Y Clerc - Mr Geraint Page Williams

Ganed ym 1972, yn briod i ferch o Bwllheli. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Cymerau, Penrallt a Glan y Môr. Cafodd ei radd mewn Economeg ag gradd meistir yn Gweinyddu Busnes.

Dechreuodd ei yrfa yn gweithio yn Midland Bank ym Mhwllheli. Ers hynna mae wedi gweithio mewn gwerthiant yn Lerpwl. Gaer, Portsmouth, Abersoch a dros yr ardal yn ogledd Cymru. Dros y cyfnod mae o wedi gweithio i Lidl, Haulfryn, Pemberton and yn ddiweddaraf i Lloyds Caravans.

Mae 'na gysylltiad teuluol i swydd Clerc Cyngor Tref. Roedd ei dad yn glerc o 1972 i 1982. Mae’n byw yn ôl ym Mhwllheli ers 2004 ac mi welwch o yn cerdded ei Labrador du o gwmpas y dre yn amal. Ymysg ei diddordebau y mae pêl droed, cyfrifiaduron a choginio.

Mr Geraint Page Williams
Siambr y Cyngor
9 Stryd Penlan
Pwllheli
Gwynedd
LL53 5DH

01758 701454 

clerc@cyngortrefpwllheli.org

Mr Geraint Page Williams

Who's Who