Ioan W Gruffydd yn cofio . . .
Mary Ellen Lloyd Jones M.B.E.
“Hysbys y dengys dyn
O ba radd y bo’i wreiddyn.”
Dyna fel y mae’r ‘Cyfaill’ di-enw yn dechrau adrodd hanes Mary Ellen Lloyd Jones (neu Mrs. Hugh Pritchard, fel y cyfeirir ati drwy’r erthygl a hynny heb grybwyll ei dau enw cyntaf gymaint ag unwaith) yn rhifyn Medi, 1923, o gylchgrawn Y Gymraes, a mynnir i’r hen gwpled gael ei wireddu ym mywyd y wraig yr ysgrifennir amdani. Yr oedd ei thras, meddir, i’w ganfod yn amlwg yn ei chymeriad ac yn y sêl a’r brwdfrydedd a oedd mor nodweddiadol ohoni.
Ei Rhieni
Unig ferch oedd Mary Ellen i William Jones a’i briod, Elizabeth, yr oedd eu cartref yng Ngwesty’r Eifl ym Mhwllheli. Tua’r flwyddyn 1893, yr oedd Gwesty Dirwestol yr Eifl yn Stryd Fawr Pwllheli (dros y ffordd i Fwyty Gwalia heddiw) yn gyrchfan boblogaidd ym mywyd y dref ac ardal Llŷn. Daethai William ac Elizabeth Jones i Bwllheli ar gais cyfeillion a gweithwyr dirwestol eiddgar i gadw ‘Temprans,’ neu Westy Dirwestol. Bu’r antur yn llwyddiant, yn gymaint felly fel o fewn dim amser, gwelid rhai cannoedd yn cyrchu yno, ac yn arbennig felly ar ddiwrnod marchnad ym Mhwllheli. Roedd William Jones a’i briod, meddid, yn gymwys iawn ar gyfer gwaith o’r fath. Roedd dawn arbennig gan William Jones i ddod ymlaen â phobl ac i’w hadnabod. Roedd ei briod, Elizabeth, hithau’n rhyfeddol o siriol ac yn fawr ei gofal o bawb a ddeuai i gysylltiad â hi. Byddai’n gwibio’n heini o le i le gan gyfarch hwn ac arall, a chan beri i bawb deimlo’n wir gartrefol yn Ngwesty’r Eifl. Yn fuan wedi symud i Bwllheli, ymroes William Jones yn llwyr i fywyd cyhoeddus, cymdeithasol a chrefyddol y dref. Cafodd ei ddewis yn aelod o Fwrdd Gwarcheidiol y Wyrcws, ac yn aelod o Gyngor Tref Pwllheli. Rhoddai o’i gefnogaeth a’i egni i hybu gwaith moesol a chrefyddol – ym maes dirwest a moes fel athro, fel holwyddorwr, fel arolygwr yr Ysgol Sul, fel arweinydd Gobeithlu, ac yn arbennig iawn fel aelod a blaenor yng Nghapel Salem ym Mhwllheli.
Ei Dau Blentyn
Cawsant ddau o blant – Mary Ellen a Rolant John. Daeth rhinweddau’r rhieni’n amlwg ynddynt hwythau. Mary Ellen oedd yr hynaf. Yn ifanc cafodd ei dysgu i ddefnyddio’i doniau gwahanol yng ngwasanaeth pobl eraill. Bu’n weithgar gyda’r Gobeithlu yng Nghapel Salem, fel yn y gangen-eglwys yn Nharsis. Gwasanaethodd am flynyddoedd hyd at ei phriodas fel organyddes yn Salem. Rhoes ei brawd, Rolant John Jones, yntau wasaneth nodedig i Salem. Yn Adroddiad yr Eglwys am 1965, dywed y gweinidog, y Parchg. Meirion Lloyd Davies: “Ym mis Mai bu farw Gamaliel ein heglwys, yr Henadur Rolant John Jones, Yr Eifl. Gwasanaethodd Salem ym mhob ffordd posibl, bu’n Flaenor am 35 o flynyddoedd, a threuliodd ei oes mewn byd ac eglwys, i wasanaethu ei Waredwr.”
Priodi Hugh Pritchard
Ym 1906, priododd Mary Ellen â Hugh Pritchard. Roedd eu cartref ym Mhwllheli yn Mount Pleasant – yr adeilad nesaf at Penlan Fawr. Ganwyd eu merch, Menna, ymhen blwyddyn, a bedydiwyd hi yn Salem fis Gorffennaf 1907. Cyfreithiwr ym Mhwllheli oedd Hugh Pritchard, a gŵr ifanc galluog y disgwylid pethau mawr oddi wrtho. Yn fuan, enillodd iddo’i hun le pwysig ym mywyd cyhoeddus y dref a’r cylch. Yr oedd yn flaenor yn Salem. Cafodd ei benodi’n Glerc Gwarcheidwaid y Wyrcws a’r Cyngor Dosbarth. Daeth yn aelod o’r Cyngor Tref a’r Cyngor Sir. Ef oedd Maer Pwllheli ym 1918 -1919. Yng nghanol ei ddefnyddioldeb a’i wasanaeth, ar Fawrth 11, 1920, bu farw Hugh Pritchard, yn 41 mlwydd oed, gan adael ei briod a’i ferch i alaru ar ei ôl.
Mae’r Parchg. John Hughes, gweinidog Salem, Pwllheli, ar y pryd, yn ysgrifennu yn Adroddiad yr Eglwys am 1920: “Collasom rai annwyl yn yr angau, ac yn eu plith ddau swyddog ffyddlon a gwerthfawr o’r eglwys. Yr oedd y cyntaf ym mlodau ei ddyddiau. Yr oedd y gwasanaeth mawr yr oedd eisoes wedi ei gyflawni yn peri inni ddisgwyl llawer oddi wrtho yn y dyfodol. Cysegrodd ei alluoedd i’r deyrnas; ond pallodd ei nerth ar y ffordd; byrhawyd ei ddyddiau.”
Trefnydd Gogledd Cymru i Gynghrair y Cenhedloedd
Ar waetha’r brofedigaeth fawr a blin o golli ei phriod ifanc, parhaodd Mary Ellen Pritchard â’i gwasanaeth a chynyddodd hyd a lled y gwaith hwnnw. Ynglŷn â’r rhyfel, gwnaeth waith arbennig mewn cysylltiad â symudiadau dyngarol ac elusennol, fel ysgrifennydd a thrysorydd cymdeithasau gwahanol. Cynorthwyodd lawer i ysgafnhau gwaith ei phriod yn ystod ei dymor fel Maer Pwllheli. Bu’n aelod o Bwyllgor y Pensiynau: pwyllgor a ddaeth wedyn yn Gyd-bwyllgor Gorllewin Cymru. Dyfarnwyd iddi anrhydedd yr M.B.E. fel cydnabyddiaeth o’i gwaith. Yr oedd Dirwest a Chrefydd yn bwysig yn ei golwg, a bu’n egniol iawn gydag Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru, ac ar Bwyllgor Gweithiol Cymanfa Ddirwestol Gwynedd. Bu’n Ysgrifennydd Undeb Neuaddau Pentrefol Deheubarth Sir Gaernarfon – undeb a brofodd yn llwyddiant ar gyfrif ei sêl a’i hymroad hi. Yna cafodd ei phenodi’n Drefnydd Adran y Merched o Undeb Cynghrair y Cenhedloedd dros Ogledd Cymru a Sir Aberteifi. Gweithiodd gyda’r plant yn yn Salem, Pwllheli. Etholwyd hi’n arolygwr Ysgol Sul y Plant. Yr oedd yn siaradwraig gyhoeddus dda a llawn argyhoeddiad.
Menna Pritchard
Ymadawodd ei merch, Menna Pritchard, â Salem ym 1923, a gadael Pwllheli, mae’n ymddangos, gan ymgartrefu yng Nghaernarfon. Priododd Menna ddwywaith. Y tro cyntaf gydag un Lloyd Williams, a chael dau o blant: Hugh Lloyd Williams a Bethan Lloyd Williams. Bu Bethan farw’n ifanc o dan amodau enbyd, naill a’i drwy damwain neu hunanladdiad. Ailbriododd Menna Lloyd Williams gyda gŵr o’r Alban, Campell Baird. Hi roes yr enw Elm Croft ar eu y tŷ yn Lôn Campbell, Caernarfon; ‘llwyfen’ yn tyfu o flaen y tŷ a ‘Croft’ am fod ei hail ŵr yn Sgotyn! Ar ôl marw’i hail ŵr, aeth hi a ffrind iddi, Miss. Lil Owen, Mur Mathew, Caeathro, i fyw i Wrecsam.
Priodi’r Parchg. John Lloyd Jones, B.A.
Ymadawodd ei mam, Mary Ellen Pritchard, â Salem. Pwllheli, ym 1924, a mynd i fyw i Gricieth - yn dilyn ei phriodas â’r Parchg. John Lloyd Jones, B.A., gweinidog y Presbyteriaid yno. ’Roeddent, mae’n debyg, yn gyfeillion agos i David Lloyd George a’i deulu. Cawsai John Lloyd Jones ei eni ym Mlaenau Ffestiniog ym 1876, a’i ordeinio ym Moreia, Caernarfon, yn Sasiwn Fawr y Diwygiad ym 1905. Bu’n weinidog ym Mwlchgwyn am un mlynedd ar ddeg, ym Mroncysyllte, ac wedyn yn y Capel Mawr, Cricieth, am dros ugain mlynedd. Disgrifiwyd ef ym Mwyddiadur ei enwad gan y Parchg. Stephen O. Tudor fel “gŵr llariaidd a bonheddig, a theimlid fod mwynder ei lais yn fynegiant cywir iawn o’i natur a’i gymeriad.” Nid oes sôn am ei briod na’i briodas yn y bywgraffiad. Yn dilyn ei ymddeoliad o Gricieth, aeth i fyw i Gaernarfon gan fyw yno yn Tan y Garreg, Lôn Ddewi, ac ymaelodi ym Moreia. Adroddodd un a’i cofiai fod gan Mrs. Mary Ellen Lloyd Jones “gryn bresenoldeb,” ac mai hi oedd yn actio rhan y Frenhines Fictoria yn y pasiant, Merched trwy’r oesoedd, a gynhyrchwyd gan Eglwys Moreia tua 1958 - 59.
Cyhoeddodd ei phriod, y Parchg. John Lloyd Jones, rai llyfrau – Cawell o Saethau ar gyfer gwaith y Gobeithlu, Phiol Cysur ar gyfer cleifion, a chyda Pedrog, ysgrifennodd Cofiant Plenydd. Bu farw’r Parchg. John Lloyd Jones ym mis Gorffennaf 1953.