Murlun Newydd Bywiog

Mae Cyngor Tref Pwllheli yn falch o gyhoeddi cwblhau murlun newydd, y cyntaf mewn cyfres o furluniau, yn dathlu un o symbolau mwyaf parhaol ac adnabyddadwy'r dref - yr eliffant a'r castell o'r arfbais hanesyddol Pwllheli.

Mae'r gwaith celf, sydd bellach wedi'i arddangos ar un o waliau mwyaf gweladwy Pwllheli, yn nodi carreg filltir bwysig ym mhrosiect celf 'Camau'r Eliffant', menter a gynlluniwyd i gryfhau balchder lleol a dathlu hunaniaeth unigryw'r dref.

Mae’r prosiect hwn wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU gyda chefnogaeth Cyngor Gwynedd. Mae eu cefnogaeth wedi galluogi'r Cyngor Tref i fuddsoddi yn y fenter greadigol hon.

Mae'r murlun, a grëwyd gan yr artist Andy Dimeone Birch, yn dod â'r eliffant eiconig yn fyw gyda lliw beiddgar, symudiad deinamig, a dawn artistig gyfoes. Mae Cyngor y Dref yn estyn ei ddiolch o galon i Andy am ei waith eithriadol, sydd eisoes wedi denu sylw ac edmygedd trigolion ac ymwelwyr.

Nod Camau'r Eliffant yw ailgysylltu'r gymuned â'r dreftadaeth a'r symbolaeth sydd wedi'u hymgorffori yn arfbais Pwllheli. Drwy osod yr eliffant — arwyddlun o gryfder, gwydnwch a gwarcheidwaeth — yng nghanol cyfres o weithiau celf gyhoeddus fodern, mae'r prosiect yn cyfuno traddodiad â chreadigrwydd mewn ffordd sy'n adlewyrchu ysbryd blaengar y dref.


Newyddion Diweddaraf