Wyn Roberts - Parodi ar Yr Hen Chwarelwr [W.J. Gruffydd] Cerdd y Gŵr Di-Waith

Cerdd y Gŵr Di-Waith

Bachgen deunaw gerddodd ryw ben bore
Lawer dydd yn ôl o’r tŷ am saith:
Gobaith fflachiai yn ei lygaid tywyll,
Wedi treulio misoedd yn ddi-waith.

Cerddodd i’r Ganolfan Waith yn gyson,
Eto nid oedd ganddynt swydd ar ôl;
Ar y bysus teithiodd y gymdogaeth;
Talodd am ei ffêr o bres y dôl.

Curodd ddrws pob ffatri yn yr ardal,
Ond ‘run fath bob dydd y câi ei drin’
A phob tro ’run siom oedd yn ei aros –
Dim i’w gynnig yn y dyddiau blin.

Neithiwr daeth yr ambiwlans yn sydyn;
Soniwyd ar y stryd am stôf a nwy,
Yna cludwyd rhywun i’r ysbyty –
Ni bydd sôn am waith na chyflog mwy.

Wyn Roberts


Beirdd