Social Media Policy

Translation coming soon...

Cyflwyniad

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i  defnyddiwr y wefan hon, a Chyngor Tref Pwllheli, perchennog y wefan. Mae`r  Cyngor o ddifrif ynghylch a preifatrwydd eich gwybodaeth chi. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i’n defnydd o unrhyw a’r holl ddata a gesglir gennym ni neu a ddarperir i chi yng nghyswllt defnyddio’r wefan. 

Mae chwyldro yn digwydd yn y ffordd yr ydym yn cyfathrebu. Mae’r byd yn profi’r newid mwyaf erioed yn y ffordd y caiff gwybodaeth ei chreu a’i pherchnogi, ynghyd â pha mor gyflym y gellir ei rhannu. Mae hyn yn newid y ffordd yr ydym yn byw, gweithio a hyd yn oed sut rydym yn siarad a meddwl.

Mae cyfryngau cymdeithasol yn derm cyffredinol a ddefnyddir ar gyfer nifer o arfau aml-gyfryngol ar-lein a ddefnyddir i greu cynnwys a chyfathrebu dwyffordd. Gellir cael mynediad atynt o’ch ffôn clyfar, cyfrifiadur, gliniadur, tabled neu deledu clyfar. Mae’r holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn rhad ac am ddim a gellir eu trefnu’n gyflym a rhwydd o dudalen Rhyngrwyd.

Datganiad polisi 

Pwrpas y polisi hwn yw helpu gweithwyr ac aelodau etholedig i wneud penderfyniadau priodol ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol megis gwefannau rhwydweithio cymdeithasol, fforymau, byrddau negeseuon, blogiau neu sylwadau ar we-erthyglau, megis Twitter, Facebook a LinkedIn. 

Mae’r polisi hwn yn amlinellu’r safonau y mae’r Cyngor yn disgwyl i weithwyr ac aelodau etholedig eu cadw wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, o dan ba amgylchiadau y caiff eich defnydd o gyfryngau cymdeithasol ei fonitro a’r camau a gymerir os gwelir fod amodau’r polisi wedi cael eu torri. 

Cwmpas y polisi 

Mae disgwyl i bob gweithiwr ac aelod etholedig gydymffurfio â’r polisi hwn yn ddiwahân i warchod preifatrwydd, cyfrinachedd a buddiannau’r Cyngor.

Os yw gweithwyr yn torri amodau’r polisi hwn gellir ymdrin â hynny o dan ein Gweithdrefn Ddisgyblu ac mewn achosion difrifol gallai gael ei ystyried yn gamymddwyn difrifol yn arwain at ddiswyddiad diannod.

Os yw aelodau etholedig yn torri amodau’r polisi hwn ymdrinnir â hynny yn unol â’r Cod Ymddygiad.

Cyfrifoldeb am weithredu’r polisi 

Gan y Cyngor y mae’r cyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau gweithrediad effeithiol y polisi hwn.

Mae’r Clerc yn gyfrifol am fonitro ac adolygu gweithrediad y polisi hwn ac am wneud argymhellion ar gyfer newidiadau i leihau’r risgiau i’n gwaith. 

Dylai pob gweithiwr ac aelod etholedig sicrhau eu bod yn cymryd yr amser i ddarllen a deall y polisi hwn. Dylai unrhyw enghreifftiau o dorri amodau’r polisi hwn gael eu hysbysu i Glerc neu Gadeirydd y Cyngor.

Dylai cwestiynau am gynnwys neu weithredu’r polisi hwn gael eu cyfeirio at y Clerc.  

Defnyddio gwefannau cyfryngau cymdeithasol yn enw’r cyngor

Caniateir i’r  Clerc ac aelodau etholedig bostio deunydd ar wefan cyfryngau cymdeithasol yn enw’r Cyngor ac ar ei ran yn unol â rheolau a chwmpas y polisi hwn.

Os nad ydych yn sicr a yw eich sylwadau yn briodol peidiwch â’u postio cyn gwirio hynny gyda’r Clerc/Cadeirydd.

Defnyddio cyfryngau cymdeithasol

 Mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd y rhyngrwyd wrth ddylanwadu ar y ffordd y mae’r cyhoedd yn meddwl am y Cyngor a’r gefnogaeth a’r gwasanaethau mae’n eu darparu i’r gymuned. Mae’n cydnabod hefyd pa mor bwysig ydyw fod ein gweithwyr ac aelodau etholedig yn ymuno yn hynny o beth ac yn helpu meithrin sgwrs gymunedol a’r cyfeiriad a gymer trwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol. 

a)    Cyn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar unrhyw fater allai effeithio buddiannau’r Cyngor mae’n bwysig eich bod wedi darllen a deall y polisi hwn  

b)    Bod gweithwyr wedi cael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw i wneud hynny gan y Clerc.

1.    Rheolau ar gyfer defnyddio cyfryngau cymdeithasol 

  • Pryd bynnag y caniateir ichi ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn unol â’r polisi hwn, mae’n rhaid ichi gadw at y rheolau cyffredinol canlynol: 
  • Peidiwch ag uwchlwytho, postio na danfon ymlaen ddolen at unrhyw gynnwys anweddus, ffiaidd, wahaniaethol, aflonyddus, bychanol neu ddifenwol.
  • Dylai unrhyw weithiwr/aelod etholedig sy’n teimlo y cawsant eu haflonyddu neu fwlïo, neu a dramgwyddwyd gan ddeunydd a bostiwyd neu a uwch lwythwyd gan gydweithiwr ar wefan cyfryngau cymdeithasol, roi gwybod i’r Clerc/Cadeirydd. 
  • Peidiwch byth â datgelu gwybodaeth fasnachol sensitif, bersonol, breifat neu gyfrinachol. Os nad ydych yn siŵr a yw’r wybodaeth yr hoffech ei rhannu yn perthyn i un o’r categorïau hyn, dylech drafod hynny gyda’r Clerc/Cadeirydd.
  • Peidiwch â llwytho, postio na danfon ymlaen unrhyw gynnwys sy’n eiddo i drydydd parti onid oes gennych gydsyniad y trydydd parti dan sylw.
  • Cyn ichi gynnwys dolen i wefan trydydd parti, gwiriwch fod amodau a thelerau’r wefan honno yn caniatáu ichi wneud dolen iddi.
  • Wrth ddefnyddio unrhyw lwyfan cyfryngau cymdeithasol, mae’n rhaid ichi ddarllen a chydymffurfio ag amodau ei ddefnyddio.
  • Byddwch yn onest ac agored, ond byddwch yn ystyriol o’r effaith y gallai eich cyfraniadau ei chael ar ganfyddiadau pobl o’r Cyngor. 
  • Rydych yn bersonol gyfrifol am gynnwys a gyhoeddwch ar declynnau cyfryngau cymdeithasol.
  • Peidiwch â dwysáu trafodaethau tanbaid, ceisiwch fod yn gymodlon, yn barchus a chyfeiriwch at ffeithiau er mwyn gwneud y trafod yn llai blin a chywiro anwireddau.
  • Peidiwch â thrafod cydweithwyr heb gael eu cydsyniad ymlaen llaw.
  • Dylech bob tro ystyried preifatrwydd pobl eraill a pheidiwch â thrafod materion allai fod yn ymfflamychol e.e. gwleidyddiaeth a chrefydd. Cofiwch, er ei bod yn dderbyniol gwneud pwyntiau gwleidyddol neu ganfasio am bleidleisiau trwy eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eich hunain, na fydd hynny’n dderbyniol os ydych yn cynnig barn ar ran y Cyngor.
  • Peidiwch â chyhoeddi eich manylion cyswllt os all pobl nad oeddech yn bwriadu iddynt eu gweld gael gafael arnynt a gwneud defnydd helaeth ohonynt, a pheidiwch byth â chyhoeddi manylion cyswllt unrhyw un arall.

Monitro’r defnydd o wefannau cyfryngau cymdeithasol

Dylai gweithwyr ac aelodau etholedig fod yn ymwybodol y gall unrhyw ddefnydd o wefannau cyfryngau cymdeithasol (os ydynt yn cael eu defnyddio at ddibenion y Cyngor ai peidio) gael ei fonitro a, phan ddarganfyddir enghreifftiau o dorri’r polisi hwn, y gellir cymryd camau yn erbyn gweithwyr o dan ein Gweithdrefn Ddisgyblu a chynghorwyr o dan y Cod Ymddygiad.  
Mewn rhai amgylchiadau, gall camddefnyddio gwefannau cyfryngau cymdeithasol, fod yn drosedd droseddol neu gall roi bod i rwymedigaeth gyfreithiol yn eich erbyn chi a’r Cyngor.
Yn benodol, mae’n debyg y bydd achos difrifol o uwch lwytho, postio, danfon ymlaen neu bostio dolen at unrhyw un o’r mathau canlynol o ddeunydd ar wefan cyfryngau cymdeithasol, boed yn broffesiynol neu’n bersonol, yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol/torri amodau’r Cod Ymddygiad (nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol):

  • deunydd pornograffig (hynny yw, ysgrifennu, lluniau, ffilmiau a chlipiau fideo o natur amlwg rywiol neu rywiol gynhyrfol); 
  • datganiad anwir neu ddifenwol am unrhyw berson neu sefydliad;  
  • deunydd sy’n dramgwyddus, ffiaidd, troseddol, gwahaniaethol, bychanol neu allai beri embaras i’r Cyngor, ein cynghorwyr neu ein gweithwyr;  
  • gwybodaeth gyfrinachol am y Cyngor neu unrhyw un arall;
  • unrhyw ddatganiad arall sy’n debygol o greu unrhyw gyfrifoldeb (boed droseddol neu sifil, boed ichi neu’r sefydliad); neu
  • ddeunydd sy’n torri hawlfraint neu hawliau eiddo deallusol eraill, neu sy’n tarfu ar breifatrwydd unrhyw berson.

Eir i’r afael ag unrhyw weithredu o’r fath  o dan y Weithdrefn Ddisgyblu/Cod Ymddygiad.

Pan ddarganfyddir tystiolaeth o gamddefnyddio gall y Cyngor gynnal ymchwiliad manylach fyddai’n cynnwys archwilio a datgelu cofnodion monitro i’r sawl a enwebwyd i gynnal yr ymchwiliad ac unrhyw dystion neu reolwyr sy’n rhan o’r ymchwiliad. Os oes angen, gellir rhoi gwybodaeth o’r fath i’r heddlu fel rhan o ymchwiliad troseddol.  

Os sylwch fod unrhyw ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol gan weithwyr eraill/aelodau etholedig yn torri’r polisi hwn dylech roi gwybod i’r Clerc/Cadeirydd.

Os byddwch yn ymweld â’n safle we

Rydym yn defnyddio trydydd parti i weinyddu’n safle we ac yn casglu gwybodaeth ddienw am weithgaredd defnyddwyr o’r safle, er enghraifft nifer o ddefnyddwyr sy’n edrych ar dudalennau’r safle, i fonitor ac adrodd ar effeithiolrwydd y safle a helpu ni i’w wella.

Defnyddio’r wefan

Gall fod yn ofynnol i chi ddarparu data penodol er mwyn defnyddio holl nodweddion a swyddogaethau’r wefan. 

Dolenni i wefannau eraill

Gallai’r wefan hon ddarparu dolenni i wefannau eraill, o dro i dro. Nid oes gennym ni unrhyw reolaeth dros wefannau o’r fath ac nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn. Nid yw’r polisi preifatrwydd hwn yn ymestyn i’ch defnydd o wefannau o’r fath.  Cynghorir chi i ddarllen polisi neu ddatganiad preifatrwydd gwefannau eraill cyn eu defnyddio.

Os byddwch yn gwneud Cais Ariannol

Pan mae sefydliadau yn gwneud Cais Ariannol i’r Cyngor Tref, maent yn rhoi manylion cyswllt a disgrifiad o’i  bwriad/cais a hefyd yn arferol faint o gyllid maent angen.  Bydd unrhyw fanylion personol yn y cais yn cael eu defnyddio i bwrpas adolygu’r cais a gweinyddu a rheoli unrhyw Gais Ariannol sy’n cael eu dyfarnu.  Yn ogystal, byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am y ceisiadau llwyddianus yng nghofnodion y Cyngor gan gynnwys y swm sy’n cael ei ddyfarnu a pwy sy’n ei dderbyn.  Mae’r wybodaeth yma hefyd yn cael eu rhannu gyda’r Archwilydd Mewnol.

Gwybodaeth am Gynghorwyr

Cedwir manylion personol am Gynghorwyr sydd wedi ei hethol ar ffeil.  Mae’r wybodaeth a gasglwyd yn cynnwys derbyn swydd a hefyd cofrestr diddordeb, sydd yn statudol ofynnol ac yn wybodaeth gyhoeddus.  Mae manylion taliadau/costau i Gynghorwyr hefyd yn cael eu cyhoeddi yng nghofnodion y Cyngor, yn cael eu rhannu gyda’r Archwilydd Mewnol, yn cael ei gyhoeddi ar ein safle we a hefyd yn cael ei gyflwyno’n flynyddol i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Cwynion

Os oes gennych gŵyn am y ffordd mae eich data personol yn cael ei brosesu, medrwch gyflwyno  cwyn i Glerc y Cyngor Tref. Os byddwch yn anfodlon gyda sut mae eich cais neu gŵyn wedi cael ei ddelio gyda, medrwch apelio i’r Comisiynydd Gwybodaeth.  Nid oes ffi am gyflwyno  apêl.  Manylion cyswllt: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth- Cymru. 2ail Lawr, Churchill House, Churchill Way, Caerdydd, CF10 2HH ; e-bost:  wales@ico.org.uk ;  Ffôn 02920678400, Ffacs 02920678399.

Cysylltu â Ni:

Os yr ydych am gysylltu gyda ni:
Mr Eric Price
Clerc Cyngor Tref Pwllhel
Siambr y Cyngor,
Stryd Penlan,
Pwllheli.
Gwynedd.
LL53 5DH
E-bost: clerc@cyngortrefpwllheli.org
Rhif ffôn: 01758701454

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn:

Mae Cyngor Tref Pwllheli yn cadw’r hawl i newid y polisi preifatrwydd hwn fel y tybir y bo’n ofynnol o dro i dro neu fel y bo’n ofynnol gan y gyfraith. Bydd unrhyw newidiadau’n cael eu rhoi ar y wefan ar unwaith a thybir eich bod wedi derbyn telerau’r polisi preifatrwydd ar adeg defnyddio’r wefan am y tro cyntaf yn dilyn y newidiadau. 

Mabwysiadwyd gan Gyngor Tref Pwllheli 2-05-2019
Dyddiad Adolygu Mai 2020

Monitro ac adolygu’r polisi

 Bydd y Cyngor yn gyfrifol am adolygu’r polisi hwn bob blwyddyn i sicrhau ei fod yn bodloni gofynion cymdeithasol ac yn adlewyrchu arfer gorau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer aelodau etholedig, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i’w gweld ar wefan Un Llais Cymru:- http://www.onevoicewales.org.uk/OVWWeb/good_practicegeneral-8204.aspx
 
Mai 2017