Y Magaret Platt of Stallybridge
Bu gan Gyngor Tref Pwllheli ran bwysig yn nyfodiad y cwch achub cyntaf i’r dref. Roedd Henry T. Richiardson a’i fab, Henry Richardson, Brynhyfryd, yn ddyfeiswyr cychod achub, ac wedi wedi ennill gwobrau lu mewn gwahanol arddangosfeydd am eu cychod tiwbaidd. Wedi marw’r tad, cafodd un o’i gychod ei gyflwyno i Gyngor Tref Pwllheli. Ym 1881, gwnaeth ei weddw gais i’r Cyngor Tref i godi cwt i gadw’r cwch yng Nglan-y-don, a chytunwyd i hynny. Nid yw’n hysbys os codwyd y cwt. Gadawsai Henry T. Richardson £5000 yn ei ewyllys i sefydlu cwch achub ym Mhwllheli. Cafwyd y cwch, ond ni wyddir beth fu ei hanes.
Ym 1889, gwelodd y Cyngor Tref yn dda i godi cwt i gwch achub yn Nhocyn Brwyn. Cwch achub tiwbaidd ar gyfer 16 o rwyfau oedd hwnnw. Nid oedd yn addas i anghenion Pwllheli, a symudwyd ef i’r Rhyl. Fis Tahweddd 1892, daeth cwch achub newydd, y Magaret Platt of Stallybridge i Bwllheli, yn gwch agored i 12 o rwyfwyr, ond heb hwyl. Achubodd hwnnw 11 o bobl wrth Sarn Badrig ar Fawrth 16, 1893. Bu hanes hir a diddorol i wasanaeth y cychod achub gwahanol a fu dros y blynyddoedd yn y dref.