Os ydych yn byw ym Mhwllheli neu’r cyffiniau, yn gweithio yn y dref, yn ymwelydd achlysurol, neu’n bwriadu dod ar ymweliad â’r fro, rydych yn siwr o ganfod rhywbeth o ddiddordeb ar dudalennau’r wefan hon. Tref glan môr ar benrhyn deheuol Llŷn yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, ydi Pwllheli, gyda marina brysur a holl draethau heirdd penrhyn Llŷn yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr yn ystod misoedd yr haf. Mae tua 80% o boblogaeth y dref o 4,000 yn siaradwyr Cymraeg. Pwllheli yw prif dref farchnad y penrhyn, gydag un o’r marchnadoedd prysuraf yn cael eu cynnal bob dydd Mercher.