Huw Roberts (Huw Rheinallt) - Athro a Dramodydd

Robyn Lewis yn cofio'i gyfaill...

Huw Roberts (Huw Rheinallt) (1921 - 2010) Athro a Dramodydd

Roedd athro Cymraeg Ysgol Botwnnog gartref dan annwyd. Felly - o ddiffyg gwell - gofynnwyd i'r gwyddonydd 'Robaits Chem' gamu i'r bwlch. Er syndod i bawb, profodd Huw Roberts fod ganddo wybodaeth drylwyr o iaith a llên Cymru. Yn ddiweddarach, daeth i fri cenedlaethol yn llenor a dramodydd, gan gynnwys math newydd o greu syniadau: sgriptiwr.

Brodor o Lanberis ydoedd wedi ei eni'n un o chwech ar lethrau'r Wyddfa. Ar ôl graddio mewn Cemeg a Daeareg yn Aberystwyth, a gorfod gweithio'n oruchwyliwr mewn ffatri ffrwydon ym Mhenybont ar Ogwr yn ystod y Rhyfel, bachodd swydd athro Cemeg ym Motwnnog. Dyma ardal na fu ynddi erioed, ac na wyddai prin lle'r oedd. Cofiai am ddau ŵr dieithr (iddo), Glyn Owen, athro hanes Ysgol Botwnnog (gynt o'r Waenfawr), a Gruffudd Parry yn dod i'w gyfarfod oddi wrth y bws ger Swyddfa Bost, Botwnnog ym 1946 a'i groesawu i galon Llŷn. Glyn Owen, yn ogystal â Gruffudd Parry, a'i denodd i’r byd actio a sortio llety iddo ym Morwylfa, Ffordd y Cob, ym Mhwllheli, lle roedd mam John Sam Williams (y pensaer) yn cadw tŷ llety. Gruffudd Parry oedd yn cyfieithu dramâu J. M. Synge a George Bernard Shaw ar gyfer Cwmni Drama Glan y Môr. Bu Gruffydd Parry ac yntau'n gyfeillion clos hyd farwolaeth Gruffudd yn 2002.

Ym Mhwllheli, lle treuliodd weddill ei oes, cyfarfu Huw â Gwen, merch Mr. a Mrs Thomas Williams, siop a fferm Pwlldefaid. Priodasant ym 1949 a mynd i fyw i rif 9, Ffordd Caerdydd. Ymhen y rhawg, ganed iddynt ddau fab, David a Tom. Ym 1964 symudodd y teulu i Ddôl Erw, Yr Ala. Dioddefodd Huw a'r hogiau ergyd drom pan fu farw Gwen ym 1994.
Daeth Huw'n adnabyddus yn bennaf ym myd y ddrama. Roedd yn awdur tair drama lwyfan a sawl drama deledu. Bu'n gysylltiedig â Phobl y Cwm o'r dechrau ac am dros ddeng mlynedd gweithiodd ar y gyfres, yn awdur a golygydd scriptiau. Cydnabuwyd ei waith a'i dalent gan Gymdeithas Theatr Cymru a'i dyrchafodd yn Llywydd Anrhydeddus. Bu hefyd yn weithgar â Phanel Drama'r Eisteddfod Genedlaethol, Cwmni Theatr Cymru, Theatr Gwynedd, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chymdeithas Gelfyddydau'r Gogledd. Bu'n actio a chyfarwyddo gyda chwmni Glan y Môr, Pwllheli, o'r '40au hyd ddiwedd y 60au. Medrai fy ngwraig, Gwenan, a fu'n actio gyda Chwmni Drama Blaenau Ffestiniog, ddweud wrthyf: "Roeddwn i'n nabod Huw Roberts cyn i mi erioed dy gyfarfod ti!"
Ym penrhyn Llŷn, bu'n llywydd sefydliadau mor wahanol â Chylch Llenyddol Llŷn a Chlwb Golff Pwllheli. Ef fu'n bennaf gyfrifol am gyhoeddi cyfrol ddathlu cyfrol canmlwyddiant y Clwb, gan ymorol fod y Gymraeg yn cael lle cyfartal a theilwng yng ngweithgareddau'r golffwyr.
Weithiau, ar adeg prysur ambell sêl yn Siop Pwlldefaid, â'i Huw yno i roi help llaw wrth y cownter. Nid oeddwn yn ei adnabod yn dda iawn ar yr achlysur y gwerthodd bâr o fennyg lledr i mi. Erbyn i mi eu dodi am fy nwylo, roedd y naill yn ffitio - yn briodol iawn 'fel maneg' - ond roedd y llall yn rhy dynn. Dyma ddwyn yr amryfusedd i'w sylw. Cefais eglurhad sut yr oedd gewynnau'r llaw yn medru chwyddo gydag ymdrechion sgrifennu. 'Efo'ch llaw dde y byddwch chi'n sgwennu?' gofynnodd. 'Ie,' atebais innau. 'Wel dyna chi 'ta,' ymatebodd. 'Agorwch a chauwch eich llaw dde rhyw hanner dwsin o weithiau a'r faneg amdani rhyw deirgwaith y dydd,' cynghorodd, fel pe bai'n feddyg yn argymell asprin. Sut bynnag, fe weithiodd y perswâd a'r sebon meddal, nes prynais y menyg. 'Brysiwch yma eto,' meddai'n garedig wrth i mi fynd. Oedd, roedd Huw yn giamstar o siopwr deheuig yn ogystal.
Ond roedd ganddo hobïau diarffordd hefyd. Un ohonynt oedd hel achau ei deulu. Bu wrthi am flynyddoedd yn manwl, fanwl gasglu ffeithiau (a honiadau) am ei hynafiaid. Medrodd brofi - o leiaf iddo'i hun - fod perthynas waed rhwng ei deulu yn Eryri a'r Fam Frenhines! Ynteu ai tynnu ein coesau yr oedd? Medrai wneud hynny weithiau nes oeddem yn tincian!
Er fy mod yn ei led adnabod ers degawdau, dim ond wedi i mi ymuno â Chriw Coffi enwog Caffi Gwalia ar ôl ymddeol y deuthum i'w nabod yn dda - yn ti-a-thithau megis. Ar adeg sgrifennu'r geiriau hyn yn Llanw Llŷn, fis Medi 2010, erys pedwar ohonom, sef Owen Cowell, Dr Osian Ellis, Wyn G. Roberts (Wyn Daron) a minnau. Byddem, a byddwn, yn trafod pob pwnc dan haul ac yn rêl giamstars ar dynnu coesau ein gilydd. Roedd Huw a minnau ar yr un donfedd, yn genedlaetholwyr rhonc ac yn bobl 'y Pethe.'
Roedd yna elfen o swildod yn ei gymeriad hefyd. Yr oeddwn, ers blynyddoedd, wedi dymuno ei
enwebu i'w anrhydeddu gan yr Orsedd, yn ôl ei fawr haeddiant. Ond gwrthodai bob tro. Sbel cyn Eisteddfod Meifod 2003, gofynnodd dau aelod blaenllaw o Gymdeithas Theatr Cymru i mi pam nad oedd Huw yn aelod. Eglurais paham. Eithr roedd y ddau yn benderfynol o'i gael i'r Orsedd. Felly awgrymais yn gryf iddynt mai'r ffordd orau i gael y Wil yma i'w wely oedd iddynt enwebu Huw heb ddweud wrtho! Ac felly y bu. Y cyntaf a wyddai Huw am y peth oedd pan gyrhaeddodd y llythyr yn dweud ei fod ymhlith detholedigion y Wisg Wen y flwyddyn honno. Fu dim gwrthod wedyn! A myfi fel Archdderwydd a gafodd y fraint o urddo fy hen gyfaill Huw Ronald Roberts yn dderwydd, i'w adnabod yng Ngorsedd y Beirdd fel Huw Rheinallt.'

Bum yn crwydro yn ei gwmni droeon. Cynhadledd 'Ie dros Gymru' yn Llandrindod,' adeg y refferendwm ddatganoli. Yna aduniad cyn-fyfyrwyr Aber o bryd i'w gilydd i gael cinio a darlith. Ar un achlysur pan oeddwn yn Archdderwydd ac yn ymweld â gŵyl Oireachtas Wyddeleg Iwerddon - pryd y cawn ddewis Gorseddogyn arall yn gymar teithio - dewisais Huw. Dyma'r achlysur pan darodd ein llong, y Jonathan Swift, yn erbyn morfil yng nghanol Môr Iwerddon, ac y treuliodd wythnos yn y doc trwsio!
Yn ystod y ddwy neu dair blynedd a Huw yn graddol lesgáu, byddai'r naill neu'r llall o'r hogiau yn dod ag ef yn y car draw i Gylch Coffi'r Gwalia. Dyna sut y daethom i'w hadnabod hwythau, ac o bryd i'w gilydd, bydd un ohonynt yn dal i alw i gyd-baneidio â ni.

Bu farw Huw Roberts y 25ain Mehefin 2010.
Rhoddwyd ef i orffwys ym mynwent Penrhos.
Gyda diolch i'r awdur, Robyn Llŷn am ganiatâd i
gyhoeddi ei deyrnged; i Lyfrgell Prifysgol Bangor am eu cymorth
ac i Mr. David Wyn Roberts am y lluniau o'i dad.

Huw Roberts

Celebrities