Arthur Meirion Roberts yn cofio . . .
Thomas Roberts Llwynrhudol, Pwllheli. (1765/6 - 1841)
Cymeriad diddorol o’r cylch oedd Thomas Roberts – pamffledydd radicalaidd a ffrind gwerinos Cymru. Cyfreithwyr yn y dref ydoedd ei dad, William, a’i frawd hynaf Ellis, ond prin iawn yw’r wybodaeth am ddyddiau cynnar T.R. Gwyddom iddo adael ei gartref yn 14 oed a threulio gweddill ei oes yn Llundain bell. Ac eto heb anghofio ei dras; bu'n ymwelydd cyson, efo’i deulu a Gwynedd.
Yn Llundain, bu’n brentis gofaint aur, yn ôl yr hanes, a datblygu’n ddyn o beth cyfoeth a dylanwad. Ond rhannau eraill o’i fywyd sydd o ddiddordeb. Roedd Llundain, bryd hynny, yn ferw o Gymry talentog, gweithgar, a bu T.R. yn amlwg ymhlith y cymdeithasau Cymraeg a Chymreig, yn enwedig gyda’r Cymreigyddion a’r Gwyneddigion. Bu Cymry Llundain bryd hynny yn casglu a chyhoeddi testunau hynafol Cymraeg (oedd wedi eu hanwybyddu) ac yn cynnal cyfarfodydd bywiog, cyson, ac yn cefnogi cysylltiad â chylchoedd Celtaidd eraill. Bu T.R. ei hun ar daith yn Llydaw mor fuan â 1820.
Dyma gyfnod darganfod Cymru gan ymwelwyr - twristiaid newydd o Loegr wedi dod i weld ‘Wild Wales’ – a bu T.R., er yn cydnabod nad llenor mohono, yn paratoi a chyhoeddi llyfr taith a geiriadur iddynt er mwyn gofalu eu bod yn dysgu peth am iaith a hanes Cymru.
On Ond hawlia T.R. ein sylw heddiw yn arbennig am ei lyfryn Cwyn yn Erbyn Gorthrymder a gyhoeddodd ym 1798 – “ er mwyn gwerinos Cymru.” Yn ôl rhai haneswyr, dyma’r datganiad mwyaf radical, jacobiniadd a Chymreig a ddaeth o’r cyfnod. Dwyn sylw at anghyfiawnder mawr treth y degwm ydoedd – a hyn eto ymhell cyn cyfnod rhyfel y degwm yng Nghymru’r ganrif ddilynol. Treth drom ydoedd i gynnal Eglwys Loegr – a rhan helaeth o deuluoedd Cymru wedi gadael yr ‘Hen Fam’ a throi at y capeli ymneilltuol. Gelynion T.R. oedd yr esgobion a’r personiaid balch – ond y Methodistiaid hefyd am eu llonyddwch llwfr. Siaradai yn blaen am faterion eang megis sarhad yr iaith Gymraeg yn y llysoedd, ac unrhyw anhegwch i’r werin bobl. Ei elynion, meddai, oedd y ‘Doctoriaid, y Cyfreithwyr, a’r Personnau”! “Ni fedraf mor ddeall paham na chawn ni gyfreithiau yn ein hiaith ein hunain”, meddai mor bell yn ôl â 1798. Nid ar fater y Degwm yn unig oedd ef yn ddyn o flaen ei oes. Galw Cymru o’i thrwmgwsg yr oedd.
Er iddo dreulio ei oes ymhell o’i wlad enedigol, daliodd i ymladd am gyfiawnder i iaith, diwylliant, crefydd ac angen pobl Cymru. Ei brif neges, hyd heddiw, yw’r angen i ymladd anghyfiawnder – ple bynnag y’i ceir.
Yn briodol claddwyd T.R., ar ei farwolaeth yn 76 oed, ym mynwent Bunhill Fields yn y Brifddinas gyda Chymry adnabyddus, ac eraill megis Vavasor Powell, y Dr. Richard Price, William Blake a John Bunyan.
Am ragor o wybodaeth, cyhoeddodd Clwb y Bont, Pwllheli, ddarlith –
Thomas Roberts, Llwynrhudol a’i Gyfnod – yn 2006.