Cynan - Baled Largo o Dre Pwllheli

Pan oeddwn i’n hogyn flynyddoedd yn ôl
A breuddwydion hogyn yn llanw fy nghôl,
Ew! ’roedd traeth Pwllheli’n olygfa hardd,
Ac yn llawn o’r awen i fachgen o fardd.
’Roedd yno sheltars, a thrams a mul.
A thyrfa o bobol bob bore Dydd Sul,
Pan fâi’r haul yn twnnu a’r môr yn las,
Yn mynd am dro wedi moddion gras
Gan rodio’n freuddwydiol ar hyd y prom
I gnoi eu cil ar ryw bregeth drom;
A ninnau’r hogiau
Yn dotio ar ffrogiau
Dydd Sul y genethod, a’r awel hallt
Yn dwyn rhosyn i’w grudd a modrwyau i’w gwallt,
Ac yn ffraeo â’n gilydd, heb ddim amhariad,
Pa un ohonynt oedd inni’n gariad,
A’r chwarae’n troi’n chwerw, at daro bron,
Tu ôl i gwt band Glan Môr Solomon,
Nes i’r band ddechrau chwarae emynau neis
O flaen cinio Dydd Sul a’i bwdin reis;
A’r tywod glân am filltiroedd fel ’tae
Rhyw gryman o aur ar dorri trwy’r bae.

Ond pe baech chi’n gadael y prom a’i swyn
Ac yn mynd draw am Docyn Brwyn,
Tua cheg yr harbwr ac Afon Erch,
A’r cychod pysgota, ’doedd ffordd’no ’run ferch,
Dim ond iots fel y “Redwing” a’r “Fly Away,”
A chriw o hen bysgotwyr y dre
Yn cyweirio’u rhwydi dan smocio shag,
Ac yn eu plith fe gaech ambell hen wag:
“Benja,” a “Largo” a “Thwm Pen Slag,”
“Now Ostrelia,” a “Siencyn Brawd Huw,”
A “Ned Foreign Bird,” a “Bo’sun Puw;”
Byth yn mynd allan i ’sgota ddydd Sul.
(’Roedd Pwllheli’n barchus o’r llwybyr cul),
Ond yn trwsio’u gêr erbyn llanw Dydd Llun
Ac yn dal pen rheswm ag unrhyw un
A ddoi heibio ffordd’no wrtho’ hun
Ag amser i’w sbario ar ei rawd
A tsiou o faco i ’sgotwr tlawd;
Pob un yn angori
Yng nghanol ei stori
A’i deud hi fel darn o “poetic prose.”

Ond y ffraethaf o ddigon oedd Jesreel Jôs.
Jesreel Jôs, aeth â mi sawl gwaith
I bysgota mecryll. A dyma ichi ffaith,
’Chymerai-fo ’run geiniog goch
Gan hogyn ysgol sir, ond chwerthin yn groch
“Taw, y lembo! Dos â’r mecryll i’th fam
A dywed wrthi na hidiwn-i mo’r dam
Ȃ gwneud pysgotwr ohonot ti.
Yn lle’r pregethwr fwriadodd hi.”
Jesreel Jones a’m dysgodd yn llanc
Sut mae gafael yn ddiogel mewn cranc,
A sut mae gwneud abwyd o ddarn o’ch crys,
A sut mae teimlo ar flaen eich bys
Blwc bach ar y lein wrth bysgota lledi.
Gwyddai siantis y môr a’r hen faledi,
A sut i gael llinell syth wrth y llyw
Wrth Dŵr Capel Batus neu Fynydd Rhiw.

A llawer i stori ges i ganddo erioed:
Y smyglars yn dianc rhag Sergeant Lloyd,
A sut ’raeth y “Deuddeg Apostol,” yn siwr
Ar goll yn “Safn Uffern,” i waelod y dŵr.
A gwrhydri Jesreel dros foroedd maith
Mewn llawer ysgarmes, a hanes y graith
Uwch ei lygad chwith, pan achubodd-o ferch
Yn San Domingo rhag ysbeilwyr erch,
A’r storm pan oedd llewod gwyllt yn y cargo.

Ond ei stori orau oedd ei stori am “Largo,”
A adroddodd wrthyf ger Tocyn Brwyn
Un bore Sul o hafddydd mwyn,
Nes peri im anghofio’n lân
Am ginio Dydd Sul ac Ysgol Gân.

Wel, y bore Sul hwnnw pan ddeuthum i’r fan,
’Roedd Largo yn eistedd ar fainc y lan
Yn athrist gan syllu i lawr i’r môr
A’i gap-pig-loyw “back-to-fore,”
Yn eistedd ei hunan a’i ben rhwng ei ddwylo
Mor llonydd â delw, ond yn gwneud sŵn wylo.

Ac meddwn innau: “Be sy’ ar yr hen gargo?
Jesreel Jôs, be’ di’r mater ar Largo?”

“O,” meddai Jesreel, “druan ag o!
Mae’r hen bererin ymhell o’i go.’
Mae o fel’na bob dydd ers dros wythnos, reit siwr,
Yn ocheneidio uwchben y dŵr,
A’r cyfan, was, o achos rhyw ferch
Sydd heb fod yn digwydd dychwelyd ei serch.

Rwan, cymer di gyngor hen lanc fel fi,
A phaid â cholli dy ben, da thi;
Am unrhyw ferch yn y byd mawr crwn,
Rhag ofn yr ei dithau ’run fath â hwn.
Yn lle syrthio mewn cariad, ac wedyn cael cam,
Sticia di, ’machgan , at dy fam.
Dyna’r anhwylder sy’n poeni’r hen law,
Mae o’n fan ’na bob dydd, ar hindda a glaw,
A’r cyfan, cofia o achos rhyw ferch;
A dyna iti, was-i-bach, stori ei serch.

Roedd Largo’n pysgota un nos yn llon,
Bythefnos yn ôl ar fôr di-don
Ger Trwyn y Garreg, ac yn canu’n iach
Wrth osod yr abwyd ar ei fach
A gollwng y lein tan y lleuad wrth blwm
I’r banc hwnnw lle mae’r lledi trwm.

Yn sydyn reit, dyma andros o blwc,
‘Ew!’ meddai Largo, ‘dyma imi lwc!
Pysgodyn mawr, ne’ mi fwyta’i ‘nghap.’
A dyna’r lein yn rhedeg allan chwap.
‘Ohoi!’ meddai Largo, “sturgeon ne’ddim,
’Run fath â hwnnw ddaliodd Wil Cim;
Gwerth arian da a sbri, mi wn,
Yn Siop Rebeca, mi ga’i sofran am hwn.
Ond gofalus rwan, - dim toriad, dim twyll,
Rhaid ei weindio fo i mewn gan bwyll, gan bwyll.”

A dyna weindio’r lein, yn ara’ dirion,
Ond Bobol Annwyl! Gwared y Gwirion!
Be’ welai Largo’n dwad i’r top?
Morforwyn brydferth fel lolipop,
Yn esgyn i frig y dyfroedd hallt
A’i fachyn-o’n sownd ym modrwyau’i gwallt.
A hwnnw fel arian byw, wyt ti’n dallt?

Wel, ’fedrai Largo ddeud yr un gair,
Ond syllu arni fel ffŵl pen ffair.
Un ’swil ydi o efo merched erioed,
Un ynfyd o swil, o ddyn trigain oed,
Ac er fy mod innau fel yntau’n hen lanc,
Nid am yr un rheswm – Be’ ddwedaist ti? Swanc?
Cau did y geg, ne’ chei-di mo’r stori.

’Roedd Largo mor llonydd â giâr yn gori
Yn eiste’n ei gwch ac yn syllu’n fud
Yn wyneb morforwyn brydfertha’r byd,
Ei gruddiau cyn goched â’r cwrel ei hun,
Ei llygaid cyn ddued ag eirin Llŷn.
A’i gwallt yn sgleinio fel arian byw
Ar wyneb y môr wrth ymyl y llyw.
A Largo heb wybod yn iawn beth i’w wneud,
A heb wybod o gwbl beth i’w ddweud.

“Noswaith dda,” meddai merch y wendon hallt,
“Mae’ch bachyn-chi, syr, yn sownd yn fy ngwallt;
A mae rhywbeth yn gwingo, ’rwy’n meddwl mai’r worm,
Ac yn chwarae hafog â thonnau fy mherm.

A fyddech chi cystal, syr,” ebe hi,
Ȃ’m gollwng yn rhydd i ddychwelyd i’r lli?”

Ar hyn dyma Largo yn torchi ei lawes
A’i chodi i’r cwch, a hithau’r g’nawes
Yn eistedd o’i flaen yng ngoleuni’r lloer
A pherlau’r dwfr rhwnng ei dwyfron oer;
Ond dyna a welai Largo’n beth od
O’i gwasg i lawr dim ond cynffon cod!

Ȃ bysedd crynedig, nid ar chwarae bach
Fe lwyddodd o’r diwedd i ddatod ei fach.

“Diolch, del,” meddai hithu mewn llais fel y gwin
Gan symud i eistedd reit ar ei lin,
A’i gofleidio’n ei chôl, fel mewn pictiwrs clas,
A rhoi cusan hir reit dan ei fwstas.
A Largo’r peth ffôl
Yn ei gollwng o’i gôl
A hithau yn llithro i’r dwfr yn ôl.

Dadebrodd yntau pan welodd o hyn,
A llefain o ddyfnder ei enaid syn,
Gan geisio cael gafael trwy sblas y wendon
Tan olau’r lloer ym môn ei chynffon,
“Forforwyn fach, annwyl, arhoswch yn wir.
’Rydach chi’n ’neall i’n well na merched y tir,
’Ches i ’rioed yn fy mywyd gusan mor hir.
Na ddychwelwch i’r lli,
Dowch i fyw efo mi,
Forforwyn fach, annwyl, gwrandewch ar fy nghri.
’Does gen i’n fy mwthyn ond siambar a thaflod
Ond mae hynny’n well na byw ar waelod
Y môr, yng nghwmpeini penwaig hallt,
A chranc a chimwch yn cerdded drwy’ch gwallt,
A chysgu yng ngwely’r llysywod hir;
Forwyn fach, neis, dowch i fyw ar y tir.”

Ond gwenu a wnâi merch y môr, gan ddweud
Fod yr hyn a fynnai’n amhosib’ ei wneud,
“Ac os mynnwch chi hefyd wybod pam,
’Rydw i’n dal i gofio cyngor ’mam,
’Dydi hogiau Pwllheli’n hidio’r un dam,
Ar ôl blino caru, be’ ddaw o’r ferch;
Gwylia dithau, ’r un fach, rhag credu i’w serch.

Ac ’rwy’n cofio trychineb Llymri Llwyd,
Cyfnither i mi, a ddaliwyd yn rhwyd
Now Ostrelia flynyddoedd yn ôl.
Fe fu hi mor wirion â mynd yn ei gôl
I fyw ar y lan, ‘fel pet,’ meddai fo,
I’w eneth fach ddengmlwydd Jemima Jo.
Addawodd Now iddi dwb golchi ei wraig
A’i lanw bob dydd â gwymon y graig,
A Llymri gydsyniodd.

Cyn pen wythnos ffromodd
Now Ostrelia wrth weled cregin
A gwymon yn boetsh hyd lawr ei gegin.
A dechrau tuchan ei fod wedi blino
Hel berdys a gwichiaid a chocos i’w chinio,
A Llymri druan ddechreuodd edwini,
Ac yna, o’r diwedd, ar ôl iddi huno,
Fe’i gwerthwyd gan Now
Ostrelio, Ow! Ow!
I sioe anifeiliaid a ddaeth i Bwllheli,
I fwydo rhyw forlo a wnâi ngamp â pheli.
Ow, Llymri, a’i chamwedd a’i diwedd dwys,
Ei gwerthu gan Now am dair ceiniog y pwys!”

“Wnawn i byth beth felly,” ochneidiai Largo,
“’Rwy’n nabod Now. – Fe ŵyr pawb, neno’r argo,
Nad ydyw hwnnw ond cythraul mewn croen.
Ond, ledi, ni rown ichi funud o boen.
’Rwy’n ddiniwed fel y glomen, yn ffeind fel yr oen.
Pe baech chi ond dwad i fyw ataf fi
Fy nefoedd fyddai ’tendio bob dydd arnoch chi.
Mi brynwn i bram, a mynd â chi am dro
I weled y dref ac i weled y fro.
Mae ’na bictiwrs ardderchog yn Neuadd y Dre;
Caem fynd yno bob nos fel dau gariad, yntê?
Ac mae Siop Pwlldefaid yn dda am fargeinion,
Mi bryna’i ffrog laes i guddio dy gynffon.
Paid, siwgwr-gwyn-candi, â nofio i ffwrdd;
O! tyred yn ôl ataf i ar y bwrdd!”

Ond taflu un cusan a wnaeth hi â’i llaw
Ac ysgwyd ei phen a nofio draw;
“Diolch ichi’r un fath, f’anwylyd del,
Ond mae’r peth yn amhosib’. Ffarwel! Ffarwel!”
Ac fe lithrodd o’r golwg o dan y swel.

*****

A byth er hynny mae Largo bob dydd
Yn eistedd fan yma, a’i olwg yn brudd,
Yn eistedd fan yma a’i ben rhwng ei ddwylo,
Yn syllu i’r dŵr ac yn gwneud sŵn wylo,
Yn syllu a syllu i waelod y môr,
A’i gap-pig-gloyw ‘back-to-fore,’
Yn syllu i waelod y dyfroedd hallt
Ac yn disgwyl gweld morwyn ariannaid ei gwallt,
Ei gruddiau cyn goched â’r cwrel ei hun,
A’i llygaid cyn ddued ag eirin Llŷn.

Rŵan, cymer di gyngor hen lanc fel fi,
A phaid â cholli dy ben, da thi,
Am unrhyw ferch yn y byd mawr, crwn,
Rhag ofn yr ei dithau ’run fath â hwn.”


Poets