Welsh version only....
Dros y blynyddoedd, rwyf wedi bod yn rhan o nifer fawr o brosiectau cymdeithasol; e.e. Age Cymru Gwynedd a Môn, yn gyfrifol am sefydlu a datblygu Canolfannau Heneiddio'n Dda / Clybiau Ieuenctid i Bobol Dros 50 oed, traws Gwynedd. Yn Rheolwr ardal Gogledd Orllewin Cymru Cyfrifiad ONS 2011 (sef Siroedd Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy) gyda dros 400 o gyd-gysylltwyr yn y tîm.
Tra'n hunan cyflogedig, ac yn berchennog cwmni 'Digwyddiadau MP Events' bûm yn trefnu a hyrwyddo digwyddiadau amrywiol a niferus. Yn cynnwys cynadleddau a marchnata nifer o brosiectau newydd a chyffrous, i asiantaethau megis, Prime Cymru 50+, Gyrfa Cymru, Mentrau Busnes a Dynamo.
Bûm yn cynhyrchu a chyflwyno cyfresi radio a theledu amrywiol ac yn golofnydd cyson yn y wasg (Cymraeg a Saesneg). Mae gennyf brofiad eang o roi cyflwyniadau addysgiadol cyhoeddus ynglŷn â rôl a thargedau asiantaethau yn y gymuned.
Yn y flwyddyn 2018 penodwyd fi yn Aelod o Gyngor yn Aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru (CIC) sef, cyfnod Ebrill 1af 2018 - 2022 (yn gynwysedig). Cyngor Iechyd Cymuned ydi'r corff gwarchod annibynnol yng Nghymru sydd yn ymwneud â phob agwedd ar ofal a thriniaeth ysbytai. Gydag Ysbyty Bryn Beryl ym milltir sgwâr tref Pwllheli, fe fydd hyn yn rhoi'r cyfle i mi i gael bod yn rhan o benderfyniadau a datblygiadau pwysig yno.
Mehefin 2022, wedi cyfweliad arall cafodd fy nhymor fel Penodiad Cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru ei ymestyn hyd Fawrth 2023.
Ers 20 mlynedd mae Glenda Haf a minnau, heb anghofio Cyffro, y Spanial Cocyr du, wedi ymgartrefu yng Nghreigiau Iocws, Plwyf Abererch, ac wrth ein boddau yma. Anrhydedd enfawr oedd cael fy ngwahodd i ymaelodi yng Ngorsedd Beirdd Ynys Prydain a derbyn Urdd Derwydd er Anrhydedd, y Wisg Werdd, am Wasanaeth i'r Celfyddydau.
Acw, Creigiau Iocws, Ffordd Caernarfon, Pwllheli, LL53 6TT | (01758) 614023 / 07831 869857 | mici@miciplwm.co.uk