Gwenan Mair Gibbard - Telynores a Chantores

Ioan W. Gruffydd yn sôn am gyfraniad y delynores a’r gantores ddawnus

Gwenan Mair Gibbard

A minnau’n fyfyriwr yn y Coleg ym Mangor, roedd ymhlith fy nghyd-fyfyrwyr dri brawd yn hyfforddi i fod yn weinidogion. Aeth un ohonynt yn weinidog i ardal Llanelli, un i Lyn Nedd, ac un i Ynys Môn. Y diweddar Barchg. R. Hedley Gibbard oedd hwnnw: gŵr a briododd Mair, un o ferched Prifathro’r Coleg, ac a fu’n weinidog yr Annibynwyr yn Llannerch-y-medd, cyn dod yn weinidog i Bwllheli (a Nefyn). Bu’n gwasanaethu fel Clerc Cyngor Tref Pwllheli am gyfnod. Gwnaethai Hedley gryn enw iddo’i hun fel cyfieithydd arloesol. Yn wir, cyfeiriwyd ato yn Narlith Coffa Hedley Gibbard Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn 2016, fel ‘Rolls-Royce o gyfieithydd.’

Eu merch hwy yw’r delynores a’r gantores, Gwenan Mair Gibbard, sydd bellach yn un o artistiaid gwerin amlycaf Cymru. Roedd pwyslais ar yr aelwyd ar bopeth Cymraeg a Chymreig, gan gynnwys canu gwerin a cherdd dant, a chafodd Gwenan nifer o gyfleoedd yn ifanc iawn i berfformio, yn bennaf drwy’r Capel (Capel Penlan, Pwllheli) a’r Urdd yn y dref. Dechreuodd ganu gwerin a cherdd dant gyda Iona Williams, ac wedi cyrraedd yr ysgol uwchradd cafodd sylfaen a chefnogaeth amhrisiadwy yn y maes gan ddwy o gynheiliaid y traddodiad yn ardal Pwllheli, sef Nan Ellis ac Alwena Roberts.

Ar ôl graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, a chwblhau gradd meistr yno mewn perfformio ac ymchwil ym maes cerddoriaeth Cymru, aeth i astudio’r delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, cyn dychwelyd i’w bro enedigol ym Mhwllheli. Erbyn hyn, mae wedi perfformio’n helaeth mewn gwyliau yng Nghymru a thramor, gan gyflwyno ei threfniannau ffres a chyfoes o’n caneuon a'n halawon traddodiadol. Mae’n un o’r ychydig berfformwyr sy’n arbenigo yn yr hen grefft o ganu cerdd dant hunan-gyfeiliant, ac mae ei thrydydd albwm ar label Sain, ‘Cerdd Dannau’, yn gasgliad blaengar sy’n darganfod hen drysorau ac yn torri tir newydd ym maes cerdd dant. Bu’n enillydd ym mhrif gystadlaethau telyn a chanu’r Eisteddfod Genedlaethol, Yr Ŵyl Gerdd Dant a’r Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon, a bu’n cynrychioli Cymru mewn gwyliau megis Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient (Llydaw), Cyngres Delynau’r Byd (Dulyn), Gŵyl Gymreig Gogledd America, Celtic Colours (Nova Scotia, Canada), Gŵyl Delynau Rhyngwladol Caeredin a Celtic Connections (Glasgow). Bu hefyd yn gyfeilydd ac yn feirniad swyddogol yn ein gwyliau cenedlaethol. Roedd Gwenan yn un o brif artistiaid cyngerdd agoriadol Womex yng Nghaerdydd yn 2013 a bu hefyd yn perfformio yn Efrog Newydd fel rhan o ddathliadau geni Dylan Thomas. Yn ddiweddar, bu’n perfformio yn Hong Kong a hefyd draw yn y Wladfa, Patagonia –- profiad a fu'n ysbrydoliaeth i gasgliad newydd o ganeuon a glywir ar ei phedwerydd cryno ddisg ‘Y Gorwel Porffor’ –- caneuon a cherdd dant am Y Wladfa, am Gymru ac am fywyd. Mae wedi cyd-berfformio gyda nifer o gerddorion amlwg gan gynnwys Cerys Matthews, Beth Nielsen Chapman, Dafydd Iwan, Meinir Gwilym, Bryn Terfel a Calan.

Yn 2016, ffurfiodd Gwenan, gyda Alwena Roberts, gôr merched newydd sbon, ‘Côr yr Heli’, gyda Gwenan yn arwain ac yn gosod ar eu cyfer. Mae’r côr yn cynnwys dros 80 o ferched o ardal Llŷn ac Eifionydd a maent yn cyfarfod ym Mhwllheli. Bu’r côr yn llwyddiannus yng Ngŵyl Gerdd Dant Llŷn ac Eifionydd yn 2016 ar gystadleuaeth y Côr Cerdd Dant Agored a hefyd daeth llwyddiant i’w rhan yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.

Mewn adolygiad yn Ninnau, Papur Bro Cymry Gogledd America, dywedwyd fod Gwenan Gibbard wedi cyfareddu’r gynulleidfa gydol yr Ŵyl gyda’i chadwyn o alawon Cymraeg ar y delyn a’i chanu caneuon Cymraeg traddodiadol a chyfoes. Roedd yn berfformiad prydferth gan chwip o gerddor medrus.

. . . “Gwenan Gibbard enthralled the audience throughout the Festival with her medley of Welsh music on the harp and her singing of the traditional and contemporary Welsh songs….What a beautiful performance by this accomplished musician.”
Ninnau, Papur Bro Cymry Gogledd America, Hydref 06 (Adolygiad cyngherddau Gŵyl Gymreig Gogledd America).


Celebrities