Cynghorydd

 Eric Wyn Roberts (Plaid Cymru)

Yn frodor o Bwllheli, mae’r Cynghorydd Eric Wyn Roberts yn Cynghorydd Tref ers 31 mlynedd ac yn cynrychioli Ward Gogleddol y dref. Mae’n aelod o Blaid Cymru. Bu’n faer y dref o'r blaen ym 1998 -2000. Cafodd ei addysg yn ysgolion Troed yr Allt, Penrallt a Glan y Môr Pwllheli, cyn mynd i wneud Cwrs Arlwyaeth yn Ngholeg Technegol Llandrillo yn Rhos. Bu’n ofalwr Canolfan Frondeg Pwllheli am gyfnod. Bu’n Ysgrifennydd Clwb Pêl Droed Pwllheli a’r Cylch, yn Gyd-Arweinydd Cangen Urdd y Dref. Bu’n Gadeirydd dathliadau’r Mileniwm y Dref. Mae’n Ysgrifennydd Ymddiriedolwyr Capel Penlan (A) Pwllheli. Bu'n gweithio 27 mlynedd yn y maes Gofal Cymdeithasol gyda Cartrefi Cymru, fel Gweithiwr Cefnogol, Rheolwr Gwasanaeth, ac hyd yn ddiweddar fel Swyddog Datblygu Ansawdd. Mae ganddo nifer o ddiddordebau gan gynnwys, Golffio, Ffotograffiaeth, Teithio a Gwleidyddiaeth. 

12 Stryd Llygod, Pwllheli | (07974) 185278 | ericwyn@gmail.com


Who's Who