Translation coming soon, for more details please contact the clerk
Diolchodd y Maer, y Cynghorydd Eric Wyn Roberts, i'r rhai a ddaethai i Wasanaeth Dinesig Sul y Maer yng Nghapel Penlan ar y 1af o Orffennaf.
Roedd y traddodiad yma, meddai, yn hynod bwysig yng nghalendr y dref. Diolchodd i bawb a gyfrannodd i’w lwyddiant. Casglwyd y swm anrhydeddus o £290.55 i’w rannu rhwng Mencap Pwllheli a Chyfeillion Ysbyty Bryn Beryl.
Diolchodd yn arbennig i’r Dirprwy Faer, y Cyngorydd Mici Plwm, am ei ddarlleniadau, ac i’w Gaplan, Y Barchedig Glenys Jones, am y bregeth rymus. Yn wir, yr oedd yn rhaid cadw’r tân i losgi!
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Ar ddiwrnod dathlu Penblwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 oed, dymunai'r Maer ddiolch i bawb a oedd wedi ac yn parhau i weithio yn y gwasanaeth hanfodol hwnnw. Yr oedd ein dyled yn fawr iddyn nhw.
Dymuno'r Gorau
Yr oedd y Maer am ddymuno'r gorau i’w cyd-gynghorwyr dros fisoedd yr haf a dymunai y byddai iddyn nhw gael Pwllheli a Phenrhyn Llŷn ar ei orau yn nhegwch yr heulwen.