David Griffiths - Arlunydd

Ioan W. Gruffydd yn sôn am gyfraniad mawr ...

David Griffiths - Arlunydd

Yr oedd David Griffiths yn un o’m cyd-ddisgyblion yn Ysgol Ramadeg, Pwllheli ac yn un o ddisgyblion arlunio mwyaf dawnus a disglair y diweddar Elis Gwyn Jones, a oedd yn bennaeth yr adran gelf yno bryd hynny. Dywedir i David Griffiths gael ei ysbrydoli fel arlunydd gan ei daid, a oedd hefyd yn arlunydd portreadau tra nodedig. Yr oedd portread ei daid o’r Prif Weinidog, W.E. Gladstone, i’w weld yn Oriel Gelf Walker yn ninas Lerpwl ym 1889. Yn Lerpwl y cafodd David ei eni, ond symudodd y teulu i fyw i Bwllheli pan oedd ef yn saith mlwydd oed. O Ysgol Ramadeg Pwllheli, aeth i Goleg Prifysgol Llundain i astudio yn Ysgol Gelfyddyd Gain y Slade o dan gyfarwyddyd yr Athro Syr William Coldstream (1908–1987). Wedi graddio yno, sefydlodd David Griffiths ei hun yn fuan fel un o’r arlunwyr portreadau mwyaf blaenllaw. Daeth i enwogrwydd yn fuan wrth iddo gael ei wahodd i greu portreadau o ffigurau enwocaf y gymdeithas – aelodau o’r teulu brenhinol, llysgenhadon, archesgobion, aelodau amlwg gwleidyddiaeth a llywodraeth, arweinwyr byd masnach a diwydiant, ffigurau amlwg meddygaeth, y proffesiwn academaidd a chyfreithiol. Ymysg ei bortreadau adnabyddus y mae rhai o’r diweddar gyn-Archdderwydd James Nicholas, William Farish, cyn-Lysgennad yr Unol Daleithiau i'r DU, y diweddar Enoch Powell,y diweddar Gwynfor Evans, John Meurig Thomas,y diweddar George Thomas (Arglwydd Tonypandy) y diweddar Arglwydd Bernard Weatherill (dau a fu'n Lefarwyr Ty’r Cyffredin), Siân Phillips, Bryn Terfel, y diweddar Syr Geraint Evans, y diweddar gyn-Brif Weinidog, Arglwydd Callaghan, y diweddar gyn-Arglwydd Ganghellor, yr Arglwydd Elwyn Jones, y diweddar Arglwydd Cledwyn o Benrhos, cyn-Archesgob Caergaint, Y Parchedicaf Dr. Rowan Williams, cyn-Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Dr. Barry Morgan, Dr. Osian Ellis a Barry John. Ac ar fur Siambr y Cyngor Tref ym Mhwllheli, y mae portread David Griffiths o’r cyn-Archddewydd Cynan.

Cliciwch yma i weld rhai o luniau David Griffiths


Celebrities