ceridwen.price@cyngortrefpwllheli.cymru
Mae Ceridwen yn wreiddiol o Aberdaron, ond mae wedi byw ym Mhwllheli ers 2019. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio yn y maes celfyddydau perfformio, gan gynnwys teithio fel Rheolwr Llwyfan gyda nifer o gwmnïau theatr Cymraeg. Mae ganddi radd mewn Drama o Brifysgol Caerwysg ac ôl-radd mewn Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.
Mae Ceridwen wedi bod yn rheolwr Neuadd Dwyfor ers 2017, ac mae’n angerddol am sicrhau mynediad at theatr a sinema Gymraeg a Chymreig mewn ardaloedd gwledig. Y tu hwnt i’w gwaith gyda Chyngor Tref Pwllheli, mae Ceridwen yn gwirfoddoli gyda menter RHAN ym Mhwllheli, ac mae hefyd yn aelod o fwrdd Creu Cymru.
Yn ei hamser hamdden, mae Ceridwen yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu ifanc, coginio a cherdded.