Ioan W. Gruffydd y cofio'r cyfreithiwr a'r bardd . . .
Thomas Jones, (Cynhaiarn) (1839 - 1916)
Fel ei dad a'i fam, John a Jane Jones, Pen-lôn, Pwllheli, un o blant y dref oedd Thomas Jones, (Cynhaiarn) yntau. Merch Tyddyn Drain, Pwllheli, oedd ei fam. Ganwyd Thomas ar Chwefror 10, 1839, a derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgol ddyddiol Penlleiniau. Yn weddol ifanc, aeth i swyddfa Ebenezer Morris Roberts, y cyfreithiwr, a mab y gweinidog enwog, y Parchg. Michael Roberts. Yn 13 mlwydd oed, symudodd i Borthmadog i swyddfa John Humphrey Jones i'w gymhwyso'i hun yn gyfreithiwr, ac ym 1867, yr oedd wedi gorffen yr hyfforddiant hwnnw. Bu wedi hyn yn gofrestrydd llys sirol ym Mhorthmadog a Ffestiniog , ac yn glerc Cyngor Cricieth. Yn wleidyddol, Ceidwadwr ydoedd, ac o ran crefydd, yr oedd yn aelod gyda'r Annibynnwyr. Mae'n cael ei adnabod yn bennaf fel bardd. Yr oedd ar ei orau mewn darnau byrion, yn enwedig mewn dychangerddi. Enillodd dychangerdd o'i waith wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl ym 1892 . Yr oedd yn feistr hefyd ar yr englyn. Dywedodd yr Athro R.T.Jenkins amdano yn y Bywgraffiadur Cymreig, fod llawer o'i farddoniaeth "mewn cylchgronau, ond yn ôl pob tebyg erys llawer o'i waith heb ei gyhoeddi oherwydd ei natur ‘rabelaisaidd’. Yn ystod ei ieuenctid bu'n perthyn i'r cylch llenyddol a arferai grynhoi o gylch Ellis Owen o Gefn-y-meysydd . Casglodd a chyhoeddodd weithiau barddonol Ioan Madog ym 1881. Bu farw ar fore Sul, Hydref 22, 1916 , a chafodd ei gladdu yn ei fro enedigol ym mynwent Deneio, ym Mhwllheli.