John Eric Williams - Cyn-Gyfarwyddwr Urdd Gobaith Cymru

Ioan W. Gruffydd yn sôn am gyfraniad . . .

John Eric Williams

Yr oedd John Eric Williams yn un o'm cyfoeswyr yn Ysgol Ramadeg Pwllheli. Yn nhref Pwllheli y ganed ef, a bu'n un o ddisgyblion Ysgol Troed yr Allt yn y dref, cyn mynd i Ysgol Ramadeg Pwllheli. Yr oedd yn athletwr dawnus yn nyddiau ysgol, a bu'n aelod o dîm Athletau Sir Gaernarfon, ac yn un o aelodau cyntaf tîm Rygbi'r Ysgol pan gychwynodd hwnnw ym 1953-4.

O'r Ysgol Ramadeg, aeth ymlaen i Goleg Addysg Caerdydd ym 1957 a dilyn cwrs Addysg Gorfforol a Chymraeg am gyfnod o dair blynedd.
Yng Nghaerdydd sylweddolodd werth ei etifeddiaeth Gymraeg gan gymaint y gwahaniaeth o'i fagwraeth ym Mhwllheli.

O'r Coleg cafodd swydd Athro Preswyl Addysg Gorfforol yn Ysgol Bluecoat Lerpwl. Ysgol oedd honno o tua pump cant o fechgyn
yn cymryd rhan mewn Peldroed, Nofio, Gymnasteg, Criced a Phelfasged.

Priododd ag Eunice Claybrook, merch o Fwlchtocyn a gyfarfu pan yn nhïm Athletau Sir Garnarfon.

Ym 1963, dychwelodd i Gymru i'r swydd o Drefnydd Gwersylloedd a Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru gan weithio yn Aberystwyth.

Ym 1967, fe'i penodwyd yn Bennaeth Gwersyll yr Urdd yng Nglan-Llyn gyda'r sialens o ddatblygu'r gwersyll hwnnw o fod yn wersyll haf yn unig i fod yn wersyll a fyddai ar agor gydol y flwyddyn.

Gyda chefnogaeth llu o wirfoddolwyr brwd a gweithgar, daeth Glan-Llyn yn ganolfan fywiog a dylanwadol yn ystod 60/70'au'r ganrif ddiwethaf, yn arloesi mewn cynnig gweithgareddau awyr agored ar lyn a mynydd a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â chyrsiau iaith a natur.

Dywed ei bod y fraint iddo i gael ymuno a gwneud ffrindiau yng nghymdeithas ddiwylliannol Penllyn, a chael y gwersyll i ddod yn rhan o'r gymdeithas honno. Erbyn hynny, deuai oddeutu deng mil o ieuenctid i Lan-Llyn yn flynyddol. Bu'n gyfnod hapus, meddai, ac yn ffordd o fyw yn hytrach na swydd, ac ym Mhenllyn y magwyd y ddau blentyn, Nia a John.

Wedi pymtheg mlynedd, ym 1982, cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Urdd Gobaith Cymru. Yr oedd honno'n swydd dra gwahanol yn cynnig sialensau amrywiol ar hyd a lled Cymru, a bu yn y swydd hyd at ei ymddeoliad 14 mlynedd yn ddiweddarach.

Cafodd ei dderbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod am ei wasanaeth i ieuenctid Cymru.


Celebrities