Translation coming soon, for more details please contact the clerk

Urddwyd y Cynghorydd Eric Wyn Roberts yn Faer Pwllheli ar Fai 31, 2018. Hwn oedd yr ail dro iddo fod yn Faer y dref - ef hefyd oedd y Maer yn 1998 – 2000. Urddwyd y Cynghorydd Mici Plwm yn Ddirprwy Faer yr un noson.

Yn y llun

O'r chwith, Y Cynghorydd Michael Sol Owen, Y Barchg. Glenys Jones, Y Cyngorydd Eric Wyn Roberts, ( Maer Pwllheli), Cynghorydd Henry Lloyd William, (Cyn-Faer), Y Cynghorydd Mici Plwm (Dirprwy Faer), Miss. Glenda Haf Jones (Dirprwy Faeres)

Gair gan y Maer

Dymuna Maer newydd Pwllheli, y Cynghorydd Eric Wyn Roberts, ddiolch i'r rhai a ymunodd ag o ar noson ei urddo, ac i'r Barchedig Glenys Jones am gytuno i fod yn Gaplan iddo. Llongyfarchodd y Cynghorydd Mici Plwm ar gael ei ethol yn Ddirprwy Faer a Miss. Glenda Haf Jones y Ddirprwy Faeres.

Dywed y bydd hiwmor y Dirprwy Faer yn gymorth mawr iddo.

Diolchodd i’r Cyn-Faer, Y Cynghorydd Henry Rees Williams, a’r Gyn-Faeres, Amanda Coram, am eu gwaith didwyll a diffuant hwythau dros y ddwy flynedd diwethaf.

Dymunodd y gorau ac adferiad iechyd buan i’r Clerc, Mr Robin W. Hughes, a’r Cynghorydd Dylan Bullard a Mrs Margaret Gruffydd.

Yr oedd am ddiolch i’r Cynghorydd Michael Sol Owen a’r Cynghorydd Elin Hywel am eu gwaith gwirfoddol a phwysig yn cadw trefniadaeth y Cyngor.

Y Diweddar Mr. Charles Jones (Maer Pwllheli 1974 - 76)

Mynegodd y Maer gydymdeimlad â theulu’r Cyn-Faer, Mr. Charles Jones, a fu farw yn Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli, ar Fai 23, 2018, yn 95 mlwydd oed. Yr oedd yn ŵr hynaws, dihymongar, a doeth ei eiriau a wasanaethodd ei dref dros gyfnod helaeth iawn.

Diolchodd y Maer i’r Cynghorydd Ioan Gruffydd am ei waith yn diweddaru Gwefan y Cyngor Tref.


News 2018