Yn Llŷn ac Eifionydd, doedd ansawdd bywyd y werin gyffredin ddim gwell nag yn
unman arall yng Nghymru. Un o’r disgrifiadau enwocaf o fywyd gwledig tlawd Cymru
chwarter olaf y ganrif . . . yw hwnnw o eiddo Robert Thomas (Ap Fychan),
Llanuwchllyn, sy’n sôn am safon byw erchyll y werin ac am ddideimladrwydd
Goruchwyliwr y Tlodion.
“Yr wyf yn cofio mai tŷ newydd tlawd iawn oedd ein tŷ newydd ni. Yr oeddym erbyn
hyn y deulu lluosog, a swllt y dydd, ar ei fwyd ei hun, oedd cyflog fy nhad yn yr
hanner gaeafol o’r flwyddyn, ac yr oedd hanner pecaid o flawd ceirch yn costio i ni
ddeg swllt a chwe cheiniog; felly, prin y gallem gael bara, heb sôn am enllyn, gan y
drudaniaeth. Buom am un pythefnos heb un tamaid o fara, caws, ymenyn, cig na
chloron. Digwyddodd i ni gael ychydig o faip, a berwai ein mam y rhai hynny mewn
dwfr, ac a’u rhoddai i ni i’w bwyta gyda y dwfr y berwesid hwynt ynddo, ac nid oedd
ganddi ddim oedd well iddi ei hun, er bod un bychan yn sugno ei bron ar y pryd. Yr
wyf yn cofio ei bod yn wylo am ei bod yn gorfod rhoddi i ni ymborth mor wael.
Gwelais hi yn prynu rhuddion i’w gwneud yn fara i ni. Gwingem ein gorau rhag tlodi,
ond y cwbl yn ofer.
“Yr oedd gan fy rhieni y pryd hwnnw wely-plyf da; ond gan ein bod ar y pryd yn cael
cymorth plwyfol, daeth Overseer y plwyf, a’i fab gydag ef, i’n tŷ ni, a thynasant y
gwely oddi tan fy nhad, yr hwn oedd i olwg ddynol ar y pryd bron marw, â’r
synhwyrau yn drysu yn fawr gan rym tanllyd y clefyd, a gwerthasant y gwely i ddyn
o’r ardal oedd ar gychwyn i America, a gosodwyd fy nhad i orwedd ar y gwellt . . . yr
wyf yn cofio gweled yr Overseer, gyda pherffaith dideimldrwydd, yn myned â’r gwely
ymaith.”
Doedd achos teulu Ap Fycan ddim mor anghyffredin â hynny . . . Roedd tlodi enbyd
yn dilyn cyfres o gynaeafau gwaelion a’r Deddfau Ŷd feltith yn ychwanegu at loes y
werin dlawd. Tai bychain, gwaelion, oedd tai gwerinos Llŷn ac Eifionydd, yn brin o
ddodrefn, y toeau’n amlach na pheidio yn gollwng, yn fagwraeth parod i bob clefyd a
phla.
Trown yn awr at Ddeddf y Tlodion, 1834, ac at Wyrcws Undeb Pwllheli. Conglfaen y
Ddeddf oedd sefydlu Tlotai ac i hyrwyddo hyn, rhanwyd Sir Gaernarfon yn bedwar
rhanbarth a elwid yn Undebau – Pwllheli, Conwy, Caernarfon a Bangor / Biwmares.
Ymhellach, rhennid pob Undeb yn rhanbarthau o glwstwr o blwyfi – yn achos Undeb
Pwllheli yn bedwar rhanbarth sef Cricieth, Denîo, Aberdaron a Nefyn. I weinyddu’r
Undeb sefydlwyd Bwrdd Gwarcheidwaid (Board of Guardians) gyda phob plwy yn
ethol cynrychiolydd yn flynyddol, a’r plwyfi mwy poblog yn ethol dau gynrychiolydd.
Rhaid oedd i bob Gwarcheidwad gael gwerth trethiannol o £25 y flwyddyn neu fwy ar
ei eiddo. Afraid dweud mai’r ffermwyr a’r tirfeddianwyr oedd bron y cyfan o aelodau
Bwrdd Undeb Pwllheli! Cynhelid yr etholiad cyntaf ar Fehefin 3ydd 1837 ac yna’n
flynyddol ar y dydd Iau cyntaf wedi’r 25ain o Fawrth. Awdurdodwyd pob Undeb i godi
wyrcws o fewn ei derfynau ond yn ystod deng mlynedd cynta’r Ddeddf, bu Undebau
Cymru’n bur hirymarhous i ufuddhau i’r alwad. Saith tloty yn unig a sefydlwyd drwy’r
wlad yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd Pwllheli yn un ohonynt.
Cynhaliodd y Bwrdd Gwarcheidwaid ei gyfarfod cyntaf ar yr wythfed o Fehefin, 1837,
yng Ngwesty’r Crown ym Mhwllheli. Etholwyd John Lloyd, sgweiar Trallwyn, yn
Gadeirydd, a David Williams, cyfreithiwr, a thad Syr Osmond Williams, yn Glerc ar
gyflog o £60 y flwyddyn. Eisoes cafwyd rhybudd cyhoeddus ym mhapurau Saesneg
y sir y byddid yn cynnal cyfarfod o’r Bwrdd yn y Guild Hall, Pwllheli, ar yr 20fed o
Fehefin, i benodi pedwar Swyddog Meddygol a phedwar Swyddog Elusennol, un o
bob un ar gyfer pob rhanbarth. Dyledswyddau’r Swyddog Meddygol fyddai affording
medical and surgical assistance, medicines and vaccination . . . ac yn achos y llall, y
Lifin Offis (Relieving Officer) fel y’i gelwid ar lafar, rhaid oedd iddo fyw yng nghanol ei
ranbarth a bod ar gael bob amser, not following any trade or profession whatever.
He will also be required to understand the Welsh and English languages, to write a
good hand and be a fair accountant. He must give security for £150. Amrywiai
cyflogau’r meddygon yn ôl poblogaethau’r rhanbarthau – Pwllheli £70, Cricieth £55,
Nefyn £55 ac Aberdaron £50, yr olaf i dderbyn £10 y flwyddyn yn ychwanegol
oherwydd it will be deemed necessary that he should keep a horse. Dewiswyd
Archwiliwr (Auditor) hefyd, sef William Lloyd, Llwydiarth, ac mae’n ddiddorol sylwi fod
Ebenezer Thomas, Clynnog (Eben Fardd) yn un o’r ymgeiswyr aflwyddiannus am y
swydd hon.
Gorchwylion cynta’r Bwrdd oedd delio â thlodion y rhanbarthau – yr hyn a elwid
yn Examination of Paupers. Cafwyd nifer o achosion nodweddiadol. Er enghraifft,
gofynnwyd i William Roberts, ffermwr priod di-blant o Nant Gwrtheyrn, gadw ei fam
oedranus. Achosion cynnal a chadw, codi a gostwng cymorthdal, delio â chwynion
diddiwedd, ynghyd â materion yn ymwneud â’r Wyrcws a fu prif waith y Bwrdd o’i
gychwyn. Bu’n cyfarfod yn achlysurol yng Nghricieth a’r Sarn, ond Pwllheli oedd ei
fan cyfarfod rhelaidd. Yn ei gyfarfod ar 20 Mehefin, 1837, daeth i delerau am Ystafell
Bwyllgor yn Neuadd y Dref.
Ar 20 Medi, 1837, arwyddwyd caniatâd i godi Wyrcws ym Mhwllheli ar gyfer 200 o
bobl, a ar y 13eg o Ragfyr, penderfynwyd prynu Llain Gam gan William Glynne
Griffith am y swm o 500 gini. Ymhen deufis derbyniwyd pum cynllun ar gyfer y
Wyrcws newydd, a’r un a hoffid fwyaf oedd un William Thomas. Dechrau 1838,
anfonwyd y cynllun hwn ymaith i Lundain, at Gomisiynwyr y Ddeddf er cael sêl eu
bendith arno. Erbyn diwedd 1938, roedd y gwaith o adeiladu Wyrcws Pwllheli yn
mynd rhagddo, am bris cytundeb o £2769.
Symudodd Bwrdd Gwarcheidwaid Undeb Pwllheli yn hynod o gyflym felly, ond wedi’r
elwch a’r gwibio, roedd yn rhaid gofalu a gwarchod pob dimai i dalu am y lle.
Tynhawyd y dwrn am yr arian. Daeth cyflog Swyddog Lles Rhanbarth Cricieth i lawr i
£40 p.a. pan benodwyd un newydd am 1838. Richard Jones, Pant Glas, oedd
hwnnw, gŵr ifanc wyth ar hugain oed . . .
Dywed haneswyr mai Wyrcws Pwllheli oedd yr unig un yn y sir i’w godi heb rhyw
helyntion mawr ynghlwm ag ef. Ym Mangor bu ffraeo enbyd a chafwyd gohirio cyson
oherwydd yr holl ymryson. Nid agorwyd y Wyrcws yno tan Medi 1845. Yr un oedd y
gân yng Nghaernarfon (1846), ac yng Nghonwy (ail hanner y ganrif).
Cyn agor Wyrcws Pwllheli, roedd rhai gorchwylion holl bwysig i’w cyflawni. Nid y
lleiaf o’r rhain oedd penodi Meistr a Meistres, Y Governor and Matron, i reoli’r lle o
ddydd i ddydd. Gallwn ddychmygu awyrgylch syber cyfarfod y 6ed o Dachwedd 1839
gyda’r Gwarcheidwaid pwysigfawr yn torsythu mewn grym a gallu. Wedi hen ymhél
â’r ceisiadau, cafwyd rhestr fer o dri, sef Henry Jones, Pwllheli, David Roberts, Sir
Fôn, ac Owen Hughes, Bangor. Gyda mwyafrif o ddwy bleidlais yn unig, er gwaethaf
cysylltidau teuluol a chymdeithasol Henry Jones, ac ambell aelod o’r Bwrdd,
penodwyd Owen Hughes yn Feistr, a’i wraig yn Fetron Tloty’r Undeb yn nhref
Pwllheli. Ei gyflog fyddai £50 p.a. to find their own tea and sugar, beer and any other
extras not included in the articles ordinarily furnished to the paupers.
Roedd popeth wedi ei drefnu felly ar gyfer Teyrnas y Wyrcws â’i gormes a’i gwarth,
ac ar ddiwedd Ionawr 1840, cadarnhaodd yr Arolygwr fod yr adeilad yn foddhaol ac
yn barod i’w ddefnyddio. Cafodd £141 am ei holl drafferth. Talwyd gweddill y ddyled
i’r adeiladydd, rhoed sub o £5 i Owen Hughes, a thalwyd £45 i Ellis Griffith, Cabinet
Maker, am welyau o ryw fath. Lluniwyd deubeth arall.
Yn gyntaf, bwydlen y Wyrcws. Fel rheol, yr un peth a geid i frecwast a swper – uwd
blawd ceirch (7 owns i’r dynion a 6 owns i’r merched) efo dogn o laeth enwyn. I ginio
rhoid 4 owns o gig ar y Sul ac amrywiaeth blaen o datws wedi eu berwi, bara,
penwaig, potes, caws neu lobsgows. Câi’r ‘hen bobl’ (dros 60 oed) eu breintio â chig
ar ddydd Mercher yn ogystal. Arferai’r Gwarcheidwaid drafod y fwydlen yn aml ac
arbrofi o hyd ac o hyd i geisio gwario llai ar fwyd preswylwyr y lle.
Yn ail, lluniwyd rheolau haearnaidd ynglŷn â mynediad, dyledswyddau ac
ymddygiad. Ni châi’r Meistr ganiatáu mynediad heb docyn (swnia fel cyngerdd
poblogaidd!). Golygai hyn fod y sawl a geisiai le yn y Wyrcws i gael tocyn mynediad
gan y Lifin Offis, a’i gyflwyno, yn unol ag egwyddorion aruchelaf y drefn
ddarostyngol, wrth ddrws y sefydliad. I ddenu trigolion – ac roedd angen 200 i lenwi’r
lle - tynhawyd sgriw’r cymorthdal. Penderfynwyd (a dyfynaf yn iaith y Cwîn
Fictoria) that no relief be given to any able bodied male paupers out of the
Workhouse unless they have more than 5 children incapable of earning anything and
then that the only relief afforded be by receiving some of the extra children if
necessary into the Workhouse. That no relief be given to the mothers of bastard
children except by receiving them and their children into the Workhouse. Felly,
roeddent am lenwi’r lle â mamau dibriod a’u plant ac am hollti teuluoedd tlawd trwy
gymryd rhai o’u plant oddi wrthynt i ddihoeni yn y Wyrcws.
Does ryfedd, felly, fod yr atgasedd tuag at y lle yn fawr. Arswyd a braw a lanwai
galonnau’r werin. Roedd colli annibyniaeth a’r rhyddid i symud bellach yn real a
diymwad, ac yn bethau i’w hosgoi. Daeth y gair “Wyrcws” yn gyfystyr â charchar, ac
nid heb reswm. Gwahanwyd y gwrywod a’r benywod trwy adeiladu mur cadarn
rhwng dwy adran yr adeilad. Chwalwyd teuluoedd cyfain a gorfodwyd aml i dad i
dreulio wythnosau heb weld ei briod na’i blant. Gallai hynafgwr farw heb i’w wraig
wybod am ei waeledd hyd yn oed.
Llafur caled, yn union fel llafur carchar, oedd llafur y Wyrcws . . . Trwy weithio’n
galed gellid concro popeth! Ym Mhwllheli, fel ym mhob wyrcws, gyda mur uchel yn
amgylchynu’r lle, llygaid barcud y Meistr a’r Matron yn eich gwylio’n ddibaid, a’r
bwriad diderfyn i ladd unrhyw duedd wrthryfelgar, roedd y lle yn wirioneddol erchyll.
Lle hollol ddienaid, i ladd yr enaid a darostwng pobl dlawd i fod yn feddyliol swrth a
gwasaidd . . . – dyna oedd bwriad y drefn undonnog ddisgybledig, yn fwyd a gwaith.
Yn sicr, nid ymgais i greu ethos ddwyreiniol ecsotig oedd y newid brecwast am
gyfnod o uwd i reis a dwy owns o driog.
Gorfodid y merched i sgrwbio a golchi dillad, i sgwrio’r lloriau a’r parwydydd fwy nag
unwaith y dydd. Gorfodid y plant a’r dynion i dorri coed tân a chario dŵr, o ddydd i
ddydd, gan greu peiriannau ufudd o fodau dynol. Yn y gweithdai, y prif galetwaith
oedd pigo carth (oakum), sef yr union waith a wneid yng ngharchardai’r cyfnod,
gwaith hynod o flin ac undonnog. Yn Awst 1841, gorchmynnwyd Clerc y Bwrdd i
ysgrifennu at rywun yn Lerpwl i geisio cael hanner tunnell o hen raffau i’w
trawsnewid yn garth. Bum mis yn ddiweddarach, wele’r Clerc, ynghyd â Hugh
Davies, Moelfra Mawr (aelod plwyf Llanaelhaearn o’r Bwrdd), yn ymweld â Charchar
Caernarfon i gael golwg ar y dulliau a ddefnyddid yno i bigo carth o hen raffau! Yr
enw “Wyrcws,” nid Tloty, a lynodd ar wefusau’r werin, ac nid heb reswm chwaith.
Ym Mai 1843, penderfynod y Bwrdd fel a ganlyn: That all the able-bodied Paupers
residing within the Workhouse of this Union be required to pick 5 lbs of oakum per
day, females 3 lbs per day. Oedd yn wir, roedd cynddrwg bob tamaid â charchar
gyda chaletwaith undonnog yn ganolog ac anhebgorol, y rheolau a’r amodau byw yn
gaeth dros ben, y bwyd yn ddi-faeth a diflas, mur uchel (4 troedfedd) o gerrig yn
amgylchynu’r lle, gwahanu gwŷr a gwragedd a phlant, gorseddu gormes a chosb, ac,
wrth gwrs, ffrewyll ddidostur Llywodraethwr angharedig . . .
Dodrefnid yr ystafelloedd mor debyg ag y byddai modd i gelloedd carchar. Cysgid ar
ddau blanc heb fatres, gyda’r rhai ffodus yn cael dwy blanced efallai, a rhaid oedd
bwyta oddi ar fyrddau coed tlodaidd ac eistedd ar feinciau anghyfforddus. A’r cyfan,
wrth gwrs, dan arolygaeth gĩaidd Owen Hughes ac arolygaeth astaidd ei wraig. Ond
daeth eu teyrnasiad i ben yn dra sydyn. Roedd meistr ar Mister Mostyn.
Ar 24ain o Fai, 1843, ymchwiliodd y Bwrdd i ymddygiad gwarthus y Meistr a’r
Metron. Daeth cwynion lawer i law yn sôn am eu creulondeb diddiwedd, ac am
gamdrin rhai o breswylwyr diniwed y Wyrcws. Roedd yna un achos arbennig – achos
merch ifanc o’r enw Mary Roberts. Cyhuddid Owen Hughes o greulondeb sylweddol.
Roedd wedi dod â Mary druan i mewn i un o stafelloedd y Wyrcws, a chyflawni
gweithredoedd nas disgrifir yng nghofnodion y Bwrdd. Yn gynulleidfa i’w drythyllwch
anfad roedd ei wraig, y Metron. Fe’i cafwyd ef yn gwbl euog yng ngolwg y Bwrdd, a
rhowd y sac iddo yn gwbl ddiseremoni. Plediai’r Metron ddiniweidrwydd, ond fe’i
diswyddwyd hithau hefyd, am iddi fod yn bresennol ddydd y drosedd with the door
closed upon them when Mary Roberts was illtreated and that . . . she had often
abused and illtreated several of the pauper inmates herself. Cadarnhaodd y
Comisiynwyr yn Llundain benderfyniad y Bwrdd, a dyna ben disymwth ar deyrnasiad
gormesol Meistr a Metron cyntaf Wyrcws Pwllheli.
Ym Mehefin 1843, penodwyd olynydd Owen Hughes, a dyma ddod at un o’m
cysylltiadau teuluol i â Wyrcws Pwllheli. Cafwyd rhestr o saith o ymgeiswyr – William
Hughes, William Turner a John Rowlands, y tri o Bwllheli, Hugh Ellis o Langian,
William Davies o Gricieth, James Griffith o Aberdaron, a Robert Jones, Gwningar.
Dilëwyd cais Robert Jones druan heb ymdroi – rejected as unfit – a phenodwyd
James Griffith, Blawty, Aberdaron (27 oed) yn Feistr gyda’i wraig yn Fetron. Roedd
James yn frawd i Rachel, oedd yn fam i Ellen a briododd William Pugh Williams,
cariwr a physgotwr o Bwllheli (Bosun Puw Baled Largo, Cynan). Eu merch nhw oedd
Ellen, mam fy nhad a fy nain innau, a briododd Griffith Jones ac a fu byw weddill ei
hir oes yn Rhydygwystl a phentref Y Ffôr. Fe’i magwyd yn Nhroedyrallt a Sgifftan yn
un o deuluoedd tlota’r dref. Mewn gair, roedd Meistr newydd Wyrcws Pwllheli yn
frawd i fy hen, hen nain o ochr fy nhad. Erbyn hyn hefyd roedd y Clerc, David
Williams, wedi mudo i rywle, a phenodwyd William Roberts yn ei le ar gyflog o £30 y
flwyddyn.
Yn y Wyrcws, cafwyd gwell trefn ar bethau, ond nid felly yn y rhanbarthau. Cyhuddid
y Bwrdd o fod yn ddiog a difeind, ac yn Awst 1843, cafodd gerydd llym o du’r
Comisiynwyr yn Llundain. Yn ddiymdroi tynnwyd yr ewinedd o’r blew.
Yn rhagluniaethol megis, ac i osgoi creu embaras teuluol i awdur hyn o hanes, nid
oes cofnodion ar gael am y cyfnod o 26 Mehefin, 1844, hyd 22 Rhagfyr, 1847.
Wyddom ni fawr ddim am hynt a helynt y Wyrcws, na’i Meistr na’i Metron chwaith,
am y tair blynedd a hanner hyn. Pa bryd y bu i James Griffith ymadael? Pam yr
ymadawodd? A fu farw yn ei swydd, tybed?
Y Meistr erbyn hyn oedd un Griffith Jones, a Grace, ei ferch, yn Fetron. Ni chyfleai
enw’r ferch hon nodweddion ei chymeriad . . . Roedd drwg digamsyniol yn y caws a
daethpwyd â chyhuddiad o anfoesoldeb yn erbyn Griffith a Grasi, a bu iddynt
hwythau yn eu tro ymddiswyddo. Gwrthododd y Bwrdd dderbyn yr ymddiswyddiad,
nid oherwydd unrhyw gydymdeimlad â’r anfoesol ddau, ond i’r gwrthwyneb yn wir –
er mwyn cael y pleser o’u diswyddo!! Penodwyd Dafydd Wiliam, Cwnstabl y dref, yn
Feistr dros dro ar gyflog o £1 yr wythnos. Yn y cyfamser, gwrthododd Griffith Jones
roi’r arian a oedd ganddo mewn llaw, nac allweddau’r Wyrcws, i’r Cwnstabl, a bu’n
helynt o’r mwyaf. Yn y diwedd, bu’n rhaid mynd â’r achos i’r Llys Chwarter cyn y
llwyddwyd i roi caead ar biser styfnig Griffith a Grasi.
Penderfynasant ystyried addysg plant y Wyrcws. Y gwir amdani, mae’n debyg, ydi
fod rhai o bobl neis y dref yn anfodlon gweld eu plant yn rhannu ysgol a dosbarth â
gwehilion y Wyrcws, ac yn hytrach nag amddifadu’r tlodion o ryw fath o ddysg,
’doedd ond un ateb i’r broblem. Yr ateb hwnnw oedd cael ysgol yn y Wyrcws. A dyna
a gafwyd.
Meistr a Metron newydd Y Wyrcws er Awst 1848, oedd David Hughes, gynt o ysgol
Llaniestyn, a’i wraig. Yn Hydref y flwyddyn honno, agorwyd Ysgol Wyrcws Pwllheli.
Roedd iddi ysgolfeistr, William Hughes, gŵr a ddechreuodd ei yrfa yn dda trwy gael
rhodd o bâr o esgidiau gan y Bwrdd Gwarcheidwaid haelfrydig. Hysbyswyd am
athrawes gynorthwyol gyda’r hysbyseb diddorol, os nad camarweiniol: that it is
desireable that the candidates be conversant with the Welsh and English languages
and be able to teach the children sewing, in addition to their elimentary education.
Mae’n anodd llyncu’r honiad mai desireable yn unig oedd y cymhwyster ieithyddol
Saesneg! Penodwyd un Mary Appolonia Ralphs i’r swydd, ar gyflog o £25 p.a., a’i
bwyd, ond ymadawodd wedi pum mis yn unig. Yn ei lle, daeth Caroline Edwards,
ond cafodd honno y sac o fewn llai na blwyddyn. Yn ei lle hithau, penodwyd
Margaret Dorothy Jones, a bu un Alice Gray yno’n athrawes hefyd.
Dwy flynedd yn unig fu oes ysgol y Wyrcws. Ar argymhelliad Arolygwr Ysgolion ym
1851, penderfynwyd talu £8 y flwyddyn i brifathro y National School yn y dref i
ddysgu plant y Wyrcws, yn ogystaL â dim mwy nag ugain o blant tlodion y dref.
Gwrthododd y Comisiynwyr gadarnhau y cymal olaf.
Yng nghyfnod David Hughes fel Meistr, cafwyd rhai newidiadau diddorol eraill.
Cynigodd y Parchgedig George Armstrong Williams ddod i’r Wyrcws i bregethu i’r
tlodion er hyrwyddo moesoldeb a chynnydd ysbrydol yn eu plith. Yn unol ag ysbryd
eciwmeniaeth gorau’r oes, caniatawyd i weinidogion pob enwad Protestannaidd
ryddid i draethu yng Nghapel bychan y Wyrcws a agorwyd yn un o ystafelloedd y tŷ.
Cafwyd rhodd o bwlpud gan warcheidwaid Denio.
Er gwaetha’r gofal ysbrydol ac addysgol a geid o du’r awdurdodau, parhâi y drefn
ormesol a chreulon i greu arswyd ac ofn yng nghalonnau’r trigolion. Parhau i geisio
dianc neu ddymuno marw a wnai llawer ohonynt. Ym 1849, cafwyd cŵyn swyddogol
fod y waliau pedair troedfedd yn llawer rhy isel ac aneffeithiol i atal dihangwyr
anniolchgar a phenderfynodd y Bwrdd Gwarcheidwaid warchod o ddifrif ac
ymdebygu fwyfwy i Fwrdd Llywodraethu Carchar trwy roi gorchymyn fod y muriau i’w
dyrchafu i uchder o 7 i 8 troedfedd to prevent the pauper inmates climbing over
them. Penodwyd saer maen, William Jones, i wneud y gwaith, ac wedi iddo’i orffen
ym Mai 1850, aeth Robert Jones, Tyddyn Meilir, reit rownd y waliau i fesur y cyfan
cyn talu. Roedd y sefydliad elusennol hwn bellach yn garchar effeithiol a diogel! Aeth
ambell un o gymdogion y Wyrcws mor bryderus am ddiogelwch ei eiddo a’i deulu
rhag y giwed a breswyliai gerllaw fel ag i godi ei wal ei hun rhyngddo â’r Wyrcws
felltith. Un o’r rhain oedd Capt. Adoniah Evans, a gafodd ganiatâd ar yr amod y codid
y wal i o leiaf uchder o wyth troedfedd, ac y byddai o leiaf yn ddwy droedfedd o
drwch!!
Ar y pymthegfed o Fehafin, 1851, penderfynwyd adeiladu cytiau moch y tu allan i
furiau’r Wyrcws a chadw moch for the augmentation of the Union funds. Bythefnos
yn ddiweddarach, rhoddwyd gorchymyn i’r Meistr i werthu tatws cynnar yr ardd a dod
â chownt am y cyfryw gerbron y Bwrdd. I warchod y cyfoeth diwddaraf yma roedd y
Bwrdd eisoes wedi gwario £5.10.0 am Iron Fireproof Chest gan Gwmni Chubb i
gadw’r arian a chofrestrau’r Wyrcws.Yng Ngorffennaf, 1853, dilewyd swydd porter y
Wyrcws, bu hyn yn achos i’r Meistr a’r Feistres, David ac Elizabeth Hughes, ddweud
“Digon!” ac ymddiswyddo.
Pedwar cais a gafwyd am eu swyddi, a phleidleisiodd y Bwrdd fel a ganlyn arnynt:
Mr. a Mrs. Ellis Hughes, Portinllaen 5 pleidlais
Mr. a Mrs. Griffith Williams, Pig Street 2 bleidlais
Mr. a Mrs. William Jones, Sarn 13 pleidlais
Mr. a Mrs. John Roberts, Hull 13 pleidlais
John Roberts a’i wraig a benodwyd ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd.. Dwy flynedd yn
unig fu hyd eu teyrnasiad, ac yn ystod y cyfnod hwn, bu digwyddiad diddorol dros
ben. Cafodd Pwllheli rodd o injan dân, y gyntaf erioed yn y dref, gan Richard Lloyd
Edwards, sgweiar Nanhoron. Yng Ngorffennaf 1854, caniatawyd cais am gael
addasu un o siediau iard y dynion yn y Wyrcws yn gartef i’r peiriant rhyfeddol hwn.
Dyma felly ychwanegu at ddelwedd ddyngarol gymdogol gymdeithasol y Bwrdd
Gwarcheidwaid.
Petaech, fodd bynnag, yn holi preswylwyr y Wyrcws am ddyngarwch a
charedigrwydd a haelioni’r Bwrdd, fe gaech ateb pur wahanol, rwy’n siwr!
Nodweddion penna’r Bwrdd oedd ei amddifadrwydd o drugaredd, ei awdurdod
haearnaidd a’i dra-arglwyddiaeth drahaus. Gorfodid y Meistr i deyrnasu â dwrn dur.
Pa ryfedd, felly, fod arswyd y Wyrcws yn fwy nag arswyd y bedd? Uffern oedd y naill,
dihangfa oedd y llall. A phe digwydd i’r Bwrdd a’r Meistr fethu, byddai’r Fainc Ynadon
wrth law, yn fwy na pharod i sathru unrhyw droseddwr. Cyd-ddigwyddiad yn unig,
cofiwch, oedd y ffaith mai Broom Hall a’i debyg oedd aelodau’r Bwrdd a’r Fainc! Yn
Ionawr 1863, rhoddwyd gwarant gan y Llys i ddal un George Hughes, a jockey from
Nefyn, for having deserted his wife and family.
Nid bod angen cymorth na heddlu na neb ar Feistr y Wyrcws cofiwch . . . Mewn difrif
calon, meddyliwch am (John Roberts) yn llusgo cyn belled â Lerpwl i ddal un William
Ellis, llongwr oedd wedi gadael gwraig a phlant yng Nghruicieth. O groen Ellis druan,
llwyddodd yr ymlidiwr digyfaddawd i gael y swm o £7.2.6, a hynny, nid o unrhyw
gydymdeimlad â’r teulu diymgeledd, ond er mwyn arbed gwario arian cronfa treth y
tlodion! Ceir sôn am y Jehu chwimwth hwn hefyd yn ymlid dau o breswylwyr y
Wyrcws, Catherine Williams a Robert Owen. Bai mwya’r ddau oedd, nid yn gymaint
dianc o grafangau Roberts, ond dianc yn lifrai drudfawr y Wyrcws!
Ddiwedd 1855, penderfynodd John Roberts a’i wraig symud yn ôl i Loegr bell, a
derbyn swyddi yn Wyrcws Wortley. Cafwyd cyfarfod o’r Bwrdd ar yr ugeinfed o
Chwefror 1856, i ethol Meistr a Metron newydd. Y tro hwn, fel o’r blaen, pedwar pâr
priod a ymgeisiodd, sef:
Mr. a Mrs. Philip Watkins
Mr. a Mrs. E.Ll. Powell, Pwllheli
Mr. a Mrs. Griffith Jones, Crugeran
Mr. a Mrs. John Jones, Llanarmon
Dewis bobl aelodau’r Bwrdd oedd Philip a Catherine Watkins. Yn ddiweddarach,
penodwyd eu merch, Catherine, yn Nyrs y Wyrcws, ar gyflog o £1 y flwyddyn, a’i
chadw. Cyflog y Meistr oedd £30 a’r Metron £15.
Ganwyd Philip Watkins yn Nhyrpaig Llanaelhaearn, a bu’n athro am rai blynyddoedd
yn Llanystumdwy, lle’r oedd yn Ysgrifennydd y “Gymdeithas Gymreigyddol.” Yn ôl un
hanesydd lleol, roedd “yn feddyliwr eang, yn ymresymydd gwych, yn ysgrifennydd
medrus, ac yn fanwl pan yn ymdrin â phob pwnc.” Ceir cywydd o fawl iddo yn Seren
Gomer, 1819, gan neb llai na Robert ap Gwilym Ddu, - ‘Cywydd Anerch Philip
Watcyn, athraw Ysgol Llanystumdwy yn y flwyddyn 1815, yr hwn ydoedd ddyn
ieuanc dysgedig, a hoffwr mawr ar farddoniaeth.’ Ei briod, a Metron newydd y
Wyrcws, oedd Catherine, merch Morys Elis ac Elizabeth Jones, Tyddyn Sianel. Bu
farw Catherine ym 1865, a Philip ym 1869, ac fe’u claddwyd ym mynwent Llaniestyn.
Cyn ei benodi’n Feistr y Wyrcws, bu’n arolygwr yng ngyflogeth un o wŷr mawr Llŷn,
Syr Love o Fadrun. Ar farwolaeth ei briod, penodwyd ei ferch, Eleanor, yn Fetron, ac
ar ei farwolaeth yntau, penodwyd ei fab, John, yn Feistr.
Roedd cyfnod gwell, o rywfaint, yn cychwyn yn hanes Wyrcws Pwllheli, gyda
Meistres, Matron a Nyrs, a ymddangosai’n fwy cydymdeimladol ag adfyd y trueiniaid
o’i fewn. Rhoddwyd mwy o bwyslais ar lanweithdra ac ar iechyd, gyda bwydlen a
ddangosai rywfaint o faeth. Ym 1857, lloriwyd dwy ystafell â choed to enable the
better classification of the inmates, y naill yn ystafell waith mamau dibriod, a’r llall yn
dŷ golchi i’r plant. Gofalwyd fod Walter Jones, a rentai ardd y Wyrcws ym 1856, yn
cael ar ddeall nad oedd i ladd anifeiliaid ar y tir. Yr un flwyddyn, trefnwyd fod ystafell
arbennig yn cael ei chlustnodi ar gyfer achosion heintus, a bod yr holl dŷ yn cael ei
galcholchi. Cafwyd polisi yswiriant newydd, gyda chwmni newydd – y Royal
Exchange – a hynny am bremiwm rhatach. Ym 1858, gwthododd y Bwrdd gydsynio
â’r cynnig i dalu £64 am gael rhan o fynwent Denïo yn arbennig ar gyfer claddu
meirwon y Wyrcws.
Ym 1872, penderfynwyd ehangu’r Wyrcws a’i atgyweirio’n helaeth. Cafwyd benthyg
arian i’r perwyl gan gwmni Yswiriant Atlas . . . Bu’n rhai symud rhai o’r trigolion i
Dlotai Caernarfon a Ffestiniog dros y cyfnod hwn, the removal of the Imbeciles and
Idiots was left to the discretion of the Workhouse Medical Officer.
Gofalwyd am eneidiau’r tlodion hefyd a chafwyd pregethu cyson . . . o bwlpud y
capel eciwmenaidd. Gyda boddhad unfrydol . . . y derbyniodd y Bwrdd ddeiseb gan
bobl Pwllheli ym Mai 1864, yn galw’n groch am wahardd y Pabyddion rhag ceisio
troedle ym mhwlpud capel y Wyrcws.
Nid pawb, fodd bynnasg, oedd yn awyddus i wrando pregeth. Rhwng tri a phedwar
o’r gloch bawn Iau y 22ain o Chwefror, 1866, pregethai’r Parchedig Ellis Osborne
Williams, Ficer Pwllheli, yn ystafell fwyta’r Wyrcws i gynulleidfa bur rynllyd. Ar goll o’r
oedfa honno, roedd llanc dwy ar bymtheg oed, brodor o Lanaelhaearn, ac un a
labelid fel, ‘Tlotyn Gwallgo’ (yn y Saesneg gwreiddiol, Lunatic Pauper). Nid yn hawdd
y caech eich esgusodi o foddion gras yn y Wyrcws, felly ymaith â’r Meistr Philip a’i
Nyrs Catherine, i chwilio am y troseddwr, a’i gael yn cuddio. Honnodd y llanc, un
John Jones, ei fod yn sâl, ac ar fin chwydu. Llyncodd y Meistr hygoelus y stori, a
gadawodd ef John lle yr oedd, yn hytrach na’i hebrwng i’r oedfa, ac efallai faeddu
llawr cysegredig y restaurant, neu hyd yn oed siwt gysegredicach y Parchedig Ellis
Osborne Williams.
Yn y cyfamser, cafodd John afael ar ddwy fainc o’r Gweithdy a’u gosod yn erbyn wal
fawr y Wyrcws. Dingodd i ben y to a llithrodd i lawr coeden gan ddianc am ei fywyd.
Yn fuan, canfuwyd y drosedd, a chlywodd pobl Pwllheli gnul y gloch argyfwng. Yn
unol â thraddodiad ei ragflaenydd, aeth y Meistr Philip i brif orsaf y dref, ger Gwesty’r
Crown, llogi car a cheffyl, ac ymlid y ffoadur. Am fro ei febyd yr anelai John Jones
druan, a gwyddai’r Meistr hynny’n burion. Fe’i goddiweddwyd bum milltir o’r dref, ar
Bont y Gydrhos, ac fe’i hebryngwyd yn ôl mewn cywilydd i’w gartref dedwydd
cyfreithlon ym Mhwllheli.. Beth oedd y gosb, wyddom ni ddim, ond o leiaf, fe geisiodd
y Meistr weinyddu rhyw fath o therapi ar y tlotyn ffôl ac annuwiol trwy ei anfon ar
brawf i weithio mewn siop yn Sarn Meyllteyrn. Dridiau’n ddiweddarach, ceir y cofnod
trist hwn yng nghofrestr y Wyrcws: John Jones admitted back to Workhouse. Roedd
tynged trueiniaid fel John wedi ei selio o’r crud.
Fe’u disgrifir yn y Cofrestrau ag un gair – Lunatics! Ym 1874, aed mor bell â
phrynu straight-jacket at ddefnydd y sefydliad i ddelio ag unrhyw wrthryfel o du’n
rhain. . . Yn (y Cofrestrau) ceir enwau’r holl dlodion hynny a gyfrifid yn lloerig,
yn lunatics, llawer ohonynt yn bobl ieuainc. Wir i chi, ym 1865, gwelir enw un Charles
Jones, nad oedd ond teirblwydd oed, a’r gair lunatic wedi ei serio ar ei dalcen weddill
ei oes fer. Bu farw, afraid dweud, yn y Wyrcws, a hynny bum diwrnod wedi ei
wythfed penblwydd.
Sicrheid y teitl o lunatic drwy dystysgrif rwysgfawr dan law y Swyddog Meddygol
hollwybodol. Fel enghraifft, dangosir yma dystysgrif drist y plentyn bychan hwnnw y
bu marwolaeth gynnar yn y Wyrcws yn ddihangfa iddo rhag gwarth ac oes o
ddioddef.
CERTIFICATE
To be given by the Medical Officer of the Workhouse,
Under Section 20 of the 25 and 26 Vict. C. 111.
I, the undersigned being the Medical Officer o the Pwllheli Union Workhouse,
do hereby certify, pursuant to the Provisions of the 25 & 26 Vict. C. 111, S 20,
that in my opinion, Charles Jones, admitted 13th July 1865 aged 3 years, a
Pauper Lunatic, is a proper person to be detained in a Workhouse, and that the
accommodation of the said Union Workhouse is sufficient for his Reception
Dated this 13th day of July, 1865.
H. Hunter Hughes, Medical Officer.
Mewn ambell achos, penderfynid rhoi elusen i’r lunatic yn ei gartref – yr Outdoor
Relief. Dro arall, mewn achosion a gyfrifid yn waeth, anfonid y truan i’r Asylum yn
Ninbych. Un achos nodweddiadol oedd achos Annie Williams, 41 oed, a anfonwyd o
Wyrcws Pwllheli ym 1885 i Denbigh Asylum . . . the said Annie Williams is
dangerous to the other inmates. Cofnodion moel a hollol ddideimlad ydi’r cofnodion
hyn . . . fel holl gofnodion y Wyrcws. Cymerwch Jane Williams, 34 oed, druan.
October 7th 1866: Roving lunatic, found in a field bare naked except an old
bedgown.
She threwed (sic) off her petticoat, had a child with her whom she tighed (sic)
an handkerchief round his neck, said she would hang him. William Hughes the
policeman and another man brought her here
October 9th, 1866: Sent her to the Asylum, Robert Williams, Police Officer
taking care of her.
Pa mor beryglus oedd y trueiniaid hyn, Duw a ŵyr. Efallai fod angen pinsiad go dda
o halen ar ddisgrifiadau graffig Meistr y Wyrcws.
Disgrifir Thomas Hughes (o Edern, Llŷn) yn swta-swyddogol fel Idiot, ond coeliwch fi,
roedd yn ddigon hir ei ben i ganfod ffyrdd ymwared o fagl y fall dro ar ôl tro. Dyma,
heb os, Goch Bach y Bala Pen Llŷn!!
Ar y pedwerydd o Ionawr 1866, penderfynodd gymryd y goes drwy dorri twll yn nho’r
ceudy a dianc trwyddo a thros y wal. Yn wir, hwn oedd y trydydd tro iddo ddianc o
Wyrcws Pwllheli. Gofynnai Philip Watkins yn syn y ei gofnodion: What is to be done
with him? Fe’i daliwyd cyn diwedd y mis, mae’n wir, ond ymhen yr wythnos, wele
Thomas yn cynllunio ei bedwaredd ffoedigaeth!
February 9th 1866: Thomas Hughes knocked the staple out of the door of the
dung hole of the privy and absconded.
Yn marn y Meistr, doedd dim ond un ffordd i’w rwystro rhag dianc, sef trwy godi’r wal
yn y rhan hon o’r Wyrcws i uchder anghyraeddadwy. Yn y cyfamser, mwynhaodd y
ffoadur fis arall o ryddid yn crwydro glennydd tawel Llŷn, ond erbyn y 12fed o Fawrth,
mae yn ei ôl yng nghaethiwed y Wyrcws.
Yn nhawelwch a thywyllwch y nos ar yr 20fed o Fawrth, llwybreiddia Thomas o’i
wely, a thorri twll anferth yn nho’r ceudy unwaith yn rhagor, a dianc dros y wal. Daw
ias o anobaith dros Feistr y Wyrcws – there is no way to prevent him but by rising the
wall at that place. I beg the Visiting Committee to go and see what is to be done. Er i
Thomas Hughes gael ei ddal, a’i ddwyn yn ôl i’r gorlan ar y 7fed o Ebrill, ymhen
pythefnos, ail-edrydd yr un weithred heriol o dorri twll mawr yn nho’r ceudy a dianc
dros y wal. Cŵyn fawr Watkins y tro hwn yw fod Thomas wedi bod yn llawer mwy
pechadurus gan i’r twll a dorrodd yn y to fod yn afresymol o fawr! Maint y twll, ac nid
y twll ei hun, oedd consýrn y Meistr.
Dychwelwyd yr adradlon ar y trydydd o Fai, mewn sachlian a lludw, gan na fu iddo
geisio dianc wedi hyn – dim am saith mis, beth bynnag! Cafodd ddigon o amser i
gynllwynio, a chafodd yr Awdurdodau ddigon o amser i gryfhau’r ceyrydd. Ar yr 17eg
o Dachwedd, dihangodd y dyn drachefn. Dull newydd? Ffordd newydd? Sgersli
bilif! Broke the roof of the Privy and absconded. A chafodd fwynhau ei bwdin Dolig
ymysg pobl dirion gwlad Llŷn, cyn ei lusgo’n ôl i’r Wyrcws ar y 29ain o Ragfyr.
Treuliodd gyfnod y Calan yn cynllunio a threfnu ei wythfed dihangfa, gan geisio peth
amrywiaeth yn ei ddulliau y tro hwn. Mae’r cofnod, ar y 6ed o Ionawr 1867, ynglŷn â
digwyddiadau’r Saboth hwnnw yn swnio fel rhan o gerdd epig am ragoriaethau’r
ffoadur:
Got over the roof of the Rope-house –
Broke the eaves and went away.
Wythnos arall a’i draed yn rhydd, ac yna’n ôl i’r Wyrcws. Yr un hen stori. Ond, yn
fuan iawn, cymerodd y goes drachefn mewn dull cyffelyb i un 6ed o Ionawr. Ar ei
ddycweliad i’r Wyrcws yn Ionawr 1868, cymer ein harwr naw mis i gynllunio’i antur
nesaf.
Hydref 3ydd, 1868: Thomas Hughes asconded by breaking the lock on the Privy
Dunghole and got over the wall in the night.
Rhyw fymryn o amrywiaeth y tro hwn felly. Fodd bynnag, fe’i daliwyd o fewn pedwar
diwrnod. Ymddengys ei fod erbyn hyn yn dechrau blino, ac am ymostwng i
ddisgyblaeth y Wyrcws, a rhyw ymfodloni i blygu i’r drefn. Ond wele! Bendith arno!
Mehefin 28ain, 1869: Thomas Hughes absconded at night, went through the
Ash-pit and got over the wall.
Mwynhaodd gwta fis o ryddid, a dyna’r tro olaf iddo ddianc Ond nid dyna ddiwedd yr
hanes am Thomas Hughes chwaith. Ar y 13eg o Fehefin 1870, penderfynodd Bwrdd
y Gwarcheiudwaid ei ollwng o’r Wyrcws, er fod Thomas erbyn hyn wedi dechrau
dygymod â’r lle ac yn ei ystyried bellach fel ei unig gartref. Gadawodd y Tloty, y lle a
gasaodd gymaint ac yr ymlafniodd gymaint i ddianc o‘i grafangau melltigedig, a
chyfeiriodd ei gamrau am Benrhyn Llŷn i ddechrau o’r newydd ar fywyd gwell. Ac
yna, cawn un o ddarluniau tristaf holl hanes Wyrcws Pwllheli wythnos yn
ddiweddarach gyda Thomas Hughes, yr Houdini digyfaddawd o Edern, yn curo wrth
ddrws y Wyrcws yn gofyn am le i roi ei ben i lawr. Yno y treuliodd weddill ei
ddyddiau, ac yno y bu farw, yn 64 mlwydd oed, ar yr 11eg o Awst 1880. Mor wir
eiriau dwys Trebor Mai:
Wedi brwydro trigain mlynedd
Yno mae’r hynafgwr gwan
Welodd ddyddiau buasai’n rhyfedd
Ganddo feddwl am y fan;
Drysau hawddfyd gaeodd rhagddo,
Rhyddid siglodd ffarwel law;
Rhosydd Moab bywyd iddo
Yw Tyloty’r Undeb draw.
Eithriad prin iawn fyddai unrhyw ddiweddglo hapus i fywyd un o drigolion y Wyrcws.
Stori drist yn ei hanfod ydi stori pob un ohonynt, a thu ôl i bob cofnod oer,
swyddogol, gollyngwyd dagrau fyrdd a thorrwyd calonnau lawer. Prif eiriau hanesydd
pob wyrcws ydi tlodi, caledi, poen, caethiwed, argyfwng, chwalfa, methiant, afiechyd,
ing, iselder, anobaith, cosb, dioddefaint, marwolaeth. Ymrithiodd y gelyn diwethaf i
lawer fel angel gwarcheidiol, a diolchwyd am ddihangfa’r bedd.
Crynhoir y cyfan, greda i, yng nghofnodion moel a swta, ond llwythog, Meistr Wyrcws
Pwllheli, am garictor a gweithredoedd henwr tlawd o’m plwyf fy hun, Owen Salmon,
a orfodwyd gan henaint a thlodi i ymofyn lle ym mhlas anobaith. Doedd ganddo neb
i’w arddel a neb i’w chwennych. Ac roedd yn gas, yn wirioneddol gas, ganddo’r
Wyrcws.
12 April 1855: Owen Solomon (84) absconded – dirty,
insubordinate and unmanageable,
14 April 1855: Owen Solomon admitted.
4 June 1855: Owen Solomon absconded,
15 June 1855: Owen Solomon admitted,
19 January 1856: Owen Solomon discharged. Dead.
Ymddangosai mai gan y Wyrcws, bron bob tro, yr oedd y gair olaf..Gobeithio’r
nefoedd na welwn y fath sefydliad yn bwrw’i gysgod a’i gasineb ar froydd Cymru byth
eto.
Talfyriad o ddarlith Geraint Jones, Carchar Nid Cartref, Darlith Flynyddol Clwb y
Bont, Pwllheli, 1992, sef Hanes cynnar Wyrcws Pwllheli 1840 – 1890, gyda diolch i’r
darlithydd am gael cynnwys yma’r talfyriad hwn o’i ddarlith.
Daeth Wyrcws Pwllheli i ben ei rawd tua chanol pumdegau'r ganrif ddiwethaf. Yn
raddol, aeth y gair 'wyrcws' i ddifncoll, a daeth y lle i gael i alw a'i adnabod fel
Cartref. Wedi hynny, defnyddid yr adeiladau'n ganolfan i gynnal clinigau gwahanol,
cyn ei ddod bellach yn gyrchfan i wasanaethau ffisiotharapi. Pe gallai'r muriau
siarad, fodd bynnag, byddai ganddynt lawer iawn i'w adrodd.
Mae cyfeiriad diddorol am hanes Wyrcws Pwllheli, a'r hyn a ddigwyddodd yno, ar y
Wefan hon yn hanes y Tad Hughes, a fu ar Ynys Tudwal, yn hanes yr Eglwys
Babyddol.