Siôn Lleyn - Bardd, athro, ac arloesydd crefyddol

Ioan W. Gruffydd yn cofio ...

John Roberts (Siôn Lleyn) 

Prin yw’r wybodaeth sydd wedi goroesi am John Roberts (Siôn Lleyn) (1749 – 1817) ac mae hynny’n drueni, gan ei fod – o’r ychydig wybodaeth a feddwn amdano – yn amlwg yr ŵr a wnaeth gryn gyfraniad yn ei ddydd. A gall tref Pwllheli ymfalchïo o fod wedi cael y fath berson i fod yn un o’i chyn-drigolion. Disgrifir Siôn Lleyn fel bardd, athro ac arloesydd crefyddol.

Ganed ef yn Chwilog Bach, nid nepell o’r Lôn Goed yn Eifionydd. (Myn eraill mai yn Traian, plwyf Llanarmon y ganed ef). Yn gynnar iawn yn ei fywyd yr oedd yn ymddiddori mewn llenyddiaeth, a chyn ymadael ag Eifionydd, yr oedd wedi cyfansoddi cerdd ar y testun, Barn Duw.

Wedi priodi, mae lle i gredu iddo fod yn byw o 1771 i 1776, (a hwyrach hyd 1788), yn Nhy’n-y-creigiau, Boduan, a datblgu fel cymeriad crefyddol. Byddai’n pregethu, a rhoes gymorth i sefydlu capeli yn Abererch ac yn Rhydyclafdy. Tua 1791, symudodd i fyw i Bwllheli, gan ymsefydlu yn Penhighgate, Penrallt. Bu’n athro ysgol yn y dref, a chyfeirir ato fel Ysgol-feistr. Mae sôn fod gofal achos y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghapel Deugorn, ger Dyneio, erbyn 1781 yn nwylo Siôn Lleyn. Y gŵr sy’n cael y clod am fod yn ‘sylfaenydd’ mudiad yr Ysgolion Sul yn Lloegr yw Robert Raikes. Yr oedd Siôn Lleyn, fodd bynnag, wedi gwneud hynny o’i flaen ym Mhwllheli. Dechreuodd gadw Ysgol Sul ym Mhendalar, bwthyn nid nepell o’i gartref. Yr oedd yn un o sefydlwyr achos y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghapel Penmount, Pwllheli, ac yn flaenor yno, ac mae’n debyg iddo ffurfio Ysgol Sul yno hefyd.

A gwnaethai hynny cyn i Thomas Charles, yntau, sefydlu ei Ysgolion Sul yng Nghymru.

Yr oedd Siôn Lleyn, y mae’n amlwg, yn gryn arloesydd crefyddol yn ei hawl ei hun, a gall tref Pwllheli fod yn falch ohono.

Yr oedd Siôn Lleyn yn gyfaill ac yn ddisgybl barddol i David Thomas, Dafydd Ddu Eryri, a bu cryn ohebu rhyngddynt.

Yr oedd Dafydd Ddu Eryri yn ffigwr pwysig yn niwylliant ei fro ac yn un oedd yn hybu safonau barddoniaeth gan ddysgu llu o feirdd lleol. Treuliodd y rhan olaf o'i oes yn Llanrug. Bu farw trwy foddi yn Afon Cegin ar noson ystormus, 30 Mawrth, 1822; cafwyd hyd i'w gorff drannoeth yn ymyl y sarn yr oedd yn ceisio’i chroesi. Mae’r bardd, R. Williams Parry’n cyfeirio ato yn ei soned, Ymson Ynghylch Amser, yn Cerddi’r Gaeaf:

Hon ydyw’r afon, ond nid hwn yw’r dŵr   
A foddodd Dafydd Ddu. Mae pont yn awr
Lle’r oedd y rhyd a daflodd yr hen ŵr
I’r ffrydlif fach a thragwyddoldeb mawr.

Yn Adgof Uwch Anghof, sef Hen Lythyrau, cafodd peth o’r gohebu hwnnw oedd yn digwydd rhwng y beirdd ei ddiogelu. Tua 1802, yr oedd Siôn Lleyn wedi cyhoeddi cerdd i goffảu Robert Roberts, ‘Y Sgolor Mawr,’ Maen o Goffadwriaeth sef Marwnad ar Farwolaeth Robert Roberts, Clynnog . . . a hunodd Tachwedd 29, 1802, yn 40 ac a gladdwyd yn Clynnog. Mae’r gerdd honno o’i eiddo’n dechrau â’r geiriau:

Pa fodd y ffurfiaf fy ngalarnad,
Pwy am dysg i redeg pin?
Pe cawn dafod, iaith a meddwl;
Ni wnai’r cwbl ond yn brin’
Seren fawr o’n gwydd ymguddiodd,
Haul fachludodd hanner dydd,
ROBERT ROBERTS roed mewn amdo,
Mawr yw swm yr wylo sydd.

Yn Adgof Uwch Anghof,  mae Dafydd Ddu Eryri’n ysgrifennu at Siôn Lleyn, ac yn dweud: “Gwelais eich Marwnad ar ôl Robert Roberts yn yr Argraphdy yng Nghaernarfon. Nid wyf yn ei chymeradwyo yn y mesur lleiaf, ond y ymwrthod â hi yn gyfangwbl. Mae hi yn llwyr groes i reol Marwnad . . .  Yr ydych yn arfer Troellau-ymadroddion a ffugrau anaddas i’r Testyn. Llais galar, cwynfan a cholled yw’r cwbl oll sydd yn angenrheidiol mewn Marwnad, a dadgan hynny yn y modd mwyaf naturiol a theimladwy ag y gellir. Os troseddwch y rheol hon, ymddengys mai canu wrth nerth celfyddyd yr ydych ac nid oddiar deimlad o golled ac amddifadrwydd.”  Mae’n mynd ymlaen i egluro bod angen bod yn syml iawn mewn cerdd o’r fath.

Yn Cyhoeddiadau Cymdeithas y Gwyneddigion 1801, ceir ‘Awdyl’ o waith Siôn Lleyn. Yn 1815 ymddangosdd ei Caniadau Newyddion. Y mae’n awdur rhai emynau hefyd. (Gweler adran Cerddi’r Wefan hon).
Mae Charles Ashton yn cyfeirio yn ei Hanes Llenyddiaeth Gymreig O 1651 O.C. hyd 1850, at bamffled a gyhoeddwyd yn Nolgellau, dan yr enw  ‘Caniadau Moesawl a Difyr,’ fel gwaith Siôn Lleyn. Credir, fodd bynnag, fod y rhelyw o gerddi’r bardd yn parhau mewn llawysgrif ac heb eu cyhoeddi.

Yr oedd y bardd, Siôn Wyn o Eifion (John Thomas) (1786 – 1859), yn nai i Siôn Lleyn - ei dad oedd Thomas Roberts , brawd ‘Siôn Lleyn .’  
Yn ‘Gardd Eifion’ (a gyhoeddwyd yn Nolgellau ym 1841) mae marwnad i Siôn Lleyn gan Robert ap Gwilym Ddu. (Gweler adran Cerddi’r Wefan hon).

Bu Siôn Lleyn farw ar Fai 7, 1817, a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent Dyneio ym Mhwllheli.


Celebrities