Yr Athro J.R. Jones - Athronydd, Cenedlaetholwr, Heddychwr

Pryderi Llwyd Jones yn cofio am ...

Yr Athro J.R. Jones - Athronydd, Cenedlaetholwr, Heddychwr

Mae ei enw ar gofeb yn Stryd Penlan, Pwllheli, ac ar garreg fedd ym mynwent Dyneio, Pwllheli, ac os bu’r enw J.R. Jones yn enw cyffredin yng Nghymru, dim ond un Yr Athro J.R. Jones sydd. Gall Pwllheli fod yn falch iawn ohono: Athronydd. Cenedlaetholwr. Heddychwr. Dyna sydd ar ei garreg fedd. Wiliam a Kate oedd ei rieni, ac yn byw yn Rhondda Temperance, Stryd Penlan, nid nepell o Liverpool House, lle ganwyd Cynan, wrth gwrs. Roedd ganddynt ddau o blant, John a Mary. Ganwyd John ar Fedi 4, 1911, a chydag enw fel John Robert Jones, efallai ei fod wedi cael ei alw (yn Ysgol Troed yr Allt ac yna yn Ysgol Ramadeg neu Ysgol Sir Pwllheli) yn Sion, neu Robin neu Bob neu JR neu John Robat y Rhondda. John ydoedd i’r teulu. Ond fe ddaeth i gael ei adnabod fel J.R. Jones - yr Athro J.R. Jones. Er iddo fod yn ymgeisydd am y weinidogaeth gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru, wedi iddo gael dosbarth cyntaf mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, rhoddodd ei fryd yn llwyr ar athroniaeth, ond nid oherwydd iddo golli ei ffydd. I’r gwrthwyneb, dyfnhau wnaeth ei ffydd, ac fe barhaodd yn aelod ffyddlon o’r eglwys ac yn bregethwr cynorthwyol ar hyd ei oes. Bu’n Athro Ysgol Sul i oedolion yn Eglwys Y Triniti, Abertawe hefyd. O Aberystwyth aeth i Goleg Balliol yn Rhydychen, lle’r enillodd radd D.Phil. Priododd â Julia Roberts o Nefyn ym 1943. Diolchwn i'w hunig ferch, Betsan, am y lluniau o'i thad.

Penodwyd ef yn ddarlithydd yn ei hen goleg yn Aberystwyth, cyn ei benodi’n Athro Athroniaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru yn Abertawe ym 1952, ac yno y bu nes ymddeol. Bu farw ar Fehefin 3, 1970 yn Abertawe, a’i gladdu ym Mynwent Dyneio, Pwllheli, yn yr un bedd a’i fam a’i dad, ac yno y claddwyd ei briod, Julia, yn ddiweddarach. Yno hefyd y claddwyd llwch ei chwaer, Mary.

Ar bapur, mae’n fywyd tawel academaidd, athronydd llwyddiannus a meddyliwr mawr, ac o edrych ar restr ei gyhoeddiadau (yn lyfrau ac erthyglau) mae tua 50. Cafodd y cyfle a’r amser i ysgrifennu a myfyrio yn ei stydi. Ond fe fyddai meddwl hynny yn gamgymeriad mawr ac yn gam â J.R Jones. Nid gŵr y Tŷ Ifori mohono.

Gan iddo farw dros ddeugain mlynedd yn ôl, nid yw enw J.R. Jones i’w glywed mor aml ag ydoedd yn y 60au a’r 70au o’r ugeinfed ganrif. Ond bu ei ddylanwad yn fawr iawn, nid yn unig yn ei faes fel athronydd enwog (ac y mae llyfrau wedi eu hysgrifennu am ei athroniaeth a’i ddylanwad fel athro) ond hefyd ei ddylanwad mawr ar y deffro cenedlaethol yng Nghymru. Er yn eiddil o gorff ac yn ŵr gostyngedig ac addfwyn, yr oedd angerdd a dwyster mawr yn ei argyhoeddiad, a chafodd ddylanwad mawr ar genhedlaeth y 60 a’r 70au. Fel Cristion ac athronydd bu’n lais a roddodd ddehongliad i’r geiriau ‘argyfwng gwacter ystyr ein hoes’. Fel Cymro bu’n broffwyd a roddodd gyferiad i genedlaetholdeb Cymreig a Chymraeg yng nghanol dylanwad mawr Prydeindod. Ac fel Heddychwr gwnaeth y ffordd ddi-drais yn weledigaeth o rym cariad a heddychiaeth mewn bywyd. Dyna paham yr oedd arweinwyr cynnar Cymdeithas yr Iaith, awduron, pregethwyr, ymgychwyr heddwch a gwleidyddion yn barod i’w ddyfynnu ac i wrando arno. Yn y cyfarfod i ddadorchuddio’r gofeb yn stryd Penlan, Pwllheli, ym 1988, Emyr Llewelyn a soniodd am ei weledigaeth angerddol. Pwy sy’n hidio am ddadleuon a rhesymeg JR Jones? meddai, sgerbwd marw yw’r rheiny o’u cymharu ag anadl einioes ei weledigaeth. Go brin y gellid galw ei athroniaeth yn sgerbwd marw (di-brisio athroniaeth yw hynny, ac fe fyddai JR yn wfftio’r fath ragfarn ac anwybodaeth!) ond ni fyddai neb yn anghytuno â’r sôn am ‘anadl einioes ei weledigaeth’. A’r Dr. Meredydd Evans ddywedodd amdano, ni phetrusodd rhag traethu ei farn yn hollol ddiflewyn ar dafod. Dadleuodd dros hedddychiaeth a hynny weithiau ar adegau anodd; heriodd uniongrededd diwinyddol ei ddydd yn hollol ddi-amwys…bu’n amddiffynnydd dygn i rai o aelodau dirmygedig Cymdeithas yr Iaith. Nid oedd ganddo ofn cyflwyno safbwyntiau amhoblogaidd ac ni faliai yr un botwm corn am ddod ymlaen yn y byd.

Nid dyma’r lle i fanylu ar ei feddwl a’i waith ond rhaid enwi’r gyfrol, Ac onide, sydd yn cynnwys traethodau fel Yr angen am wreiddiau, Argyfwng Crefydd Swcwr, Y synaid o genedl ac I ti y perthyn ei ollwng. Bu farw J.R. Jones ym 1970 yn 59 oed, ac yr oedd ei farw cynnar yn golled aruthrol i Gymru a oedd angen arweinaid ac ysbrydoliaeth y Proffwyd o Bwllheli.

Talfyriad o sgwrs a draddodwyd ar 'Utgorn Cymru' (Canolfan Uwchgwyrfai)

Er Cof am fy nghyfaill
Yr Athro J.R. Jones

(fel eu traddodwyd ar ddydd ei angladd
Yng Nghapel Penmownt, Pwllheli)

Wr eiddil gwelw ei ruddiau, - Athronydd,
Meithrinwr meddyliau;
Dringodd ym mrwydr ei angau
Yn fur dros ei bur hoff bau.

I Gymru’n deyrngar, trosti bu’n barod
I droi, yn aberth i’r drin, ei wybod;
A dioddef amarch wrth rymus warchod
Hyder yr ifanc a’u beiddgar drafod;
Er dwndwr hen Brydeindod, - ni syflai,
Yr Iaith a wardiai rhag tranc merthyrdod.

Tristwch y gwacter ystyr
Oedd boen i’w brynhawnddydd byr;
Yn y frwydr ar Galfari
Gwelai uno’r Goleuni;
Iddo ef Gallu’r Nefoedd
Musterum tremendum oedd.

Er yr archoll, o chollwyd – ei haul ef,
Y lamp ni ddiffoddwyd;
Erys yn hir eirias nwyd
Ein dewraf, braffaf broffwyd.

Gwyndaf


Celebrities