Dafydd Iwan yn cofio am ...
Owain Owain - Gwyddonydd, Addysgwr, Arloeswr
Does gen i ddim amheuaeth o gwbwl fod Owain Owain yn un o Gymry mwyaf allweddol ail hanner yr ugeinfed ganrif, ac yn un y dylai tref Pwllheli fod yn falch iawn ohono.
Fe’i ganed i Richard Alfred Owen a Mary Jones ar Ragfyr 11eg, 1929, yn Ffordd Caernarfon, Pwllheli.
Disgybl ysgol oeddwn i yn y 50au yn Ysgol Tŷ Tan Domen, y Bala, ysgol i fechgyn yn unig ar y pryd, a hen ysgol enwogion fel Syr O.M.Edwards, R.T.Jenkins, Tecwyn Lloyd a’r arlunydd E.Meirion Roberts. Daeth Owen Owen (fel yr oedd yr adeg honno) yno fel athro Cemeg, wedi gyrfa ddisglair yn y diwydiant niwcliar, ond erbyn hynny roedd wedi dechrau cael amheuon am y diwydiant hwnnw, ac ysgrifennodd yn huawdl yn ei erbyn yn ddiweddarach.
Ond wedi gadael y Bala y datblygodd Owain Owain i’w lawn dŵf fel un o arloeswyr yr ymgyrch dros y Gymraeg. Gyda’i feddwl gwyddonol disglair, gwelodd fod angen mudiad disgybledig ac ymroddedig i sicrhau dyfodol yr iaith. Ni fu erioed yn amlwg ar lwyfannau Cymdeithas yr Iaith, ond yn sicr yr oedd yn un o’i phrif ysgogwyr, a sefydlodd y Gangen leol gyntaf ym Mangor, a dangos y ffordd i ymgyrchu’r dyfodol. Ef oedd sefydlydd “Tafod y Ddraig”, a ddatblygodd yn gylchgrawn i’r Gymdeithas o gyfres o bamffledi a ysgrifennwyd ganddo. Yn wir, Owain Owain oedd yn gyfrifol am yr enw, ac am fathodyn y Gymdeithas, ac am lunio’r ymadrodd “Y Fro Gymraeg”. Ef oedd y cyntaf i gyhoeddi map yn dangos dosbarthiad siaradwyr Cymraeg, ac meddai: “enillwn y Fro Gymraeg, ac fe enillwn Gymru; oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir”.
Gosodai frwydr yr iaith mewn cyd-destun rhyngwladol, ond gwyddai bwysigrwydd ymgyrchu lleol effeithiol. Yn ei waith beunyddiol, roedd yn greadur aflonydd; bu’n Bennaeth amser-llawn cyntaf i Wersyll Glan-llyn, bu’n ddarlithydd ym Mangor ac yn Aberystwyth, a phan sefydlwyd sir Gwynedd yn y 70au, daeth yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Addysg mawr ei ddylanwad. Drwy gydol y 70au, roedd yn awdur cynhyrchiol iawn – yn straeon byrion a nofelau, yn erthyglau a llyfrau gwyddonol a barddoniaeth, a nifer o lyfrau i blant. Ym 1977, enillodd ei gyfrol Mical (‘Cofiant dychmygus i’r Parch. M. Roberts, Pwllheli’) wobr Cyngor Celfyddydau Cymru, ac meddai’r Dr. Pennar Davies am ei gyfrol Y Dydd Olaf: “Ni welwyd dim byd tebyg i’r llyfr hwn yn ein hiaith o’r blaen, na dim byd hollol debyg mewn unrhyw iaith. Llawenhewn fod y math yma o ddisgleirdeb yn bosibl yn y Gymraeg”.
Ac nid yn unig yng nghyd-destun Cymru a’r iaith yr oedd yn weledydd; mor gynnar ag 1969 rhagwelodd bosibiliadau a dylanwad enfawr y Wê fyd-eang, gan broffwydo y byddai rhaid newid rôl yr athro i fod yn “dywysydd”, gyda’r disgybl fel canolbwynt, a’r cyfrifiadur fel côf.
Bu farw ar Ragfyr 19eg, 1993 yng Nghaernarfon, yn 64 oed, wedi brwydr ddewr yn erbyn canser, gan adael gweddw, dwy ferch a dau fab.