John Jones - Gweinidog a llenor

Ioan W. Gruffydd yn cofio . . .

John Jones (1837 – 1906)

Gweinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd, llenor ac awdur toreithiog, oedd John Jones a dreuliodd ran dda o’i oes yn byw yn nhref Pwllheli ac y mae’n briodol cofio amdano yma fel un o enwogion y dref.

Ganed ef fis Rhagfyr 1837 yn Abercin, Llanystumdwy, yn fab i George Jones. Fel gŵr ifanc, dechreuodd John Jones ei yrfa’n gweithio fel gwas mewn siopau dillad yng Nghaernarfon ac yn  Llundain. Dechreuodd bregethu yno, fodd bynnag, ac aeth am hyfforddiant i Goleg y Bala ym 1861. Cafodd ei ordeinio ym 1863, ond ar wahân i un cyfnod cymharol fyr, ni fu yng ngofal eglwys. Bu’n weinidog Capel y Graig, Bangor, o 1872 hyd 1878. Yr oedd yn briod â merch y gweinidog Methodistaidd, David Jones, Treborth, brawd John Jones, Talysarn. Treuliodd rai blynyddoedd ar ôl 1878 yn oruchwyliwr banc preifat teuluol Pugh Jones a’i Gwmni ym Methesda. Dychwelodd i fyw i Bwllheli, lle’r oedd wedi bod cyn mynd yn weinidog i Fangor, a bu’n aelod yng Nghapel Penmownt yn y dref. Bu farw ym Mhwllheli ar 19 neu 20 Mehefin 1906. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Glanadda, Bangor.

Ymddengys fod John Jones yn ŵr gweddol dda ei fyd. Teithiodd lawer. Ymddiddorai mewn daeareg a daearyddiaeth, ac ysgrifennodd lawer ar y pynciau hynny i’r Traethodydd:- Glo, 1868; Ffosiliau, 1869; Daeareg a’r Beibl; Y Dilyw; Y Llyfrau Dwyfol, 1871; Cragen y Ddaear, 1872; Palesteina, 1879; Dyn, 1882; Pedwar Cymro yng Nghanaan, 1888; Y Samariaid, 1890; a’r Lleuad, 1892. Cyhoeddodd hefyd gofiannau i rai o weinidogion hynod ei enwad – Michael Roberts, Pwllheli, John Jones, Brynrodyn, R. Owen, 1883,a  G. Hughes, Gellidara. Ar adeg ei farwolaeth, yr oedd wrthi’n brysur yn paratoi ar gyfer  y wasg fywgraffiad i Robert Davies, (1816-1905), y Cymro hael hwnnw o Fôn a gyfrannodd yn helaeth at Gymdeithas Genhadol y Methodistiaid Calfinaidd ac at ddileu dyledion llu o eglwysi. Yr oedd John Jones yn Gymrawd o’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.


Celebrities