Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, Adran 116

Hysbysiad o Gyfethol

RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod Cyngor Tref Pwllheli yn bwriadu Cyfethol 1 aelod i lenwi’r lle gwag sydd ar gael ar gyfer Cynghoryd yng (Ward y De) Pwllheli.

Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r cyhoedd sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu’r Undeb Ewropeaidd ac yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:

  • wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu
  • yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu’n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • wedi bod â’ch prif neu’ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf.*

Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd(au) gwag, neu’n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch â Clerc y Cyngor yn Siambr y Cyngor, 9 Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DH – 01758 701 454 erbyn 29fed o Chwefror 2024.

Dyddiedig y 8fed diwrnod hwn o Chwefror, 2024.

* Mae rhai pobl penodol wedi’u hanghymhwyso rhag ymgeisio, yn eu plith swyddogion cyflogedig y Cyngor, unrhyw un sy’n destun gorchmynion cyfyngu methdalwyr a’r rheiny sy’n destun dedfrydau o garchar yn ddiweddar.

Hysbysiad o Gyfethol (PDF)


Archif Newyddion