Richard Tudor - A hwyliodd rownd y byd

Ioan W. Gruffydd yn adrodd am gamp . . .

Richard Tudor

Os mai yn Llandrinod, lle’r oedd ei rieni’n byw a gweithio ar y pryd, y cafodd Richard Gruffydd Tudor ei eni ar 26 Gorffennaf 1959, yn llawer nes i’r môr ym Mhwllheli y cafodd ei fagu. Roedd y môr, a hwylio’r môroedd, yn ei waed - yn union fel ei dad a’i frawd. Ym Mhwllheli y derbyniodd ei addysg, a hynny yn Ysgol Gynradd Troed yr Allt ac yn Ysgol Uwchradd Glan y Môr. Yn ffodus iddo ef, yr oedd yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, glwb hwylio yn cael ei gynnal yn wirfoddol gan athro gwaith coed yr ysgol, Mr. Gwyndaf Huws, ac roedd cael ymuno yng ngweithgareddau’r clwb hwylio hwnnw wrth fodd calon Richard Tudor. Byddai’n mwynhau ymarfer yng nghychod bach GP14 yr ysgol ac ar ei Mirror Dinghy bychan ei hunan. Derbyniodd gefnogaeth lwyr ei deulu wrth iddo ymroi i gystadlu mewn llu o gystadleuthau a gornestau hwylio i blant ysgol ar hyd a lled Cymru. Fel y dywedodd rhyw dro, “Rydw i’n cofio mynd o un regata i'r llall gyda'r dingi ar do'r car. Mi fydda'i mam, fy chwaer a fy mrawd ieuengaf yn ista' ar lan y môr wrth i’m brawd arall a finnau gystadlu pan oeddwn i tua 10 neu 11 mlwydd oed." Ac yntau’n 15 oed, breuddwyd Richard Tudor oedd cael bod yn gapten ar long fasnach, a chofia fod mewn cyswllt â’r Ocean Fleet yn Lerpwl yn gwneud ymholiadau i’r perwyl hwnnw.

Erbyn bod Richard Tudor yn 17 mlwydd oed, yr oedd wedi cael digon ar yr ysgol. Yr oedd wedi hen syffedu ar addysg ffurfiol a throes ei gefn ar Ysgol Glan y Môr. Gwyddai’n union, fodd bynnag, am y cyfeiriad yr oedd am fynd iddo a’r hyn y bwriadai i’w yrfa fod. Aeth ati i ffurfio’i gwmni ei hun – cwmni oedd yn gwneud hwyliau a gorchuddion i gychod. Treuliodd bymtheg mlynedd gyda’r gwaith hwnnw.

Yna, gwelodd yn dda i dderbyn y gwahoddiad a gawsai i fod yn gapten ar gwch oedd yn mynd i rasio rownd y byd. Hwyliodd Richard Tudor o amgylch y byd ar ddau achlysur yn ystod 1992-93 a 1996-97 yn ras Global Challenge Cwmni Dur Prydain. Dywedodd iddo brofi pob emosiwn tra’n treulio wyth mis yn hwylio o gylch y byd. Byddai’n ‘casáu pob eiliad ac wedyn yn mwynhau pob eiliad.’ Ychwanegodd fod pob diwrnod yn wahanol, yn arbennig felly wrth lanio mewn gwledydd gwahanol. Cofiai hwylio i Rio De Janeiro, a sylwi ar y cerflun mawr o Grist yn edrych i lawr o ben y mynydd, a chanfod tlodi affwysol y ddinas honno. Cofiai hwylio i Dref y Penrhyn (Cape Town) gan sylweddoli pa mor rhyfeddol o drawiadol oedd yr olygfa o Fynydd y Penrhyn (Table Mountain). Ar adeg pan nad oedd yn rasio, hwyliodd i Spitzbergen yn Norwy gan ddod i dir ar rew oer yr Artig.

Yn y flwyddyn 2000, ymunodd â Thîm Philips ar yr hyn oedd i fod ei drydedd daith oddi amgylch y byd, ond nid felly y bu, a bu bron iddo golli ei fywyd. "Roedd ganddon ni gatamarán newydd,” meddai, “wedi ei wneud o carbon fibre, gwerth 2.5 miliwn o bunnoedd, ond, yn amlwg, roedd rhywbeth yn bod arni." A hwythau saith can milltir i'r gorllewin o Iwerddon, ac yng nghanol Môr yr Iwerydd, mi ddechreuodd y catamarán newydd ddod yn ddarnau. "Beth wnaeth ein hachub ni,” meddai wrth gofio am y digwyddiad, “yw bod cyfathrebu rŵan mor dda ar y môr." Ac ychwanegodd, "Mi wnaethon ni drefnu rendezvous efo llong arall oedd yn digwydd bod ar ei ffordd i Halifax yn Nova Scotia, ac mi neidiodd pawb ar fwrdd y llong honno." Dywedodd y buasai’r criw i gyd wedi marw petaen nhw wedi aros ar y catamarán am un diwrnod arall. Mi suddodd y catamarán, ac yn ddiweddarach, mi ganfuwyd rhannau yn Greenland, a rhannau hefyd ar draeth yn Iwerddon.

Bu Richard Tudor yn un o drefnwyr Regatta Cymru a gynhelir ym Mae Ceredigion. Bellach, mae’n darlithio mewn Peirianneg – gyda gogwydd arbennig at y môr – yng Ngholeg Meirion Dwyfor. A’i ddyhead yw gweld ei fyfyrwyr yn llwyddo yn y cyfeiriad hwnnw.

Wedi wynebu sawl profiad a helyntion ar y môr, a mwynhau llawer profiad felly, y wers bwysicaf a ddysgodd Richard, meddai, ydy sut i barchu'r elfennau. "Dysgwch am yr elfennau, eu parchu nhw, ac wedyn mynd allan i'w taclo nhw," meddai.

Ar ôl cael cynifer o brofiadau gwahanol yn morio o gwmpas y byd, y moroedd o amgylch ei gartref yng Ngogledd Cymru yw'r rhai gorau ganddo. "Gogledd Bae Ceredigion,” meddai, “ydy un o'r llefydd prydferthaf yn y byd i hwylio ynddo." Ychwanegodd fod gallu edrych draw i gyfeiriad mynyddoedd Eryri a Chadair Idris mor wych. “'Does yna ddim llawer o draffig yma na llanw cryf chwaith ac mae'r gwyntoedd yn eithaf teg. Ac wedi bod ym mhob man, fan hyn mae fy nghalon i," meddai. Dywedodd ymhellach ei bod bob amser yn bleser i gael croesawu i Bwllheli yr hwylwyr hynny sy'n dod i'r dref o bob rhan o’r byd.


Celebrities