Meirion Lloyd Davies yn cofio am ...
Dafydd Parry - Ocsiwnïar
Dyn mawr o gorff a chanddo allu mawr, calon fawr, llais mawr, hiwmor mawr a thymer fawr – dyna Dafydd Parry. Gyda nodweddion fel yna, nid yw’n syndod ei fod yn un o gymeriadau mawr Pwllheli gydol ei oes hyd ei farw yn 1976 yn 84 oed.
Sefydlodd ei dad, Robert Parry, gwmni prisio ac arwerthu yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac fe’i dilynwyd yn y busnes gan ei ddau fab, Gwilym a Dafydd. Dechreuodd Dafydd weithio yn y cwmni wedi iddo fod yn gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf pryd y cafodd ei anafu wrth fynd i achub bywyd cyd-filwr.
Er ei fod yn byw yn nhref Pwllheli bron gydol ei oes, gwladwr oedd Dafydd – yn gwisgo fel ffarmwr, yn cerdded fel ffarmwr ac wrth ei fodd yng nghwmni ffermwyr. Ocsiynau ffarm oedd ei ddiddordeb ac er ei fod yn cynnal ocsiynau dodrefn ac ati, ar iard ffarm y byddai yn ei hwyliau gorau ac ar ei fwyaf ffraeth. Cynhelid yr arwerthiannau yn gyfan gwbl yn Gymraeg. Roedd ganddo ei ddull arbennig ei hun o werthu. Weithiau, ar ganol gwerthu, byddai’n dechrau tynnu coes a sgwrsio, nes anghofio pa gynigion oedd ar y bwrdd. Ar adegau felly doedd hi ddim yn anarferol iddo droi at y dyrfa a gofyn, ‘Ble roeddan ni, dudwch?’ Dro arall, os oedd y cynigion wrth ei fodd, byddai’n cymryd arno fod prynwr anweledig yng nghefn y dyrfa, a thrwy hynny’n llwyddo i godi’r prisiau. Ond wrth wneud hyn byddai weithiau’n cael cawell a’r eitem ar ei ddwylo. Pan ddigwyddai hynny, byddai wedyn yn dweud, ‘Wel, mi wnawn ni ailddechrau rŵan.
Os oeddech chi yn ei lyfrau fe allasech gael bargen ganddo wrth iddo roi’r eitem i chi yn hytrach na derbyn prisiau eraill. Ond os nad oeddech, fyddai waeth i chi roi’r ffidil yn y to ddim – gwnai bopeth i’ch rhwystro, hyd yn oed prynu ei hun.
Bu Dafydd Parry yn ffrind da i John Preis y trempyn. Fo fyddai’n gofalu am ei arian ac yn trefnu rhoi ei lwfans iddo, oedd i fod i bara am y mis. Ymhen yr wythnos byddai John Preis yn ôl yn swyddfa Dafydd Parry wedi gwario’r cyfan ac eisiau rhagor. Gan amlaf byddai yntau’n rhoi rhywbeth iddo o’i boced ei hun. Yn y diwedd, wrth reswm, byddai amynedd Dafydd Parry’n pallu. Ar adegau felly byddai John Preis yn stormio cerdded i lawr Stryd Moch gan weiddi ar dop ei lais, ‘Y sglyfath Dafydd Parry ’na.’
Byddai Dafydd Parry bob amser yn parcio’i gar gyferbyn â’i swyddfa gyda thrwyn y car ar i lawr. Felly, petai’n cael trafferth i’w danio, byddai’n medru taro’r car yn ei gêr a gollwng y brêc er mwyn i’r injan danio ohoni ei hun. Ond daeth yn amser peintio llinellau melyn yma ac acw. Rhoddwyd rhai ar yr union fan y byddai Dafydd Parry’n parcio’i gar. Am wythnos gyfan ni chymerodd sylw o’r llinellau, ac am wythnos gyfan bu’r Swyddog Parcio, pwysig ar y naw, yn cerdded yn ôl ac ymlaen yn fygythiol – ond eto, am ei fod ofn Dafydd Parry, yn gyndyn o roi ticed iddo. Erbyn y pnawn dydd Gwener pallodd amynedd y swyddog, ac wrth iddo osod ticed ar y ffenest flaen daeth Dafydd Parry i ddrws ei swyddfa a gofyn mewn ffordd hynod resymol ac anarferol iddo fo, beth oedd y dyn yn ei wneud. Gan fustachu tipyn eglurodd hwnnw i Dafydd Parry beth oedd ei drosedd. ‘Paid â phoeni o gwbl, dim ond gwneud dy waith wyt ti,’ oedd yr ateb hollol anarferol eto. Aeth Dafydd Parry ar ei union ar y ffôn i swyddfa’r heddlu ac egluro wrth yr arolygydd ei fod am bledio’n euog i’r cyhuddiad ond y byddai, cyn gwneud hynny, yn gwerthfawrogi cael gweld y gorchymyn yn rhoi hawl iddynt beintio’r llinellau yn y fan honno. Ymhen hanner awr cyrhaeddodd yr arolygydd swyddfa Dafydd Parry mewn sachlian a lludw i ymddiheuro nad oedd yr union fan honno yn rhan o’r gorchymyn. Roedd Dafydd Parry wedi astudio’r gorchymyn a gyhoeddwyd yn y papurau lleol yn fanwl ac wedi deall hynny. Wrth fynd o’r swyddfa dywedodd yr arolygydd y byddai’n anfon plismon rhag blaen efo brws a chôl tar i ddileu’r llinellau melyn. Gair olaf Dafydd Parry oedd, ‘Gwnewch gymwynas â fi, gadwch y llinellau yno. Mi fydd pawb arall yn credu nad oes hawl i barcio yno ac mi ga’i le parcio preifat i mi fy hun.’
Bu’n aelod ffyddlon yng nghapel Salem, Pwllheli, ar hyd ei oes ac yn mynychu oedfa’r bore yn ddi-feth. Byddai’n dweud wrth y pregethwr (gan fy nghynnwys i!) heb flewyn ar dafod beth oedd ei farn am y bregeth. Os nad oedd pregeth wrth ei fodd yn ystod fy nghyfnod cynnar ym Mhwllheli, byddai’n dweud, ‘Wnes i ddim mwynhau’r bregath o gwbl – hen un o Lanberis, mae’n siŵr.’ (Yn Llanberis roeddwn i cyn symud i Bwllheli). Roedd yn arbennig o hael ei roddion tuag at y capel, ond deddf y Mediaid a’r Persiaid oedd bod yn rhaid i’r cyfan fod yn ddi-enw.
Pab fu farw Dafydd Parry roedd Pwllheli’n lle tipyn tlotach a llwytach – ond tawelach hefyd.
Talfyriad o’r bennod yn Cymeriadau Llŷn, Golygydd Ioan Roberts, Cyfres Cymêrs Cymru, Gwasg Gwynedd. Gyda diolch i’r Wasg, ac i Mair Lloyd Davies am ganiatâd i gyhoeddi’r talfyriad hwn.