Dau fardd yn cyfarch ei gilydd

Gruffudd Owen yn llongyfarch y Prifardd Osian Rhys Jones ar ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017

I Osian

Tawelwyd y beirdd talach gan un byr,
gwyn eu byd, ond bellach
er gwybod ei fod o’n fach
ein cawr yw Osian Corrach

Fe a haedda’i gyfeddach.–Agorwn
Win gorau y crachach.
Rhaid tollti shieri a sach
O gwrw. Meddẅn Gorrach!

Waldo ddywedodd, ydach chi’n cofio
y cyfaill yn bregliach:
“Daw dydd y bydd y rhai bach
yn curo”… Wele! Corrach!

Llŷr Gwyn sydd llawer gwannach. Nawr griddfan
Fel baban wna’r bwbach:
“Profiad ‘sgytwol, bobol bach,
yw cweir gan Osian Corrach!”

Llŷr y collwr, llawer callach - sa mynd
ryw smij yn gynharach
i greu, ond ryw freuddwyd gwrach
Yw ceisio curo Corrach.

Tyfu wna’i dalent afiach – ein prifardd
Sy’n prifio yn dalach.
Mae’n siŵr bod mwy yn ei sach;
Coron tro nesa corrach?

Nid ryw Famoth llawn sothach – ydi o,
mae’r dweud yn gynilach.
Oriel byw o berlau bach
Yw cywrain gerddi’r Corrach

I gannoedd doedd dim gwynnach- na’i weled
yn hawlio, yn holliach,
ei gadair hardd. Y bardd bach
‘di cyrraedd. Ein ffrind ,Corrach.

Y Prifardd Osian Rhys Jonesyn llongyfarch y Prifardd Gruffudd Owen yn dilyn ei orchest yn ennill y gadair ym mhrifwyl Caerdydd 2018

I Gruffudd

Be ydym ond rhai'n bodio trydarfyd
Rhyw dyrfa ddiflino?
Ni a'n rhegi a'n bragio,
Yn rhegi'r gwir a'r gwir o'i go.

Ond doi yn rhith y dewin a thrwy'r borth
I'r Bae cawn dy ddilyn
I wasgu'r haf trwy led sgrîn,
Hwnnw'n haf anghynefin.

Yn ddigidol blwyfol i ble yr awn
A'n cri yn y gwagle?
Fe fynni Gruff sylfaen gre' -
Eira'r awdl ydi'n troedle.

Gruff fardd plant, Gruff gerdd dantiwr, Gruff y gerdd
Gruff y gwir archstompiwr,
Gruff yn iau a Gruff hen ŵr,
Gruff y ddawn, Gruff ddiddanwr.

Gruff Pwllheli, Gruff gwmnïydd. Hefyd
Gruff ein Prifardd newydd.
Ein gŵr hoffus wyt, Gruffudd,
Gŵr ar dân. Gruff o Gaerdydd


Poets