Yn seiliedig ar lyfryn y Cynghorydd Elfed Gruffydd
Gwelir yma orsaf y rheilffordd a agorwyd ym 1909. Daeth y rheilffordd i Bwllheli ym 1867 gan ddod cyn belled â’r ‘Hen Stesion’ oedd ym mhen dwyreiniol yr Harbwr. Mae taith ar Reilffordd Arfordir y Cambrian i Aberystwyth [neu drwy Faldwyn yn cynnig golygfeydd rhagorol o arfordir Meirionnydd a Bae Ceredigion. Mae safle dacsi yma, a mynediad i’r orsaf fysus.
(Gellir cerdded i’r dwyrain, gydag Ochr yr Harbwr, ar hyd Cob y Dref gan gadw’r rheilffordd ar chwith. Ym mhen draw’r Harbwr mae Cob Glan Don yn rhedeg tua Phlas Heli a gorsaf newydd y Bad Achub, y ddau’n croesawu ymwelwyr. Ymlaen wedyn i Drwyn Glan Don sy’n safle ddymunol iawn. Rhaid cofio hefyd fod maes parcio eang ar y chwith cyn cyrraedd Plas Heli ar gyfer Glan Môr ’Berch)
Wrth gychwyn ei gerdded, rhaid croesi Pont Pen Cob, lle gwelir dorau’r harbwr. Yma ydi lle mae Afon Cymerau (yr un ag enw’r ysgol) yn llifo trwyddynt i’r Harbwr ar drai, ac yn cael eu cau pan fo llif y llanw yn gwthio yn eu herbyn, ac yn cadw’r môr rhag gorlifo’n dref. Ym mhen arall yr Harbwr mae dorau eraill o dan Bont yr Hen Stesion, a thrwy’r rhain mae Afon Erch yn llifo. Mae Harbwr Pwllheli yn atyniad poblogaidd iawn, yn arbennig i adar sy’n ymfudo yma i dreulio’r gaeaf - fel y rhydyddion a’r hwyaid, elyrch a chrëyr gwyn. Wedi croesi Pont Pen Cob gwelir plac i gofio cysylltu’r dref â’r grid nwy. Cyfansoddwyd y cwpled coffáu sydd arno gan Cynan, bardd enwocaf Pwllheli. Ar draws yr Harbwr gellir gweld y marina, yr Hafan boblogaidd iawn gyda dros 400 o gychod ynddi sy’n ei gwneud yn ganolfan hwylio o’r safon uchaf.
Ar y chwith mae cofeb dra anghyffredin i goffau’r rhai a laddwyd yn y rhyfel. Arni gwelir cwpled o waith Ben Bowen. Arferai tram, a oedd yn eiddo i’r Cyngor Tref, redeg o Ben Cob, ar hyd y Cob ac yna ar hyd y Prom. Yng nghanol yr Harbwr, ar un adeg, ’roedd ynys, ond pan aed ati i adeiladu’r Hafan, cysylltwyd hi â’r Cob gyda’r gro a’r tywod a godwyd o wely’r Harbwr. Gellir cerdded o gwmpas y llecyn hwn a chael golygfa dda o’r dref a’r Hafan. Ymhellach i’r de o’r Hafan, gwelir yr hyn sy’n weddill o Garreg yr Imbill ar ôl i’r chwarelwyr ei chloddio i wneud sets ithfaen i wynebu strydoedd dinasoedd Lloegr.
Mae’r ffordd gul, sef Lôn Cob Bach a’i lwybr troed ar y dde yn arwain i’r gorllewin. O’r Cob, tua’r gorllewin, gwelir mynyddoedd Llŷn. Garn Fadryn yw’r un mwyaf amlwg. I’r dwyrain, mae Cader Idris ymhlith mynyddoedd Meirionnydd. Ymhellach i’r gogledd mae’r Moelwynion, ac yna’r Wyddfa ym mynyddoedd Eryri. Ar y chwith, ar y Cob mae llechen gyda map ac enwau’r mynyddoedd arni. Ymlaen, ac ar y dde, mae swyddfeydd ardal Dwyfor o Gyngor Gwynedd.
Gellir mynd ymlaen at Cylch Gorsedd y Beirdd (1955), Caffi Largo, a’r Prom.
- safle draddodiadol Ffair Pwllheli, syrcas a sasiwn, ac yma roedd y lladd-dy lleol. Yn ystod yr haf cynhelir un o farchnadoedd symudol mwyaf Cymru ar ddydd Mercher.
Ar wyneb siop, yn union ar draws y Maes lle unwaith y bu unwaith Gaffi Maes Gwyn, mae plac yn nodi mai yma sefydlwyd Plaid Cymru yn Awst 1925. Yng Ngorffennaf 2000, gosodwyd plac ychwanegol i nodi 75 mlwyddiant ei sefydlu. Mae’r ffair bellach yn sefydlog yng nghwr deheuol y Maes.
Mae’r enw’n egluro y bu rhyd yma unwaith i groesi’r afon a’r tir gwlyb pan arferai’r llanw ddod dros y dref.
Mae’r stryd hon yn arwain at Ffordd Caerdydd a Phont Solomon, sy’n coffáu Solomon Andrews, gŵr busnes o Gaerdydd a ddatblygodd y rhan orllewinol hon o’r dref yn nechrau’r ugeinfed ganrif.. Aiff y ffordd hon ymlaen heibio Ysgol Glan y Môr sydd ar safle maes Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955, Canolfan Hamdden Dwyfor ac at y Prom.
Ger y bont mae creyrfa lle daw o 4 i 6 pâr o grëyr glas i nythu yn y gwanwyn.
Sefydlwyd y Gwasanaeth Tân ym Mhwllheli ym 1854. Yn nes ymlaen, ar y dde, mae Swyddfa’r Post.
Ar hyd Ffordd Caerdydd o’r dref rhedai Solomon Andrews ei dram, yn wreiddiol i gario cerrig o chwarel yng Ngharreg y Defaid i’w safle adeiladu. Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw datblygodd y tram i gario teithwyr o’r dref ac ar hyd y Dwnan i Blas Glyn y Weddw, yn Llanbedrog lle'r oedd ganddo oriel safonol, fel sydd yno heddiw. Mewn storm egr yn 1925 difethwyd y Dwnan a‘r cledrau, a dynna fu ei diwedd y tram.
Yma y daeth triwyr Penyberth - Saunders Lewis, D. J. Williams a Lewis Valentine - i gyfaddef iddynt roi’r Ysgol Fomio ar dân ym Medi 1936. Ar yr adeilad, gwelir plac yn dynodi y bu’r gantores Leila Megne yn byw yma. Gyferbyn, ar y chwith, mae Capel Saesneg y Presbyteriaid. Yma y cynhaliwyd Cyfarfodydd Blynyddol cyntaf Urdd Gobaith Cymru, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 1925. Yn nes ymlaen, ar y dde, mae adeilad hen Wyrcws Pwllheli. Yn yr Ala Uchaf, y stryd y tu cefn i Swyddfa’r Heddlu, mae fflatiau lle unwaith y bu ysgol Ysgol Frondeg - yr ysgol ganolraddol.
Eglura’r enw beth a werthid unwaith yn y stryd hon ar ddiwrnod marchnad. Ar y dde, mae Capel Pen-lan, un o gapeli Annibynwyr hynaf Cymru. Fe’i sefydlwyd ym 1646. Ymysg y rhai a fu’n weinidogion yma, yr oedd Benjamin Jones, ac o ganlyniad i wrando arno ef yn pregethu yn Ffair Llanfyllin ym 1796 y cafodd yr emynyddes, Ann Griffiths, ei thröedigaeth. Ym mynwent y capel y claddwyd Sion Wyn o Eifion. Ar siop ddillad ar gornel gyferbyn, gwelir plac yn nodi mai yno y bu carchar Pwllheli. Hyn a roddodd i Stryd Moch ei henw Saesneg, Goal Street. Ar y chwith mae Penlon Llŷn. Dyma’r ffordd a arweiniai i Lŷn yn yr hen amser. I fyny’r ffordd hon, ac ymhen rhyw hanner milltir y mae Ffynnon Felin Fach y canodd Cynan iddi yn ei bryddest, ‘Mab y Bwthyn’ yr un a enillodd iddo goron Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ym 1921. Dyma’r gyntaf o’i dair coron Genedlaethol.
Ail-godwyd y capel wedi iddo gael ei losgi gan William Ross ym 1913. I fyny Allt Salem (i’r chwith o’r capel), mae’r ffordd yn arwain i Lannor. Ar y chwith, mae fflatiau a luniwyd o adeilad Ysgol Penlleiniau - yr ysgol eglwys. Ar y dde, ar ben yr allt, saif y Coleg Trydyddol, Coleg Meirion Dwyfor, ar safle hen Ysgol Ramadeg Pwllheli. Yn yr ysgol hon yr addysgwyd pobl fel David Griffith, yr arlunydd, Siân ac Endaf Emlyn.
Mae’r llwybr i’r chwith ar ben yr allt yn arwain i ben y Garn, lle ceir golygfa ragorol o Bwllheli, Bae Ceredigion, Ynysoedd Tudwal a thu hwnt, a Mynyddoedd Preseli ar ddiwrnod clir. O gychwyn gyda’r ynysoedd a mynd efo’r cloc, gwelir bryniau Llŷn o Fynydd Tir y Cwmwd, Mynydd Rhiw, Garn Fadryn, Garn Boduan, i’r Eifl ac ymlaen i Eryri. Ar ben yr allt i’r dde, mae mynwent y dref, Mynwent Deneio. Deneio yw enw’r plwyf. Gwelir olion Eglwys Beuno (yr eglwys wreiddiol) yn yr hen fynwent.
Yn uchel ar wyneb un siop ar y dde, gellir darllen ‘Caerhydderch’ - ei henw gwreiddiol. Fferm yn Rhoshirwaun oedd Caerhydderch. Roedd amryw o ffermwyr Llŷn yn berchnogion siopau yn y dref gan y byddai’r mab hynaf yn etifeddu’r fferm, a’r ail fab yn cael siop ym Mhwllheli. Ar wyneb dwy siop sydd ar y chwith, gwelir plac oedd yn dynodi fod y perchnogion yn y G19eg, neu’n gynt, wedi cofrestru i dderbyn gwasanaeth y frigâd dân pe bai galw am hynny.
Codwyd hi ym 1886 ar gynllun gothig addurniadol o eiddo J. Oldrid Scott. Mae ganddi ffenestri lliw hardd, yn arbennig y ffenestr ddwyreiniol uwch ben yr allor sy’n darlunio golygfeydd o Lyfr y Datguddiad, a lluniau seintiau o bob oes. Yn yr ochr ogleddol, mae ffenestr Martin o Tours, ac arni hefyd luniau o Asaff Sant a Chyndeyrn Sant. Gwelir yma lun o fodrwy brenhines y daeth Asaff o hyd iddi gael ei llyncu gan eog. Yn yr ochr ddeheuol, mae Capel Beuno, nawddsant y plwyf.
Yn yr ardal hon roedd y lleiniau, stribedi hir o dir gai eu ffermio yn y dull canoloesol. Dyna berthnasu'r enw ‘lleiniau’ a’r dref hynafol hon.
Aeth ar dân ym 1962. Bu Llys yr Ynadon ar yr un llecyn hefyd, ond bellach, codwyd tai yma.
Dywed rhai i’r fan gael yr enw am i ddilynwyr Owain Glyndŵr ei roi ar dân yn y G15fed. Dywed eraill mai yma yr arferid llosgi coed i gynhyrchu golosg.
Rhwng y fan hyn â Phentrepoeth (i’r chwith) y mae’r Gors, a fu unwaith yn dir gwlyb. Dyma’r ‘pwll heli.’
Ganrifoedd yn ôl, yma roedd cartrefi trigolion y dref, gyda’u cychod a’u rhwydi pysgota, eu defaid a’u hychen. Un teulu ar hugain oedd yn byw yma ym 1293. Ym mhen pellaf y Gors, lle’n awr y mae’r Traeth a safle tafarn y Black Lion, yr oedd ierdydd adeiladu llongau. Mewn cyfnod o ddwy ganrif, adeiladwyd tua 450 o longau ym Mhwllheli, yr olaf ohonynt ym 1878. Y llong fwyaf i’w hadeiladu yma oedd y barc, ‘Margaret Pugh’ (693 tunnell), ym 1862.
Mae’r Stryd Fawr, i’r chwith, yn arwain i gyfeiriad Capel y Drindod, a adwaenid fel Capel Penmount nes uno capeli Presbyteraidd dref. Codwyd capel yma’n wreiddiol ym 1781, a’r un presennol ym 1841. Ymysg y rhai a fu’n weinidogion yn ystod cyfnod cythryblus y Rhyfel Byd yr oedd y Dr John Puleston Jones. Dioddefodd erledigaeth enbyd oherwydd ei safiad fel heddychwr. Er ei fod yn ddall, llwyddodd yn rhyfeddol i oresgyn ei anabledd.
Yno ar y chwith, roedd Capel Seion y Wesleaid, a sefydlwyd ym 1861, sefyll. Addaswyd y capel yn fflatiau.
Dyma leoliad hen blasty a elwid Hendre Gadredd. Gall mai hwn oedd y Gadlys gwreiddiol.
Ar y gornel, mae Liverpool House, cartref Cynan a fu’n Archdderwydd ddwywaith. Bron gyferbyn, ychydig i’r dde, gwelir hen Neuadd y Dref a Siambr y Cyngor. O fewn drws neu ddau, mae plac yn nodi mai yma y ganwyd Yr Athro J. R. Jones, athronydd a Chymro brwd. O rai mannau, gellir gweld hen gloc y dref ar dŵr pren.
Hon oedd Neuadd y Dref ddiweddaraf. Mae ynddi awditoriwm ar gyfer ffilm a chyngerdd. Yma hefyd y lleolir Llyfrgell y Dref. Yn nerbynfa’r Neuadd, gwelir ysgythriadau ar wydr yn darlunio’r ardal, ond yn canolbwyntio ar Cynan. Gellir cerdded heibio ochr y Neuadd, trwy Sgwâr y Farchnad ac i’r Stryd Fawr.
Mae iddo dŵr tra anghyffredin i gapel, a defnyddid hwnnw gan bysgotwyr fel marc i leoli eu rhwydi ers talwm.
Bu Howell Harries yn pregethu y tu allan iddi yn ystod un o’i ymweliadau â Llŷn ddwy ganrif a hanner yn ôl.
Ei henw Saesneg oedd Custom House Square, sydd eto’n cadarnhau ei hagosrwydd at y môr ers talwm.