Iris Jones - Cyflwynwraig ac Actores

Alun Ffred Jones yn cofio . . .

Iris Jones - Cyflwynwraig ac actores

Ym Mhwllheli y ganed ac y maged Iris Jones Gadawodd yr ysgol ym Mhwllheli yn 16 oed a mynd yn fyfyriwr i Goleg y Castell, Caerdydd, sydd bellach yn Goleg Cerdd a Drama Cymru. Dechreuodd ar ei gyrfa yn stiwdios Granada ym Manceinion ym 1960 fel cyflwynydd ar raglen wythnosol Dewch i Mewn, gyda’r
Parchedig Rhydwen Williams (oedd â gwreiddiau yn Nyffryn Nantlle). Daeth y gwaith i ben pan ddechreuodd gorsaf annibynnol Teledu Cymru ym 1962. Aeth Iris i Lundain i drio’i lwc heb lwyddiant, a daeth i Gaerdydd mewn lori, gan nad oedd arian ganddi ar gyfer y tren, ac
aeth i aros i hostel gan y Pabyddion yn Heol y Gadeirlan. Roedd yr elfen annibynnol, eofn yma yn nodwedd ohoni hyd y diwedd, medd ei chyfeillion. Ar ôl gweithio ar ffilm Gymraeg yng Nghanada ar gyfer S4C yn y nawdegau, aeth Iris yn ei blaen i weld America gan aros
unwaith eto mewn hostel.
Ar ôl cyfnod yn ‘nanny’ i deulu yn y ddinas, daeth llythyr un diwrnod gan Deledu Cymru yn ei gwahodd i gyfweliad ar gyfer swydd fel cyflwynydd ar ôl bod yn aflwyddiannus y tro cyntaf. Gorsaf ddwyieithog oedd hon, wrth gwrs, ac roedd swydd ‘continuity’ yn un beryglus gan fod y
dechnoleg yn annibynadwy a’r cyflwynydd druan yn gorfod llenwi munudau heb rybudd. Daeth y fenter gyffrous hon i ben ym mis Mai 1963, a phrynwyd y fasnachfraint gan TWW. Yn ffodus i Iris, roedd Pennaeth Cyflwyno TWW, Tom Carpenter, wedi sylwi arni a chafodd
gynnig cyfnod prawf o dri mis gan y cwmni, gan weithio i ddwy fraich y cwmni newydd. Un prynhawn Sul torrodd rhyw ffilm a methwyd ei thrwsio. Yr unig beth wrth gefn gan TWW oedd VT o Rolf Harris yn canu ‘Tie Me Kangaroo Down, Boy’. Chwaraewyd hi drosodd a
throsodd rhwng cyfnodau o Iris yn cyhoeddi rhaglenni a oedd ar ddod, a hyd yn oed yn rhannu rysetiau. Pnawn difyr i bawb!
Daeth yn wyneb cyfarwydd yng Nghymru ac Iwerddon. Ymysg ei hedmygwyr, roedd criw goleudy y Tuscar Rock a fu’n gohebu â hi am flynyddoedd. Dysgodd Iris ddweud nos da mewn Gwyddeleg, “Oiche Mhaith,” ac ym 1966, aeth i Wexford i gyfarfod ei ffans Gwyddelig.
Yn anffodus ym 1967, collodd TWW ei hawl i’r fasnachfraint i Deledu Harlech, a chollodd Iris ei gwaith unwaith eto, er na fu iddi adael y swydd yn derfynol tan fis Mai 1968.
Ar ôl dyfodiad Teledu Harlech, dechreuodd |Iris gyflwyno rhaglenni plant fel Tins a Lei, a rhaglen gylchgrawn, Hamdden. Yn ddiweddarach , ar ôl dyfodiad S4C, cafodd rannau amlwg yn y gyfres Minafon, a oedd yn seiliedig ar nofel Eigra Lewis Roberts, Mis o Fehefin. Roedd
hefyd yn y ffilm gan y cyfarwyddwr a’r cerddor o Bwllheli Endaf Emlyn, Stormydd Awst. Rhwng 1997 a 2005 bu’n portreadu cymeriad Beryl Nicholas, mam Casi, yn y gyfres Pobol y Cwm.
Dywedodd yr actor Huw Garmon, a fu’n cydweithio â hi ar Bobol y Cwm , “Un o genod bach Pwllheli oedd hi ar hyd ei bywyd… a doeddech chi byth yn dod o’i chartref heb fod wedi chwerthin llond bol a chael sgwrs ddifyr, ddeifiol.” A dywedodd yr actores Rhian Morgan
amdani. "Un oedd yn torri cwys oedd Iris - yn torri ei chwys ei hun. Roedd hi’n berson dewr a direidus hefyd.”
Bu’n briod â Meurig a ddeuai o Waencaegurwen ac a’i rhagflaenodd, ac mae’n gadael brawd, Gwyndaf. Bu farw Iris fis Mehefin 2017 yn 82 oed.

(Yn seiliedig yn rhannol ar gyfweliad rhwng Richard Wyn Jones ac Iris Jones, 2001).


Celebrities