Huw Davies (Huw Tegai) - Cofrestrydd, Dramodydd ac un o hoelion wyth Gorsedd y Beirdd

Ioan W. Gruffydd yn cofio...

Huw Davies (HUW TEGAI), Cofrestrydd, Dramodydd ac un o hoelion wyth Gorsedd y Beirdd

Brodor oedd Huw Davies o Ddyffryn Ogwen, wedi ei eni yn Nhregarth ar Orffennaf 7, 1910. Daeth i fyw i Bwllheli a dod yn ŵr amlwg iawn ym mywyd cyhoeddus y dref yn dilyn cael ei benodi'n Gofrestrydd Geni, Priodi a Marw dros Benrhyn Llŷn.

Yr ieuengaf o bump blant, collodd ei fam, Margaret, pan nad oedd ond blwydd oed. Cyfnod anodd a chaled i'r teulu oedd hwnnw, a chyfnod prin iawn ei fanteision. Yn ardal Bethesda'r dyddiau hynny, doedd dim ond y chwarel ar gael i ganfod gwaith. Cofiai amdano'i hun yn gadael yr ysgol rhyw brynhawn Gwener a mynd am hanner awr wedi saith y bore Llun wedyn i ofyn am waith, a chael gwaith yn Chwarel y Penrhyn. Meddyliai am y chwarel mewn modd arbennig iawn: fel lle i hogi'r meddwl ac i finiogi'r tafod, a lle i ddysgu sut i siarad a sefyll drosoch eich hun. Wedi treulio rhyw bedair blynedd ar ddeg yn y chwarel, cafodd waith fel casglwr yswiriant i'r Prudential yn Nhregarth cyn symud i ymgymryd â'i gyfrifoldebau newydd fel Cofrestrydd ym Mhwllheli.

Gydol ei oes bu'n un o gyfeillion agos Cynan, gŵr a fagwyd ym Mhwllheli. Fyth oddi ar y diwrnod hwnnw pan alwodd Huw Davies ym Mhenmaen, Porthaethwy, ynghylch rhyw bolisi yswiriant a derbyn y fath groeso cynnes gan Cynan a'i briod, roedd eu cyfeillgarwch i barhau. Roedd Huw Davies, wrth gwrs, yn gyfarwydd ddigon ag enw Cynan cyn hynny, ac wedi darllen ei weithiau a gwrando arno'n pregethu a darlithio droeon, ond o'r diwrnod hwnnw pan alwodd yn ei gartref fel dyn yswiriant, roedd eu cyfeillgarwch i barhau a'i edmygedd o Cynan yn cynyddu fwyfwy. Roedd ganddo lawer o atgofion am ei ymweud â'r bardd.

Wedi dod i fyw i Bwllheli, cofiai fel y bu i Cynan ofyn iddo ef a Mrs. Mair Jenkins Jones i fynd yn ei gwmni i TWW i Boncana i fod â rhan yn nrama Dwywaith yn Blentyn (R.G. Berry). Wedi bod wrthi'n ymarfer am rai dyddiau, dywedwyd y byddai toriad ar gyfer hysbysebu ar ganol y ddrama. Protestiodd Cynan yn gryf yn erbyn hynny mewn drama Gymraeg nad oedd yn parhau ond am hanner awr. Pan ddywedwyd fod yr awdurdodau'n mynnu hynny, dan arweiniad Cynan, dyma fygwth cerdded allan. Achosodd hynny'r fath helbul. Galwyd hwy'n ôl, ac ni bu toriad hysbysebu yn y ddrama un act honno!

Pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Bwllheli ym 1955, Huw Davies oedd ysgrifennydd lleol Pwyllgor yr Orsedd, a chofiai deithio yng nghwmni Cynan i lawr Allt Salem yn eu hymchwil am leoliad addas i feini'r Orsedd. Dymunai Cynan stopio'r modur ar waelod yr allt a throi i ymweld â Ffynnon Felin Fach: ffynnon a gafodd ei haddasu ym 1967 a chynnal seremoni wrth osod plac arni gan gyfeillion Cynan ym Mhwllheli (a'r bardd a'i briod yn bresennol), a'r ffynnon yr oedd Cynan wedi ei hanfarwoli yn ei bryddest Mab y Bwthyn; y gerdd a enillodd iddo Goron Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon. Yn ei gerdd dywed Cynan:

'Does dim wna f'enaid blin yn iach
Ond dŵr o Ffynnon Felin Bach.
Sawl tro o dan ei phistyll main
Y rhoddais biser bach fy nain?
Tra llenwid ef â dafnau fyrdd,
Gorweddwn ar y mwsog gwyrdd.
Yno breuddwydiwn drwy'r prynhawn
A'r piser bach yn fwy na llawn,
A'r dŵr yn treiglo dros ei fin
Ac iechydwriaeth yn ei rin
Ar gyfer pob rhyw glefyd blin.

Roedd Huw Davies yn cofio sefyll yng nghwmni Cynan rhyw dro yn ymyl Liverpool House, Pwllheli, pan ddwedodd Cynan wrtho, "Yn y llofft acw ar y talcen agosaf . . . y'm ganwyd i ar fore Sul y Pasg, meddir, ym 1895." Ddwy flynedd wedi marw Cynan, Huw Davies a drefnodd fod Cyngor Tref Pwllheli yn gosod plac ar fur yr adeilad i gofio Cynan - plac o waith Jonah Jones.

Dros y blynyddoedd gwnaeth Huw Davies gryn enw iddo'i hun ym myd y ddrama. Fel gŵr amlwg yn y byd hwnnw, ac fel cyfaill Cynan, y meddylid amdano. Yn ifanc, ymddiddorai mewn pêl droed, a byddai ef a'i gyfoedion yn Nyffryn Ogwen yn mynychu a gwylio timau Everton a Lerpwl gan fynd i wylio dramâu yn theatrau'r ddinas fin nos. Arferai ddweud mai felly y magwyd ynddo'r diddordeb mawr yn y ddrama. Byddai'n darllen dramâu Shakespeare, ac yn mynychu dosbarthiadau nos Mudiad Addysg y Gweithwyr, cyn dod ei hun, ymhen amser, yn athro yn y dosbarthiadau hynny. I raddau helaeth, addysgu ei hun a wnaeth. Bu adeg pan fynychai ddosbarthiadau nos am bum noson bob wythnos, ar wahan i fynychu'r Ysgol Sul ac ysgolion haf Coleg Harlech. Bu cyfnod pan ymddiddorai mewn pysgota yn afonydd yr ardal gan gredu fod lleoedd felly'n "lle i enaid gael llonydd." Bu'n ymroddgar o blaid y mudiad heddwch. Bu'n gwasanaethu fel pregethwr. Cyfieithodd i'r Gymraeg eiriau cerdd, yr offeiriad a'r heddychwr, Stuttard Kenedy, i Ddifaterwch:

Pan wyliaf Iesu'n marw, fe gronna dagrau'n llyn
Drylliedig, unig, ydoedd ar ben Calfaria fryn,
Ond meddai islais ynof, "Ond nid fel 'na mae hi nawr,
Wna neb groeshoelio Iesu heddiw, Na, choeliai fawr."
Mae meddwl am wneud coron o ddrain hen berthi Llŷn
I'w rhoi ar ben yr Iesu yn cynddeiriogi dyn.
Mae pobl heddiw'n dirion, cas ganddynt drais a grym,
Anwaraidd fuasai pwyo i'w gnawd Ef hoelion llym.
Ac yno y'i gadwais yn unig yn y glaw,
Pawb wedi troi am adref yn hapus a di-fraw,
A phan gychwynnais innau fe glywais Ei ddwysaf gri,
"Mae'th ddifaterwch dithau mor chwerw â Chalfari."

Yr oedd Huw Davies - Huw Tegai - yn enw adnabyddus iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol lle'r enillodd ugain gwobr lenyddol, ac yn eu plith wobr y Beatrice Grenfell yn Aberdâr ym 1956. Ymgeisiodd hefyd am y Fedal Ryddiaith yn Abergwaun ym 1986, ac er nad enillodd yno, derbyniodd gryn ganmoliaeth gan y beirniaid. Bu'n cyfieithu dramâu a chyda'i gwmnïau drama gwahanol.bu'n ymddangos ar lwyfannau'r Genedlaethol. Wedi marwolaeth annisgwyl Erfyl Fychan ym 1968, cafodd Huw Davies ei ddewis yn Drefnydd Arholiadau Gorsedd y Beirdd - swydd y bu ynddi hyd Eisteddfod Llanelwedd 1993 - pan orfodwyd ef gan waeledd i gamu o'r neilltu. Ysgrifennodd yn ei gyfrol Dolennau fod "cymrodoriaeth aelodau'r Orsedd i mi yn unigryw, yn gwbl werinol, naturiol a chynnes gywir, a hynny er rhyfedded ein gwisgoedd a'n penwisgoedd anwastad ac ansad." Ym 1967 cyhoeddodd ei Lyfr o Ddeialogau wedi iddo ddod yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yng nghystadleuaeth 'Casgliad o Ddeialogau allan o Nofelau Cymraeg ar gyfer Aelwydydd ac Ysgolion Uwchradd.' Cawsai ei urddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Pwllheli 1955, a'i ddyrchafu i'r Wisg Wen yn Llandudno 1963.

Ymbriododd â Gladys Victoria M. Davies (1915 - 93) yn Eglwys Crist, Glanogwena. Deuai hithau o'r un ardal ac o'r un cefnir ag yntau, a llawenydd a boddhad mawr i'r ddau oedd llwyddiant eu tri mab disglair - Tudur, Raymond ac Elwyn - un yn llawfeddyg ymgynghorol, (yn Gymrawd o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon), un yn feddyg teulu, a'r llall yn bennaeth Adran Celfyddyd mewn Ysgol Eilradd.

Yn ei flynyddoedd olaf, bu Huw Davies yn dioddef yn enbyd gan dyndra'r ysgyfaint - "yr hen fegin," fel y galwai ef hynny. Bu farw yng Nghardydd yn 84 oed ar Awst 19, 1994


Celebrities