Translation coming soon, for more details please contact the clerk
Yn seiliedig ar lyfryn y Cynghorydd Elfed Gruffydd
pen-cobGwelir yma orsaf y rheilffordd a agorwyd ym 1909. Daeth y rheilffordd i Bwllheli ym 1867 gan ddod cyn belled â’r ‘Hen Stesion’ ym mhen dwyreiniol yr Harbwr. Mae taith ar Reilffordd y Cambria i Aberystwyth [neu drwy Faldwyn] yn cynnig golygfeydd rhagorol o Fae Ceredigion. Mae mynediad oddi yma hefyd i’r orsaf fwsiau. Mae safle dacsi yma. Mae yma siopau a thai bwyta. Gellir cerdded i’r dwyrain ar hyd ochr yr Harbwr i Lan Môr ’Berch a’r Hafan. Codwyd Cob rhwng 1904 a 1908 – adeg adeiladu’r Harbwr.
Wrth gychwyn ei gerdded, rhaid croesi Pont Pen Cob, lle gwelir dorau sy’n rheoli’r dŵr i mewn ac allan o’r Harbwr.Dyma’r fan lle mae Afon Rhyd Hir ac Afon Penrhos (ar ôl ymuno i ffurfio Afon Cymerau) yn llifo i’r môr. Ym mhen arall yr Harbwr mae dorau eraill o dan Bont yr Hen Stesion a thrwy’r rhain mae Afon Erch yn llifo. Mae Harbwr Pwllheli yn atyniad poblogaidd iawn i adar sy’n ymfudo yma i fwrw’r gaeaf – y rhydyddion a’r hwyaid. Wedi croesi Pont Pen Cob gwelir plac i gofio cysylltu’r dref â’r grid nwy. Cyfansoddwyd y llinell i goffáu hyn gan Cynan, bardd enwocaf Pwllheli. Ar draws yr Harbwr gellir gweld y marina, sef yr Hafan sy’n boblogaidd iawn ac a ystyrir yn ganolfan hwylio o’r safon uchaf gyda’i hangorfa i dros 400 o gychod.
Ar y chwith mae cofeb tra anghyffredin i goffau’r rhai a laddwyd yn y rhyfel. Arni gwelir cwpled o waith Ben Bowen. Arferai tram, a oedd yn eiddo i Gyngor y Dref, redeg ar hyd y Cob ac yna ar hyd y Prom. Yng nghanol yr Harbwr, ar un adeg, ’roedd ynys, ond pan aed ati i adeiladu’r Hafan, cysylltwyd hi â’r Cob gyda’r gro a’r tywod a godwyd o wely’r Harbwr. Gellir cerdded o gwmpas y llecyn hwn a chael golygfa dda o’r dref a’r Hafan. Ymhellach i’r de o’r Hafan, gwelir yr hyn sy’n weddill o Garreg yr Imbill ar ôl i’r chwarelwyr ei chloddio ar gyfer gwneud sets i wynebu strydoedd dinasoedd Lloegr. Yn ei hymyl, mae cwt y bad achub – y cychod a’u criwiau wedi gwasanaethu’r arfordir yn ffyddlon ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r ffordd gul – Lôn Cob Bach – yn arwain draw i’r gorllewin a’r llwybr troed cyfochrog ar ben y Cob Bach yn fangre ardderchog i wylio adar yn yr Harbwr Bach. O’r Cob, tua’r gorllewin, gellir gweld mynyddoedd Llŷn. Garn Fadryn yw’r un mwyaf amlwg. I’r dwyrain, mae Cader Idris a mynyddoedd Meirionnydd, ac yn fwy i’r gogledd, mae’r Wyddfa a mynyddoedd Eryri. Ymlaen i’r dde ar y Cob, mae swyddfeydd ardal Dwyfor o Gyngor Gwynedd.
Yma cynhelir un o farchnadoedd symudol mwyaf Cymru ar ddydd Mercher. Dyma safle draddodiadol Ffair Pwllheli, syrcas a sasiwn.
Yn union ar draws y Maes mae siop bwyd anifeiliaid anwes, ond a fu unwaith yn gaffi – Maes Gwyn. Fel y dengys y plac sydd arno, yma y sefydlwyd Plaid Cymru yn Awst 1925. Yng Ngorffennaf 2000, gosodwyd plac ychwanegol i nodi 75 mlwyddiant sefydlu’r Blaid. Mae’r ffair bellach yn sefydlog yng nghwr deheuol y Maes. Ger safle’r ffair, lle mae heddiw ddwy siop, roedd Capel Tarsis, y Presbyteriaid, gynt.
Mae’r enw’n egluro y bu yma ryd unwaith i groesi’r afon a’r tir gwlyb pan arferai’r rhan hon o’r dref bresennol fod o dan y môr ar lanw. Mae’r stryd hon yn arwain i Bont Solomon, sydd yn coffáu Solomon Andrews, gŵr busnes o Gaerdydd a ddatblygodd y dref yn arw yn nechrau’r ugeinfed ganrif. Gosododd ei stamp ar ei hadeiladwaith gyda’r fricsen felen. Gwelir ymdrech i adlewyrchu hyn yn adeiladau diweddar y dref. Sefydlodd Mr. Andrews yntau gwmni tram, y tro hwn i gario teithwyr o’r dref, dros Bont Solomon ac i’r Prom. Yna ymlaen ar hyd y dwnan i Lanbedrog, lle’r oedd ganddo oriel enwog ym Mhlas Glyn y Weddw.
Mae’r ffordd hon yn arwain at ben gorllewinol Lôn Cob Bach, ac ymlaen i Ganolfan Hamdden Dwyfor a Thraeth Pwllheli. Wedi pasio ceg Lôn Cob Bach, mae’r gyffordd i’r dde yn arwain i gyfeiriad y Clwb Golff. Ar y dde, ger y bont, gwelir creyrfa lle daw o 6 i 8 o greyr glas i nythu yn y gwanwyn.
Sefydlwyd y Gwasanaeth Tân ym Mhwllheli ym 1854. Yn nes ymlaen, ar y dde, mae Swyddfa’r Post.
Yma y daeth triwyr Penyberth – Saunders Lewis, D.J. Williams a Lewis Valentine – i gyfaddef iddynt roi’r Ysgol Fomio ar dân ym Medi 1936. Ar yr adeilad, gwelir plac yn dynodi y bu’r gantores Leila Meganne yn byw yma. Gyferbyn, ar y chwith, mae Capel Saesneg y Presbyteriaid. Yma y cynhaliwyd Cyfarfodydd Blynyddol cyntaf Urdd Gobaith Cymru, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 1925. Yn nes ymlaen, ar y dde, mae adeilad hen Wyrcws Pwllheli. Yn yr Ala Uchaf, y stryd y tu cefn i Swyddfa’r Heddlu, mae adeilad a fu unwaith yn ysgol ganolraddol – Ysgol Frondeg - ond sydd yn awr yn ganolfan i’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Eglura’r enw beth a werthid unwaith yn y stryd hon ar ddiwrnod marchnad. Ar y dde, mae Capel Pen-lan, un o gapeli Annibynwyr hynaf Cymru. Fe’i sefydlwyd ym 1646. Ymysg y rhai a fu’n weinidogion yma, yr oedd Benjamin Jones, ac o ganlyniad i wrando arno ef yn pregethu yn Ffair Llanfyllin ym 1796 y cafodd yr emynyddes, Ann Griffiths, ei throedigaeth. Ym mynwent y capel y claddwydSion Wyn o Eifion. Ar siop ddillad ar gornel gyferbyn, gwelir plac yn nodi maiyno yr oedd carchar Pwllheli. Hyn a roddodd i Stryd Moch ei henw Saesneg, Goal Street. Yn uwch ar y chwith, mae Pen Lôn Llŷn. Dyma’r ffordd a arweiniai i Lŷn yn yr hen amser. I fyny’r ffordd hon, ar y chwith, y mae Ffynnon Felin Fach y canodd Cynan iddi yn ei bryddest, ‘Mab y Bwthyn:’ y bryddest a enillodd iddo goron Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ym 1921. Honno oedd y gyntaf o’i dair coron Genedlaethol.
Ail-godwyd y capel wedi iddo gael ei losgi gan William Ross ym 1913. I fyny Allt Salem (i’r chwith o’r capel), mae’r ffordd yn arwain i Lannor. Ar y chwith, mae fflatiau a luniwyd o adeilad Ysgol Penlleiniau – yr ysgol eglwys. Ar y dde, ar ben yr allt, saif y Coleg Trydyddol, Coleg Meirion Dwyfor, ar safle hen Ysgol Ramadeg Pwllheli. Yn yr ysgol hon yr addysgwyd amryw o’r enwogion a godwyd ym Mhwllhli a’r cylch. Mae’r llwybr i’r chwith o ben yr allt yn arwain i ben y Garn, lle ceir golygfa ragorol o Bwllheli, Bae Ceredigion, Ynysoedd Tudwal a thu hwnt, a Mynyddoedd Preseli ar ddiwrnod clir. O gychwyn gyda’r mynyddoedd, a mynd efo’r cloc, gwelir bryniau Llŷn o Fynydd Tir y Cwmwd, Mynydd Rhiw, Garn Fadryn, Garn Boduan, i’r Eifl ac ymlaen i Eryri. Ar ben yr allt i’r dde, mae mynwent y dref, sef Mynwent Deneio. Deneio yw enw’r plwyf. Gwelir olion Eglwys Beuno (yr eglwys wreiddiol) yn yr hen fynwent.
Yn uchel ar wyneb un siop, gellir darllen ‘Caerhydderch’ – ei henw gwreiddiol. Fferm yn Rhoshirwaun oedd Caerhydderch. Roedd amryw o ffermwyr Llŷn yn berchnogion siopau yn y dref. Byddai’r mab hynaf yn etifeddu’r fferm, a’r ail fab yn dod yn siopwr ym Mhwllheli. Yn uchel ar wyneb dwy siop sydd ar y chwith, gwelir plac oedd yn dynodi fod y perchnogion yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, neu’n gynt, wedi cofrestru i dderbyn gwasanaeth y frigad dân pe bai galw am hynny.
Codwyd hi ym 1886 ar gynllun gothig addurniadol o eiddo J. Oldrid Scott. Mae iddi ffenestri lliw hardd, yn arbennig y ffenestr ddwyreiniol uwch ben yr allor sy’n darlunio golygfeydd o Lyfr y Datguddiad, a lluniau seintiau o bob oes. Yn yr ochr ogleddol, mae ffenestr Martin o Tours, ac arni hefyd luniau o Sant Asaff a Sant Cyndeyrn. Gwelir yma lun o fodrwy brenhines y daeth Asaff o hyd iddi ar ôl i’r fodrwy honno gael ei llyncu gan eog. Yn yr ochr ddeheuol, mae Capel Beuno, nawddsant y plwyf.
Aeth ar dân ym 1962. Bu Llys yr Ynadon ar yr un llecyn hefyd. Bellach, mae bwriad i godi tai yno.
Dywed rhai i’r fan gael yr enw am i ddilynwyr Owain Glyndŵr ei roi ar dân yn y bymthegfed ganrif. Dywed eraill mai yma yr arferid llosgi coed i gynhyrchu golosg.
Rhwng y fan hyn â Phentrepoeth y mae’r Gors, a fu unwaith yn dir gwlyb. Cyn hynny, yma yr oedd y ‘pwll heli.’ Ganrifoedd yn ôl, yma y trigai dinasyddion y dref, gyda’u cychod a’u rhwydi pysgota, eu defaid a’u hychen. Un teulu ar hugain oedd yn byw yma ym 1293. Ym mhen pellaf y Gors, lle’n awr y mae’r Traeth a thafarn y Black Lion, yr oedd ierdydd adeiladu llongau. Mewn cyfnod o ddwy ganrif, adeiladwyd tua 450 o longau ym Mhwllheli, yr olaf ohonynt ym 1878. Y llong fwyaf i’w hadeiladu yma oedd y barc, Margaret Pugh (693 tunnell), ym 1862.
Mae’r Stryd Fawr, i’r chwith, yn arwain i gyfeiriad Capel y Drindod, a adwaenid fel Capel Penmount nes uno capeli Presbyteraidd dref yn ddiweddar. Codwyd capel yma’n wreiddiol ym 1781, a’r un presennol ym 1841. Ymysg y rhai a fu’n weinidogion yn ystod cyfnod cythryblus y Rhyfel Byd yr oedd y Dr. John Puleston Jones. Dioddefodd erledigaeth enbyd oherwydd ei safiad fel heddychwr. Er ei fod yn ddall, llwyddodd yn rhyfeddol i oresgyn ei anabledd.
Yno ar y chwith, arferai Capel Seion y Wesleaid, a sefydlwyd ym 1861, sefyll. Addaswyd y capel yn fflatiau a’r festri yn gapel.
Dyma leoliad hen blasdy a elwid Hendre Gadredd. Gall mai hwn oedd y Gadlys gwreiddiol.
Ar y gornel, mae Liverpool House, cartref Cynan – y bardd hynod o boblogaidd ac a fu’n Archdderwydd ddwywaith. Bron gyferbyn, ychydig i’r dde, gwelir hen Neuadd y Dref a Siambr y Cyngor. O fewn drws neu ddau, mae plac yn nodi mai yma y ganwyd Yr Athro J.R. Jones, athronydd a Chymro brwd. O rai mannau, gellir gweld hen gloc y dref ar dŵr pren.
Hon oedd Neuadd y Dref ddiweddaraf. Mae ynddi awditoriiwm ar gyfer ffilm a chyngerdd. Yma hefyd y lleolir Llyfrgell y Dref, a’r Ganolfan Ymwelwyr. Yng nghyntedd y Neuadd, uwch ben y swyddfa docynnau, gwelir ysgythriadau ar wydr yn darlunio’r ardal, ond yn canolbwyntio ar Cynan. Gellir cerdded heibio ochr y Neuadd ac i Sgwâr y Farchnad.
Mae iddo dŵr tra anghyffredin i gapel, a defnyddid hwnnw gan bysgotwyr fel marc i leoli eu rhwydi ers talwm.
Bu Howell Harris yn pregethu y tu allan i Benlan Fawr yn ystod un o’i ymweliadau â Llŷn ddwy ganrif a hanner yn ôl. Ym 1836, ’roedd cynifer â 40 o dafarndai yn y dref.
Dyna a roddodd fod i enw’r stryd fechan sydd yn arwain i’r dde, sef Stryd Llygod. Ei henw Saesneg oedd Custom House Square, sydd eto’n cadarnhau ei hagosrwydd i’r môr ers talwm.