Owen J.G. Cowell yn cofio’i daid . . .
Doctor Mela - Meddyg
(Dr. Owen Wynne Griffith, O.B.E., Y.H.) [1856 – 1954]
Pa faint o breswylwyr Ffordd Mela, ym Mhwllheli heddiw, tybed, sy’n gwybod rhywbeth am wasanaeth a chyfraniad mawr y boneddwr a’r cymwynaswr o feddyg y mae eu ffordd yn y dref yn dwyn ei enw? Ef, wrth gwrs, oedd y gŵr a ymdrechodd gymaint â neb yn ei ddydd – a hynny o dan anfanteision dybryd, o’u cymharu â heddiw - i wella ansawdd iechyd a bywyd cymdeithasol trigolion Pwllheli a Phenrhyn Llŷn? Cafodd y Doctor Owen Wynne Griffith - neu Doctor Mela, fel yr adnabyddid ef yn lleol – ei eni ym 1856 yn Y Plas, Nefyn, yn fab i’r Capten Owen Griffith a’i briod, Catherine.
Adeiladydd llongau yn Nefyn oedd Owen Griffith, ei dad, a hynny ar adeg pan oedd Nefyn (fel Pwllheli hefyd) yn brysur gynyddu mewn poblogaeth fel tref adeiladu llongau. Yn Nefyn, ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn, y ganed y Capten Owen Griffith ym 1816, ar adeg pan oedd y môr yn bopeth i’r trigolion, a phan oedd gan ond odid bob teulu ryw gysylltiad neu’i gilydd â’r môr.
Yr oedd gan bobl Nefyn wybodaeth ryfeddol am ddinasoedd a gwledydd pellenig ym mhen draw’r byd: Efrog Newydd, Califfornia ac Awstralia – enwau a fyddai’n cael eu hynganu’n barhaus yn eu siarad pob dydd – yn union fel pe na byddai’r lleoedd hynny ond i lawr y lôn oddi wrthynt! Arferai gwragedd capteiniaid, ambell waith, fynd yng nghwmni eu gwŷr i’r mannau pell hynny, ond fel eraill o drigolion Nefyn, ‘doedden nhw ddim wedi crwydro ar dir sych ddim pellach na Phwllheli, nad oedd ond saith milltir i ffwrdd! Wrth i’r bachgen Owen Griffith dyfu, yr oedd Nefyn yn ferw gwyllt ar gyfrif y gwaith o adeiladu llongau. Cafodd cymaint â 145 o longau eu hadeiladu yn Nefyn a Phorthdinllaen yn ystod oes Owen Griffith. Yr oedd yn lle diddorol i’r plant a fegid yno; plant oedd wedi cael eu llwyr fesmereiddio o glywed clebran parhaus morwyr yn adrodd am eu hanturiaethau gwahanol ym mhellafoedd byd. Nid rhyfedd i’r storiau hoenus ac anturus hynny gydio yn nychymyg hogiau’r cylch, a chreu ynddynt awydd mawr i gael mynd i’r môr eu hunain. Prin iawn oedd cyfleon gwaith i wŷr ifainc Penrhyn Llŷn bryd hynny: gallent gael eu prentisio gan bwy bynnag a fyddai’n fodlon cynnig gwaith iddynt; gallent fynd i weithio ar y tir fel amaethwyr; neu gallent geisio bywoliaeth ar y môr. Yn y fath awyrgylch y bu i Owen Griffith - o oedran cynnar - benderfynu mai dilyn traddodiad ei deulu a wnâi yntau a mynd i’r môr, gan arbed ei fam o un arall i’w fwydo.
Mynd i Ysgol Ramadeg Botwnnog am ei addysg a wnaeth y mab, Owen Wynne Griffith, yn ddeuddeg mlwydd oed, Nid gorchwyl rwydd mo hynny yn yr oes honno, gan y golygai fod iddo gerdded yr holl ffordd o Nefyn i Fotwnnog yn cario’i fwyd a’i lyfrau ar fore dydd Llun, ac aros yno hyd y nos Wener, cyn cerdded adref yn ôl. Byddai’n lletya am gost o ddeunaw ceiniog yr wythnos mewn bwthyn cyfagos, a gwraig y bwthyn yn rhoi iddo lefrith ac yn coginio’i fwyd.
Wedi cwblhau ei addysg ym Motwnnog, aeth i Fairfield, Manceinion, ac i Borthaethwy am hyfforddiant pellach. Ac yntau’n un ar bymtheg oed, yn ôl arfer y cyfnod, aeth yn brentis meddyg at y Doctor Evan Roberts, Pen-y-groes. Dyna a digwyddai cyn i ymgeisydd meddygol gael mynediad i rai o ysbytai mawr Lloegr. Ym 1874, aeth i Ysbyty Guys yn Llundain i’w gymhwyso’i hun. Mae’r teulu’n cofio amdano’n adrodd fel y byddai wrth gerded i’r ysbyty bryd hynny yn mynd heibio tŷ crand a’r ysgrifen ar ei fur yn Saesneg yn dweud, “Pwy fyddai’n credu mai gwerthu bwyd cathod a’i prynodd?” Aeth i Brifysgol Caeredin a graddio’n feddyg ac yntau ond yn ddwy ar hugain oed ym 1878.
Yr oedd dylanwad ei deulu’n drwm arno, a’r môr yn ei waed. Aeth i ddilyn yn ôl traed ei dad am gyfnod, a bu’n hwylio’r moroedd gyda llongau’r P&O. Wnaeth hynny ddim parhau’n hir, fodd bynnag. Dychwelodd i Gymru, a sefydlu practis meddygol ym Mhlas Bach yn Nefyn i ddechrau. Priododd ym 1883 â Mary Roberts, a oedd yn hanu o Lerpwl. Pan ddychwelodd y ddau ohonynt o’u mis mêl, yr oedd croeso tywysogaidd yn eu haros gan drigolion Nefyn. Yr oedd holl ffenestri’r dref wedi eu goleuo â chanhwyllau. Debyniodd y pâr ifanc rodd arbennig fel anrheg priodas gan dad y briodferch, sef y fferm, Mela, yn Llannor. Dyna sut y daeth y meddyg i gael ei adnabod fel ‘Doctor Mela.’ Agorodd bractis meddygol yn ardal Llannor, ac yno y byddai’n cyflawni ei waith fel meddyg, ac yn ffermio yn y Mela. Arferai’r gair Surgery fod uwch ben drws y ffermdy. Yn ddiweddarach, sefydlodd ei Feddygfa ym Mhwllheli.
Daeth y Doctor Owen Wynne Griffith, neu Doctor Mela, gyda’r cydyn o farf wen o dan ei ên, yn enwog drwy wlad Llŷn, a hynny nid yn unig ar gyfrif ei allu fel meddyg, ond hefyd ar gyfrif ei ddiddordeb a’i garedigrwydd tuag at y rhai hynny na allent fforddio talu am wasanaeth meddyg. Ac yr oedd galw am wneud hynny yn yr oes honno. Yn achos y Doctor Mela, fodd bynnag, câi pawb yr un driniaeth yn union ganddo.- o’r crwydryn tlotaf un i’r uchelwr cyfoethocaf.
Bryd hynny, prin fyddai’r sôn am anfon pobl i ysbyty, gan mai adref ar eu haelwydydd eu hunain y byddai cleifion ac anafusion yn cael eu trin. A phan fyddai galw am lawdriniaeth, neu am dorri aelod o gorff, digwyddai hynny ar fwrdd y gegin yng ngolau lamp. Mae’n anodd iawn i ni heddiw amgyffred y sefyllfa oedd yn bod yn yr oes honno. Mae un adroddiad papur newydd o 1913 yn adrodd am ddamwain a ddigwyddodd pan oedd criw cwch achub Porthdinllaen yn dilyn eu hymarferiadau arferol. Digwyddodd damwain gâs i un oedd ar fwrdd y cwch. Cymerwyd ef i’w gartref lle bu’n rhaid i nifer o feddygon (a’r Dr. O. Wynne Griffith yn un ohonynt), dorri ei goes o dan y pen glin. A bu’r driniaeth yn llwyddiant.
Yn oes y modur cyflym, yr ambiwlans a’r ambiwlans awyr, mae’n anodd dychmygu gweld Dr. O. Wynne Griffith yn y cyfrwy yn teithio o fan i fan gyda merlyn y Mela. Mae sôn amdano’n treulio cymaint â thridiau ar un achlysur, a hynny heb fawr o seibiant, yn teithio gyda’i ferlyn i Aberdaron, wedyn i Feddgelert, ac yn ôl drachefn i Roshirwaun. Cafodd ei alw ragor nag unwaith i Ynys Enlli, a chael ei gadw yno, ar un achlysur, am bum niwrnod am na allai ddychwelyd ar gyfrif cyflwr y swnt.
Yr oedd y Doctor Mela yn cael ei adnabod fel ‘Doctor y Bobl,’ ac nid rhyfedd hynny. Yr oedd yn adnabod ei gleifion ac yn barod i sefyll i fyny drostynt a gwneud ei orau iddynt. Yr oedd ym Motwnnog unwaith, a gwelodd yno bobl yn pleidleisio’n gyhoeddus am y tro diwethaf. Sylweddolodd y Doctor yn syth pa mor anghyfiawn oedd y drefn o fwrw pleidlais i foddhau’r meistr tir, ac nid yn ôl dymuniad y bobl eu hunain. Teimlai’n gryf yn erbyn pob math ar anghyfiawnder, a thybiodd y byddai gobaith drwy gefnogi David Lloyd George, yr oedd yn gyfaill iddo, er i hynny gostio iddo. Ond y bobl oedd yn cyfrif iddo ef. Gallasai fod wedi dewis bod yn feddyg teulu i’r uchelwyr yn unig (dyna arferiad ambell feddyg bryd hynny) ond nid Dr. Mela. Yr oedd hefyd yn gyfaill i Syr Love Jones Parry, Madryn, ac yr oedd wrth wely’r cyfaill hwnnw pan fu farw.
Rhoes Dr. O. Wynne Griffith wasanaeth nodedig i dref Pwllheli. Bu’n aelod o Gyngor Tref Pwllheli oddi ar 1893, ac yn faer ragor nag unwaith. Bu’n Gynghorydd Sirol, pan feiddiodd sefyll yn erbyn un o’r tirfeddianwyr. Cafodd ei anrhydeddu â rhyddfraint Pwllheli ym 1937, a chafodd yr O.B.E. am ei wasanaeth cyhoeddus. Yr oedd yn un o sefydlwyr Ysgol Ramadeg Pwllheli. Bu’n flaenor yng Nghapel y Presbyteriaid ym Mhenmount, Pwllheli, am drigain mlynedd, ac ym Mhentreuchaf am flynyddoedd cyn hynny.
Bu farw am saith o’r gloch ar fore Sul ym mis Ionawr 1954 yn 98 mlwydd oed.