Wyn Roberts - Oer yw'r eira (Yn null yr Hen Benillion)

Oer yw'r eira

Oer yw'r eira pan fo'i bluen
Yn gwyngalchu llethrau'r llawr;
Oer yw rhewynt main o'r dwyrain,
Oera'r gwlith ar doriad gwawr.

Oer y llynnoedd yn Eryri;
Oer y llwydrew ar y ddôl;
Oera'r galon yn y fynwes
Fy anwylyd ar dy ôl.

Wyn Roberts


Poets