W.T. Ellis - Gweinidog a Bardd

Y Parchg. John Roberts yn sôn am . . .

Y Parchg W.T. Ellis, B.A., B.D.

Dechreuodd stori bywyd y Parchg. W.T. Ellis ym Mhwllheli yn y flwyddyn 1871. Bu farw ei fam yn gynnar a chan fod y tad ar y môr, chwalwyd y plant yma ac acw i’w magu. Cafodd ef ei hun mewn siop groser yn y dref, ac yno’r arhosodd am gyfnod o chwe blynedd. Byddai’n hawdd dychmygu amdano’n dyfod yn fasnachwr llwyddiannus pe bai wedi glynu wrth y gwaith hwnnw ym Mhwllheli gynt. Fodd bynnag, cefnodd ar y siop ac aeth yn ôl i’r ysgol.

Treuliodd flwyddyn yng Nghlynnog a dwy flynedd yn y Bala. Symudodd o ysgol i goleg a bu yng Ngholegau’r Brifysol ym Mangor am flwyddyn ac yn Aberystwyth am ddwy flynedd. Bu dan athrawiaeth Syr John Morris Jones yn y naill le, a than Syr Edward Anwyl yn y llall. Dechreuodd gael blas ar ysgrifennu, a chafodd gymeradwyaeth Syr O.M. Edwards am storiau yn Y Cymro. Enillodd gadair Eisteddfod y Brifysgol ddwy flynedd yn olynol – ym 1897 a 1898 – am bryddestau ar  “Y Cartref,” a “Deigryn.” Bu yng Ngholeg Diwinyddol y Bala am dair blynedd, a chariai ysgoloriaeth Pierce ymhlith ysgoloriaethau eraill drwy’r cyfnod hwn. Yr oedd ymysg y to cyntaf i ennill gradd B.D. Cymru. I goroni ei gwrs addysg, aeth i brifysgolion Bonn a Berlin. Yno cafodd gyfle i glywed  Dr.Adolf Harnack yn darlithio, a rhoes gryn sylw i’r gwaith o addysgu plant yn y cyfnod hwn.

Ei ofalaeth gyntaf oedd Aberllefenni. Priododd ag eglwys a phriododd wraig tua’r un adeg.Ni chafodd gweinidog erioed briod a fu’n fwy o gymorth iddo na’r Parchg.W.T. Ellis. Fel y dywedodd ef ei hun mewn coffâd am briod cyfaill iddo, gellid dweud yr un geiriau am ei briod yntau, “Bu hi’n ffyddlon iddo ym mhob tywydd, a medrai ei drin ym mhob tymer a’i daliai.” Rhagflaenodd hi ef yn Chwefror, 1947.
Wedi dewis megis Mair.
Hunodd heb ddwedyd anair.

Dwy flynedd yn unig yr arhosodd yn Aberllefenni. Derbyniodd alwad i’r Garth, Porthmadog, ym 1945. Bugeiliodd yr eglwys honno, (gan gymryd gofal yr eglwys Saesneg ym Mhorthmadog hefyd ym 1911), am gyfnod o 32 o flynyddoedd. Dyma bennod fawr ei fywyd. Rhoes ei wasanaeth yn gydwybodol i’w eglwysi, ac fel y dywedid amdano pan ddathlwyd canmlwyddiant “Y Garth” ym 1946, “Ni bu bugail erioed yn gwylio’i braidd yn fwy gofalus ac ni chafodd eglwys ei sicrach fel arweinydd.” Ni chyfyngodd ei lafur yn unig i eglwysi ei ofal. Bu’n arweinydd ym mywyd y dref, Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd, a’r Cyfundeb yn gyffredinol. Bu’n ysgrifennydd y Gronfa Ganolog dros ei Gyfarfod Misol am dair blynedd ar ddeg.Yr oedd y aelod arhosol o bwyllgorau pwysig, a bu’n llywydd ei Gyfarfod Misol.  Paratôdd  12 o werslyfrau ar gyfer gwaith yr Ysgol Sul. Dewiswyd ef yn arholwr Cymdeithasol, a thraddododd y Cyngor yn Sasiwn Ordeinio Dolgellau ym 1938. Etholwyd ef yn llywydd Pwyllgor yr Athrofa Unedig, ac ef oedd Llywydd y Gymdeithasfa yn y Gogledd am 1944.

Yr oedd ganddo gryn ddawn i ysgrifennu Cymraeg graenus, a gwelwyd ei ysgrifau ar dudalennau Cylchgronau’r Cyfundeb lawer gwaith. Darllenwyd ei waith gyda boddhad gan bawb, Gallai adrodd stori’n fyw iawn mewn print. Lluniai benawdau bachog i’w ysgrifau yn Y Goleuad, megis, I want to see the wheels Mammie. Dywedodd bethau a blas proffwydol arnynt ambell dro, fel y gair hwn o’r ysgrif dan y teitl a nodwyd yn awr, “Rhyfedd  ac ofnadwy ydyw’r olwynion y cerdda rhyfel arnynt. Pe gwelai’r wlad y buddiannau pwdr sy’n ceisio gwthio’r gwledydd i anghytuno ac i ryfela, ni chanai hi fwy ar glodydd rhyfel nag ar glodydd putain.”

Daeth y wlad i wybod am ei ddawn awenyddol, pan enillodd ar yr englyn, “Y Gloch,” yn Eisteddfod Genedlaethol 1946 yn Aberpennar:

Llon gennad llan ac annedd, a dawnus
Ledaenydd gorfoledd;
Geilw at Iôn wreng a bonedd,
A dilyn bawb hyd lan bedd.

Cafodd ei gywydd moliant i Ddyffryn Madog safle anrhydeddus yn Eisteddfod Bae Colwyn, 1947. Cymerai ddiddordeb yn y ddrama, a bu bri ar chwarae ei ddrama hanes, Esther.

Daeth yr alwad iddo ef yn gynnar fore Mercher, Mawrth 3, 1948 – galwad mor ddisymwth ag a ddaeth at ei annwyl briod dri mis ar ddeg yn flaenorol.

Y gwanwyn a dramwyai mewn sidan di-ystaen,
Dros drothwy’r dydd fe seiniodd ei glychau clir  ar daen,
Ond nid oedd ganddo ddawn na nerth
I ddeffro un yng Nghlog y Berth.

Ni fynnai’r Hen Weinidog wrando ei alwad gref,
Cans canai clychau gwanwyn hyfrytach iddo ef,
A’i ddenu draw a wnaethant hwy,
At Un a’i gadodd gynt dan glwy.


Celebrities