Diolch yn fawr iawn i Tesni Roberts

Welsh Only...

Diolch yn fawr iawn i Tesni Roberts, Cydlynydd Cymunedol Lleol Ardal Llyn, a hefyd Terry Owen Williams, Cydlynydd Cyfeirio i Ymarfer ‘Byw’n Iach’ Gwynedd am y gwahoddiad caredig i fynychu ‘Ddiwrnod Agored’ sefydlu Sied Dynion/Men’s Sheds Pwllheli; yn y gerddi sydd wedi eu lleoli yng ngefn Canolfan Hamdden Pwllheli. Roedd yn orig hynod bleserus iawn yng ngwmni y ddau, a hefyd y nifer dda o drigolion y dref a ddaeth i’r agoriad.

Roedd Y Clerc a Chynghorwyr Cyngor Tref Pwllheli yn awyddus iawn i mi fel Maer y dref, i ddymuno’n dda a i’r prosiect hynod gyffroes yma, ac i drosglwyddo y negas y byddant yn barod iawn eu cefnogaeth i’r dyfodol, fel bydd y gweithgaredd yn datblygu.

Eisioes mae’r Cyngor Tref wedi cyfranu gwahanol offer, gan gynnwys y ‘twnel poli’ ardderchog iddynt, ac sydd yn cael defnydd da yn sgil y garddio sydd yn mynd rhagddi, fel rhan o’r prosiect.

Fe adawodd Tesni (a dynodd y llun) i pawb wybod fe fydd hi’n gadael y prosiect am gyfnod, a hyn er mwyn mynd i deithio’r byd! – ond y byddai heb os yn siwr o gadw mewn cyswllt gyda’r fenter, ble bynnag y byddai yn ystod ei theithiau.

Bu Tesni yn gyfrifol am sefydlu grwp llywio i weld beth oedd y diddordeb mewn sefydlu ‘Sied Dynion’ ym Mhwllheli, ac yn llwyddianus mewn sicrhau swm o arian grant i brynu y sied. Heb os mae Tesni wedi bod yn gyffeiliad i’r prosiect yma yn y dref, a hefyd i’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a phwysigrwydd sefydliadau’r Trydydd Sector – un arall o bobol ifanc y dref rhydym yn hynod falch ohoni.

Roedd pawb yn awyddus iawn i ddymuno’n dda i Tesni, a hithau hefyd yn awyddus iawn i pawb yno i wneud y defnydd gorau posib o’r prosiect a’r adnoddau.Ei apel annwyl ‘ffarwel dros dro’ oedd – defnyddiwch y ‘Sied’ a hefyd ‘yr ardd’ a rhanwch y newyddion da yma.

O.N. Beth yw’r ‘Sied Dynion’?

Am gyfnod hir mae ymchwil wedi dangos effaith negyddol unigrwydd ac arwahanrwydd ar iechyd a lles unigolyn.

Mae ‘Men’s Sheds’/’Sied Dynion’ yn fenter cymdeithasol a sefydlwyd mewn cymunedau, fel Pwllheli, er budd dynion.Heb os hefyd, yn ymwneud a chysylltiadau cymdeithasol ac adeiladu cyfeillgarwch, rhanu sgiliau a gwybodaeth – ac wrth gwrs llawer o hwyl; a phob ‘Sied’ yn edrych a’r weithgareddau yn dibynnu’n llwyr ar sgiliau a diddordebau’r grwp.

Cynghorydd Mici Plwm

Maer Tref Pwllheli


Latest News