheli.
Annwyl Frodyr a Chwiorydd.
Mae'r amgylchiad a'r brofedigaeth fawr yr ydych fel Eglwys yn mynd trwyddo, yn ymadawiad eich anwyl a pharchus Fugail trwy angau, yn peri i ni deimlo yn rhwymedig iawn trwy undeb y Saint a chariad yr Efengyl i anfon atoch mor ddwys a chynes y teimla holl frodyr a chwiorydd Tarsis tuag atoch, ond na ddigaloner, y mae'r Hwn a gymerodd ymaith yn abl i lenwi pob bwlch a throi yr amgylchiad chwerw yn fendith i'w bobl ac yn ogoniant i Iesu Grist.

Yr eiddoch yn gywir iawn,
- Blaenoriaid."

Sut ŵr oedd John Rhydderch?
Dywed y Blwyddiadur ei fod "yn ddyn o ysbryd caruaidd a boneddigaidd, yn ddoeth ei symudiadau ac yn ofalus rhag peri clwyf i neb. Perchenogai lyfrgell gwerth ei dangos a gwnelai ddefnydd dyladwy ohoni. Pregethai yn goeth a meddylgar yn llawn difrifwch sanctaidd ac apeliadau taer. Bu fwy nag unwauth yn cymryd rhan amlwg ym mhrif oedfaon yr Undeb, a'r tro olaf y gwelodd llawer o'i frodyr ef oedd yng nghyrddau'r Undeb yn ei gapel ei hun ym 1920. Gweithiodd yn galed ynglŷn â'r trefniadau."

Blynyddoedd anodd y Rhyfel Byd Cyntaf oedd ei gyfnod yn y dref – cyfnod pan welodd yr eglwys golli nifer o’i phobl ifanc yn y gyflafan fawr.
Ym 1923, blwyddyn wedi marw John Rhydderch, aflwyddiant fu’r ymgais o uno’r Eglwys Annibynnol Saesneg yn Ffordd Caerdydd â Phen-lan gyda’r bwriad o alw gweinidog arall.

Mae'r Diaconiaid yn Adroddiad yr Eglwys am 1950 yn nodi fod amryw wedi symud i fyw o'r ardal, ac wedi torri eu cyswllt â'r eglwys. Cyfeirir at "un yn arbennig, sef Mrs. Rhydderch a fu'n un o aelodau mwyaf blaenllaw Penlan am flynyddoedd lawer, nid yn unig fel priod y diweddar Barch. John Rhydderch, ond hefyd yn rhinwedd ei phersonoliaeth weithgar hi ei hun. Dymunwn bob bendith iddi yn ei chartref newydd."

Mae ei olynydd fel gweinidog ym Mhendref, Bangor, y Parchg. John Gwilym Jones, yn ysgrifennu ym Mlwyddiadur yr Annibynwyr am 1973 mai ar aelwyd chwarelwr yng Nghwm-y-glo, Sir Gaernarfon y ganed y Parchg. Richard Griffith Owen, M.A., a hynny ym mis Medi 1890. Bu yn ysgol Brynrefail ac wedi hynny yn dysgu fel pupil teacher yn ysgol Trefor. Bodlonodd arholwyr y Brifysgol ym 1908, ond ni chychwynnodd ar ei gwrs tan 1910, pan aeth yn fyfyriwr i Goleg Bala-Bangor. Enillodd ei radd B.A. gydag anrhydedd ym 1914.

Fe'i hordeiniwyd yn  Eglwys yr Hen Gapel, Llanuwchllyn, 26 Mehefin, 1917. Yn y fro honno y cyfarfu â'i briod, Mrs. Mary Owen, a oedd yn un o deulu enwog Glandŵr. Priodwyd y ddau yn Awst 1921, ac adeiladwyd mans, Garth Gwyn, fel anrheg priodas iddynt. 

Tua dechrau Mawrth, 1925, cafodd lythyr yn ei wahodd i weinidogaethu yn yr Hen Gapel, Llanbryn-mair. Derbyniodd yr alwad, a bu graen ar ei waith yno eto. Yn Llanuwchllyn, ganesid merch iddynt, Rhiannon, a ganed mab iddynt yn Llanbryn-mair, William John.

Siom fawr i'r ardal honno wedyn oedd gorfod ffarwelio â'r teulu tua dechrau Tachwedd 1931. Ym 1931 daeth R.G. Owen, Llanbrynmair, yn weinidog Pen-lan, gan gael ei sefydlu ar Dachwedd 5. Er siom fawr i’r aelodau, fodd bynnag, symudodd i fod yn weinidog Pendref, Bangor ym 1933. Cychwynnodd ei weinidogaeth gyfoethog yno tua mis Hydref, 1933. Cymerodd ofalaeth Beulah hefyd ym 1936.

Yr oedd ganddo ddiddordeb mawr yn nadl y Cyfansoddiadau, ac ymroes i baratoi traethawd ar yr hanes. Yng Nghorffennaf 1941, derbyniodd radd M.A. ynghyd â gwobr Llywelyn ap Gruffydd am waith yn dwyn y teitl, Brwydr y Ddau Gyfansoddiad 1877 - 1885.

Bu'n amlwg ei gyfraniad i fywyd Bangor. Bu'n gadeirydd y Cyngor Eglwysi Rhyddion, yn aelod ar bwyllgor Ysbytai Bangor, ac am ugain mlynedd o 1950 yn gaplan Ysbyty Môn ac Arfon. Bu'n aelod amlwg hefyd ar bwyllgor Coleg Bala-Bangor, a bu'n gweithredu dros dro fel Prifathro cyn apwyntiad y Prifathro Gwilym Bowyer.

Ymddeolodd o Bendref ym 1966, ac o Beulah ym 1969. Wedi colli ei briod, a phan ballodd ei iechyd, ymgartrefodd dros ddwy flynedd olaf ei fywyd gyda'i ferch yn Harlech. Bu farw yn Ysbyty Gallt-y-sil, Caernarfon, ar 2 Medi, 1972, ac fe'i claddwyd ym mynwent Llanuwchllyn.

Yr oedd 'R.G.' yn gyfuniad diddorol iawn o'r gwerinwr a'r uchelwr. Roedd yn ormod o anghydffurfiwr i uniaethu'n llwyr gydag unrhyw uchelwriaeth, ond safai yn gymeriad didol yng nghanol gwerinwyr. Pendant iawn oedd ei farn ar bynciau a phersonau. Ni phryderai'n ormodol ychwaith pwy fyddai'n clywed y farn honno. Dehonglai ambell sefyllfa gymdeithasol yn eithriadol o dreiddgar. Dyna'r math o ddoniau, yn ogystal â'i gof toreithiog, a'i gwnai yn gwmniwr eithriadol o ddiddorol.

Mae llawer ledled Cymru yn dal i gofio sylwedd a grymusder ei bregethu. Ond ym Mangor y gadawodd ei ôl yn fwyaf cofiadwy. Bu'n flaenllaw a dylanwadol iawn yng ngweinyddiaeth ysbytai Bangor, a rhoes wasanaeth arbennig o ffyddlon am gyfnod maith fel caplan. Yn ei waith mewn ysbyty, deuai i'r amlwg y tosturi dynol hwnnw a frigai i'r golwg weithiau yn ei gymeriad. Yr un tosturi a'r un cariad a amlygwyd tuag at aelodau ei ofalaeth, ac at ei deulu ei hun.

Daliai'n ddigyfaddawd at lawer o egwyddorion sylfaenol Annibyniaeth. Roedd yn union ar ganol yr hen draddodiad yn ei awedd at fywyd eglwys a'r weinidogaeth. Roedd yn gymaint o Annibynnwr fel na allai ymdoddi'n llawn i'w enwad ei hun, er y gellid dadlau fod mwy gan hynny i'w wneud â'i bersonoliaeth gwbl unigryw. 

Nid ymddengys fod cofnod bywgraffyddol amdano ym Mlwyddiadur yr Annibynwyr. Gadawodd Goleg yr Annibynwyr ym Mala-Bangor, Bangor, lle'r enillodd radd B.A. Prifysgol Cymru, ym 1929. Cafodd ei ordeinio'r flwyddyn honno yn eglwys Salem, Coedpoeth. Ym 1933, derbyniodd alwad i eglwys Albion Parc, Caer, gan aros yno hyd 1937. Ar Sul cyn y Nadolig ym 1936, anfonodd yr eglwys ym Mhen-lan, Pwllheli alwad i’r Parchg. William James Evans o Eglwys Albion Park, Caer, a chafodd ei sefydlu ym Mhen-lan ar Ebrill 26, 1937. Ym 1939 torrodd yr Ail Ryfel Byd, a chafodd pob breuddwyd a bwriad eu dryllio. Teimlai’r gweinidog mai fel caplan yn y fyddin y gallai ef roi o’i wasanaeth gorau i’w Arglwydd, a chafodd ei ryddhau dros dro. Gwasanaethodd fel caplan rhwng 1939 a 1944. Nid yw'n hysbys bellach i ble'r aeth y Parchg. W.J. Evans i wasanaethu fel caplan nac yn union beth oedd ei gyfrifoldebau wrth wneud hynny. Beth tybed oedd ei ddyletswyddau? Mae Bob Morris, yr hanesydd o Ben-y-groes, wrth ysgrifennu am y Parchg. David Cynddelw Williams, gweinidog Saron, Pen-y-groes, a aeth yn gaplan i'r Rhyfel Byd Cyntaf, wedi disgrifio'r hyn y byddai caplan yn ei wneud sef 'cynnal gwasanaethau a chynnig cefnogaeth ysbrydol a bugeiliol i’r dynion, roedd hefyd yn sensro llythyrau, yn gofalu am y llyfrgell ac yn dosbarthu sigaréts a sannau oedd wedi’u hanfon i’r ffrynt fel rhoddion.' Ychwanega mai 'rhan anorfod o swydd caplan yn y fyddin oedd cynnal angladdau a gwasanaethu’r rhai oedd wedi eu clwyfo . . . roedd hyn yn cynnwys cyrchu’r rhai anafwyd neu a laddwyd o 'dir neb'.  Ail-ddechreuodd fel gweinidog Pen-lan ym 1944. Ar gyfrif cyflwr ei iechyd - amharwyd arno gan ei brofiadau yn y Rhyfel - ymddiswyddodd o fod yn weinidog Pen-lan ym 1950. Yn Adroddiad Blynyddol yr Eglwys am 1950, dywed y Diaconiaid: 'Drwg gennym i'r flwyddyn weld ymddiswyddiad ein gweinidog, y Parch. W. James Evans, B.A., oherwydd cyflwr ei iechyd, a manteisiwn ar y cyfle hwn i fynegi ein cydymderimlad llwyraf ag ef a'n hyder diffuant y bydd iddo wella'n llwyr yn fuan iawn. Gwerthfawrogwn yn fawr ei bregethu sylweddol yn ystod cyfnod ei weinidogaeth gyda ni. Cofia rhai o aelodau'r eglwys heddiw amdano fel gŵr distaw a sensitif, ac iddo am rai blynyddoedd fod yn gweithio yn Llyfrgell y dref pan oedd honno yn Stryd Penlan  yn y fan lle mae Cartrefi Cymunedol heddiw dros y ffordd i Siambr y Cyngor Tref.

Dyma fel yr ysgrifennodd R. Tudur Jones am ei gyfaill, y Parchg.Ted Lewis Evans, ym Mlwyddiadur yr Annibynwyr:

Ganwyd Edward Lewis Evans 15 Ionawr, 1915 ym Mlaenau Ffestiniog yn fab i Owen ac Ellen Margaret Evans. Cafodd ei addysg yn Ysgol Glan-y-pwll ac Ysgol Ganol Ffestiniog. Cychwynnodd ar yrfa yn y Gwasanaeth Suful a phasiodd yr arholiadau angenrheidiol i gychwyn ar y gwaith hwnnw. Bu am rai blynyddoedd yng ngwasanaeth y Swyddfa Bost. Dyma’r cyfnod pan oedd yn trigo yn Crewe ac yn dra gwasanaethgar yn y Tabernacl yno fel diacon ac ysgrifennydd yr eglwys. Yno hefyd y codwyd ef i bregethu gan y diweddar Barchg. Robert Williams.

Salem, Rhiw, Ffestiniog oedd yr eglwys a’i hyfforddodd pan yn blentyn, ac yno y derbyniwyd ef yn aelod ym 1930 gan y diweddar Barchg. Rheidiol Roberts.
Fe’i derbyniwyd i Goleg Bala-Bangor 20 Medi 1940. Bu’n fyfyriwr diwyd yn ystod ei dymor coleg a daeth yn ffigwr amlwg iawn ymhlith ei gyd-fyfyrwyr. Bu’n Llywydd Cymdeithas y Cymric ac yn un o bileri cwmni drama Coleg y Brifysgol.

Fe’i hordeiniwyd yn weinidog a’i sefydlu yn y Bow Street a’r Borth, Ceredigion, ym 1945. Symudodd ym 1950 i Rodfa Deganwy, Llandudno, ac yna ym 1953 i Ben-lan, Pwllheli, gan ymgartrefu yn Arallt, Allt Salem. Ym Mhwllheli y treuliodd ei dymor hwyaf fel gweinidog, a dod yn adnabyddus iawn i gynulleidfaoedd Pen Llŷn. Bu’n ysgrifennydd Cwrdd Chwarter Annibynwyr Llŷn ac Eifionydd o 1964 hyd 1969. Daeth yn ŵr hysbys yr un pryd mewn cylchoedd cyd-enwadol. Ym 1961 cafodd ei ethol yn ysgrifennydd Cangen Gogledd Cymru o Gyngor yr Eglwys Rhyddion, ac yna, ym 1963 daeth yn ysgrifennydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru. Yr oedd ganddo ddawn trefnydd. Cadwai gofnodion cywir, gofalai am ohebu’n brydlon, ac nid oedd manion gwaith pwyllgor a threfnu cyfarfod byth yn dreth ar ei amynedd.

Bu ym Mhwllheli tan 1969 pan symudodd i ofalu am Garmel, Y Rhyl, Gosen, Rhuddlan, a Seion, Prestatyn. Llesteiriwyd ei lafur ymhen tair blynedd gan ergyd difrifol ar y galon, ond o dipyn i beth daeth i ail-gydio yn ei waith. Dechreuodd ei iechyd wanychu eto yn haf 1977, a bu farw yn Ysbyty Alexandra. Y Rhyl, 6 Medi 1977. Bu gwasanaeth diolch a choffa yng Ngharmel, Y Rhyl, fore Sadwrn, 10 Medi, o dan lywyddiaeh y Parchg. Erwyn Jones, Mostyn, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent newydd Rhuddlan.
Priododd â Miss. Eirlys Jones. Pen-y-bont, Llangwm. A chawsant pedwar plentyn – Arwyn, Einir, Gwenan a Meinir.

Yr oedd Ted Lewis Evans yn weithiwr di-flino, yn fugail cydwybodol, yn bregethwr gwresog, yn weinidog a’i ffydd yn ddiysgog yn yr Efengyl, ac yn gyfaill heb ei fath.

Addasiad o Flwyddiadur yr Annibynwyr 1978, tud. 142
Mae gan Dr. Gwynfor Evans gofnod fel hyn yn ei HEDDYCHIAETH GRISTNOGOL YNG NGHYMRU a gyhoeddwyd gan Gymdeithas y Cymod ym 1991 am “gyfnod o orfodaeth filwrol, a wrthwynebwyd yn egniol gan genedlaetholwyr a heddychwyr. Cafodd Chris Rees, aelod o gapel Annibynnol Cymraeg, benyd o ddeuddeng mis o garchar am wrthod ar dir cenedlaethol gymryd ei gonsgriptio i'r fyddin. Cynhaliwyd un o'r cyrddau a drefnwyd i wrthdystio yn erbyn yr arfer gan Eglwysi Efengylaidd Gogledd Cymru yn Ninbych. Fe'i hanerchwyd gan Lewis Valentine, Hywel D. Lewis a Ted Lewis Evans, y tri yn seilio eu gwrthwynebiad ar eu heddychiaeth Gristnogol.”

Ganed Hedley ym 1936 yn ffarm Waunfawr, Llangyndeyrn, cyn i’r teulu symud i dŷ a adeiladwyd gan ei datcu ar Fancffosfelen. Mynd wedyn i Gaersalem, Pontyberem, ac i Ysgol Sul Libanus. Yr oedd hi’n aelwyd fyrlymus, gydag 11 o blant, ond fod Connie, un o’r chwiorydd, wedi marw yn ifanc iawn. Yn ei amser yn Ysgol Y Gwendraeth, amlygai Hedley yr hunanhyder diymhongar hwnnw a’i nodweddai ar hyd ei fywyd. Yr oedd yn naturiol alluog. Rhagorai mewn mathemateg, a dywedai ei athro Lladin mai ef oedd y disgleiriaf a welodd ef erioed yn ei ddosbarthiadau. Ymadawodd â’r ysgol fel State Scholar, gan ddilyn ei frawd hynaf, Noel, i Fangor. Yn fuan wedyn daeth ei frawd Ithel yntau yno hefyd, a’r tri ymhen ychydig flynyddoedd yn weinidogion.

Cawsai Hedley niwed i’w fraich yn ei lencyndod, a llesteiriai hynny dipyn ar ei waith ysgrifennu. Mwynhaodd ei yrfa golegol yn ddiwylliannol a chymdeithasol, gan gwblhau yr angenrheidiau academaidd yn ei bwysau. A chyn ymadael â Bala-Bangor, yr oedd seiliau cadarn carwriaeth oes wedi eu gosod rhyngddo â Mair, merch y Prifathro Gwilym Bowyer.

Fe gafodd ei ordeinio yn Llannerch-y-medd a Maenaddwyn ym 1960, a phriododd Hedley a Mair ym 1965. Yna ym 1970 cafodd ei sefydlu yn weinidog Soar, Nefyn, a Phen-lan, Pwllheli, lle y treuliodd weddill ei weinidogaeth. Ym Mhwllheli ym 1973 y ganed Dafydd, a Gwenan ym 1978.
Yn ystod ei gyfnod ym Môn, câi Hedley ei alw’n achlysurol i gyfieithu mewn llysoedd. Credir mai ef oedd y cyntaf erioed yng Nghymru i ymarfer cyfieithu ar y pryd yn gyson. Buan iawn y daeth y llysoedd i gydnabod ei feistrolaeth yn y maes, ac fe barhaodd y galw amdano wedi iddo symud i Bwllheli.

Yr oedd ynddo ryw anian i wasanaethu’n gymdeithasol. Dros gyfnod, bu yn Glerc Cyngor Tref Pwllheli, a chanmoliaeth uchel i’w drefn weinyddol. Ond buan iawn daeth galw arno i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yng nghyfarfodydd hen Gyngor Sir Gaernarfon. A phan aed ati i sefydlu Cyngor Gwynedd ym 1974, gyda’i bolisi iaith blaengar, bu’n ganolog yn y paratoadau ac yn sefydlu’r adran gyfieithu a’i hegwyddorion canolog. Fe’i hapwyntiwyd gan y Cyngor fel un o’r ddau gyfieithydd cyntaf. Mae’n gred gyffredinol mai medrusrwydd a meddwl chwim ac ystwythder ymadrodd cyfieithwyr cynnar, fel Hedley, a sicrhaodd lwyddiant y gwasanaeth cyfieithu ar hyd a lled Cymru. Daeth Hedley yn Is-Gadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ac y mae’r aelodau yn gytûn yn cydnabod Hedley fel arloeswr yn y maes.

Ef yn aml fyddai’n cael ei alw i wasanaethu Pwyllgorau Dethol y Senedd pan ddeuent yn eu tro i Gymru. Bu am gyfnod drwy’r nawdegau cynnar yn unig gyfieithydd gyda Pharc Cenedlaethol Eryri. Ond yna wedyn yn ôl i Gyngor Gwynedd fel Prif Gyfieithydd a gofal dros yr adran.

Pan sefydlwyd y Cynulliad Cymreig, at Hedley y gwnaeth y prif weinyddwyr droi am gyfarwyddyd. Cyn i’r sefydliad hwnnw agor, bu am flwyddyn yn treulio dyddiau yng Nghaerdydd, bob wythnos, yn llunio canllawiau polisi ar gyfer cyfieithu, pa bethau a gâi eu cyfieithu, ac ym mha ffyrdd y gwneid y cyfieithu. Bu yno’n cynghori a hyfforddi cyfieithwyr newydd ac yn cyfarwyddo apwyntiadau. Ac wedi rhoi’r cyfan ar y gwaeill, byddai cyfieithwyr newydd a gâi eu hapwyntio i wasanaethu’r Cynulliad yn cael eu hanfon ato i Wynedd ar gyfer rhan o’u hyfforddiant o dan ei gyfarwyddyd. Yn ôl tystiolaeth Dafydd Wigley, “Iddo ef y mae’r diolch fod gennym gyfundrefn gyfieithu ar y pryd yn y Cynulliad sy’n llawer gwell nag yn Senedd Ewrop.” Ymddeolodd Hedley o’i waith fel cyfieithydd ym Mai 2001, wedi rhoi cyfraniad amhrisiadwy i’w genedl.

Er gwaetha’r ffaith ei fod yn eang ei ddarllen, yn hoff o fywgraffiadau a nofelau ditectif, roedd ei ddiddordebau diwylliannol yn rhai Cymraeg a Cheltaidd. Roedd yn medru cynganeddu, ond heb ddangos hynny digon aml. Byddai eisteddfodau a’r Urdd a’r Ŵyl Gerdd Dant, byd y telynau a hyd yn oed yr Ŵyl Bangeltaidd, i gyd yn cael ei deyrngarwch.

Roedd yn Annibynnwr yn ei agwedd at addoliad. Ni allai beidio, wedi bod wrth draed Gwilym Bowyer. Roedd yn heddychwr. Ni allai beidio wedi bod o dan ddylanwad D.E. Williams, Caersalem. Roedd y gwmnïwr heb ei ail, a hynny wedi para i’r diwedd yn deg.

Er gwaethaf ei brysurdeb, ei weinidogaeth i’w eglwysi a gâi’r lle blaenaf yn ei fywyd. Yr oedd yn gynnil ac effeithiol ei bregethu, a’i weddïau yn wefreiddiol o eneiniedig. Treiddiodd i ddyfnder adnabyddiaeth mewn perthynas ag aelodau ei eglwysi, a hynny’n dod i’r golwg yn eu serch a’u cariad hwythau tuag ato.
Edmygem oll ei frwdfrydedd am ambell ddiddordeb a fyddai ganddo, hyd yn oed drwy flwyddyn olaf anodd. Yn y misoedd olaf, roedd wedi cael camera, ac edrychai ymlaen at gael tynnu lluniau gogoniannau Llŷn ac Eifionydd. Ac yn wir, yn y dyddiau olaf yn yr ystafell yn Ysbyty Bryn Beryl, gwelodd y gwrthrych a oedd wrth fodd ei galon, y rhes mynyddoedd a’u copaon dan eira, yn dangnefeddus. Ar y nawfed ar hugain o Ragfyr 2001, daeth y tangnefedd hwnnw i’r ystafell honno yn ystod munudau olaf ei fywyd, ac arhosed yr un tangnefedd ym mywydau Mair, Gwenan, Dafydd a Delyth.

Yn dilyn marwolaeth R. Hedley Gibbard, ar y nawfed ar hugain o Ragfyr 2001, bu eglwys Pen-lan yn ddi-weinidog hyd 2006, pan benderfynwyd dod i berthyn i ofalaeth fro newydd ar y cyd ag eglwysi’r Presbyteriaid ym Mhwllheli a’r cylch o dan weinidogaeth W. Bryn Williams. Brodor o Lanrug wedi dechrau fel gweinidog ym Mryn Du, Ynys Môn, yw ef.  Oddi yno aethai’n weinidog i  Gapel y Groes, Wrecsam, cyn treulio deg mlynedd yn y Bala yn Gyfarwyddwr y Coleg yno. Yn 2010, penodwyd W. Bryn Williams yn Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a daeth ei gyfnod fel gweinidog Pen-lan i ben fel canlyniad I hynny.

Gwelodd eglwys Pen-lan yn dda, o dan gynllun Rhaglen Datblygu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, i benodi Mrs. Glenys Jones, diacones ac Ysgrifennydd yr Eglwys, yn Arweinydd iddi. Yn ddiweddarach, rhoes yr eglwys alwad iddi i fod yn weinidog yr Eglwys, a chafodd ei hordeinio a’i sefydlu ar ddydd Sadwrn, Hydref 18, 2014.

Gweinidog ac Ysgrifennydd Eglwys Pen-lan, Pwllheli:

Y Parchg. Glenys Jones, B.Ed., M.A. Ffôn: 01758 613886


Eglwysi a Chapeli