Coffadwriaeth
Am eneth ifanc a oedd yn ferch i Mr.Evan Evans, Barcer, Pwllheli
A nith (merch i chwaer) Robert Ap Gwilym Ddu
Sylwer fod sôn am Evan Evans, Barcer, yn hanes dechreuadau enwad y Bedyddwyr ym Mhwllheli
Wele ein plant anwylion – a hunant
A’u henwau’n mhlith meirwon,
Dur a gweli, drwy y galon,
Fu och hir, am y fach hon.
Doe’n gynnes, ein dyn ganaid - lân a’i delw
Yn hudoli’r llygaid’
Heddiw’n syn gorffyn a gaid
Plwm oer iawn, - ple mae’r enaid?
Acw’r hedodd, o’n creadur, - iach enwog,
Wreichionen annisbur,
Aeth ymaith o’i thÅ· a’i mur
I loyw fan bell, elfen bur.
Ei chorff, er gadael chwyth, - a’r enaid,
Unir yn dragyfyth,
Priodolion pâr di-lyth,
Dau gymar, heb ysgar byth.
Drwy’r llawr, pan darawo’r llef, - a gwys gerdd
Gosgorddau’r goleunef,
Duw a’i hedryd i’w hadref,
Mewn dim, ar ei amnaid ef!
Robert ap Gwilym Ddu