Jac Ben - Pysgotwr

Owen Roberts yn cofio am ..

Jac Ben - Pysgotwr

Un o gymeriadau lliwgar a diddorol tref Pwllheli oedd Jac Ben Jones, ‘Brenin y Mecryll,’ ac fel brenhinoedd Lloegr, yr oedd ganddo ddau ben blwydd – un swyddogol ac un go iawn. Cafodd ei eni naill ai ar Fehefin 8 – y dyddiad, yn ôl traddodiad pan fyddai Jac Ben yn dal y facrell gyntaf un, neu ar Orffennaf 19, 1901, a hynny yn Stryd Wesla, Pwllheli, yn unig fab Benjamin (’Sgotwr) a Margiad Jones. Yr oedd tair chwaer hefyd, Hanna Davies, Pwllheli, Lil yn Rhuthun, a Maggie Jelliman yn Lerpwl.

Cafodd Jac Ben ei fagu, yn ôl trefn yr oes, i barchu rheolau’r Rhodd Mam, ac i dderbyn straeon Y Beibl yn llythrennol. Achos torcalon iddo oedd hanes y Mab Afradlon: hogyn yn gadael aelwyd ei dad, ac yn mynd yn hogyn drwg, a’i fam wedi ymdrechu i’w fagu’n annwyl. Byddai Jac i ddiwedd ei oes, ar ôl cael diod, yn torri i grio wrth sôn am ei fam. Dim ond i rywun ddechrau canu, That Old Fashioned Mother of Mine, a byddai Jac a’i ben yn ei ddwylo yn sychu ei lygaid. Yr un pryd, dim ond i rywun daro, Throw out the Lifeline, a byddai Jac ar ei draed yn bloeddio canu, ac wedi anghofio’n llwyr am ei fam. Mae’n amlwg fod ei fam wedi crefu arno i fod yn hogyn da, a natur Jac mor groes i hynny, nes iddo ei boeni drwy gydol ei oes, a dyna – dybiwn i – oedd yn peri iddo dorri ei galon wrth feddwl amdani. Mi greda’i hefyd fod y dylanwad hwnnw wedi bod yn gyfrifol i raddau helaeth am ffurfio’i gymeriad.

Gadawodd Jac yr ysgol yn ifanc ac yn hollol anllythrennog. Llew Thomas, un o’i gyfoedion, adroddodd ei hanes yn Ysgol Penlleiniau. Roedd hi’n brawf Saesneg, a’r prifathro’n cerdded o amgylch y dosbarth, ac yn stopio hefo Jac. What’s that you’re doing, Jac Jones? “Llun cwch y’nhad, Syr,” atebodd Jac, a llun y Cetiwayo yn llenwi’r papur arholiad.

Newydd ddod adref o’r môr oedd Jac pan glywodd rywun yn gweiddi am help yn yr harbwr. Pan edrychodd dros y bont ym Mhen Cob, gwelai rhyw hogyn yn y dŵr bron â boddi. Tynnodd Jac ei gôt a neidio i fewn a llwyddo i ddal pen yr hogyn uwch ben y dŵr a’i gwneud hi am y lan. Ond er i Jac grefu arno i fod yn llonydd, dal i gicio a bloeddio ‘roedd o. “Dyma fi a slap iddo i’w lonyddu.” Amser te, dyma gnoc ar y drws – plusman. Y creadur wedi mynd i ddweud wrth y plusman fod Jac Ben wedi ei daro fo! “Y cythral bach,” meddwn i, “Pwy oedd o, Jac?” “Un o betha’ Tin Clwt ’na o Bentra Poeth!”

Mae gennyf lun o Jac hefo Wil Gould a Twm ei frawd pan oeddynt yn pysgota yn y Redwing, a phan soniais wrth Jac fy mod wedi cael y llun, yr unig ateb a gefais oedd, “Welaist ti fy mreichiau i? Mi fu yn y Redwing am sbel hefo Wil Gould, er nad oedd erioed lawer o gyd-dynnu rhwng y ddau: Wil mor hynod o weithgar a manwl a chyfrifol, yn erbyn y ddiod gadarn, ac yn hawlio parch ac edmygedd y cyfan o Fae Ceredigion am ei allu fel cychwr, a Jac yn hollol groes, er na chlywais i erioed mo Wil yn dilorni Jac – a dweud y gwir, clywais o unwaith neu ddwy yn ei ganmol - ac yr oedd hynny yn beth dieithr iawn i Wil Gould.

Bu Wil Gould yn Gocsyn y Cwch Achub am flynyddoedd lawer, a dyna fel y cafodd Jac fynd i’r cwch. Yn yr hen ddyddiau, ni fu erioed – hyd yn oed yn ystod blynyddoedd y ddau Ryfel Byd - brinder criw profiadol, felly ’d oedd dim angen i’r hen bobl gynnig lle i un mor annibynadwy â Jac Ben. A sôn amdano yn anghyfrifol, dywedodd stori wrthyf rhyw dro.

Aeth efo ffrind i bysgota i Gilan a chael llwyth go dda o bysgod. Ond, yn lle troi am adref, troesant i’r Bermo, gan werthu’r pysgod yno a sbri am dridiau! Sut nad anfonwyd y Cwch Achub i chwilio amdanynt, wn i ddim, Ond difetha’r stori fuasai gofyn peth felly.

Wedi iddo gael ei dderbyn yn aelod o griw’r Cwch Achub, daeth yn ddyn Cwch Achub go iawn, a bu’r cap gwyn a bathodyn y Cwch Achub arno yn rhan o’i wisg bob dydd. Cotiau oel melyn oedd gennym y dyddiau hynny, a’r RNLI mewn du ar bob ysgwydd. Ar y lan, pan yn teithio o le i le, byddai Jac yn anelu am y dafarn, a’r gôt oel dros ei fraich, ond wedi gofalu fod yr RNLI yn y golwg. Wrth iddo ymwthio at y bar, byddai rhywun yn siwr o ofyn, “Oh, you’re a lifeboat man?” Ac meddai Jac, “Yes. Out last night. Saved Seven.” “Jolly good,” meddid wrtho, “what will you have to drink?” A hynny’n codi cywilydd go iawn ar y sawl oedd hefo fo!

Bu Jac yn curo’r drwm mawr am flynyddoedd hefo Byddin yr Iachawdwriaeth, a Hanna ei chwaer hefo’r bocs hel pres. Byddai’n mynd rownd y tafarnau bob nos Sadwrn hefo’r bocs. “Sgynoch chi geiniog at Iesu Grist, ngwashi? Fysa ni ddim yma
heblaw amdano fo!”

Bob hyn a hyn, byddai Biji yn chwythu’r corned hefo’r Fyddin, hyd nes i rywbeth ddod drosto a’i droi’n hogyn drwg. Roedd merch ifanc ddeniadol o Saesnes yn ffyddlon hefo’r Fyddin, ac roedd Biji wedi gwirioni o’i gweld. Hynny, mae’n debyg, oedd yr atdyniad mwyaf. Rhyw nos Sadwrn, a hithau â’i meddwl ar ddim ond ar yr emynau a’r tambwrîn, gofynnodd Biji iddi os hoffai fod yn gariad iddo. Dychrynodd y ferch am ei bywyd, a’i wrthod. A dyna ddiwedd Byddin yr Iachawdwriaeth i Biji. Gyda’i gorned o dan ei gesail, ymaith ag o i’r Meitar.

Y cwch bach harddaf a fu yn harbwr Pwllheli, mi gredaf, oedd cwch Jac Ben. Cwch clincar o tua 23 troedfedd o hyd wedi cael ei adeiladu gan un, William Edwards, yng Nghricieth. Yr oedd sôn fod a wnelo Lloyd George rywbeth ag o – ei fod wedi ei adeiladu, os cofiaf yn iawn, i rywun fynd â’r gŵr enwog hwnnw allan i môr yn achlysurol. Byddai’n llithro mynd heb gyffroi’r dŵr ac yn ddistaw; i’r dim i ddal mecryll. Prynwyd y cwch gan Wil Gould i ddechrau, a rhoddodd enw ei unig ferch, Catherine, arno. Wedyn prynwyd y cwch gan Jac Ben, a rhoes yntau enw ei unig ferch, Benita, arno. Mae’r cwch erbyn hyn mewn cae yn Rhoshirwaen, ond prin fod llawer yn ddigon craff i sylwi mai cwch ydy o.

Daeth galwad un noson dywyll, wyntog, i fynd i gyfeiriad Enlli i chwilio am ryw gwch oedd mewn trybini. Gan fod môr mawr iawn yn rhedeg o’r De Orllewin, cymerodd y Cwch Achub oriau i gyrraedd y fan, ond wedyn fuo nhw fawr o dro yn cael hyd i’r cwch er nad oedd dim radar na dim ond goleuni’r searchlight. Mab i Sid Thomas, hen Gocsyn Abergwaun, oedd yno efo rhyw hen gwch mawr trwm oedd mewn cyflwr digon gwael. Cafwyd rhaff iddo a dechreuwyd ar yr orchwyl anodd o’i douo bob cam i Bwllheli o flaen y môr mawr. Dywedodd Wil Gould wrthyf wedyn na fyddai fyth dragwyddol wedi llwyddo oni bai fod Jac wedi bod yn gweithio’r rhaff rhwng bob moryn yr holl ffordd. Gwaith hynod o galed a blinedig i gorff ac i feddwl dyn am yr holl oriau! Ac i Wil Gould ddweud hynny!

Syndod mawr i mi oedd clywed mewn sgwrs ffôn â Benita nad Jac Ben oedd ei enw bedydd, ond John Jones. Jac fab Ben oedd o. Yng nghefn gwlad a’r pentrefi gwahanieithir rhwng sawl John, a sawl Wil a Dic ac ati drwy roi enw’i gartref yn gynffon i sawl enw bedydd, ond y dref, gan nad oes cymaint â hynny o enwau tai, ond rhifau ar y cartrefi, yr arferiad ym Mhwllheli oedd rhoi enw ei fam i ddilyn ei enw bedydd, megis Huw Mari, Ifan Cêt, Jon Magi, Hiwi Alis, Ned Jiwdi, a llawer iawn mwy. O bryd i’w gilydd, gwelid enw’r tad, am rhyw reswm. Yn achos Jac, efallai mai’r ffaith fod cymaint o Benjamin yn y teulu, a bod Benjamin yn fwy adnabyddus na Margiad. A diolch am hynny; ni fyddai wedi bod yn hanner y cymeriad efo enw fel Joni Margiad!

Bu farw ddiwedd Mai, 1979, yn 77 mlwydd oed. Mae ei fedd ym Mynwent Penrhos.

Jac Ben

Celebrities