Shân Emlyn - a dylanwad ei gweinidog, Morgan Griffith

Shân Emlyn,a dylanwad ei gweinidog . . .

Morgan Griffith (1874-1966)

Pam, meddach chi, bod ambell i berson yn cael y fath ddylanwad ar rywun? Ar wahan i’r cartre a’r teulu fe ddwedwn i mai’r person – wel na – y cymeriad a ddylanwadodd fwya arna i yn fy mhlentyndod oedd fy ngweinidog, y Parchedig Morgan Griffith, Penmount, Pwllheli. Wrth fynd yn hŷn mae’r peth yn mynd yn fwy a mwy o ddirgelwch i mi. Anodd sylweddoli bod yr ‘Hen Forgan’, fel y’i gelwid, yn henwr pan oeddwn yn f’arddegau. Sut nad oedd ’na fwlch cenhedlaeth affwysol rhyngom?

Beth oedd ei gyfrinach? A siarad yn blaen, ’chydig iawn oedd yn gyffredin rhyngom. Roedd o’n cynrychioli i mi fyd crefydd – nid y peth mwya diddorol i blentyn ysgol. Roedd o’n Gymro naturiol ond heb ymddangos fod ganddo fawr o argyhoeddiad. Cofiaf ddadlau’n frwd ag o am yr Eisteddfod Genedlaethol a theimlo i’r byw am na fedrwn ennyn unrhyw fflach o ddiddordeb ynddo. Mewn dadl felly y dywedodd wrthyf bod pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli ym 1955 wedi ei amddifadu o weld yr Wyddfa bob bore ac mai gorau po gynted i’r anghenfil ddod i lawr iddo weld ei olygfa yn ôl. Wn i ddim, er iddo fyw dros y ffordd i Faes yr Eisteddfod, wn i ddim a gredodd i groesi’r lôn i weld na chlywed dim o’r Eisteddfod. A minnau’n gymaint o Steddfodwraig – sut y gallwn feddwl y byd o’r dyn yma? Roedd yn hen ŵr yn tynnu at ei bedwar ugain pan ddeuthum i gysylltiad ag o. Yn ôl fy safonau i bryd hynny, doedd o fawr o Gymro chwaith. Gwn yn awr pa mor ragfarnllyd yr oeddwn i ar y cyfnod hwnnw ’toedd Mr. Griffith yn un o selogion y Clwb Golff! Gallech feddwl felly na ddichon dim da. Er y bwlch mewn oedran rhyngom a’n gwahanol ddiddordebau – y fo oedd fy mrenin.

Dim ond mewn dwy ffordd eithafol y gallech chi ymateb iddo fel person – un a’i meddwl y byd ohono a maddau pob math o gamau gwag ar ei ran, neu wfftio at ei ffordd drwsgwl a’i ddawn i fynd dros ben llestri a rhoi ei draed ynddi.

Mae ’na ddau gapel Methodus ym Mhwllheli, sef Penmount a Salem. Salem ar ryw gyfnod oedd y capel split mae’n debyg, ac felly Penmount oedd Eglwys Gadeiriol yr Hen Gorff ym Mhen Llŷn. Cyn i ni fel teulu fudo o’r Felinheli i Bwllheli, cofiaf i Forgan Griffith alw i’n gweld a’n hannog i ymaelodi ym Mhenmount. Roedd ’na goel ym Mhwllheli y byddai Morgan Griffith yn mynd i Stesion Afon Wen i groesawu pobl i Bwllheli a’u cymell i Benmount er mwyn achub y blaen ar Dr. Robert Jones, Salem, a âi i stesion Pwllheli gyda’r un bwriad!

Ar fy liwt fy hun fe awn i bob Seiat a Chylch Trafod yn awchus, i drin a thrafod a mentro i fynegi’n huawdl fy marn anaaeddfed ar bob math o destunau. Cerdded i’r cyfarfodydd a wnawn, ond bron yn ddieithriad cawn bas adre yng nghar Mr. Griffith – a pharhai’r drafodaeth yn frwd. Yn amal, byddwn yn dadlau ac yn cynhyrfu hyd at grio, a phan fyddai’r dadlau’n troi at Gymreictod a chenedlaetholdeb dyna pryd y byddwn ar fy mwyaf dagreuol! Er i mi feddwl, ar adegau fel hyn, ei fod yn bengaled fel mul ac yn ddall bost, ni allwn ddal dig, daliwn i feddwl y byd ohono.

Wrth edrych yn ôl trwy lygaid canol oed cynnar, a gobeithio erbyn hyn trwy lygaid aeddfetach, efallai mai un o’i ragoriaethau oedd bod yn glust i galon ifanc, fympwyol, ac na wnaeth erioed chwerthin am fy mhen na gwneud imi deimlo nad oedd yn fy nghymryd o ddifri.

Fel pregethwr roedd o ar ’i ben ei hun. Yn amal, byddai’n llorio ei gynulleidfa gan ei huodledd a’i angerdd. Wrth bregethu tynnai ei sbectol oddi ar ei drwyn – cymryd saib – rhoi’r sbectol yn ei châs, ei rhoi yn hamddenol a gofalus yn ei boced a’r saib yn parhau. Edrychai’n fygythiol a’i aeliau gwyn yn crychu, ar ei gynulleidfa. Yna wedi cryn ddistawrwydd – tynnu’r câs sbectol o’i boced a gosod y sbectol yn ôl ar ei drwyn ac yna mewn ychydig eiliadau sigo’r gynulleidfa a’i barabl. Pan ddechreuai defod y sbectol, byddwn ar bigau’r drain ac yn aros yn awchus am y geiriau a ddilynai. Cofiaf ambell i wasanaeth Cymun yn nhrymder gaeaf – sŵn y gwynt yn rhuo a chysgodion dros y capel, y capel yn ddistaw fel y bedd a llais Morgan a’i eiriau’n llythrennol yn creu awyrgylch o ofn.Y cyfan a deimlwn oedd ei fod yn sôn am rywbeh mawr, na wn i hyd heddiw ei hyd na’i led. Dro arall, fe ai drwy’r un ddefod o ddiosg a chadw a gwisgo ei sbectol. Yna wedi saib hir, caeai’r Beibl yn glep – edrych ar y gynulleidfa a chyhoeddi ‘ddaw hi ddim gyfeillion’ a byddem yn ôl yn y tŷ o fewn hanner awr.

Cofiaf un nos Sul, yn dilyn wythnos go stormus rhyngom, iddo bregethu nad oes raid i bobl gael yr un daliadau a’r un agweddau tuag at bynciau i fod yn gyfeillion mawr. Medda fo ar ei bregeth ‘Na chi Shân ‘ma a finna – ffraeo dadlau rydan ni rownd y ril – ond mi rydan ni yn dipyn o ffrindia yn tydan Shân?’ Yn ferch tua pymtheg oed, sut oedd rhywun i ymateb o lawr Penmount – dyna un tro nad allwn ei ateb yn ôl!

Dyn yn ymddwyn ac yn ymateb yn reddfol oedd Morgan Griffith. Rhoi ei draed ynddi? Byddai yn amal ac yn sathru cyrn fel wn i ddim be. Un elfen gyffredin rhyngom oedd bod ei deulu o a minnau o Ddyffryn Nantlle ac fe hoffai daro heibio i’n tŷ ni a chael sgwrs â nhad am ‘Y Dyffryn.’ Atgofion pleserus iawn oedd gen innau am y troeon y byddwn yn taro heibio i Wilton – cartre Mr. a Mrs.Griffith. Awn yno’n ddirybudd, dim ond cnocio’r drws, sefyll a chael fy ngwadd i’r stydi. Gwnawn hyn yn blentyn ac wedi mynd i’r coleg, rhaid fyddai mynd yno i ddweud fy mod yn ôl ar wyliau ac yno drechefn i ffarwelio cyn troi’n ôl ar ddechrau tymor. Os mai defod y sbectol sy’n aros yn y cof ohono ym Mhenmount, defod debyg a ddaw i’m meddwl wrth ei gofio’n eistedd o flaen y tân yn ei stydi. Defod y cetyn oedd honno – gyda’r un manylder y tynnai’r baco o’r pwrs, llenwi’r cetyn yn hamddenol gan wthio’r baco i’r cetyn â’i fawd, yna tanio matsian a thynnu a thynnu nes llenwi’r stydi â mwg. Wrth sgwrsio byddai’r hen getyn yn diffodd o hyd a byddai wedi cynnau matsian ddegau o weithiau tra byddwn yn ei gwmni.

Fe allwn adrodd llawer stori am ei gamau gwag a’i ddull dihafal o roi ei draed ynddi, ond mae gormod o gymeriadau’r straeon hynny yn dal i gerdded strydoedd Pwllheli. Er imi fod wrth draed Morgan, fy Ngamaliel, nid oes gen i ei athrylith hoffus na’i ddireidi rhyfygus i sathru cyrn heb adael briw!

Erthygl a ymddangosodd yn BARN ym 1978


Celebrities