Eira Gwyn A.R.C.M. - Y Gantores o Bwllheli

Ioan W. Gruffydd yn cofio am . . .

Eira Gwyn A.R.C.M. . . . Y Gantores o Bwllheli

Go ychydig o drigolion hynaf tref Pwllheli heddiw, mae'n ymddangos, sy'n cofio am fywyd a chyfraniad cantores a wnaeth gryn enw iddi ei hun yn ei dydd, a dwyn cryn enwogrwydd i dref Pwllheli. Ni fyddai'r Adran hon o'n Gwefan yn gyflawn heb fod cyfeiriad ati hi.

Cafodd Mary Hughes - neu Eira Gwyn, fel y dewisodd alw ei hun fel cantores - ei magu yn yr Ala Isaf, naill ai yn y Llaniestyn Temperance, a arferai fod yn y stryd honno, neu'r drws nesaf i'r lle hwnnw. Yn ferch ifanc arferai weithio a derbyn hyfforddiant ym myd masnach yn y siop fara a theisennau a oedd yn eiddo, bryd hynny, i'r masnachwr, Mr. E.P. Jones, ym Mhenlôn Llŷn, Pwllheli.

Rhyw ddiwrnod, yn ôl yr hanes, digwyddodd dwy Saesnes, a oedd ar eu gwyliau ym Mhwllheli, alw yn y siop honno a chlywed llais canu cyfareddol merch ifanc yn dod o gefn y siop. Mary Hughes oedd biau'r llais hwnnw. Teimlai'r ddwy Saesnes fod llais y ferch ifanc yn un na ddylid ei gyfyngu i gylch ac ardal Pwllheli yn unig ond y dylid ei ddatblygu a'i ddiwyllio a'i glywed gan gynulleidfa lawer ehangach.

Eira Gwyn, y Gantores

Canfu'r ferch ifanc nifer o noddwyr caredig - ac yn eu plith, Mrs. Greaves, priod Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon, a Mrs. Margaret Lloyd George, priod y gwladweinydd enwog.

Cafodd Mary Hughes, yn ôl yr erthygl amdani a ymddangosodd fis Hydref 1910, dan benawd 'Ein Cerddorion' yn Rhif 145 o gylchgrawn 'Y Cerddor,' ei hanfon i'r Athrofa Gerdd Frenhinol yn Llundain lle'r enillodd y Fedal Efydd. Yn ôl yr erthygl yn Y Cerddor, aeth oddi yno i'r Coleg Cerdd Brenhinol "lle'r enillodd Exhibition," ac wedi'r cwrs arferol daeth yn llwyddiannus drwy'r arholiad i fod yn Gymrawd o'r Coleg Cerdd Brenhinol (A.R.C.M.)."
Yn ystod ei gyfa golegol, dywedir iddi gael ei haddysgu gan Mr. Henry Blower a Signor Randegger, dau adnabyddys mewn defnyddio'r
llais, a dau hefyd a fu'n hyfforddi "aml Gymro a Chymraes."

Treuliodd Eira Gwyn bedair blynedd ym Mharis dan hyfforddiant Monsieur Boutrey. Yn ystod ei chyfnod yno ym mhrif-ddinas Ffrainc, bu ganddi ran mewn nifer luosog o ymrwymiadau yn canu mewn cyngherddau gwahanol.

Ymhen amser, dychwelodd i Lundain, ac yno yn Neuadd Bechstein, fel y gelwid Neuadd Wigmore, yn 30 Stryd Wigmore, yn Llundain bryd hynny, "y gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf yn y Brif-ddinas fel cantores." Yn gwrando arni yno, meddir, yr oedd cynrychiolwyr cerddorol y wasg "a phob un yn dra unfrydol yn eu canmoliaeth."

Tystiai papur newydd y Daily Chronicle, "Ddoe, gwnaeth Miss. Eira Gwyn ei hymddangosiad proffesiynol cyntaf mewn cyngerdd yn Neuadd Bechstein gan beri syndod i'r gynulleidfa fawr gan ei chanu gwir atdyniadol. Adroddid fod gan y Gontralto Newydd o Gymraes lais prydferth crwn a chyfoethog a'i bod yn gwneud y defnydd gorau
ohono. Dywedid ei bod yn eithriadol o dda yn y darnau clasurol a ddefnyddiai i agor y cyngerdd. Yr oedd y gynulleidfa, meddid, wedi cynhesu yn eu gwerthfawrogiad o'r gantores ddawnus y gellid
darogan fod iddi ddyfodol disglair iawn.

Adroddodd y Daily Telegraph nad oedd unrhyw amheuaeth am ansawdd ei llais a oedd yn gyfareddol ac arddull ei chanu yn gwbl naturiol. Mynegodd y Morning Post fod ei llais yn Gontralto yn ei ansawdd.

Dywed yr erthygl yn Y Cerddor (y cyfeiriwyd ato uchod) fod canmoliaeth sylwadau'r wasg amdani yn profi deubeth, sef "nad yw y wasg yn rhagfarnllyd yn erbyn talent i ba genedl bynnag y perthyn ei pherchennog, ac hefyd fod yr un a feirniedid ganddynt yn deilwng o bob cefnogaeth."

Adroddir i Eira Gwyn fod yn canu yng ngwydd Ei Fawrhydi y Brenin - a oedd yn Dywysog Cymru bryd hynny - pan gafodd hwnnw ei orseddu'n Ganghellor Prifysgol Cymru, a rhoed iddi ganmoliaeth uchel am ei datganiad o Hen Wlad fy Nhadau. Bu'n canu mewn cyngherddau yn y Neuadd Albert ac yn Neuadd y Frenhines yn Llundain, ac yng Nghymdeithasau Corawl Ventor, Merthyr, Kettering, Catford a mannau eraill.

Bu W.M.R., awdur yr erthygl am Eira Gwyn yn Y Cerddor, yn ei holi am ei syniadau, ei diddordebau, a'r modd y byddai'n cyflawni ac ymberffeithio'i gwaith. Mae'r ymateb a gafodd ganddi'n dra diddorol. Dywedodd ei bod yn credu'n ddisgog a chyson mewn astudio. Nid oedd yn gadael i ddiwrnod fynd heibio heb ymarfer y graddfeydd - "gan fod yn ofalus i gadw neu wthio'r gwefusau ymlaen mor bell ag y gellir gan fod hynny'n cynhyrchu tôn fwy clir a mwy llawn neu gron; a chan ofalu beth bynnag a wneir i beidio blino'r llais." Dywedodd y dylai datganwyr sefyll mor naturiol ac esmwyth ag sydd modd gan wneud i ffwrdd â phob ystum anystwyth; y corff yn syth a'r pen i fyny, yr ysgwyddau yn cael eu cadw ymhell yn ôl heb ddim egni, a'r frest yn rhydd fel y caffo'r ermigau lleisiol ryddid perffaith tra'n canu. Dywedodd ei bod yn talu sylw manwl iawn i anadliad priodol, gan ei bod yn argyhoeddedig mai dyna yw prif ddirgelwch datganiad llwyddianus. Dylai pob lleisydd fynd trwy ymarferiadau mewn anadlu yn gyson bob dydd, a'i gwneud yn rheol i lenwi'r ysgyfaint gydag awyr bur a chroyw. Peth arall, ac mae hwn yn bwynt a esgeulisir gan lawer, dylid talu sylw neilltuol i'r geiriau, nid yn unig eu dysgu allan ond treiddio i'r meddwl sydd ynddynt. Yna gall y datganydd roddi mynegiant teilwng a phriodol ohonynt.

Dywed Eira Gwyn ei bod yn hoff iawn o'r wlad a'i bod yn mynd allan yn feunyddiol. Ei hoff adloniant oedd cerdded ac yr oedd o'r farn y dylai pob datganydd roddi mwy o sylw i hynny.

Daw'r erthygl yn Y Cerddor i ben drwy ddymuno'n dda iddi i'r dyfodol, a nodi ei bod yn deilwng o bob cefnogaeth ar gyfrif ei hymroad a'i dyfalbarhad.

Ymddangosodd nifer o gyfeiriadau canmolaethus o Eira Gwyn a'i gorchest fel cantores mewn gwahanol bapurau newydd a chyfnodolion. Gallem gyfeirio at hwnnw yn y Weekly Mail ar Dachwedd 30,1907, lle'r adroddwyd:

"CYNGERDD DECHREUOL LLWYDDIANNUS Y GANTORES O GYMRAES MISS EIRA GWYN"

Gwnaeth Miss Eira Gwyn, y gantores gontralto ifanc o Gymraes, ei hymddangosiad llwyddiannus cyntaf bnawn Iau yn Neuadd Bechstein. Dod o Bwllheli y mae, a chafodd ei hyfforddi yn yr Athrofa Gerdd Frenhinol a'r Coleg Cerdd Brenhinol, lle bu'n astudio gyda Mr. Randegger a Mr. Blower, a galluogwyd hi i dderbyn hyfforddiant gan
M. Boutrey ym Mharis. Roedd cynhulliad mawr wedi dod ynghyd gan estyn iddi groeso calonnog. Roedd cyfraniadau Miss. Gwyn yn cynnwys tair adran o ganeuon, yn y gyntaf roedd nifer o hen glasuron, yn yr ail nifer mewn Ffrangeg, ac yn y drydydd, un gan Elgar a dwy gan Tschaikowski. Rhoes y rhai a oedd yn bresennol werthfawrogiad calonogol iawn yn dilyn pob un o'i hymddangosiadau, yn arbennig gan fod ganddi lais mor swynol. Ei phrif lwyddiant oedd y gân 'Le Cloche, gan Saint-Saens.

Cafodd Miss Gwyn, sydd â'i chyfenw iawn yn Hughes, ond a fabwysiadodd yr enw Gwyn ar gyfrif lluosogrwydd yr Huwsiaid, ei chynorthwyo gan y Mri. Epstein, Zimmerman, a Ludwig, sy'n cael eu hadnabod fel y Triawd Newydd."

Yn Baner ac Amserau Cymru ar Ragfyr 4, 1907, bu adroddiad dan y penawd: "Cyngerdd Miss. Eira Gwyn,"
lle dywedid, "Enw barddonol. neu gerddorol Miss. Mary Hughes, cerddores ieuangc o BwllheIi, ydyw Miss Eira Gwyn, i'r hon y trefnwyd cyngherdd yn Neuadd Bechstein yr wythnos ddiweddaf. Fe'i clywyd yn canu yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, ac y mae wedi bod o dan addysg gerddorol yn y Coleg Brenhinol yn Kensington, ac yn ddiweddarach yn Paris o dan M. Boutrey. Erbyn hyn, y mae llawer o ôl diwylliant ar ei chaniadaeth ac y mae lle cryf i goledd disgwyliadau uchel am ei dyfodol. Rhoddodd foddlonrwydd mawr, nid yn unig i'r gwrandawyr, ond hefyd, i'r beirniaid oeddynt yn bresennol yn y cyngerdd. Canodd mewn tair adran ganeuon clasurol o waith Haydn a Beethoven, caneuon Ffrangeg gan Ambroise Thomas, Faure a Saint-Saens, a chaneuon diweddar gan Syr Edward Elgar a Tschaikowski. Cymerir diddordeb arbennig yn ei gyrfa gan Mrs Greaves, gwraig Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon, Mrs. Lloyd George, a boneddigesau eraill o'r un sir."

Yn y cyhoeddiad, Cymro a'r Celt, a gyhoeddwyd yn Llundain, ar Ragfyr 12, 1907, cyhoeddwyd y canlynol o waith Llinos Wyre, Harrow:

Miss. Eira Gwyn

M wynaidd lais Miss. Eira Gwyn
I reiddia fryn yr enaid,
S einia gân ar ddôl a glyn, -
S edd hon bryd hyn sydd delaid.

E os gu a'i gruddiau glân,
I 'r byd fo'n gân ysblennydd,
R hydd i ni mewn gwladgar dôn
A lawon ein haelwydydd.

G wena'n llon ar binacl bri
W yl eneth gu, dalentog;
Y nni mawl o'i mewn a ry'
N ef nodau lu'n odidog.

Yn y Brython Cymreig ar Fedi 10, 1908, adroddwyd dan y penawd Cyngerdd Nos Wener, am un Laura Evans, y Contralto, ac at Miss Eira Gwyn, hithau yn ddieithr i gannoedd yn y babell, "ond a oedd yn gymeradwy iawn.…

Yn y Cardiff Times ar 7 Rhagfyr, 1907, o dan y penawd 'Cerddoriaeth yng Nghymru,' mae Emlyn Evans yn ysgrifennu dan y penawd, 'Cantores Gontralto Newydd o Gymraes.' Mae'n cyfeirio yn ei ysgrif at yr hyn y mae'n ei alw yn "gyfeiriad ffafriol" a oedd newydd ymddangos "yng ngholofnau newyddiadur dyddiol cyfoes yn Llundain ynghylch contralto o allu lleisiol sylweddol y deuthpwyd o hyd iddi ym Mhwllheli . . . gan rhyw foneddigesau a oedd ar ymweliad â'r lle." Dywed Emlyn Evans fod awdur yr hanes ym mhapur Llundain yn dra anwybodus gan ei fod yn galw Pwllheli fel 'pentref pysgota." Ni wyddai ddim oll am Bwllheli - yr hen dref farchnad enwog gyda'i Maer a'i Chorfforaeth a'i lle o anrhydedd ymysg bwrdeisdrefi eraill sir hanesyddol Caernarfon." Dywed fod gan Eira Gwyn, a fu'n canu yn Llundain yr wythnos cynt, lais contralto o'r iawn ryw.

Hyd yn oed yn yr Advertiser yn Ne Affrica, ar Ionawr 16, 1908, dan y penawd "Darganfyddiad Rhamantus o Athrylith" dywedid ei bod yn amheus iawn os bu adeg mor gyfoethog â'r adeg honno pan lwyddwyd i ddod o hyd i gantorion a cherddorion o ddoniau mor arbennig. Cyfeirid at lwyddiant ymddangosiad cyntaf Eira Gwyn yn Neuadd Bechstein, yn Llundain, ac fel y darganfyddwyd hi gan ddwy foneddiges a oedd wedi digwydd ei chlywed yn canu mewn siop bobydd ym Mhwllheli, ac a gododd yr arian angenrheidiol iddi gael ei hyfforddi.

Eira Gwyn a'r Syffragetiaid

Mae lle i gredu fod Eira Gwyn, y gantores o Bwllheli, yn ystod ei chyfnod yn Llundain, wedi amlygu gwedd fwy gwleidyddol-gymdeithasol a phrotesgar i'w gweithgareddau, gan iddi fod yn gysylltiedig â mudiad y Syffragetiaid.

Ymddangosodd y gair 'Syffraget' gyntaf ym mhapur newydd y Daily Mail ar Ionawr 10, 1906, mewn ymgais i wahaniaethu rhwng y gwragedd hynny a ddefnyddiai ddulliau uniongyrchol yn eu hymgyrch wrth geisio hawlio pleidlais i wragedd oddi wrth y rhai hynny o'u plith a ddefnyddiau ddulliau mwy cyfansoddiadol i geisio hyrwyddo hynny. Arweinyddion y Syffragetiaid oedd Mrs. Emiline Pankhurst a'i merch, Christabel. Mae ar gael lu o hanesion am ddulliau gweithredu y gwragedd a elwid yn Syffragetiaid.

Ar fin nos Hydref 13, 1905, er enghraifft, roedd Christabel Pankhurst ac Annie Kenney yn eistedd yn seddau ôl Neuadd y Farchnad Rydd yn Llundain. Roedd yr Ysgrifennydd Tramor, Syr Edward Grey, yn ceisio annog y Blaid Ryddfrydol i ennill grym fel Llywodraeth, pan waeddodd Annie Kenney y cwestiwn yr oedd Christabel wedi ei lunio ymlaen llaw ar ei chyfer. Gofyn a wnaeth, `A fydd y Llywodraeth Ryddfrydol yn rhoi hawl i wragedd bleidleisio?' Bu cryn gynnwrf pan geisiwyd gorfodi'r ddwy wraig i ymadael a hwythau'n gwneud pob ystryw i rwystro hynny. Ceisiwyd dwyn perswâd ar Aelodau Seneddol. Ymwelwyd â'r Prif Weinidog. Bu gweiddi a tharfu ar Dŷ'r Cyffredin. Trefnwyd gorymdeithiau a rhai ohonynt yn derfysglyd iawn.

Mae cofnod ar gael sy'n dweud i'r gantores o Bwllheli, Eira Gwyn, yn ystod ei chyfnod yn Llundain fod yn rhannu pamffledi'r Syffragetiaid ar Bont Westminster.

Eira Gwyn yn ôl ym Mhwllheli

Yn dilyn ei gyrfa lwyddiannus yn Llundain, ymddengys iddi ddychwelyd adref i Bwllheli a phriodi John T. John, a oedd, mae'n debyg, yn athro Mathemateg yn Ysgol Ramadeg Pwllheli. Mae enwau Mr. a Mrs. John T. John yn ymddangos ymysg aelodau Eglwys Salem yn y dref yn ystod y ddegawd rhwng 1951 a 1961. Cyfeirir yn Adroddiad Salem 1961 i John T. John, Heulwen, Marian y De, farw fis Mehefin y flwyddyn honno. Mae Adroddiad arall yn cyfeirio at farwolaeth Mary John ar Ragfyr 20,1967.

Mae Mrs. Mair Lloyd Davies, priod y diweddar Barchg. Meirion Lloyd Davies, yn cofio'i phriod yn gwasanaethu yn angladd Mary John yng Nghapel Saesneg Ffordd yr Ala, ym Mhwllheli. Cofiai hefyd fod Seiat Goffa wedi bod yn Salem - yn ôl arfer y cyfnod hwnnw - i goffáu Mrs. Elsie Jones, priod y cyn-weinidog, y Parchg. Ddr. G. Robert Jones, ac hefyd yr un pryd, i goffáu Mrs. Mary John - Eira Gwyn.

Gyda diolch am gymorth Mr. Wyn Thomas, Coleg y Brifysgol, Bangor, a Mrs. Mair Lloyd Davies.


Enwogion