Richard Evans - Meddyg Esgyrn

Ioan W.Gruffydd yn cofio’r Meddyg Esgyrn enwog o Bwllheli. . .

Richard Evans

Y Meddyg Esgyrn gorau yng Nghymru, meddid, oedd Richard Evans, gŵr. yn wir, a fu’n dilyn ei grefft ym Mhwllheli am dros hanner can mlynedd. Yr oedd, nid yn unig yn trin esgyrn plant a phobl mewn oed, ond esgyrn anifeiliaid hefyd, ac yr oedd yn arferiad gan lawer o bob rhan a Gymru, ac o’r tu hwnt i Gymru, i ddod ato i Bwllheli am ymgynghoriad ac adferiad iechyd. Bu ei deulu, ers 1880, yn nodedig o enwog am yr Olew Gewynnau a oedd i’w gael ganddyn nhw. Wrth feddwl am gefndir hanes teulu Richard Evans, fodd bynnag, y mae llawer mwy i’w adrodd.

Achub dau fachgen mewn llongddrylliad

Rhyw noson stormus yn y flwyddyn 1745, suddodd llong oddi ar arfordir pwyf Llanfairynghornwy yng Ngogledd Orllewin Ynys Môn. Cafodd dau fachgen ifanc eu hachub oddi ar y llong honno. Adroddir fel yr oedden nhw wedi cael eu clymu wrth rafft. Roedd y ddau’n siarad iaith nad oedd y rhai a’u hachubodd yn ei deall. Yn ôl un ffynhonnell weddol ddibynadwy, siarad Sbaeneg yr oedden nhw.

Dawn ryfedd Evan Thomas a’i blant

Cafodd y ddau fachgen eu gwahanu, a’u dwyn i fyny gan ddau deulu lleol. Cafodd un ohonyn nhw ei enwi’n Evan Thomas [1735 – 1814], a threuliodd ei flynyddoedd cynnar yn gweithio ar fferm a oedd yn eiddo i un Dr. Lloyd. Yn fuan iawn, daeth yn amlwg fod gan y bachgen hwnnw wybodaeth ryfeddol am y corff dynol, a’i fod yn gallu trin a gwella esgyrn a oedd wedi torri. A daeth i enwogrwydd mawr fel meddyg esgyrn – a lledodd yr wybodaeth amdano ar draws Ynys Môn ac ymhellach.

Evan Thomas

Dywedodd rhywun iddo glywed amryw yng Nghaergybi yn siarad am alluoedd rhyfeddol Evan Thomas - y meddyg esgyrn a oedd wedi llwyddo i’w ddysgu ei hun – ac a oedd yn byw bryd hynny yn Y Maes ym mhlwyf Llanfairynghornwy, a bod ganddo rhyw ddawn ryfedd am y modd yr oedd esgyn yn gweithio. Dywedir y cyfunid yn ei fywyd “bersonoliaeth gref a difrifwch a phlaendra crefyddol.” Y mae yn eglwys Llanfairynghornwy dabled sydd yn eu goffáu: tabled a osodwyd yno gan yr is-iarll Buckley fel teyrnged am y lles a ddaeth drwy ei ymdrechion i gynifer o’i gyd-ddynion.

Priododd Evan Thomas ym 1762 â Catherine, a chawsant bedwar o feibion: Thomas Evans ym 1764, William Evans ym 1766, Richard Evans ym 1771, a John Evans ym 1775. Rhoed enw cynta’r tad yn gyfenwau i’r plant yn ôl arfer y dyddiau hynny. Roedd y pedwar mab, fel eu tad, yn ddawnus iawn fel meddygon esgyrn.

Y gŵr prysur, Richard Evans

RIchard Evans [1771 – 1851] oedd yr un a gymerodd y gwaith o ddifrif, fodd bynnag, ac wedi etifeddu dawn ei dad, daeth yn ŵr prysur iawn. El ei dad, yr oedd yntau’n ddyn crefyddol, plaen a chydwybodol. Roedd y gwaith copr ym Môn yn ei anterth y dyddiau hynny, a dioddefai llawer yn ei sgil drwy damweiniau gwahanol yn y gwaith hwnnw.

Mae stori amdano mewn ffair leol un tro a rhywun yn gwneud hwyl am ei ben drwy gymryd arno ei fod wedi dadgysylltu ei ysgwydd. Cydiodd Richard Evans yn ysgwydd y sawl a oedd yn ei wawdio a’i ddatgysyllu go iawn. Roedd yn rhaid I’r llanc erfyn arno i’w wella.

Roedd gan Richard Evans saith o blant, tri mab a phedair merch, sef Evan Evans, John Evans, Catherine, Ann, Margaret, Richard Evans ac Elizabeth. Roedd pob un ohonyn nhw’n yn meddu’r ddawn a gawsant gan eu tad i drin esgyrn.

Cerdded o Ynys Môn i Lerwl

Yn ŵr ifanc, cerddodd Evan Evans [1804 – 1884], o ynys Môn yr holl ffordd i Lerpwl i chwilio am waith. Cyn hir, canfu fod gwir angen ei ddawn fel Meddyg Esgyrn yn y ddinas, a bu’n ymarfer ei ddawn o’i gartref yn 82 Stryd Grosshall. Newidiodd ei enw gan alw’i hun yn Evan Thomas, fel ei daid. Nid yw’n hysbys pam y gwnaeth hynny. Parhaodd ei frodyr a’i chwiorydd i arddel y cyfenw Evans.

Ar ei gerdyn proffesiynol Saesneg o’u trosi i’r Gymraeg, roedd y geiriau: Evan Thomas, Meddyg Esgyrn, Rhif 3 Stryd Great Crosshall. Y Trydydd Drws oddi wrth y Capel.

Gelyniaethu’r proffesiwn meddygol

Lledodd enwogrwydd Evan Evans (neu Thomas) fel Meddyg Esgyrn ar draws y byd, ac roedd llu o gleifion yn dod ato i gael eu trin – rhyw 30 neu 40 bob dydd. ‘Doedd aelodau’r proffesiwn meddygol, fodd bynnag, ddim yn hapus o gwbl ar gyfrif hyn, a throesant yn ei erbyn. Bu achosion llys yn erbyn Evan Evans (neu homas). A chafodd adegau digon anodd. Ond ef a drechai yn y diwedd.

Priododd Evan Thomas ym 1830, a daeth saith o blant, pum mab a dwy ferch – Margaret ac Ann, Dr. Hugh Owen Thomas, Dr. Richard Evan Thomas, Dr. Owen Robert Thomas, Dr. John Lewis Thomas, a‘r Dr. Evan Thomas. Ar gyfrif y modd y cawsai ei drin gan y proffesiwn meddygol, a’i fod yn sylweddoli nad oedd ddyfodol i’r gwaith o fod yn Feddyg Esgyrn, gwnaeth yn siwr fod ei feibion oll yn derbyn yr addysg feddygol orau.

Bu ei fab hynaf, Hugh Owen Thomas, yn astudio ym Mhrifysgolion Caeredin, Llundain a Pharis, cyn ymuno mewn partneriaeth gyda’i dad: gweithred oedd yn cael ei dirmygu’n fawr. Yng ngeiriau’r Dr. Hywel Jones, aelod arall o’r teulu, “Yr hyn na fu i Evan Thomas ei sylweddoli oedd, os oedd ei feibion yn feddygon cydnabyddedig, y byddai’n rhaid iddynt ddygymod â’r gwarth, y stigma, o fod yn feibion i’w tad, ac yn waeth na hynny, y byddai unrhyw gysylltiad â’u tad yn bychanu eu cyfraniad.

Parhaodd Evan Thomas ei waith yn Lerpwl am rai blynyddoedd wedi i’w feibion gymhwyso’u hunain fel meddygon, a gwelodd rhai ohonynt yn dda i’w gynorthwyo er yn gwybod beth a fyddai canlyniadau gwneud hynny.

Ymddeol o Lerpwl a dychwelyd i Fôn

Ar ei ymddeoliad ym 1863, cyflwynwyd i Evan Thomas bortread ohono’i hun mewn olew, ymysg rhoddion eraill, fel amlygiad o’r parch a’r edmygedd mawr oedd iddo gan amryw o drigolion Lerpwl. Gadawodd Lerpwl a dychwelyd i Ynys Môn, gan ddilyn ei waith yno am gryn ugain mlynedd arall.

Bywyd a gwaith yr hynaf o’r meibion

Wrth ystyried bywyd a gwaith y Dr. Hugh Owen Thomas, yr hynaf o feibion Evan Thomas, rhaid sôn am y newidiadau mawrion ac arwyddocaol a fu yng nghyraeddiadau’r teulu. O’r blaen, dibynnu yr oedd meibion a merched y teulu ar eu sgiliau cynhenid, ac ar y ddawn arbennig a rhyfedd y bu idynt ei hetifeddu fel teulu. Bellach, yn y Dr. Hugh Owen Thomas, roedd gŵr a oedd, nid yn unig yn meddu’r doniau hynny, ond gŵr hefyd oedd â chanddo feddwl gwyddonol pur, hyfforddiant meddygol trwyadl a brwdfrydedd heintus ar gyfer cyflawni ei waith. Roedd y Dr. Hugh Owen Thomas yn gyswllt rhwng ei hynafiaid, nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw hyfforddiant meddygol, a’r egwyddorion a’r dulliau modern sy’n cael eu defnyddio mewn llawfeddygaeth orthopoedig heddiw, ac sydd wedi profi’n gymaint bendith i ddynoliaeth gyfan. Cafodd ddamwain i’w lygaid yn yr ysgol.

Cafodd Hugh Owen Thomas [1834 – 1891], ei eni ym Modedern, Ynys Môn ar Awst 23, 1834. ac yno yr oedd i dreulio’i flynyddoedd cynnar. Am gyfnod bu’n byw ar aelwyd ei daid a’i nain yn Rhoscolyn nes ei fod yn 13 mlwydd oed.

Bachgen gwantan ac eiddil o gorff ydoedd, a gofidiai ei rieni am gyflwr ei iechyd. Yn ystod ei addysg gynnar, roedd ei ysgolfeistr wedi sylweddoli ei fod yn fachgen galluocach na’r cyffredin. Cafodd ddamwain yn yr ysgol a achosodd anhwylder i’w lygaid gan achosi ectropion, a byddai’n gyson yn ceisio amddiffyn ei lygaid ddrwg drwy wisgo cap a phig wedi ei dynnu’n isel dros ei lygaid. Yr oedd hynny’n un ffordd y gallai pobl ei adnabod yn rhwydd. Yr oedd hefyd yn gwisgo côt fel ffrog, a byddai ganddo’n ddieithriad sigaret. Wedi gadael ysgol, aeth i wneud prentisiaeth gyda’i ewyrth, Dr Owen Roberts Llanelwy, cyn mynd yn 21 mlwydd oed i Brifysgol Caeredin. Yn wir, ym 1854, yr oedd ei dad wedi penderfynu y byddai ei bedwar mab yn derbyn hyddorddiant i fod yn feddygon. Ac aeth pob un ohonynt i brifysgolion Caeredin, Llundain a Pharis.

Hugh Owen Thomas

Gwyddai Hugh y gallai ddysgu llawer oddi wrth ei dad, ond cyn hir, sefydlodd bractis iddo’i hun yn Stryd Hardy, yn ardal Garston, Lerpwl. Nid oedd brinder gwaith. Gweithiai yng nghanol ardal y dociau, a byddai’n aml yn trin llongwyr y gymdogaeth. Buan y sylweddolodd fod yr adeiladau a oedd ganddo’n rhy fychan, a symudodd i 11 Stryd Nelson. Pan brofodd y lle hwnnw hefyd yn annigonol, cododd estyniad fel y gallai gael gweithdy iddo’i hun: gweithdy oedd yn llawn offer a pheiriannau modern i’w alluogi i wneud offer llawfeddygol ar gyfer ei waith. Daliodd i gadw’r tŷ yn Stryd Hardy i’w ddefnyddio fel ei ysbyty preifat - a dyna’r unig ysbyty y bu’n gweithio ynddo.

Man geni Llawfeddygaeth Orthopedig Fodern

Yr oedd yn drueni o’r mwyaf fod ei gymrodyr meddygol yn ei wahardd rhag gweithio mewn ysbyty. Roedden nhw’n dadlau fod ei gysylltiadau â’i dad yn ei wneud yn anghymwys i gael anrhydedd o’r fath. Dichon fod, fodd bynnag, â fynno hynny â rhywbeth arall hefyd - cymeriad ac agwedd Hugh ei hun. Roedd ei ddulliau o weithio ymhell ar y blaen i’w oes, ac er ei fod yn barod i wrando ar feirniadaeth deg, nid oedd amynedd ganddo i wrando ar sylwadau ffôl. Doedd ei ysbryd a’i gred annibynnol ddim yn denu ei wrthwynebwyr ato. Heddiw mae Rhif 11 Stryd Nelson, Lerpwl, yn cael cyfeirio ato fel man geni Llawfeddygaeth Orthopedig Fodern gwledydd Prydain.

Cynnal meddygfa am ddim i’r tlodion

Yn wahanol i bobl eraill, ‘doedd y Dr. Hugh Owen Thomas ddim yn ystyried y Sul fel dydd o orffwys. Ar fore’r diwrnod hwnnw bob wythnos, byddai’n cynnal meddygfa rad lle byddai o ddeutu dau gant o aelodau anffodus, tlawd ac anghenus y gymdogaeth yn dod i dderbyn y gofal mwyaf aruchel, a hynny yn gwbl ddi-dâl.

Cyhoeddi ei lyfr cyntaf

Ym 1875, cyhoeddodd y cyntaf o’r llyfrau a ysgrifennwyd ganddo, sef Diseases of the Hip, Knee, and Ankle Joints. Mae’r llawfeddyg, Arthur Rocyn Jones, wrth ysgrifennu am y llyfr hwnnw yn Y Bywgraffiadur. yn dweud fel y bu i’r Dr. Hugh Owen Thomas “ddisgrifio am y tro cyntaf ei sblintiau ar gyfer y cluniau a’r penelin a ddaeth yn fydenwog. Dangosodd y llyfr hwn ei fod yn feddyliwr gwreiddiol ym maes llawfeddygaeth.” Er hynny, meddir yn Y Bywgraffiadur, “ychydig o ddylanwad a gafodd ei ddysgeidiaeth, yn bennaf am nad oedd ei weithiau wedi eu cynhyrchu mewn dull da a’i fod yn defnyddio cyhoeddwr anhysbys. Mwy na hynny,” meddir, “yr oedd yn gweithio ar ei ben ei hun ac ni ellid ei ddarbwyllo i siarad mewn cyfarfodydd gwyddonol a phroffesiynol am ei ddull o drin. Ni chydnabyddwyd ei waith yn ystod ei fywyd. Yn ddiweddarach, fodd bynnag,” meddir, “llwyddodd ei nai a’i ddisgybl, Syr Robert Jones, i ddwyn ei ddysgeidiaeth a’r defnydd a wnâi o’r sblintiau i sylw llawfeddygon.” Mae’n deg cofio, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac wedi hynny, bu’r Thomas calliper, fel y’i gelwid, “yn foddion i achub miloedd o aelodau,” ac “erbyn heddiw fe’i defnyddir yn gyffredinol ym mhob ysbyty bron trwy’r byd.”

Bu amryw o lawfeddygon o bell a agos, yn ystod rhan olaf oes y Dr. Hugh Owen Thomas – ac wedi iddyn nhw fod yn darllen ei lyfr - yn awyddus i’w gyfarod a’i weld yn ymarfer ei dechneg. Trist, serch hynny, yw gorfod adrodd fod ei ddull o weithio yn cael ei gwerthfawrogi’n fwy ym mhellafoedd byd nag yn ei fro a’i wlad ei hun.

Daeth un o Chicago bell

Un a ddaeth i’w weld i Lerpwl, yr holl ffordd o Chicago bell, oedd y Dr. John Ridlon. Dyma fel yr adroddodd y llawfeddyg hwnnw am ei brofiad:

“Mi es i mewn drwy ddrws oedd ar agor wedi sylwi ar yr enw yn Saesneg uwch ei ben – Meddygfa H.O.T 1866. Mi gês fy hun mewn ’stafell gul a silffoedd a oedd yn llawn o boteli ffisig ar y chwith i mi, a phlentyn bach yn wylo yn eistedd ar silff ac yn cael ei gynnal gan ei fam. Yn rhwymo traed y bachgen gyda splintiau haearn roedd dyn bychan wedi ei wisgo mewn dillad du, cap pig ar ei ben a sbectol yr oedd iddi wydrau trwchus, a barf frith afler ganddo, ac yn ei geg, roedd sigaret. Pan beidiodd y bachgen wylo, ês ymlaen a rhoi i’r gŵr fy ngherdyn. Darllenodd ef yn uchel cyn gofyn, “Be’ alla’ i ei wneud i chi? Fi ydy Mr.Thomas.”
Atebais innau: “Mr. Thomas, rydw i wedi darllen eich llyfr, Hip, Knee and Ankle, ac rydw i wedi teithio tair mil o filltiroedd er mwyn gweld os mai ynfytyn neu gelwyddgi ydach chi.” Gyda’i lygaid yn perfio o’r tu ôl i’w wydrau sbectol tewion, dywedodd y dyn, n“Mae’n siwr gen i y bydd i chi ganfod hynny o fewn hanner awr.” Roedd hynny yn ddechrau i ddau ddiwrnod ardderchog iawn.”

Bu’r Dr. Hugh Owen Thomas farw, wedi gorweithio, ar 6 Ionawr 1891, yn 57 mlwydd oed. Amlygodd y lluoedd a ddaeth i’w angladd yr edmygedd a’r parch oedd iddo gan drigolion dinas Lerpwl.

Richard Evans, y Meddyg Esgyrn o Bwllheli

Richard Evans, Pwllheli, [1868 – 1954] oedd aelod olaf y teulu nodedig hwn i ymwneud â chrefft y Meddyg Esgyrn. Er i Richard Evans briodi ddwywaith, ni chafodd blant, ac felly ni chafodd ei ddawn arbennig ei throsglwyddo i genhedlaeth arall. Cawsai ei eni ym Mhen-y-groes ym 1868 yn fab i John Evans a’i briod, ac yr oedd y John Evans hwnnw yn un o feibion Richard Evans, o Dyddyn Bengam.

Ei siop gyferbyn â Chapel Pen-lan

Agorodd Richard Evans fusnes yn Stryd Moch, Pwllheli, mewn siop a oedd bryd hynny ar yr ochr arall i’r ffordd gyferbyn â Chapel Pen-lan heddiw. Dewisodd enw da ar ei siop, sef Adferle – sef lle i adfer pob math ar anhwylderau esgyrn a chyrn. O sylwi ar y gwydr sy’n rhan o’r drws yn y darlun, mae’n ddiddorol nodi fod yr un gwydr yn union heddiw ar ddrws y brif swyddfa yn Ysbyty Gobowen, ysbyty y bu gan y teulu gysylltiad agos ag ef yn ei ddyddiau cynnar

Llythyr gan berthynas

Ymddangosodd y llythyr hwn mewn papur newydd dro’n ól gan Catherine Jones, Aberystwyth, dan y penawd Meddygon esgyrn:

“Diddorol iawn oedd darllen llythyr Wynne Roberts, Tregarth, yn eich colofn lythyrau . . . yn rhoi hanesyn am Hugh Evans, y meddyg esgyrn o Rachub.

Yr oedd yn nai i Evan Thomas, y meddyg esgyrn enwog o Sir Fôn (a Great Crosshall Street, Lerpwl).

Perthnasau eraill

Cafodd Hugh Evans ei eni ym Mhen-y-groes, yn fab i Richard Evans, Tyddyn Bengan, yntau'n feddyg esgyrn nodedig yn ardal Dyffryn Nantlle ynghyd â'i fab, Thomas Evans, a fu'n feddyg esgyrn swyddogol i chwarel Dinorwig am gyfnod. Adnabuwyd ef fel Doctor y Merddyn Brych. Yr olaf i ymarfer y ddawn yma o drin esgyrn oedd Richard Evans, Adferle, Pwllheli, fy hen ewythr.”

Olew gewynnau

Dywedodd Dewi R. Jones mewn erthygl yn Y Casglwr, dan y penawd, Yr Olew o Lŷn at bob Gewyn, mai “un o hynodion pennaf triniaethau Richard Evans oedd yr olew gewynnau a gynhyrchid ac a werthid ganddo yn Adferle. Yr adeg honno,” meddai, “yr oedd tri math gwahanol ohono i’w gael ac er bod y rysetiau ar gael heddiw, un math yn unig a gynhyrchir bellach” a hynny gan ŵyr Richard Evans. Cyfeiriir yn yr erthygl mai gan Gwyn Evans, a oedd yn byw ym Mryncir yn Eifionydd, ar adeg ysgrifennu’r erthygl, sef mab John Evans, ac ŵyr i Thomas Evans (brawd y Richard Evans y soniwn amdano) – ganddo ef, a chan un aelod arall o’r teulu – yr oedd cyfrinach yr olew gewynnau erbyn hynny. Dywedir na wyddai Gwyn Evans ddim am na’r lle na’r adeg y cynhyrchwyd yr olew hwnnw gyntaf, ond yr oedd hynny ragor na chan mlynedd yn ôl bellach. Dywedir mai’r unig wahaniaeth.sylfaenol “rhwng rysêt ddoe a heddiw yw yr arferid rhoi sbelan go lew o wyau ynddo ers talwm ond ni roddir yr un o gwbl heddiw.” Cynhyrchid yr olew gan Gwyn Evans gan fod galw mawr amdano i leddfu gewynnau poenus “yn lleol neu mewn mannau mor bell â Buffalo yn yr Amerig, a chlybiau pêl droed Everton a Manchester United yn Lloegr.”

Yn gwella hen wraig

Mae Dewi R. Jones yn ei erthygl yn adrodd stori am Richard Evans, y Meddyg Esgyrn. Mae’n sôn fel y bu rhieni Gwyn Evans yn byw yn rhif 5 Penllystyn, Brincir, a’i nain gyda nhw. “Un diwrnod,” meddai, “mi syrthiodd yr hen wraig wrth y grât gan dorri pont ei hysgwydd a’i braich. Gyrrwyd yn syth am Dr. Ellis o Ben-y-groes ac anfonodd yntau hi ar ei hunion i Fangor.” Treuliodd bythefnos yno yn yr ysbyty, “ond adref y daeth hi heb i’r un meddyg wneud dim i’w gwella. Maen’n debyg fod y crac ym mhont yr ysgwydd mewn lle mor ddrwg nes y gellid ei pharlysu wrth ymyrryd gormod. Fodd bynnag, y munud y daeth hi aref fe anfonodd ei fam am Dewyrth Richard, sef Richard Evans, i ddod i weld yr hen wraig. Er mai wisgi neu rum oedd ei athasthetig, fuo fo fawr o dro yn rhoi’r ysgwydd a’r fraich yn eu lle cyn ei bandio’n gadarn. Gadael i bethau fod wedyn am gyfnod cyn tynnu’r rhwymau, a chredwch neu beidio, theimlodd nain Gwyn ddim poen oddi wrth y fraich na’r ysgwydd hyd ddiwedd ei hoes. Fe alwodd Dr. Ellis heibio i’w gweld a synnu sut y llwyddodd Rihard Evans i gyflawni’r fath orchwyl, a meddygon Bangor wedi methu.”

Diacon ac athro Ysgol Sul

Does dim lle i amau nad oedd Richard Evans, y Meddyg Esgyrn dawnus o Bwllheli, yn ŵr tra charedig ac yn agos iawn i’w le fel capelwr, ac fel diacon gyda’r Annibynwyr yng Nghapel Pen-lan, Pwllheli. Yr oedd yn athro Ysgol Sul ymroddedig i ddosbarth y Gwragedd. Cofia gweinidog Eglwys Pen-lan heddiw, y Parchg. Glenys Jones, fod ei mam yn aelod o’i ddosbarth, a chofia hefyd am arferiad cyson Richard Evans bob Nadolig yn cyflwyno rhodd o bersawr hyfryd i aelodau ei ddosbarth Ysgol Sul. Wedi cydnabod hynny, rhaid ychwanegu fod ganddo, ar adegau, ambell ffordd ddigon rhyfedd o wneud rhai pethau. Claddodd ei ddwy wraig gyda’i gilydd yn yr un bedd, ond dewisodd fedd arall iddo’i hun! “Dyn unigryw fel yna oedd o,” meddai Dewi R. Jones, “petai’n fyw heddiw, fe’i hystyrid yn ddyn mawr.”

Cliciwch yma i fynd i wefan Olew Gewynnau


Celebrities